Crynodeb

  • Y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton a phrif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall fu'n cynnal y gynhadledd heddiw

  • Lefel rhybudd coronafeirws Cymru a gweddill y DU wedi gostwng o'r lefel uchaf

  • Dros 900,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn coronafeirws yng Nghymru

  • Y rhaglen frechu i barhau'n seiliedig ar oed - athrawon na'r heddlu am gael blaenoriaeth

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.

    Dyma'r prif bwyntiau:

    • Dros 900,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn coronafeirws yng Nghymru, a dros 80,000 wedi derbyn y ddau ddos;
    • Y rhaglen frechu i barhau'n seiliedig ar oed - ni fydd athrawon na'r heddlu yn cael blaenoriaeth;
    • "Rhy gynnar i ddweud" a fydd modd llacio'r cyfyngiadau 'aros gartref' ymhen pythefnos;
    • Y darlun yn dechrau gwella o ran y pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

    Fe fydd y llif byw yn ôl ar gyfer cynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun.

    Tan hynny, diolch am ddilyn a hwyl fawr am y tro.

  2. Clwstwr achosion Covid DVLA Abertawe 'drosodd'wedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Mae'r awdurdodau wedi datgan fod achos o ledaeniad coronafeirws yn swyddfa'r DVLA yn Abertawe ar ben.

    Ers 1 Medi 2020 mae cyfanswm o 560 o achosion Covid-19 ymhlith gweithwyr DVLA wedi'u cofnodi.

    Cyhoeddwyd achos yng Nghanolfan Gyswllt Dyffryn Abertawe DVLA ar 21 Rhagfyr 2020 ac ers 1 Rhagfyr 2020 mae 96 achos wedi’u nodi ymhlith gweithwyr sydd fel arfer yn gweithio yn yr adeilad hwnnw.

    Ond nid oes achos yn gysylltiedig â'r safle wedi bod am 28 diwrnod.

    Dywedodd Siôn Lingard, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, y byddai tîm aml-asiantaeth yn "parhau i fonitro'r sefyllfa" ac yn "parhau i gwrdd yn rheolaidd a chysylltu â'r DVLA".

    dvlaFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. 'Rhyddhad mawr' i deulu wrth i reolau brechu newidwedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Mae tad wedi dweud ei fod yn "rhyddhad mawr" y bydd ei fab, sydd ag anableddau dysgu, yn cael derbyn brechlyn wedi newid i'r drefn o flaenoriaethu.

    Dywed y Parchedig John Gillibrand, sy'n offeiriad ym Mhontarddulais, ei fod "mor falch" y bydd ei fab, Adam, sydd yn ei 20au ac mewn cartref preswyl, yn cael pigiad yn gynt na'r disgwyl.

    Roedd Dr Gillibrand wedi dadlau y dylai ei fab, a miloedd o bobl eraill tebyg sydd ag anableddau dysgu ac mewn cartrefi preswyl, fod mewn categori uwch er mwyn cael eu brechu'n gynt.

    Ond yr wythnos yma, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd a olygai y bydd gofalwyr di-dâl a phobl ag anableddau dysgu neu salwch meddwl difrifol yn cael eu brechu'n syth.

    Disgrifiad,

    Y Parch. John Gillibrand

  4. Galw eto ar flaenoriaethu athrawon i gael brechiadwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Plaid Cymru

    Dywed AS Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth y dylid blaenoriaethu athrawon ar gyfer brechu.

    Cytunodd â'r dull seiliedig ar oedran ar gyfer y rhaglen frechu ond dadleuodd dros rywfaint o hyblygrwydd ar broffesiynau fel addysg.

    "Siawns bod rhaid cael rhyw ffordd arall o flaenoriaethu'r grwpiau hynny sy'n fwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r feirws," meddai.

  5. 'Dydyn ni ddim eisiau gweld ton arall'wedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Rhybuddiodd prif weithredwr GIG Cymru bod y gwasanaeth iechyd yn parhau dan bwysau a bod nifer y cleifion mewn ysbytai yn parhau'n uwch na brig y don gyntaf ym mis Ebrill.

    "Yr hyn dydyn ni ddim eisiau gweld ydy'r feirws yn dychwelyd ac arwain at don arall sylweddol yng Nghymru," meddai.

    Ychwanegodd Dr Andrew Goodall bod systemau modelu'r llywodraeth wedi awgrymu y gallai amrywiolion newydd achosi trafferthion os nad ydy'r cyfyngiadau yn cael eu llacio'n raddol.

  6. Ffigyrau i ddangos effaith brechu 'yn yr wythnosau nesaf'wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'n debyg y bydd ffigyrau i ddangos faint o effaith y mae'r brechlyn yn ei gael ar ysbytai yng Nghymru yn ystod y "dwy i bedair wythnos nesaf", meddai swyddogion iechyd.

    Dywedodd Dr Andrew Goodall ar hyn o bryd fod y duedd o ran lleihau achosion "yn eithaf tebyg i'r wythnosau diwethaf".

    Ond ychwanegodd bod "gwahaniaeth o tua 7% wedi bod yn nifer y cleifion yn yr ysbyty".

    Aeth Dr Goodall ymlaen hefyd i ddweud mai "yr hyn a oedd wedi bod yn wirioneddol ddymunol" oedd gweld gostyngiad mewn cleifion oedd yn derbyn gofal dwys.

  7. Effaith brechu ar gartrefi gofal yn 'llawer mwy amlwg' fis nesafwedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Andrew Goodall y bydd effaith brechu pobl mewn cartrefi yn dod yn "llawer mwy amlwg" fis nesaf.

    Pan ofynnwyd iddo a oedd yn bryderus am achosion mewn cartrefi gofal yng Nghonwy yn ddiweddar, dywedodd prif weithredwr GIG Cymru bod y brechiadau eisoes yn cael effaith.

    "Mae'r gyfradd sy'n cael profion positif mewn cartrefi gofal wedi gostwng i tua 1%," meddai.

    "Rwy'n credu bod hynny'n dangos bod llawer llai o'r feirws mewn cartrefi gofal bellach, ond wrth i ni fynd i fis Mawrth fe fyddwn yn disgwyl gweld effaith llawer mwy gweledol o'r rhaglen mewn cartrefi gofal."

    Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Ehangu'r rhestr symptomau 'yn gwneud synnwyr'wedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Atherton ei bod yn gwneud synnwyr i ehangu'r rhestr symptomau Covid-19 oherwydd bod amrywolion gwahanol yn creu symptomau gwahanol.

    Yn ôl y Prif Swyddog Meddygol mae symptomau amrywiolyn Kent "yn ymddangos ychydig yn wahanol i'r feirws gwreiddiol a welon ni yng Nghymru".

    Ar hyn o bryd mae modd i bobl gael prawf os oes ganddyn nhw un o dri symptom - tymheredd uchel, peswch neu newid i'ch gallu i arogli neu flasu - ond dywedodd Dr Atherton bod y llywodraeth yn ystyried ehangu hyn.

    Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe eisoes wedi ehangu'r symptomau i gynnwys rhai fel blinder a chur pen.

    Cyfaddefodd Dr Atherton bod "ehangu'r criteria yn gwneud synnwyr yn yr amgylchiadau presennol".

  9. 'Rhy gynnar' i ddweud a fydd modd llacio'r rheol aros gartrefwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Atherton ei bod yn "rhy gynnar i ddweud" a fydd modd llacio'r cyfyngiadau 'aros gartref' ymhen pythefnos.

    "Dim ond ar ddechrau'r cyfnod o dair wythnos ers yr adolygiad diwethaf ydyn ni, ac mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir ei fod eisiau gweld sut y bydd pethau'n mynd dros y pythefnos i dair wythnos nesaf cyn gwneud penderfyniad ac rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud," meddai wrth y gynhadledd.

    "Fy nghyngor iddo ydy llacio pethau'n araf - sy'n cydfynd â'r canllawiau rydyn ni wedi bod yn ei roi."

  10. Amddiffyn y gwahaniaethau rhwng amserlenni'r DUwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru fod pob un o bedair gwlad y DU yn dilyn yr un dull o godi'r cyfyngiadau clo, er bod "rhai o'r amseriadau ychydig yn wahanol".

    Disgrifiodd Dr Frank Atherton unrhyw wahaniaethau mewn dull fel rhai "ymylol".

    "Mae'r siarad cyffredinol gan brif swyddogion meddygol wedi bod yn un o ofal," meddai.

    "Y dylem, wrth inni ryddhau [cyfyngiadau], ryddhau'n ofalus [ac] yn araf.

    "Fe ddylen ni fesur effaith hynny i sicrhau bod pethau'n aros ar y trywydd iawn."

  11. Brechlynnau'n cyrraedd yn gynt na'r disgwylwedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ei fod yn fwy hyderus bellach y bydd modd i Gymru gyrraedd y targedau brechu wedi iddi ddod i'r amlwg y bydd cyflenwadau o'r brechlynnau yn cyrraedd yn gynt na'r disgwyl.

    Ychwanegodd Dr Frank Atherton nad oedd ganddo reswm i gredu y bydd yna unrhyw drafferthion yn y dyfodol o ran diffyg cyflenwad.

    "Dydy hi ddim yn ein dwylo ein hunain yng Nghymru - Llywodraeth y DU sy'n cael y brechlynnau ac rydyn ni'n derbyn ein siâr," meddai.

    "Ond dydyn ni ddim wedi clywed unrhyw beth sy'n awgrymu ein bod am gael unrhyw drafferthion - mewn gwirionedd bydd rhai o'r cyflenwadau roedden ni'n eu disgwyl yn ddiweddarach eleni yn cyrraedd yn gynt na hynny, sy'n ein galluogi i gyflymu pethau."

  12. JCVI wedi ystyried yr heddlu a'r gweithlu addysgwedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Atherton fod demograffeg oedran pobl mewn proffesiynau fel addysg a'r heddlu hefyd yn ffactor yn y penderfyniad gan y JCVI i flaenoriaethu ar sail oed yn bennaf.

    "Mae 45% o staff rheng flaen yr heddlu dros 40 oed, 60% mewn addysg a gofal plant dros 40 oed, felly dyna oedd y ffordd hawsaf a'r ffordd fwyaf diogel i gyrraedd y poblogaethau hynny mewn gwirionedd," meddai.

    "Felly er budd iechyd pawb - o ran cyflymder, effeithlonrwydd, diogelwch ac effeithiolrwydd - y farn oedd mai dyna'r peth iawn i wneud oedd gwneud y meini prawf ar sail oedran, ac rydym yn llwyr gymeradwyo hynny yma yng Nghymru."

    Yn gynharach yn y mis, cyhuddodd arweinwyr heddluoedd Cymru y Prif Weinidog, Mark Drakeford o beidio amddiffyn eu swyddogion yn ystod y pandemig, gan alw ar heddweision i gael eu brechu ar unwaith.

  13. 'Brechu yn ddiogel, effeithiol ac allweddol'wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Dr Atherton bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth frechu newydd heddiw.

    "Mae hyn yn cadarnhau ein bwriad i ddilyn cyngor y JCVI a pharhau gyda chyflymdra gwych y rhaglen," meddai.

    "Mae brechu yn ddiogel, effeithiol ac allweddol i lacio'r cyfnod clo a chael dyfodol disgleiriach - ry'n ni'n annog pawb i dderbyn y cynnig pan ddaw eu tro."

    Ychwanegodd ei bod yn allweddol bod pethau'n parhau i fynd i'r trywydd cywir, a bod pobl yn parhau i ddilyn y rheolau - os ydyn nhw wedi cael eu brechu ai peidio.

    Cynhadledd
  14. Blaenoriaethu oed y dull 'symlaf, cyflymaf a thecaf'wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Dr Atherton mai'r bwriad o hyd ydy i frechu pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 erbyn canol mis Ebrill a phob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf, yn amodol ar gyflenwad brechlyn.

    Heddiw, meddai, mae'r JCVI - y cydbwyllgor annibynnol ar frechu ac imiwneiddio - wedi cyhoeddi cyngor pellach ac wedi argymell y dylid parhau â dull sy'n seiliedig ar oedran ar gyfer blaenoriaethu, gan mai hwn yw'r "ffactor cryfaf sy'n gysylltiedig â marwolaethau ac achosion sy'n arwain at bobl yn mynd i ysbytai".

    "Rydw i, ynghyd â thri Phrif Swyddog Meddygol arall y DU, yn cefnogi cyngor JCVI ac mae pedair Llywodraeth y DU wedi cytuno i'w weithredu," meddai.

    "Dyma'r dull symlaf, cyflymaf a thecaf. Ac mae'n golygu y gallwn aros ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targedau brechu uchelgeisiol."

    Dywedodd fod y JCVI wedi ystyried galwadau i flaenoriaethu ar sail swyddi nesaf, ond "nad oedd tystiolaeth ddigonol i osod galwedigaethau penodol ar wahân i'r boblogaeth gyffredinol".

    Dywedodd hefyd y byddai cymhlethdod cyflwyno'r dull hwn yn arafu cyflymder cyflwyno'r brechiad.

  15. 'Bron i filiwn o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton bod dros 902,000 o bobl wedi derbyn eu brechiad cyntaf erbyn hyn.

    Ychwanegodd bod dros 80,000 o bobl wedi derbyn y ddau ddos - 2.7% o oedolion a'r gyfran uchaf o bedair gwlad y DU.

    "Erbyn yfory bydd ein timau brechu anhygoel wedi darparu dros filiwn o frechlynnau - perfformiad gwirioneddol wych a stori sy'n rhoi gobaith a llwybr allan o'r argyfwng yma i bawb," meddai.

  16. Niferoedd yn 'gadarnhaol, ond peryg i godi'n gyflym'wedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Dr Goodall ei bod hi'n "gadarnhaol iawn" gweld gwelliannau diweddar yn y tueddiadau.

    "Ond mae angen i mi bwysleisio bod ein niferoedd cyffredinol yn yr ysbyty yn parhau i fod yn uchel," rhybuddiodd.

    "Mae hyn yn ddifrifol ac yn effeithio ar allu'r GIG i ymgymryd â gweithgareddau eraill.

    "Ni fyddai'n cymryd llawer i weld y niferoedd hyn yn codi'n gyflym iawn pe bai'r feirws yn lledaenu trwy ein cymunedau unwaith eto."

    Er hynny, dywedodd ei bod yn "gwbl hanfodol bod pobl yn dal i ddod ymlaen i gael gofal brys", ac i ffonio 111 neu gysylltu â meddyg teulu os oes angen cyngor meddygol brys ar bobl.

  17. 'Dal i bryderu am y pwysau parhaus'wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Mae bron i 1,650 o gleifion sy'n gysylltiedig â Covid yn ysbytai Cymru - mae hyn 7% yn is na'r un pwynt yr wythnos diwethaf a thua 1,200 yn llai na'r uchafbwynt ym mis Ionawr," meddai Dr Goodall.

    Dyma'r nifer isaf ers 19 Tachwedd, meddai.

    Ond rhybuddiodd bod 250 yn fwy o gleifion mewn gwelyau ysbyty nag ar anterth y don gyntaf ym mis Ebrill y llynedd.

    "Rwy'n dal i bryderu am y pwysau parhaus hwn ar ein cyfleusterau gofal dwys a'n staff sy'n gweithio'n galed," meddai.

    Mae 60 o gleifion sy'n gysylltiedig â Covid mewn gwelyau gofal dwys, sydd chwarter yn is na'r wythnos ddiwethaf a dwy ran o dair yn is nag ar ei anterth.

  18. 'Y darlun yn dechrau gwella' i'r gwasanaeth iechydwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall wrth y gynhadledd bod y darlun yn dechrau gwella o ran y pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

    Yn ôl Dr Goodall y cyfartaledd achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl ledled Cymru ydy 75 bellach, ac mae hynny wedi arwain at ostyngiad yn nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty hefyd.

    Ychwanegodd bod meddygon teulu wedi gweld gostyngiad 70% yn nifer yr ymgynghoriadau sy'n ymwneud â Covid-19 ers dechrau Ionawr a bod nifer y galwadau ambiwlans sy'n ymwneud â'r feirws wedi mwy na haneru.

    Dywedodd hefyd bod nifer y cleifion sy'n cael eu cymryd i'r ysbyty yng Nghymru gyda symptomau Covid-19 wedi gostwng o gyfartaledd o 130 pob dydd ym mis Ionawr i 70 y dydd erbyn heddiw.

  19. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Llywodraeth Cymru'n cadarnhau targedau brechuwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 26 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth frechu ddiwygiedig, sy’n cadarnhau bod dyddiadau penodol wedi cael eu pennu ar gyfer brechu'r grwpiau blaenoriaeth a'r boblogaeth ehangach.

    Y targedau diweddaraf ydy:

    • bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i bob grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill,
    • bydd y boblogaeth ehangach sy’n oedolion yn cael eu brechu erbyn diwedd mis Gorffennaf.

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Rwy’n falch o gadarnhau ein bod wedi symud dau ddyddiad targed allweddol ymlaen, ond rhaid i mi bwysleisio unwaith eto bod hyn yn ddibynnol ar gael y cyflenwad angenrheidiol oddi wrth Lywodraeth y DU.

    "Mae’n galonogol gweld bod Llywodraeth y DU wedi symud y dyddiad y bydd Cymru yn cael rhywfaint o’i chyflenwad ymlaen.

    "Ond, ar sail yr wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd, mae pryderon ynghylch y math o gyflenwad a’r amserlen ar gyfer ei gyflenwi.

    "Rydyn ni bob amser wedi dweud y gallem fwrw ati yn gyflymach hyd yn oed, pe byddai’r cyflenwad ar gael i ni.”

    Mae’r strategaeth ddiwygiedig ar gael i'w darllen ar wefan Llywodraeth Cymru, dolen allanol.