Crynodeb

  • Y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton a phrif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall fu'n cynnal y gynhadledd heddiw

  • Lefel rhybudd coronafeirws Cymru a gweddill y DU wedi gostwng o'r lefel uchaf

  • Dros 900,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn coronafeirws yng Nghymru

  • Y rhaglen frechu i barhau'n seiliedig ar oed - athrawon na'r heddlu am gael blaenoriaeth

  1. Beth ydy'r gyfradd achosion ym mhob rhan o Gymru?wedi ei gyhoeddi 12:09 GMT 26 Chwefror 2021

    map
  2. Y gynhadledd yn dechrau mewn 10 munudwedi ei gyhoeddi 12:05 GMT 26 Chwefror 2021

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  3. Clwstwr ysbyty yn dangos 'ni allwn lacio ein hymdrechion'wedi ei gyhoeddi 12:01 GMT 26 Chwefror 2021

    BBC Radio Wales

    Mae'r clwstwr o achosion Covid-19 sydd wedi dod i'r amlwg yn Ysbyty Gwynedd yn dangos na all pobl ymlacio a chredu bod y pandemig ar fin dod i ben, yn ôl meddyg blaenllaw.

    Ddydd Llun, cyhoeddodd rheolwyr yr ysbyty eu bod yn ceisio rheoli lledaeniad o coronafeirws oedd yn effeithio cleifion mewn pum ward.

    Mae'r mwyafrif o lawdriniaethau yno wedi cael eu gohirio yn sgil y clwstwr.

    "Y wers o hyn ydy - dydy hyn ddim wedi mynd i ffwrdd," meddai cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymru y BMA, Dr Phil White wrth BBC Radio Wales.

    "Er y rhaglen frechu, sy'n symud ar gyflymder da, ni allwn lacio ein hymdrechion.

    Ychwanegodd Dr Claire Kilduff o Ysbyty Gwynedd: "Ar y funud dydyn ni ddim yn gweld y clwstwr yn cael effaith ar y niferoedd sydd angen gofal dwys, ond rydyn ni yn llygad y storm - dyddiau cynnar ydy hi."

    Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Dros 900,000 wedi'u brechu yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 11:57 GMT 26 Chwefror 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau hefyd bod 902,334 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach.

    Mae 80,062 wedi derbyn y ddau ddos.

  5. Cofnodi 16 marwolaeth a 308 achos newyddwedi ei gyhoeddi 11:52 GMT 26 Chwefror 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 16 yn rhagor o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.

    Cafodd 308 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd.

    Mae'n golygu bod 5,300 o bobl bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru, a 2033,180 o achosion wedi'u cadarnhau yma ers dechrau'r pandemig.

    Ond mae'r gyfradd achosion yn parhau i ostwng yn araf, gyda 75 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl yn ystod y saith diwrnod diwethaf.

  6. Lefel rhybudd Covid-19 yn gostwng o'r lefel uchafwedi ei gyhoeddi 11:48 GMT 26 Chwefror 2021

    Fe wnaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru gadarnhau brynhawn Iau bod lefel rhybudd coronafeirws yma wedi gostwng o'r lefel uchaf.

    Dywedodd Dr Frank Atherton mewn datganiad ar y cyd â phrif swyddogion meddygol Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, bod y lefel rhybudd yn symud o 5 i 4.

    Yn ôl y datganiad daw'r penderfyniad "yn dilyn cyngor gan y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac o ganlyniad i'r data diweddaraf".

    Er y cyhoeddiad, bydd Cymru gyfan yn parhau dan gyfyngiadau Lefel 4 am o leiaf pythefnos arall.

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:45 GMT 26 Chwefror 2021

    Bore da a chroeso i'n llif byw o gynhadledd Llywodraeth Cymru ar ddydd Gwener, 26 Chwefror.

    Y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton a phrif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall fydd yn cynnal y gynhadledd am 12:15, a chyn hynny bydd y ffigyrau diweddaraf am achosion, marwolaethau a brechu yn cael eu cyhoeddi.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan.