Crynodeb

  • Myfyrwyr prifysgolion yn cael dychwelyd yn rhannol i'r campws wedi'r Pasg

  • Holl blant ysgolion cynradd a rhai disgyblion uwchradd yn dychwelyd i'r dosbarth

  • Mesurau diogelwch Covid mewn ysgolion i'w hadolygu

  • Siopau trin gwallt wedi cael agor am y tro cyntaf eleni

  • Pryderon am ddyfodol canolfannau addysg awyr agored

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    A dyna ni o gynhadledd ddydd Llun ar y diwrnod y dychwelodd nifer fawr o ddisgyblion i'r ysgol am y tro cyntaf eleni.

    Prif neges y Gwenidog Addysg, Kirsty Williams, yn y gynhadledd ddydd Llun oedd y bydd myfyrwyr yn cael dychwelyd yn rhannol i gampws prifysgolion ar gyfer tymor yr haf.

    Dywedodd nad oes modd cadarnhau eto pryd bydd campfeydd yn agor er bod hynny yn rhoi mwy o ddiogewlch i ferched sy'n bryderus am ymarfer ar ben eu hunain tu allan.

    Dywedodd hefyd y bydd mesurau diogelwch i atal lledaeniad Covid mewn ysgolion yn cael eu hadolygu. Ar hyn o bryd mae'n rhaid i ddisgyblion ysgolion uwchradd ac athrawon wisgo mygydau.

    Bydd prif straeon y dydd ar wefan Cymru.

    Diolch am ein dilyn heddiw a chadwch yn ddiogel.

  2. 'Agor archfarchnadoedd cyn siopau eraill yn benderfyniad anodd'wedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Mae disgwyl y bydd holl siopau Cymru yn agor ar 12 Ebrill fel ag yn Lloegr, ond bydd archfarchnadoedd yn cael gwerthu nwyddau na sy'n angenrheidiol o ddydd Llun 22 Mawrth.

    Wrth gael ei holi ddydd Sul dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters, bod hynny wedi bod yn benderfyniad anodd i weinidogion ond yn un ymarferol.

    "Gallwn fod wedi aros tair wythnos arall cyn rhoi hawl i archfarchnadoedd werthu popeth ond mae nifer wedi cysylltu gyda ni yn pryderu nad ydynt wedi cael prynu popeth ers misoedd.

    "Gan bod archfarchnadoedd eisoes ar agor ac yn ufuddhau i orchymynion diogelwch y teimlad oedd mai dyma'r symudiad â lleiaf o risg ar hyn o bryd," meddai.

    Ddydd Gwener dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd £150m yn ychwanegol o arian ar gael i fusnesau sydd ar eu colled.

    archfarchnadFfynhonnell y llun, bbc
  3. Pryderon am ddyfodol canolfannau addysg awyr agoredwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Dywed cynrychiolwyr canolfannau preswyl addysg awyr agored na fyddant yn goroesi oni bai bod hawl ganddynt agor yn fuan.

    Cyn y pandemig, roedd gan Gymru 44 canolfan a oedd yn cynnig arosiadau preswyl i blant ond bellach mae o leiaf bump ohonyn nhw wedi cau.

    Mae'r rhan fwyaf o incwm y canolfannau yn dod, fel arfer, gan dripiau preswyl ysgolion - y mwyafrif yn dripiau o Loegr.

    Yn ddiweddar fe wnaeth canolfannau ar draws Cymru ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am gyllid penodol i'r sector a dyddiad i ailagor.

    Dywed Llywodraeth Cymru mai y prif fwriad yw amddiffyn y cyhoedd ac atal yr haint rhag lledaenu a'u bod wedi cefnogi busnesau gydol y pandemig.

    Canolfan RhosygwaliauFfynhonnell y llun, Canolfan Rhosygwaliau
    Disgrifiad o’r llun,

    Daw 98% o incwm Canolfan Addysg Awyr Agored Rhosygwaliau ger Y Bala gan gyrsiau preswyl i blant ysgol

  4. 'Yr wythnos hon yn rhoi rywfaint o obaith i lefydd trin gwallt'wedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Ychwanegodd Gwenda Owen ei bod wedi bod yn gyfnod digon diflas.

    Fe agorodd hi a'i merch Geinor Salon y Beudy ym Mhontyberem ym mis Rhagfyr 2019, rai misoedd cyn y clo cyntaf ym mis Mawrth 2020.

    "Ond dwi a Geinor wir yn dishgwl mla'n i weld pobl ac i roi'r byd yn ei le.

    "Mae cael torri'r gwallt yn codi calon rhywun ac yn rhoi rhyw hyder newydd yn 'dyw e - fi ddim yn gwybod sawl un sydd wedi bod yn dweud 'fi'n berson newydd' wedi iddyn nhw fod, ac fe fydd hynny yn fwy gwir nag erioed nawr wrth i gymaint o fisoedd basio."

    Ychwanegodd Ms Owen: "Un cam ar y tro yw hi, mae wedi bod yn amser rhyfedd iawn i bawb ohonom ond mae'r wythnos yma yn sicr yn rhoi rywfaint o obaith newydd i ni.

    "Ni wir yn disghwl mla'n."

    Gwenda OwenFfynhonnell y llun, Tinopolis
  5. 'Edrych mla'n i roi'r byd yn ei le yn y salon'wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Heddiw hefyd roedd llefydd trin gwallt yn cael agor i'r rhai sydd wedi gwneud apwyntiad.

    Dywed Gwenda Owen sy'n rhedeg Salon y Beudy ym Mhontyberem gyda'i merch Geinor ei bod wedi derbyn apwyntiadau am fis cyfan wedi cyhoeddiad y Prif Weinidog ddydd Gwener.

    Salon y BeudyFfynhonnell y llun, Gwenda Owen
  6. Dylai disgyblion ysgol ddychwelyd yn gyntwedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, y dylai holl ddisgyblion ysgol uwchradd ddychwelyd cyn 12 Ebrill.

    Bydd disgyblion ym mlynyddoedd 7 i 9 yn gallu mynychu sesiynau lles gydag athrawon cyn y dyddiad yna, ond dywedodd Mr Davies ei bod yn bwysig bod disgyblion yn dechrau eu haddysg yn hytrach na chael sesiwn lles a sgwrs yn unig.

  7. Plaid yn cefnogi caniatáu myfyrwyr i ddychwelyd i'r brifysgolwedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Plaid Cymru

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol a llwyddiant y rhaglen frechu yn awgrymu y bydd caniatáu myfyrwyr i ddychwelyd i'r brifysgol yn gam diogel.

    "Ar y sail hynny, dylwn gefnogi hyn," meddai.

  8. 'Campfeydd ddim yn agor am y tro'wedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Addysg ei bod hi'n sefyllfa ofnadwy nad yw merched yn teimlo ei bod yn ddiogel iddynt ymarfer y tu allan pan nad oes ganddynt gwmni ond dywedodd nad oedd hi eto yn gallu cadarnhau pryd y bydd modd i gampfeydd agor.

    Ond cadarnhaodd y bydd campfeydd yn agor pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny a bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pryderon diogelwch pobl wrth ganiatáu i ddau berson ymarfer gyda'i gilydd.

  9. 'Achosion prin diweddar o Covid mewn ysgolion ddim yn bryder'wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Addysg nad yw'r nifer bychan o achosion o Covid mewn ysgolion yn ystod y mis diwethaf wedi bod yn ddigon i beri unrhyw ailfeddwl am gael plant yn ôl yn yr ysgol.

    "Doedd y nifer ddim yn syndod ac mae swyddogion iechyd wedi bod yn rhoi cyngor i ysgolion am yr achosion," medd Ms Williams.

    Fe ddychwelodd plant y cyfnod sylfaen (3-7 oed) i ysgolion fis diwethaf.

    "Wnaeth na'r un digwyddiad beri i ni feddwl na allen fwrw ymlaen â'r cam pwysig sydd wedi digwydd bore 'ma.

    "Ond yn amlwg un o'r rhesymau dros ddychwelyd yn raddol yw ein bod yn gallu cadw golwg barcud ar y data," ychwanegodd Kirsty Williams.

  10. Clod i'r heddlu am ddelio â gwylnosau mewn ffordd 'barchus' yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dylai'r heddlu yng Nghymru dderbyn clod am y ffordd ddelion nhw gyda'r gwylnosau i gofio am Sarah Everard dros y penwythnos, medd y Gweinidog Addysg.

    Cafodd Ms Everard ei darganfod yn farw mewn coedwig yng Nghaint, ar ôl adroddiadau ei bod wedi bod ar goll ers 3 Mawrth.

    Mae un o swyddogion Heddlu'r Met yn Llundain wedi ei gyhuddo o'i chipio a'i llofruddio.

    Dywedodd Kirsty Williams wrth siarad am y golygfeydd a welwyd yn Clapham Common yn Llundain ddydd Sadwrn: "Dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un a oedd yn gwylio'r golygfeydd ddim wedi ei syfrdanu gan y golygfeydd".

    Dywedodd bod angen i ni gofio ein bod "yng nghanol pandemig", ond canmolodd y ffordd y cafodd digwyddiadau eu cynnal yng Nghymru.

    Sarah Everard
  11. Adolygu mesurau diogelwch ysgolionwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd mesurau diogelwch mewn ysgolion yn cael eu hadolygu.

    "Dwi'n derbyn bod gwisgo mwgwd a bod mewn grwpiau cyswllt yn amharu ar y profiad dysgu arferol ond unwaith y byddwn yn cael cyngor ei bod yn ddiogel i'w gwaredu fe wnawn ni hynny."

  12. Mwy o addysg ar y campws o 12 Ebrill ymlaenwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    "O 12 Ebrill, ry'n yn disgwyl y bydd modd i fyfyrwyr gael mwy o addysg ar y campws," medd y Gwenidog Addysg.

    "Mae prifysgolion wedi dechrau paratoi am fwy o addysg ar y campws yn ystod tymor yr haf.

    "Bydd myfyrwyr yn cael cynnig profion cyn iddynt ddychwelyd i'r brifysgol.

    "Bydd prawf llif unffordd ar gael i fyfyrwyr ddwywaith yr wythnos ac i staff na sy'n gallu gweithio'n gyson o adref.

    "Rwy'n hynod o ddiolchgar i fyfyrwyr am addasu yn ystod cyfnod anodd - does na'r un genhedlaeth arall wedi gorfod ymdopi â'r fath brofiad prifysgol."

  13. 'Modd teithio i'r campws os oes rhaid'wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Addysg mai'r prif neges i fyfyrwyr a staff addysg uwch yw i aros yn lleol - ac i weithio ac astudio o adref os yw hynny'n bosib.

    "Cewch deithio i leoliad eich astudio dim ond os nad ydych yn gallu gweithio o adref," medd Kirsty Williams.

    "Ond yn unol â'n hymrwymiad i flaenoriaethu addysg, mae'r rheolau yn caniatáu person i deithio y tu hwnt i'w hardal leol ar gyfer rhesymau addysgol.

    "Mae'n bosib i fyfyrwyr a staff, sydd angen defnyddio llyfrgell, labordai neu adnoddau ar gampws i wneud hynny," ychwanegodd Ms Williams.

  14. Achosion yn gostwng a mwy wedi'u brechuwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gyfeirio at y ffigyrau presennol dywedodd y Dirprwy Swyddog Meddygol bod cyfartaledd nifer yr achosion yng Nghymru bellach yn 40 achos ymhob 100,000 o bobl - ym mis Rhagfyr roedd y nifer yn 600.

    "Mae hyn yn galonogol," medd Dr Chris Jones, "o ystyried presenoldeb yr amrywiolyn newydd ac y mae hynny o ganlyniad i ymdrechion ac aberth pawb.

    "Mae mwy nag 1.1 miliwn o bobl bellach wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn a 264,000 wedi cael yr ail ddos sy'n golygu bod 35% o boblogaeth Cymru wedi cael y dos cyntaf ac mae 10% wedi cael eu brechu'n llawn.

    "Ry'n yn parhau i fod yn ffyddiog y byddwn yn cyrraedd y garreg filltir nesaf sef brechu pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth pump i naw erbyn canol Ebrill, cyn belled ein bod yn cael cyflenwad rheolaidd," ychwanegodd Dr Jones.

  15. Nifer uchaf o achosion ym Merthyr Tudfulwedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae dwy farwolaeth bellach wedi eu cofnodi yn gysylltiedig â coronafeirws, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Mae hyn yn dod â'r cyfanswm o farwolaethau yng Nghymru i 5,454.

    Cafodd 248 achos newydd eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion am y saith diwrnod diwethaf am bob 100,000 o bobl yn 39.

    Mae'r gyfradd achosion ar ei huchaf ym Merthyr Tudful, gyda 144.2 o achosion am bob 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf, yn dilyn clwstwr o achosion yno.

    Ynys Môn sy'n dilyn Merthyr gyda'r ail gyfradd uchaf, o 92.8.

    Map cyfraddau achosion Covid-19 am bob 100,000 yng Nghymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Map cyfraddau achosion Covid-19 am bob 100,000 yng Nghymru

  16. Nifer yr achosion o Covid ymhlith myfyrwyr yn iselwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ond yn gyntaf mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Chris Jones, yn cyfeirio at y sefyllfa iechyd gyhoeddus ddiweddaraf gan edrych yn benodol ar y sefyllfa ym myd addysg uwch.

    Dywed fod pob prifysgol wedi cyflwyno mesurau cadarn ac nad oes achosion o'r haint wedi'u trosglwyddo wrth ddysgu.

    "Mae yna dystiolaeth gref sy'n dweud bod y mwyafrif o fyfyrwyr, oherwydd eu hoed, yn llai tebygol na phobl hŷn o fod yn sâl iawn o ganlyniad i'r haint.

    "Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod nifer yr achosion sy'n cael eu trosglwyddo rhwng myfyrwyr yng Nghymru yn isel," ychwanegodd Dr Jones.

  17. Gweinidog Addysg: 'Bod nôl yn yr ysgol yn gwneud gwahaniaeth'wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod wedi bod yn ffodus i ymweld â dwy ysgol gynradd bore 'ma i ganfod dros ei hun y gwahaniaeth y mae cael bod yn yr ysgol yn ei wneud i blant.

    Mae'n cyfeirio bod rhai blynyddoedd wedi dychwelyd i'r ysgol uwchradd ac yn cadarnhau ei bod hi am ganolbwyntio ar brifysgolion yn ystod y gynhadledd ddydd Llun.

  18. Cynhadledd yn cychwynwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg yn cychwyn.

    Y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, a'r Dirprwy Swyddog Meddygol Dr Chris Jones fydd yn cynnal y gynhadledd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Staff a phlant ysgolion yn Sir Ddinbych yn hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Cyngor Sir Ddinbych

    Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych y bydd wyth disgybl, ac un aelod o staff o Ysgol Pentrecelyn yn hunan-ynysu hyd at Fawrth 22ain yn dilyn cadarnhad o achos o Covid 19 yn gysylltiedig a’r ysgol.

    Hefyd bydd 23 disgybl, a phedwar aelod o staff o Ysgol Christchurch, Y Rhyl, yn hunan-ynysu hyd at Fawrth 22ain yn dilyn cadarnhad o achos o Covid 19 yn gysylltiedig â’r ysgol.

    Mae’r ysgolion yn parhau ar agor ac yn gweithio'n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Awdurdod Lleol a gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl fesurau priodol ar waith i ddiogelu myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.

    Gofynnir i rieni/ gwarcheidwaid fod yn wyliadwrus am brif symptomau coronafeirws

  20. 'Dylid fod wedi brechu staff,' medd undebwedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Yn ôl Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru, maen nhw'n awyddus iawn i weld ysgolion yn ailagor i bob plentyn "cyn belled â bod y wyddoniaeth yn cefnogi hyn a'i bod hi'n ddiogel i wneud hynny".

    Dywedodd Ms Doel hefyd fod yr undeb yn parhau'n siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dewis blaenoriaethu brechu staff ysgolion.

    Laura Doel
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Laura Doel fod yr undeb yn siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dewis blaenoriaethu brechu staff ysgolion