Crynodeb

  • Myfyrwyr prifysgolion yn cael dychwelyd yn rhannol i'r campws wedi'r Pasg

  • Holl blant ysgolion cynradd a rhai disgyblion uwchradd yn dychwelyd i'r dosbarth

  • Mesurau diogelwch Covid mewn ysgolion i'w hadolygu

  • Siopau trin gwallt wedi cael agor am y tro cyntaf eleni

  • Pryderon am ddyfodol canolfannau addysg awyr agored

  1. Gweinidog Addysg yn cynnal y gynhadledd i'r wasgwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Y Gweinidog Addysg Kirsty Williams fydd yn cynnal cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg, wrth i ddisgyblion ysgol uwchradd a chynradd dychwelyd i'r ysgol ddydd Llun.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Pennaeth yn edrych ymlaen yn fawr i gael y disgyblion yn ôlwedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Nid yn unig y disgyblion sy'n edrych ymlaen at ddychwelyd ond yr athrawon hefyd.

    Mae Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug wedi croesawu blynyddoedd 10, 11 a 13 yn ôl heddiw ac yfory tro blwyddyn 12 fydd hi.

    "Dwi'n edrych ymlaen yn wirioneddol - mae'n hen bryd," medd Bronwen Hughes, y pennaeth.

    Disgrifiad,

    Pennaeth Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug, Bronwen Hughes yn siarad ar Dros Frecwast

  3. Profion Covid dewisol ar gael i ddisgyblion hŷnwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Bydd profion Covid ar gael i ddisgyblion hŷn i'w gwneud adref, gyda'r gobaith o ganfod achosion o Covid asymptomatig.

    Dywedodd Finley - disgybl yn Ysgol Glan Clwyd, ei fod yn gobeithio y bydd ei gyd-ddisgyblion yn gweld yr angen i gymryd y profion.

    "Yn bendant bydd rhywfaint o wrthwynebiad gan nad ydy rhai pobl erioed wedi profi unrhyw beth fel hyn," meddai.

    "Yn y pen draw, os ydy o'n mynd i'n cadw ni i gyd yn ddiogel yna mae'n angenrheidiol.

    "Dwi'n bendant yn mynd i wneud y profion os fydd yn amddiffyn pobl dwi'n eu hadnabod a'n ffrindiau."

    prawfFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 'Cyffrous a nerfus' wrth ddychwelyd i'r ysgolwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Mae Finley o'r Rhyl yn ddisgybl ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Glan Clwyd, ac mae'n edrych ymlaen at fod yn ôl yn yr ysgol wedi'r "sioc ddiwylliannol enfawr" o ddysgu o gartref.

    "Wedi meddwl mae'n dangos cymaint dwi'n gwerthfawrogi'r ysgol a pha mor bwysig ydy'r ysgol yn fy mywyd i," meddai.

    "Bydd yn wych bod yn ôl yn yr ystafell ddosbarth gyda fy ffrindiau a gyda'r athrawon.

    "Does dim modd cymharu'r gwahaniaeth rhwng eistedd o flaen sgrin am chwe awr y dydd ag eistedd mewn ystafell ddosbarth am chwe awr y dydd," ychwanegodd.

    "Dyma'r mwyaf cyffrous i fi fod - i ymweld â'r adeilad i fod yn onest - ond hefyd rwy'n nerfus ac yn gobeithio bod popeth yn mynd yn iawn."

    Finley
  5. Disgwyl i'r Gweinidog Addysg gyfeirio at brifysgolionwedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ar gyfrif Twitter y bore 'ma dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd hi'n rhoi sylw penodol i brifysgolion yn ystod y gynhadledd ddydd Llun.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, fydd yn arwain y gynhadleddwedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich 15 Mawrth 2021

    Croeso i'r llif newyddion diweddaraf o gynhadledd Llywodraeth Cymru.

    Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, fydd yn arwain y gynhadledd heddiw a hynny ar y diwrnod y mae nifer fawr o ddisgyblion wedi dychwelyd i'r ysgol.

    disgyblionFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae pob disgybl ysgol gynradd wedi dychwelyd fore Llun a nifer o rai uwchradd