Covid-19: Tair marwolaeth a 190 o achosion newyddwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2021
Mae 42.5% o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn, a 12.3% wedi cael y cwrs llawn.
Read MoreHanner oedolion Cymru wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn
Cyflwyno cynllun adfer £100m y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru
Croeso a phryder wrth i ganolfannau garddio ailagor
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud bod cynllun Covid Lloegr yn hynod optimistig
Gweithwyr y GIG yn dweud na fydd bywyd fyth yr un fath
Mae 42.5% o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn, a 12.3% wedi cael y cwrs llawn.
Read MoreA dyna ni o'r gynhadledd ddiwethaf am y tro gan Lywodraeth Cymru.
Cynllun adfer y GIG gafodd brif sylw y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ddydd Llun - mae'r gwrthbleidiau wedi codi nifer o gwestiynau am ymarferoldeb y cynllun ac yn dweud bod y GIG angen mwy o staff.
Roedd yna gryn sylw hefyd i dwf rhestrau aros.
Nodwyd bod hanner oedolion Cymru bellach wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn.
Mae hi'n flwyddyn ers cyflwyno y clo cyntaf yng Nghymru a gydol yr wythnos bydd nifer yn rhannu profiad yma ar wefan Cymru Fyw.
Ddydd Mawrth bydd gwasanaeth yng Nghaerdydd i fyfyrio ac i gofio am y rhai a gollwyd.
Diolch am eich cwmni gydol y cynadleddau a bydd y newyddion diweddaraf am lacio cyfyngiadau ar wefan Cymru Fyw.
Hwyl am y tro a chadwch yn ddiogel.
Flwyddyn ers y cyfnod clo cyntaf mae nifer o weithwyr y GIG wedi bod yn rhannu eu profiadau.
Dywed Dr Llinos Roberts, sy'n feddyg teulu yn Y Tymbl, fod y 12 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod erchyll a bod nifer wedi dioddef yn ddifrifol.
"Rwy'n cofio cael cyfarfod practis reit ar y dechrau nôl ym mis Mawrth. Yn sydyn mi ddaeth yn amlwg bod rhaid newid pethau ar frys.
"Fe fyddai newid systemau fel hyn a chyflwyno apwyntiadau o bell, a dros y ffôn fel arall wedi cymryd misoedd lawer," meddai.
"Ar ôl i ni weld cefn Covid byddwn ni'n wynebu heriau enfawr - mae nifer o driniaethau wedi eu canslo, ac ry'n ni fel meddygon teulu wedi gweld pwysau cynyddol. Fydd hyn ddim yn cael ei ddatrys dros nos. Dyw hi ddim yn amhosib ond fe fydd yn cymryd amser.
"Mae'r cyfnod wedi amlygu pa mor anghyfartal yw cymdeithas ond ma' hyn yn digwydd dro ar ôl tro. Ma' lle i ni ddysgu - mae'r Gwasanaeth Iechyd i fod yno i bawb ond rwy'n teimlo nad yw hynny'n wir bob tro. Ond rhaid i ni ddysgu o hynny.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pobl wedi teimlo'n browd iawn o'r Gwasanaeth Iechyd a gobeithio bydd hynny yn annog rhagor i fynd yn nyrsys, ffisiotherapyddion a doctoriaid ac yn ymuno â'r gweithlu," meddai.
Heddiw mae canolfannau garddio yn cael ailagor am y tro cyntaf ers cyflwyno y cyfyngiadau diweddaraf ddiwedd Rhagfyr.
Roedd hi'n brysurach nag yw hi fel arfer ar ddydd Llun ym mis Mawrth yng nghanolfan arddio Fron-goch ger Caernarfon fore Llun.
Yn ogystal â chanolfannau garddio, bydd archfarchnadoedd yn cael gwerthu eitemau nad ydynt yn rhai hanfodol unwaith eto o ddydd Llun ymlaen - gan gynnwys eitemau fel dillad, colur, a chardiau achlysur.
Mae'r mater wedi bod yn un dadleuol gyda perchnogionrhai busnesau'n dweud nad ydyn nhw'n cael eu trin yn deg.
I Julie Edwards, perchennog Joshua Tree a Martha Jones, dwy siop anrhegion ym Mhwllheli, mae'r cyhoeddiad diweddar am lacio cyfyngiadau yn "siomedig" ac yn annheg.
Ceidwadwyr Cymreig
Croesawodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd gynllun adfer y GIG ond mae'n holi a all Llafur Cymru gyflawni'r addewid.
Dywedodd Andrew RT Davies bod gan Gymru cyn y pandemig amseroedd aros gwael a dyna oedd "realiti 22 mlynedd o lywodraeth Lafur".
"Ydych chi'n dweud wrthai mai'r Gweinidog Iechyd presennol yw'r person a ddylai fod yn gyfrifol am ddatrys promblem amseroedd aros pan bod gennym ni'r amseroedd aros gwaethaf yn y DU cyn Covid?"
Plaid Cymru
Wrth ymateb dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ei fod yn gwerthfawrogi buddsoddiad ychwanegol yn y GIG ond bod yn rhaid cael mwy o staff.
Wrth siarad ar Wales Today, dywedodd Mr Price mai'r un peth nad ydyn wedi cael cyfeiriad ato heddiw yw buddsoddiad yng ngweithlu y GIG.
"Yn ystod y blynyddoedd nesaf rhaid i ni gael 1000 o feddygon ychwanegol, 4000 o nyrsys ychwanegol a 1000 o arbenigwyr iechyd eraill er mwyn gostwng rhestrau aros," meddai.
Dywedodd ei bod yn cytuno gyda beirniadaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, am amserlen llacio y cyfyngiadau yn Lloegr.
"Mae cyhoeddi bod clybiau nos yn agor ar Fehefin 21 yn neges anghywir - rhaid bod yn hynod ofalus a llacio gam wrth gam ac nid dadwneud y gwaith da sydd wedi'i gyflawni."
Llywodraeth Cymru
Bydd angen i fyrddau iechyd Cymru gydweithio llawer mwy ar ôl y pandemig er mwyn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Wrth ateb cwestiwn am sut mae modd osgoi "loteri cod post am wasanaethau" ar ôl y pandemig, dywedodd Vaughan Gething y byddai Cymru angen "cymysgedd" o wasanaethau "lleol, rhanbarthol a chenedlaethol".
Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
Yn ôl adroddiad newydd, amcangyfrifir bod y profion torfol â dyfeisiau llif unffordd ym Merthyr Tudful ac yn rhan isaf Cwm Cynon wedi atal 353 o achosion o Covid-19, 24 o achosion o orfod mynd i’r ysbyty, 5 achos o orfod mynd i uned gofal dwys ac 14 o farwolaethau.
Dywedodd yr Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’n braf gen i rannu’r adroddiad hwn sy’n gwerthuso llwyddiant ein cynllun profi torfol peilot. Roedd hwn yn gynllun uchelgeisiol iawn a gafodd ei gynnal ar frys, gyda’r nod o wneud gwahaniaeth sylweddol i’n cymunedau ar adeg pan oedd nifer yr achosion o Covid-19 yn hynod o uchel yn yr ardaloedd hyn.
“Mae’r canlyniadau’n amcangyfrif bod mwy na 350 o achosion o Covid-19 ac 14 o farwolaethau wedi cael eu hatal, sy’n dweud y cyfan wrthym ni. Yn ogystal â bod yn newyddion cadarnhaol i’n cymunedau, mae’r gwerthusiad yn dangos bod y cynllun peilot wedi lleddfu’r pwysau ar ein hysbytai ac ar ein gweithwyr hanfodol pan oedd angen hyn arnynt fwyaf.
“Credaf y bydd yr adroddiad hwn yn werthfawr iawn i unrhyw sydd â diddordeb mewn defnyddio profion llif unffordd yn rhan o strategaeth brofi ehangach yng Nghymru a ledled y byd. Mae’n dangos bod potensial gan brofion llif unffordd i fod yn rhan allweddol o’n prosiect Profi, Olrhain, Diogelu, wrth i ni edrych yn fwy hyderus ar adfer ar ôl Covis-19, ac mae’n cynnig profiad go iawn i feysydd eraill sy’n ystyried dull tebyg."
Llywodraeth Cymru
Mae amserlen Llywodraeth y DU ar gyfer llacio cyfyngiadau'n Lloegr "ar ben optimistaidd iawn y sbectrwm", yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Mae Mark Drakeford wedi rhybuddio nad yw Cymru'n debygol o ddychwelyd i normalrwydd o gwbl eleni.
Ond mae Boris Johnson wedi amlinellu amserlen ar gyfer codi'r holl gyfyngiadau cyfreithiol yn Lloegr erbyn 21 Mehefin.
"Rydw i eisiau bod yn onest ac yn realistig gyda phobl yng Nghymru, yn hytrach na dim ond ceisio paentio'r llun mwyaf optimistaidd y gallai," meddai Mr Drakeford.
"Rwy'n credu bod rhai o'r awgrymiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud fel pe baent ar ben optimistaidd iawn y sbectrwm ac nid yn ystyried yn llawn y cyngor yr ydym yn ei gael am y risgiau a fydd gyda ni am weddill y flwyddyn."
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru flwyddyn ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf dywedodd Mr Drakeford fod delio â'r feirws yn dasg "hir-dymor" ond "rwy'n sicr yn gobeithio erbyn yr haf y bydd bywyd yn llawer agosach at normal nag y bu dros y gaeaf.
Llywodraeth Cymru
Mae pobl yng Nghymru yn dymuno i Lywodraeth Cymru fod yn bwyllog wrth lacio cyfyngiadau coronafeirws, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Dywedodd Vaughan Gething: "Maen nhw mewn gwirionedd yn croesawu ac eisiau i ni barhau i weithredu camau pwyllog sydd wedi'u seilio ar y dystiolaeth.
"Mae yna rai yn y byd gwleidyddol sy'n gorchymyn ein bod yn dilyn rhaglen mwy uchelgeisiol gyda mwy o frys - cynllun sy'n cael ei arwain gan ddyddiadau, dim data, ond nid dyna nod Llywodraeth Cymru ac nid dyna mae pobl Cymru yn ei ddymuno."
Dywedodd Mr Gething fod yr holl gyngor gwyddonol a meddygol yn dweud wrth weinidogion "os ydyn ni'n symud yn rhy gyflym, gallwn daflu ymaith ein holl waith caled ac aberth pobl Cymru a rhannau eraill o'r DU."
"Fuaswn ni ddim eisiau gwneud hynna. A dydw i ddim yn credu bod unrhyw un yn disgwyl i Lywodraeth Cymru i agor y drysau'n sydyn, a gweithredu fel petai modd cael gwared â'r holl gyfyngiadau erbyn rhyw bwynt mewn amser, ar ddyddiad penodol.
"Rydw i'n credu bod pobl eisiau gwybod ein bod ni'n gweithredu mewn ffordd gyfrifol, sy'n dilyn ac sy'n parchu'r dystiolaeth a'r wyddoniaeth, a dyna'r dull ni wedi penderfynu ei ddilyn."
Dywedodd Mr Gething mai dyna pam fod gweinidogion wedi cyhoeddi "map" gyda manylion am lacio cyfyngiadau a dywedodd y byddan nhw'n defnyddio'r 21 diwrnod nesaf i ystyried yr hyn sy'n bosib.
Llywodraeth Cymru
"Bydd hi'n cymryd tymor seneddol cyfan i wella o'r pandemig," medd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.
Ychwanegodd ei bod yn bwysig gofalu am staff y GIG yn ystod y cyfnod adfer a'i fod wedi cyfarfod gydag arweinwyr y GIG ac undebau llafur i drafod hynny.
"Dyna pam y bydd hi'n cymryd tymor seneddol cyfan i ddychwelyd i normal.
"Dyw pobl sy'n dweud bod modd dychwelyd i normal - fel roedd hi cyn y pandemig - o fewn blwyddyn neu ddwy ddim yn onest gyda'r cyhoedd ac fe fyddai hynny yn rhoi mwy o bwysau ar staff y GIG," ychwanegodd Vaughan Gething.
Ddydd Mawrth bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd i gofio'r rhai sydd wedi marw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Un a gollodd ei Mam ym mis Tachwedd o ganlyniad i'r haint yw Lynne Williams o Aberystwyth.
Ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul dywedodd:
"Dwi'n cael diwrnodau mwy tywyll na'i gilydd, pan dwi'n hiraethu mwy na'i gilydd, pan dwi'n fwy crac na'i gilydd oherwydd y sefyllfa, dwi'n siwr fod hynny yn naturiol hefyd.
"Ond yn y pen draw dwi ddim yn gallu newid dim byd, mae gen i ddewis, un ai cofio Mam fel roedd hi a chofio'r bywyd yna neu adael i'r flwyddyn ddiwethaf ma suro yr holl flynyddoedd yna - felly dyna dwi'n trio ei wneud trio cofio'r dyddiau da, gobeithio."
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Does dim un farwolaeth o ganlyniad i Covid-19 wedi'i chofnodi yng Nghymru, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae 150 achos newydd o Covid-19 wedi cael eu cadarnhau, sy'n dod â chyfanswm yr achosion i 207,992.
Mae cyfanswm y marwolaethau yn aros ar 5,488.
Merthyr Tudful sydd â'r gyfradd uchaf o achosion Covid-19 yng Nghymru gyda 121 am bob 100,000 person.
Yn dilyn Merthyr mae Ynys Môn gyda 107.1.
Ceredigion sydd â'r nifer isaf o achosion gyda 11.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod yna "gyfle i ailffurfio ac ailadeiladu" y system gofal iechyd.
Wrth ateb cwestiwn ar effaith Covid-19 ar amseroedd aros a'r ffaith y gallai anghydraddoldebau iechyd waethygu, dywedodd Mr Gething fod cynllun adfer y GIG yn cynnwys "adran gyfan" ar y mater.
"Mae yna wastad peryg os ydych chi'n gadael i sefyllfa waethygu dros amser nad ydych yn mynd i'r afael â'r sefyllfa ac fe allwch weld pobl yn neidio i flaen y rhes ac yn talu am driniaeth," meddai.
Ond mae'r sector annibynnol ar draws y DU hefyd yn llawn, medd Mr Gething.
"Anghydraddoldebau iechyd yw un o'n heriau mwyaf.
"Mae'n wir mai pobl o gymunedau llai breintiedig sy'n fwyaf tebygol o ddioddef.
"Dyna pam mae yna gymaint o ffocws ar anghydraddoldebau iechyd yn ein cynllun, ac mae gennym gyfle i ailffurfio ac ailadeiladu ein systemau iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol," meddai.
Llywodraeth Cymru
Wrth gloi'r gynhadledd, dywed y Gweinidog Iechyd bod Canolfan Dystiolaeth Covid-19 bellach wedi ei sefydlu yng Nghymru ac y bydd yn cydweithio'n agos gyda'r GIG a'r gwasanaeth cymdeithasol i ddadansoddi effaith yr haint ac y bydd yn defnyddio tystiolaeth i ymateb i heriau newydd.
"Bydd y ganolfan hefyd yn ymchwilio i Covid hir ac yn gynharach y mis hwn fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, Eluned Morgan, gyfarfod â gweinidogion o'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn trafod cydweithio," ychwanegodd.
Llywodraeth Cymru
"Ry'n wastad wedi dweud ein bod am i bobl sydd wedi dioddef o Covid hir gael gofal cyn agosed i'w cartref â phosib.
"Mae pob sefydliad GIG wedi cael manylion Llwybr Cymunedol Cymru Gyfan ar gyfer Covid sy'n cydfynd â chanllawiau NICE ac sy'n sicrhau ymateb cyson i bobl lle bynnag maent yn byw.
"Ry'n hefyd yn cydweithio â grwpiau cefnogi er mwyn dysgu o brofiadau pobl fel ein bod yn medru gwella ein gwasanaethau.
"Mae rheoli pobl sydd â Covid hir yn un o flaenoriaethau gofal sylfaenol ein cynllun adfer ar gyfer y GIG," ychwanegodd Mr Gething.
Llywodraeth Cymru
Mae dros hanner oedolion cymwys wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn Covid-19 yng Nghymru.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
"Byddwn yn buddsoddi dros £1.26m i sefydlu canolfan a fydd yn hybu y defnydd o dechnoleg newydd yng ngofal iechyd a chymdeithasol," medd y Gweinidog Iechyd.
"Bydd hyn yn galluogi ymgynghoriad rhithiol a chadw llygad ar gleifion o bell yn eu cartrefi.
"Ond fe fyddwn yn sicrhau fod pobl sydd angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb yn cael un," ychwanegodd.
Llywodraeth Cymru
Gan gyfeirio at ofal sylfaenol dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod modd gostwng nifer y bobl sy'n cael eu cyfeirio at wasanaethau trin llygaid mewn ysbytai drwy weithio gydag optometryddion yn y gymuned.
"Mae modd adeiladu ar y datblygiadau a wnaed yn ystod y pandemig i gryfhau ymhellach ein gwasanaethau fferyllyddol cymunedol," meddai.
"Mae'r gyllideb ar gyfer iechyd meddwl yn fwy na'r un arall yn y GIG ond os ydym i atal problemau iechyd meddwl tymor hir rhaid i ni wario mwy ar wasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n dioddef," ychwanegodd.