Crynodeb

  • Hanner oedolion Cymru wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn

  • Cyflwyno cynllun adfer £100m y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

  • Croeso a phryder wrth i ganolfannau garddio ailagor

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud bod cynllun Covid Lloegr yn hynod optimistig

  • Gweithwyr y GIG yn dweud na fydd bywyd fyth yr un fath

  1. Cleifion i gael profion cyn gweld ymgynghorydd yn y dyfodolwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Gan gyfeirio at y cynllun £100m i adfer y GIG, dywed y Gweinidog Iechyd mai'r bwriad yw mabwysiadu dulliau newydd o weithredu gan gynnwys anfon pobl yn syth am brofion cyn gweld ymgynghorydd.

    "Ry'n hefyd am wneud mwy o ddefnydd o apwyntiadau rhithiol - cyn y pandemig roedd canran yr apwyntiadau rhithiol yn 8% ond bellach maent yn 34%.

    "Ry'n hefyd am greu canolfannau iechyd rhanbarthol," meddai.

  2. 'Gallu'i GIG wedi ei gyfyngu yn fawr oherwydd Covid'wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Iechyd yn y gynhadledd bod gallu y GIG wedi ei gyfyngu yn fawr yn ystod y flwyddyn wrth i fobl ddifrifol wael orfod cael blaenoriaeth ac wrth i nifer o'r staff orfod hunan-ynysu.

    "Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y rhai sydd angen triniaeth yn ei derbyn. Rhaid sicrhau na fydd iechyd pobl yn gwaethygu tra'n aros am driniaeth," meddai.

  3. 'Rhestrau aros yn cynyddu oherwydd yr haint'wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal wedi bod wrth wraidd ein hymateb i'r pandemig," medd y Gweinidog Iechyd.

    "Dyna pam rwyf wedi cyhoeddi tâl bonws arbennig i dros 220,000 o staff iechyd a gofal.

    "Maent wedi gweithio yn gwbl ddiflino," mae'n ychwanegu.

    Ond mae'n dweud bod y flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith andwyol ar y GIG yng Nghymru a bod nifer o apwyntiadau wedi gorfod cael eu gohirio.

    "Mae dros 200,000 o bobl wedi cael prawf positif o'r haint ac mae dros 30,000 wedi gorfod cael triniaeth ysbyty oherwydd yr haint ac felly mae'n rhestrau aros yn cynyddu," ychwanegodd.

    Mae'r rhestr ar hyn o bryd yn fwy na 540,000 ac mae 60% o'r rhestr yn apwyntiadau newydd i gleifion allanol."

  4. 50% o boblogaeth Cymru wedi cael y dos cyntaf o'r brechlynwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, mai ei fwriad yn ystod cynhadledd ddydd Llun yw canolbwyntio ar adferiad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a chefnogi y rhai sy'n dioddef o Covid hir.

    Bellach mae 50% o boblogaeth Cymru wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn.

    Ac mae bron i 350,000 wedi eu brechu'n llawn.

  5. Cynhadledd Llywodraeth Cymru yn cychwynwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething sy'n cynnal cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. 'Ddim yn hapus i agor ein drysau eto', medd un perchennogwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Wayne a Nia

    Mae Wayne Edwards a'i wraig Nia yn berchen ar Greenacre Nursery yn Y Borth ger Aberystwyth.

    Fel nifer o ganolfannau eraill, maen nhw wedi bod yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu dros y misoedd diwethaf ac felly ddim mewn brys i ailagor.

    "Fi ddim yn hapus ein bod yn agor ein drysau eto... Fuasen ni wedi bod lot hapusach 'sen ni wedi sefyll ar gau dan Ebrill," meddai Mr Edwards wrth siarad â Cymru Fyw.

    "Dim ond fi a fy ngwraig sy'n gweithio yn fan hyn a ni ddim wedi cael y vaccine eto."

    Dywedodd Mr Edwards ei fod yn poeni y bydd pobl yn dod i ganolfannau garddio wrth iddyn nhw "feddwl am rywle i fynd".

    "Ydyn ni am gael lot o bobl yn dod mas yma? Gormod o bobl? Bydd yn rhaid i ni fod yn strict efo faint o geir rydyn ni'n gadael i mewn," meddai.

    Ar hyn o bryd, mae Mr Edwards a'i wraig yn bwriadu caniatáu tri char ar y tro er mwyn ceisio cadw pellter cymdeithasol.

  7. Canolfannau garddio wedi ailagor fore Llunwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    O heddiw (dydd Llun) ymlaen mae canolfannau garddio yn cael ailagor - wedi iddyn nhw fod ar gau ers diwedd mis Rhagfyr.

    "Rwy'n edrych ymlaen i gael gweld pobl wyneb yn wyneb - yn enwedig y rhai sydd wedi dod yn ffrindiau i ni dros y blynyddoedd," medd Richard Bramley o Landysul.

    Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen i weld y cwsmeriaid hŷn hefyd gan fod nifer ohonyn nhw wedi bod yn hunan-ynysu am ran helaeth o'r flwyddyn ddiwethaf.

    "Rwy'n edrych mlaen i gael pobl yn mentro yma unwaith eto - hyd yn oed os ydyn nhw ond yn dod am sbec i weld be' sydd 'da ni. Rydyn ni hefyd yn agor cwpl o erddi newydd."

    Richard BramleyFfynhonnell y llun, Richard Bramley
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Richard Bramley yn berchen ar ganolfan arddio yn Llandysul

  8. Plaid Cymru: 'Recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys'wedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Plaid Cymru

    Dywed llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod yn rhaid i ofal iechyd yng Nghymru gael ei drawsnewid yn llwyr ac nad yw sicrhau gwelliant o ganlyniad i'r pandemig yn unig yn ddigon.

    "Mae Llafur yn cydnabod bod anghydraddoldebau yn y GIG yng Nghymru ond dydyn nhw ddim yn derbyn cyfrifoldeb am hynny," meddai.

    "Byddai Plaid Cymru," medd Rhun ap Iorwerth, "yn recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ac yn sicrhau y byddai gweithwyr gofal yn "cael yr un termau, amodau â gweithwyr iechyd.

    "Byddai ein cynllun canser yn sicrhau diagnosis a thriniaeth yn gynt, byddem yn cefnogi lles ac iechyd meddwl pobl ifanc drwy gael rhwydwaith o ganolfannau i bobl ifanc.

    "Byddem yn blaenoriaethu mesurau a fyddai'n atal salwch. Allwn ni ddim dychwelyd i fel roeddan ni o'r blaen. Rhaid i'n gwasanaeth GIG ni gael ei ailadeiladu i fod yn gryfach nag erioed."

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Byddai Plaid Cymru yn sicrhau bod gweithwyr gofal yn cael yr un termau, amodau â gweithwyr iechyd, medd Rhun ap Iorwerth

  9. Ceidwadwyr: 'Cynlluniau ar gyfer delio â chleifion canser yn annigonol'wedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywed llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns AS, bod cynlluniau Llafur yn y gorffennol wedi "methu â sicrhau y gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer pobl a'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru".

    "Cyn y pandemig roedd rhestrau aros yn anhygoel o uchel ac wedi dyblu o fewn blwyddyn.

    "Bellach mae un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros - sy'n argyfwng iechyd cyhoeddus arall."

    "Ry'n yn falch," meddai, "bod Llafur wedi gweithredu ein galwad i gael cynllun adfer ond yn anffodus mae'r cynlluniau ar gyfer delio â chleifion canser yn annigonol. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithredu cynllun delio â chanser ar fyrder."

    Ychwanegodd y byddai'r Ceidwadwyr yn sicrhau bod mwy o feddygon, nyrsys ac arbenigwyr iechyd eraill yn gweithio yn y GIG yng Nghymru.

    Angela Burns
    Disgrifiad o’r llun,

    Byddai'r Ceidwadwyr yn sicrhau mwy o feddygon, nyrsys ac arbenigwyr iechyd eraill, medd Angela Burns

  10. 'Cyfle i drawsnewid y ffordd ry'n yn gweithredu gwasanaethau iechyd a gofal'wedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gyhoeddi'r cynllun dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod "y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cleifion a staff.

    "Wrth i ni gamu allan o gyfnod gwaethaf y pandemig ry'n bellach mewn sefyllfa lle gallwn ddechrau roi trefn ac mae'r cynllun hwn yn cynnwys y prif egwyddorion.

    "Bydd yn daith hir ond bydd yn gyfle i ni drawsnewid y ffordd ry'n yn gweithredu gwasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ein cymdeithas wrth iddynt ddod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig.

    "Rwyf hefyd heddiw yn cyhoeddi ein Fframwaith Clinigol Cenedlaethol sy'n dangos sut ry'n yn rhagweld y bydd gwasanaethau clinigol y GIG yn datblygu yn ystod y ddegawd nesaf," meddai.

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. 'Angen strategaeth ganser lawnach' ar gyfer y dyfodolwedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Mae elusennau canser wedi bod yn galw am ddatblygu strategaeth ganser lawnach.

    Dywed Cynghrair Canser Cymru: "Mae'n bosib mai Cymru fydd yr unig genedl cyn hir heb strategaeth ganser, gyda Llywodraeth Cymru yn dewis cyhoeddi datganiad ansawdd byr yn hytrach na chynllun manwl.

    "Mae 20 o elusennau sy'n rhan o'r gynghrair yn dweud nad yw'r datganiad yn mynd yn ddigon pell.

    "Mae Cynghrair Canser Cymru yn croesawu'r cynllun ond yn teimlo mai cynllun sy'n delio ag effeithiau tymor byr y pandemig yw e a does yna ddim cynlluniau tymor hir ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru."

    SganiwrFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae llai o bobl wedi bod yn defnyddio gwasanaethau trin canser yn ystod y pandemig

  12. Cyflwyno cynllun adfer £100m y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun £100m i adfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi'r pandemig.

    Mae'r cynllun yn nodi effaith Covid-19 ar wasanaethau ac yn ceisio ailadeiladu gwasanaethau er mwyn gostwng amseroedd aros.

    Mae mwy nag erioed o bobl yn aros am driniaeth ysbyty wedi i nifer gael eu canslo wrth i weithwyr iechyd frwydro yn erbyn y pandemig.

    Dywed prif weithredwr y GIG yng Nghymru bod hwn yn "gyfle i newid er gwell" ond mae'n rhybuddio bod staff wedi blino ac y gallai gymryd pum mlynedd i roi trefn ar restrau aros.

    Yn ei sylwadau yn y cynllun adfer dywed Dr Andrew Goodall bod y ffordd y mae Cymru wedi ymateb i'r pandemig wedi bod yn "gwbl wych".

    "Mae'r GIG, a phob un o'r partneriaid gofal cymdeithasol, gan gynnwys y trydydd sector a'r rhai annibynnol, wedi dangos gallu i weithredu ar raddfa eang yn gyflym," meddai.

    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Pennaeth y GIG yng Nghymru, Dr Andrew Goodall, bod yna gyfle i newid er gwell

  13. Croeso i'r llif newyddion o gynhadledd Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2021

    Croeso atom ni - a hynny flwyddyn ers i'r cyfnod clo cyntaf ddod i rym.

    Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, sy'n arwain y gynhadledd heddiw - a dyma'r olaf o gynadleddau rheolaidd Llywodraeth Cymru.

    Bydd y newyddion diweddaraf am lacio'r cyfyngiadau yn ystod yr wythnosau nesaf yma ar wefan Cymru Fyw ynghyd ag addewidion y pleidiau cyn etholiad y Senedd ym mis Mai.

    Caernarfon
    Disgrifiad o’r llun,

    Ciwio i fynd i'r fferyllfa ar y Maes yng Nghaernarfon adeg y clo cyntaf