Crynodeb

  • Cymru i gyrraedd carreg filltir brechu yn gynnar

  • Cadarnhad y bydd atyniadau a lletygarwch awyr agored yn agor o 26 Ebrill

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cofnodi dwy farwolaeth arall a 188 achos newydd

  • Disgwyl i letygarwch dan do ailagor ddiwedd Mai a champfeydd ar 10 Mai

  • Modd teithio i ac o Gymru o weddill y DU o 12 Ebrill

  • Gwrthbleidiau yn galw am gefnogaeth i fusnesau

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    A dyna ni ar y diwrnod y dywedodd Prif Weinidog Cymru y bydd targedau brechu yn cael eu cyrraedd cyn yr hyn yr oedd wedi'i obeithio'n wreiddiol.

    Cadarnhaodd y bydd holl fyfyrwyr Cymru'n dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ar 12 Ebrill, os fydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau'n ffafriol.

    Bydd siopau'n cael ailagor o'r un diwrnod hefyd, yn ogystal â gwasanaethau cysylltiad agos, fel salonau harddwch.

    Yn amodol ar niferoedd achosion Covid, bydd atyniadau a lletygarwch awyr agored - gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai - yn ailagor o 26 Ebrill.

    Fe allai lletygarwch dan do ailagor erbyn diwedd mis Mai, gyda champfeydd i ailagor ar 10 Mai.

    O 12 Ebrill, bydd pobl yn cael teithio i ac o Gymru o weddill y DU a'r Ardal Deithio Gyffredin, sy'n cynnwys ynysoedd Jersey, Guernsey a Manaw ac Iwerddon.

    Mae'r gwrthbleidiau wedi galw am fwy o arian i fusnesau.

    Diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogel dros y Pasg.

    Hwyl am y tro.

    wyau pasg
  2. Democratiaid Rhyddfrydol: 'Bodlon ond angen agor campfeydd ynghynt'wedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Dywed Rodney Berman ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ei fod yn "gymharol fodlon gyda chyflymder y llacio.

    "Mae'r ffaith fod gennym ryw fath o fap yn rhoi rywfaint o eglurder i amrywiol sectorau gan gynnwys lletygarwch, campfeydd ond mi ellid fod wedi cyflwyno achos i agor campfeydd ychydig yn gynt.

    "Fe fyddwch yn gallu mynd i ardd gwrw cyn y byddwch yn gallu mynd i ddosbarth ymarfer awyr agored - ond mae cael rhyw fath o fap am ailagor yn bwysig.

    "Dylid hefyd edrych ar gymorth ariannol i fusnesau na sydd eto wedi gallu ailagor," ychwanegodd.

  3. 'Pawb dros 50 i gael cynnig brechlyn erbyn dydd Sul'wedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Prif Weinidog Cymru'n dweud y bydd pawb yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf wedi cael cynnig brechlyn erbyn dydd Sul.

    Read More
  4. Plaid Cymru: Croesawu ond galw am ailalw'r Seneddwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Plaid Cymru

    Dywed arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod angen ailalw'r Senedd er mwyn trafod cymorth ariannol i fusnesau.

    "Rhaid cael arian i fusnesau a fydd ar gau yn ystod yr wythnosau nesaf," meddai er bod hi'n gyfnod cyn-etholiadol.

    "Rhaid peidio aros ar ôl yr etholiad cyn rhoi arian i fusnesau - rhaid achub cannodd a miloedd o fusnesau ar draws Cymru," meddai.

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru ei fod yn "falch bod y Prif Weinidog wedi gwrando rŵan a rhoi'r math o ragrybudd 'da ni 'di bod yn gofyn amdano fo".

    Roedd yn croesawu hefyd bod y mesurau "nid yn edrych ymlaen fisoedd lawer - dwi'n meddwl bod Boris Johnson yn gwneud camgymeriad yn neud hynny yn Lloegr - ond yn edrych ymlaen o leia' rai wythnosa' tuag at ddiwedd mis nesa'.

    Ond fe ddywedodd bod yn rhaid cwestiynu pam bod y fath gamau wedi'u cyhoeddi nawr.

    "Cyfathrebu gymaint o wybodaeth ymlaen llaw â phosib - dyna ma' pobol wedi bod yn gofyn amdano a tra bod hwn heddiw, dwi'n meddwl, yn rhoi'r math o eglurder dwi' wedi bod isio - nid ar bopeth, ma' 'na sawl peth 'sa ni 'di licio gweld gweithredu arno - ond ma' hwn yn agosach at be' fyddwn ni wedi licio wythnosa' yn ôl."

  5. Datblygiadau arloesol y pandemig i 'siapio'r dyfodol'wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Bydd gwaith arloesol wnaeth ddigwydd yn ystod y pandemig yn helpu ailadeiladu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, yn ôl ymchwilwyr.

    Mae ymgynghoriadau drwy fideo ac apiau ar gyfer cleifion ymhlith y dechnoleg newydd i ddod yn gyffredin yn ystod y pandemig.

    Mae GIG Cymru yn archwilio sut wnaeth staff addasu a chreu ffyrdd newydd o weithio, gyda'r canlyniadau yn siapio'r dyfodol.

    Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn casglu'r wybodaeth, ac er bydd yr adroddiad llawn yn dilyn ym mis Ebrill, mae'r tîm wedi cyhoeddi'r themâu sydd wedi dod i'r amlwg.

    Maen nhw'n cynnwys sut dechreuodd staff ddefnyddio technoleg ddigidol newydd yn gyflym fel rhan o'u gwaith clinigol, yn ogystal ag ar gyfer gweinyddu'r gwasanaeth gofal iechyd.

    apFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Ceidwadwyr: 'Eisiau i dafarndai agor yn gynt'wedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wedi'r gynhadledd, dywedodd un o ymgeiswyr y Ceidwadwyr yn etholiadau'r Senedd bod hi dal yn "siomedig" bod tafarndai ddim yn cael ailagor yn gynt, gan eu bod "wedi stryglo" a llawer wedi trefnu mannau awyr agored ar gyfer cwsmeriaid.

    "Dan ni isio symud ymlaen ŵan yn ein blaenau, a 'dwi'n teimlo wrach dylsa lletygarwch 'di ca'l ailagor ŵan" meddai Barbara Hughes wrth S4C.

    Mewn ymateb i eglurhad y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, ar pam na all hynny ddigwydd, dywedodd: "Do, aru o ddeud bod 'na brobleme efo agor gormod o bethe. Ond dwi'n teimlo os 'di Lloegr yn agor canol mis Ebrill, os 'di pawb ar yr un un rheole fysa pawb yn gw'bod be' sy'n mynd ymlaen.

    "Mae 'na pobol science yn y ddau le wedyn dwi'm yn gw'bod pam mae un yn deud un peth a'r llall yn deud rwbath gwahanol."

    Wrth siarad ar raglen Wales Today dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd Andrew RT Davies ei fod yn falch bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno "map" o'r hyn sy'n mynd i ddigwydd er bod hynny braidd yn hwyr.

    Dwedodd hefyd ei fod yn siomedig nad oedd mwy o gyllid ar gyfer y sector lletygarwch a'i fod yn siomedig nad yw campfeydd yn agor tan fis Mai a hynny er bod gweinidogion iechyd wedi rhoi sicrwydd y byddai campfeydd gyda'r cyntaf i agor.

    Nododd ymhellach y dylai lletygarwch awyr agored ailagor ar 12 Ebrill - yn unol â chynlluniau Lloegr.

    "Mae bod heb fannau trwyddedig yn creu trafferthion sbwriel a threfn gyhoeddus pan fo torfeydd yn ymgynull," meddai.

  7. 'Wedi ystyried ailagor lletygarwch awyr agored ynghynt'wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried ailagor lletygarwch awyr agored bythefnos ynghynt ond "fe gawson gyngor i beidio gwneud hynny ar sail y peryg i iechyd cyhoeddus".

    Ychwanegodd Mark Drakeford ei fod yn deall fod pobl eisiau ailagor bariau ac na fydd hynny yn digwydd tan 26 Ebrill.

    Ychwanegodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, bod hi'n nod gweithredu yr un camau â chenhedloedd eraill y DU ond nad oedd hynny yn gam call i Gymru ar hyn o bryd.

    "Dyw'r feirws ddim wedi cilio - fe ddaw'n ôl a bydd yn dod â niwed gyda e. Felly y cyngor yw camu ymlaen yn ofalus," meddai.

    Dywed Dr Atherton hefyd y dylid osgoi croesi ar draws ffiniau er bod y rheolau newydd yn caniatáu hynny.

    Ychwanegodd na ddylid datgloi Cymru yn rhy gyflym.

  8. Llywodraeth Cymru'n trafod y posibilrwydd o 'basbort brechu'wedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda llywodraethau eraill y DU am yr hyn a elwir yn "basbort brechu".

    Yn ôl Mark Drakeford mae 'na fuddiannau o gael system sy'n datgan a ydy rhywun wedi cael eu brechu, ond bod "nifer o broblemau ymarferol a moesol" ynghlwm â chynllun o'r fath.

    Ychwanegodd bod gan Lywodraeth Cymru bwerau ar y mater, ond ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig trafod y pwnc gyda llywodraethau eraill y DU "er mwyn mynd i'r afael â phroblemau cymhleth".

  9. Golygfeydd ger y Senedd 'ddim yn rheswm i newid yr amserlen'wedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dydy'r torfeydd o bobl a welwyd yn yfed ar risiau'r Senedd dros y dyddiau diwethaf ddim yn rheswm i ailagor tafarndai ynghynt, meddai Mark Drakeford.

    Ar hyn o bryd bydd tafarndai yn gallu ailagor yn yr awyr agored o 26 Ebrill, gyda'r posibilrwydd o ailagor dan do erbyn diwedd Mai.

    Ond dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd nad ydy'r golygfeydd a welwyd ger y Senedd yn rheswm i newid yr amserlen.

    "Mae'r bobl yma yn credu eu bod tu hwnt i'r rheolau ac nad ydy coronafeirws yn effeithio arnyn nhw - maen nhw'n anghywir," ychwanegodd.

    "Pan fo pobl yn ymddwyn yn y ffordd ry'n ni wedi'i weld, maen nhw'n rhoi eu hunain mewn perygl, a rhoi pobl eraill mewn perygl hefyd."

    Disgrifiad,

    Sbwriel ar lawr Y Senedd

  10. 'Heddi yn newyddion grêt,' medd perchennog siopwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Caryl Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    'Heddi yn newyddion grêt,' medd Caryl Davies, perchennog siop

    "Roedd yna siom fawr y tro diwethaf pan nad o’n ni gallu agor felly mae heddi yn newyddion grêt.

    "Gallwn ni ganolbwyntio ar agor ac mae’r stoc wedi cyrraedd," medd Caryl Davies, Siop Ddillad Rig Out Llandeilo.

    "Mae rhai cwsmeriaid yn hoffi dod mewn a theimlo’r defnydd ac i drio’r dillad, ac mae’n braf i ni roi mewnbwn.

    "Mae Llandeilo yn llawn siopau annibynnol a ni gyd yn barod i agor. Gobeithio gyda’r haf o’n blaenau y byddwn ni yn brysur."

    siop rigout
  11. 'Ddim am nodi llacio pellach y tu hwnt i ddiwedd Mai'wedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr dywed y Prif Weinidog nad yw'n credu ei "bod yn gall" nodi dyddiadau pellach ar gyfer llacio cyfyngiadau y tu hwnt i ddiwedd Mai.

    Yn ystod y gynhadledd ddydd Iau dywedodd y byddai swyddogion yn parhau i edrych ar y ffigyrau ac yna yn rhoi arwydd o'r hyn sydd i ddod ym Mehefin ac yn ystod yr haf.

    "Os bydd y ffigyrau yn parhau i ostwng bydd hynny yn darparu gofod i ni ar gyfer llacio'r cyfyngiadau ymhellach," medd y Prif Weinidog.

  12. Cefnogaeth i fusnesau'n parhau er gwaethaf rheolau etholiadwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mynnodd y Prif Weinidog na fydd cefnogaeth ariannol i fusnesau yn dod i ben er bod rheolau etholiadol mewn grym nes dechrau Mai.

    Dywedodd Mark Drakeford bod y llywodraeth wedi cyhoeddi £180m ganol Mawrth er mwyn helpu i gynnal busnesau nes eu bod yn gallu ailagor.

    Ychwanegodd bod £200m wedi'i glustnodi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, dim ots pwy fydd wrth y llyw.

    "Mae rheolau etholiadol yn golygu nad oes modd i ni wneud penderfyniadau yn y cyfnod cyn yr etholiad," meddai.

    "Ond rydw i wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyngor ar gael i bwy bynnag sydd yn llywodraethu ar ôl 6 Mai am sut y bydd modd defnyddio'r £200m i helpu busnesau yng Nghymru."

  13. Pryder nad oes digon yn defnyddio gwasanaeth Tir Dewiwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Mae elusen sy'n cefnogi ffermwyr yn poeni nad oes digon yn defnyddio'r gwasanaeth ers sefydlu cangen yn y gogledd - a hynny gyda rhybudd nad ydy pethau erioed wedi bod cynddrwg i amaethwyr.

    Yn ôl elusen Tir Dewi, roedd 70% o'r amaethwyr a gafodd eu holi fel rhan o arolwg diweddar yn dweud na fydden nhw'n gofyn am help hyd yn oed petai nhw'n wynebu problemau dybryd.

    Delyth Owen ydy rheolwr rhanbarthol gogledd Cymru gydag elusen Tir Dewi, a dywedodd: "Dim ond llond llaw o achosion hyd yn hyn 'da ni 'di delio efo nhw yn y gogledd i gymharu, ond dwi'n meddwl bod hynny i'w ddisgwyl achos megis dechrau ydan ni yn y rhan yma o Gymru.

    "Dydy Covid-19 ddim wedi helpu - ddim yn gallu mynd i'r sioeau a'r marchnadoedd i sgwrsio efo'r ffermwyr - felly dwi'm yn meddwl bod nhw'n ymwybodol bod y cymorth yma ar gael."

    Delyth Owen
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r pandemig wedi gwneud y byd amaeth "yn fwy unig nag oedd o cynt" yn ôl Delyth Owen

  14. Salon harddwch: 'Wedi bod yn gyfnod andros o heriol'wedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am ailagor salonau harddwch, dywedodd Lois Morgan-Pritchard sy'n rhedeg salon yn Y Ffôr ger Pwllheli ar Dros Frecwast ei bod wedi wynebu cyfnod hynod o heriol a bod hi'n edrych ymlaen at ailagor.

    Disgrifiad,

    Mae Lois Morgan-Pritchard yn rhedeg salon harddwch yn Y Ffôr ger Pwllheli

  15. Beth yw rhybudd Lefel 3?wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Yn gyson mae'r Prif Weinidog wedi bod yn cyfeirio at rybuddion lefelau.

    Mae'r union wybodaeth am gyfyngiadau rhybudd lefel 3 i'w weld yma., dolen allanol

    Rhif triFfynhonnell y llun, Wikimedia
  16. Ailagor gweddill y diwydiant lletygarwch erbyn diwedd Maiwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog os y bydd e'n parhau mewn grym wedi'r etholiad y bydd gweithgareddau plant y tu mewn yn cael ailddechrau ar 17 Mai.

    Hefyd bydd canolfannau cymunedol yn cael ailagor a bydd modd cynnal gweithgareddau wedi'u trefnu o flaen llaw (y tu mewn) i hyd at 15 o oedolion gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer.

    Y tu hwnt i hynny "bwriadwn ailagor weddill y diwydiant lletygarwch ac ymwelwyr" gan obeithio y bydd hynny yn digwydd erbyn Gŵyl Banc olaf Mai," medd Mark Drakeford.

  17. Amserlenni Ebrill a Mai 'yn amodol ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus'wedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn awgrymu dyddiadau ar gyfer ailagor nifer o feysydd, ond bod y rhain "oll yn amodol ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus ar y pryd".

    "Rydw i eisiau parhau i allu llacio'r cyfyngiadau. Rydw i eisiau gweld busnesau ar agor ac yn masnachu," meddai Mark Drakeford.

    "Rydw i eisiau gweld ein tafarndai ar agor, bod modd dathlu priodas a chroesawu ymwelwyr unwaith eto, ond er mwyn gwneud hynny rydyn ni angen help pawb i gadw cyfraddau coronafeirws yn isel."

    Cadarnhaodd y bydd yr amserlen ar gyfer diwedd Ebrill a dechrau Mai yn edrych fel a ganlyn:

    Dydd Llun, 26 Ebrill

    • Atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor;
    • Gall lletygarwch awyr agored ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Lletygarwch dan do yn parhau i fod dan gyfyngiadau.

    Dydd Llun, 3 Mai

    • Bydd modd cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl;
    • Gall derbyniadau priodasau ddigwydd yn yr awyr agored, ond byddan nhw hefyd wedi'u cyfyngu i 30 o bobl.

    Dydd Llun, 10 Mai

    • Gall campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff;
    • Bydd aelwydydd estynedig unwaith eto yn caniatáu i ddwy aelwyd gwrdd a chael cyswllt dan do.
  18. 'Bydd modd canfasio yn yr awyr agored o 12 Ebrill ymlaen'wedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd ffocws y tair wythnos nesaf ar sicrhau fod pob disgybl yn gallu dychwelyd i'r ysgol a choleg o 12 Ebrill ymlaen.

    Hefyd o ddydd Llun, 12 Ebrill bydd:

    • Pob siop yn ailagor;
    • Bydd gwasanaethau cyswllt agos yn cael ailagor;
    • Bydd modd teithio i ac o Gymru i weddill y DU;
    • Bydd modd canfasio yn yr awyr agored ond bydd yna ganllawiau llym
    • a bydd hawl i gynnal nifer o ddigwyddiadau awyr agored gan gynnwys digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon.

    Nododd y Prif Weinidog hefyd y bydd yn cydweithio â'r Cyngor Mwslemaidd i gynnal dathliadau Eid.

    Mae hyn yn gyfres o lacio sy'n rhoi elfennau o fywyd normal i bobl, medd Mark Drakeford.

  19. 'Dydyn ni ddim eisiau gorfod ailgyflwyno cyfyngiadau'wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Er bod y darlun yn gwella, dywedodd Dr Atherton bod achosion yn gallu "cynyddu'n gyflym, yn lleol ac yn genedlaethol, os nad ydyn ni'n wyliadwrus".

    "Yn anffodus, ble bynnag mae pobl yn cymysgu - yn enwedig dan do - mae 'na wastad risg y bydd y feirws yn lledaenu," meddai'r Prif Swyddog Meddygol.

    Ychwanegodd bod amrywiolyn Kent - yr un mwyaf cyffredin yng Nghymru bellach - yn fwy heintus ac felly bod y mesurau syml fel cadw pellter a golchi dwylo yr un mor bwysig ag erioed, os ydy pobl wedi eu brechu ai peidio.

    "Rydyn ni wedi clywed y newyddion o Ewrop bod nifer o wledydd yn ailgyflwyno cyfyngiadau oherwydd lefelau uchel o'r haint," meddai Dr Atherton.

    "Dydw i ddim eisiau gweld hynny'n digwydd yma, a dydw i ddim eisiau gorfod cynghori'r Prif Weinidog bod angen ystyried ailgyflwyno cyfyngiadau am fod achosion ar gynnydd yng Nghymru eto."

  20. Y sefyllfa yn gwella medd y Prif Swyddog Meddygolwedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Gan ganolbwyntio ar y data diweddaraf dywed y Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton bod cyfradd yr achosion wedi disgyn eto a bod y gyfradd bellach yn 35 achos ymhob 100,000.

    Mae cyfradd positifedd profion bellach yn 2.5%, meddai, ond mae'n pwysleisio bod clystyrau o achosion yn parhau a hynny wedi i bobl fod yn cyfarfod y tu mewn.

    Mae nifer o'r clystyrau o achosion, meddai, yn fawr gan gynnwys clystyrau diweddar o achosion ar Ynys Môn a Merthyr Tudful.