Crynodeb

  • Cymru i gyrraedd carreg filltir brechu yn gynnar

  • Cadarnhad y bydd atyniadau a lletygarwch awyr agored yn agor o 26 Ebrill

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cofnodi dwy farwolaeth arall a 188 achos newydd

  • Disgwyl i letygarwch dan do ailagor ddiwedd Mai a champfeydd ar 10 Mai

  • Modd teithio i ac o Gymru o weddill y DU o 12 Ebrill

  • Gwrthbleidiau yn galw am gefnogaeth i fusnesau

  1. Cymru i gyrraedd targed brechu yn gynnarwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd eu targed nesaf o ran brechu yn gynt na'r disgwyl.

    Yn ôl Mr Drakeford bydd pawb sydd yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf wedi cael cynnig brechlyn erbyn dydd Sul - bron i bythefnos ynghynt na'r targed gwreiddiol.

    Y targed gwreiddiol ar gyfer cyflawni hynny - sef cynnig brechlyn i bawb dros 50 oed, gweithwyr iechyd a gofal ac unrhyw un sydd â chyflwr meddygol - oedd canol Ebrill.

    "Erbyn dydd Sul, bydd o leiaf 75% o'r rheiny ym mhob grŵp blaenoriaeth wedi cael cynnig brechlyn," ychwanegodd.

  2. Bron i 60% o oedolion Cymru wedi'u brechuwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd bod 57% o oedolion yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach.

    Ychwanegodd y Prif Weinidog bod bron i 15% wedi derbyn y cwrs llawn bellach.

    Dywedodd hefyd fod dros 90% o'r rheiny sydd wedi cael cynnig brechlyn wedi ei dderbyn.

    "Mae hyn yn ymdrech wefreiddiol, ac i'r miloedd o bobl sy'n gweithio'n ddiflino ar reng flaen y GIG ar draws Cymru y mae'r diolch am gyflawni hyn," meddai.

  3. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Democratiaid Rhyddfrydol: 'Angen cymorth i'r rhai sy'n colli swydd'wedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Democratiaid Rhyddfrydol

    Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds eisoes wedi dweud: "Nawr bod mwy a mwy o Gymru yn agor a bod bywyd yn araf yn dychwelyd i normal, mae'n bryd rhoi ein hadferiad yn gyntaf.

    "Rwyf am weld cefnogaeth i'r unigolion hynny a fydd yn colli eu swyddi pan ddaw'r ffyrlo i ben, y rhai sy'n debygol o golli eu cartrefi pan godir y gwaharddiad ar droi allan a'r rhai y mae eu hiechyd meddwl wedi dioddef o ganlyniad i'r pandemig hwn.

    "Dyma'r heriau y dylem ddechrau meddwl amdanyn nhw. Rwyf am weld cefnogaeth ariannol wedi'i thargedu i ddatrys y materion hyn. Bydd effeithiau Covid yn cael eu teimlo am flynyddoedd lawer ar ôl i bawb gael eu brechu."

    Ychwanegodd: "Mae busnesau bach, yn enwedig yn y diwydiant lletygarwch, wedi cael eu taro'n galed gan y cyfnod clo, ac fe fydd yn rhyddhad iddyn nhw allu dechrau masnachu eto.

    "Rydym wedi gweld golygfeydd o bobl yn mwynhau'r tywydd braf, a gyda phenwythnos hir o'n blaenau mae'n bwysig i bawb barhau i gadw at y rheolau. Byddai unrhyw symudiad yn ôl at Lefel 4 yn drychineb."

    Jane DoddsFfynhonnell y llun, bbc
  5. Plaid Cymru: 'Angen mwy o arian i helpu busnesau'wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Plaid Cymru

    Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru eisoes wedi dweud: "Rhaid i'r Lywodraeth Lafur esbonio pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser iddynt roi mwy o sicrwydd i fusnesau ynghylch pryd y gallant ddisgwyl ailagor.

    "Ar ôl bod ar gau cyhyd, y lleiaf y maen nhw'n ei haeddu yw mwy o amser i baratoi.

    "Tra bod y newyddion hyn yn cynnig llygedyn o obaith i letygarwch, bydd yn amser eto cyn y gall y sector ailagor yn llawn.

    "Mae'n ddyletswydd ar Lafur i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i helpu'r busnesau hynny i fynd yn ôl ar eu traed - gan gynyddu'r pot o arian parod sydd ar gael i fusnesau.

    "Dro ar ôl tro, mae busnesau gweithgar o Gymru sy'n ffurfio asgwrn cefn ein heconomi wedi cael eu siomi a'u gadael ar ôl gan y llywodraeth Lafur hon - y lleiaf y gallant ei wneud yw cloddio'n ddwfn a chefnogi sectorau allweddol yn economi Cymru.

    "Yn y cyfamser, dylai campfeydd allu ailagor yn ddiogel nawr - yn anad dim i helpu gyda lles ac iechyd meddwl pobl sydd wedi dioddef cymaint yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf."

    Adam Price
  6. Ceidwadwyr: 'Angen agor campfeydd'wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Andrew RT Davies

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies eisoes wedi dweud: "Tra'n croesawu ailagor manwerthu sydd ddim yn hanfodol, mae'n drueni nad yw Llafur wedi gweld eu ffordd yn glir i ailagor campfeydd wedi i weinidogion ddweud fod hynny'n flaenoriaeth ddeufis yn ôl, ac o ystyried yr effaith mae'r cyfnod clo wedi ei gael ar iechyd corfforol a meddyliol miloedd o bobl Cymru.

    "Gyda'r gwelliannau sydd wedi digwydd ar frechu a nifer yr achosion, rydym hefyd yn credu y dylid fod wedi ystyried ailagor lletygarwch awyr agored [yn gynt].

    "Mae llacio cyfyngiadau teithio'n ddiweddar wedi achosi problemau eraill fel diffyg toiledau cyhoeddus, sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y gwelsom yng Nghaerdydd a mannau eraill.

    "Dylai gweinidogion weld sefydliadau trwyddedig a rheoledig fel rhan o'r ateb yn hytrach na'r broblem, ac os nad ydyn nhw am gael ailagor, fe ddylen nhw gael y gefnogaeth ariannol angenrheidiol i achub swyddi yng Nghymru."

    Ychwanegodd: "Mae gennym ni wyddoniaeth ryfedd iawn sydd bellach yn caniatáu i chwaraeon a gweithgareddau awyr agored fynd ymlaen yn Lloegr, sydd wedi'i ddathlu gan arweinydd Llafur, Keir Starmer, ond lle na fydd pobl yng Nghymru sy'n cael eu rhedeg gan Lafur yn gallu gwneud hynny tan 3 Mai.

    "Rhaid cael pobl yn yr awyr agored ac i fod yn egnïol fod yn flaenoriaeth i unrhyw lywodraeth ac ynghyd â'r penderfyniad i gadw campfeydd ar gau tan 10 Mai, mae Llafur yn anwybyddu'r wyddoniaeth ac yn anwybyddu effaith ymarfer corff ar les corfforol a meddyliol pobl."

  7. Cofnodi dwy farwolaeth a 188 achos newyddwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod dwy farwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 wedi'i chofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.

    Cafodd 188 o achosion newydd o'r haint eu cadarnhau hefyd yn yr un cyfnod.

    Daw hyn â nifer yr achosion yng Nghymru ers dechrau'r pandemig i 209,532 gyda'r marwolaethau ar 5,509, yn ôl y system yma o gofnodi.

    Mae cyfradd yr achosion ar gyfer 100,000 o bobl dros saith diwrnod bellach wedi gostwng i 35.

    Mae 1,443,885 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn Covid-19 erbyn hyn, a 449,538 wedi cael y cwrs llawn.

  8. Nodi dyddiadau dangosol fel bod sectorau yn gallu paratoiwedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Llywodraeth Cymru fod paratoadau'n cael eu gwneud i ganiatáu llacio pellach os yw'r amodau'n parhau'n ffafriol.

    O ddydd Llun, 17 Mai fe allai gweithgareddau dan do i blant a chanolfannau cymunedol ailagor.

    Fe allai gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion, a fydd wedi'u cyfyngu i uchafswm o 15 o bobl - gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff - ailddechrau.

    Ar ôl 17 Mai, fe allai lletygarwch dan do, a'r llety ymwelwyr sy'n weddill, ailagor cyn Gŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai.

    Dywed Llywodraeth Cymru fod y rhain yn "ddyddiadau dangosol er mwyn rhoi amser i'r sectorau gynllunio a pharatoi".

    bwydFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fydd bwyta dan do ddim yn dechrau tan wedi canol Mai

  9. Disgwyl campfeydd i ailagor 10 Maiwedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Ar ddydd Llun, 10 Mai y disgwyl yw y

    • Gall campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff;
    • Bydd aelwydydd estynedig unwaith eto yn caniatáu i ddwy aelwyd gwrdd a chael cyswllt dan do.
    gymFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Priodasau awyr agored (cyfyngedig i 30) i ddigwydd o 3 Maiwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    O ddydd Llun, 3 Mai

    • Bydd modd cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl;
    • Gall derbyniadau priodasau ddigwydd yn yr awyr agored, ond byddan nhw hefyd wedi'u cyfyngu i 30 o bobl.

    Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod ailagor yn raddol yn gwbl ddibynnol ar gyfradd haint coronafeirws.

    priodasFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Disgwyl i letygarwch awyr agored ailagor ar 26 Ebrillwedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Mae 26 Ebrill yn ddiwrnod lle me disgwyl i fwy o gyfyngiadau gael eu llacio. Yn eu plith:

    • Atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema;
    • Lletygarwch awyr agored gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch dan do yn parhau i fod dan gyfyngiadau.
    PeintsFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe allai tafarndai ddechrau gweini yn yr awyr agored o ddydd Llun, 26 Ebrill

  12. Pobl yn cael teithio i ac o Gymru o weddill y DUwedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Mae dydd Llun, 12 Ebrill yn un garreg filltir bwysig wrth edrych ar y camau nesaf a'r disgwyl yw y bydd:

    • Holl fyfyrwyr Cymru'n dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb;
    • Pobl yn cael teithio i ac o Gymru o weddill y DU;
    • Siopau sy'n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol yn cael ailagor, yn ogystal â gwasanaethau cysylltiad agos, fel salonau harddwch.

    Mae nifer o siopau llai wedi bod yn feirniadol na chawson nhw werthu nwyddau na sy'n hanfodol yr un pryd â siopau mawr - un ddadl gan Lywodraeth Cymru oedd bod siopau mawr eisoes ar agor ac yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch ac roedd Llywodraeth Cymru hefyd am i'r siopau agor yr un pryd â rhai Lloegr fel nad oedd pobl o Loegr yn cael eu denu i ddod i Gymru.

    TegannauFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed perchennog y siop yma ym Mhorthmadog bod cymunedau angen siopau ar agor eto

  13. Croeso i gynhadledd Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2021

    Ddydd Iau, Ebrill y 1af, mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru i nodi pa gyfyngiadau pellach fydd yn cael eu llacio.

    Wrth i Etholiad Senedd 2021 ddod yn nes does yna ddim cynadleddau cyson bellach ond mae heddiw yn ddiwrnod adolygu'r cyfyngiadau.

    Cafodd y rhan fwyaf o'r wybodaeth ei chyflwyno i'r wasg nos Fercher a heddiw bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ymhelaethu ar hynny.

    Arhoswch gyda ni i gael y newyddion diweddaraf.

    TafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl y bydd tafarnadai yn cael agor tu allan erbyn 26 Ebrill