Crynodeb

  • Holl blant yn dychwelyd i’r ysgol yn llawn ar gyfer addysg wyneb yn wyneb o heddiw ymlaen

  • Siopau sydd ddim yn hanfodol hefyd yn cael ailagor am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr

  • Y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru o weddill y DU ac Iwerddon wedi cael eu codi

  • Cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi hefyd cyn etholiad y Senedd ar 6 Mai

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    ci Caerydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Un ci bach yn aros yn amyneddgar wrth i'w berchennog fynd i siopa yng Nghaerdydd

    A dyna'r cyfan am y tro ar ddiwrnod allweddol i fusnesau ac ysgolion yng Nghymru.

    O heddiw ymlaen mae disgyblion ysgol bellach yn cael addysg wyneb yn wyneb, ac wedi iddynt fod ar gau am 113 o ddiwrnodau mae siopau a busnesau cysylltiad agos yn cael ailagor.

    Bydd mwy o ymateb a straeon eraill y dydd ar wefan Cymru Fyw.

    Diolch am ddarllen a chadwch yn ddiogel.

    Caernarfon
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa yng Nghaernarfon fore Llun

  2. 'Edrych ymlaen at y cwmni'wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Dywed Janet Francis, sy'n berchen ar Siop Tŷ Tawe yn Abertawe, ei bod wedi bod yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu ar gyfer ei chwsmeriaid, ond ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at gael croesawu pobl yn ôl i'w siop anrhegion unwaith eto.

    "Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael cwsmeriaid nôl a chael rhyw gwmni yma hefyd, achos fi wedi bod yma ar ben fy hun ers mis Medi yn gwneud click and collect," meddai.

    "I ddechrau efallai mai yn araf bach ddaw pobl yn ôl. Mae'r lle 'ma yn ddiogel iawn - ni wedi bod yn brysur yn paratoi ac yn dilyn y rheolau a'r trefniadau sydd yna ar gyfer ailagor.

    "Felly gobeithio pan fydd pawb yn teimlo tipyn bach mwy o hyder y daw pobl nôl. Fe fyddai i yma yn aros beth bynnag!"

    Janet Francis
    Disgrifiad o’r llun,

    "Efallai mai yn araf bach ddaw pobl yn ôl," meddai Janet Francis, perchennog Siop Tŷ Tawe

  3. Ciwiau mewn trefi yn Lloegrwedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Heddiw hefyd mae siopau yn Lloegr wedi ailagor ac mewn sawl tref roedd nifer o gwsmeriaid awyddus ...

    RhydychenFfynhonnell y llun, @FrancescaPeacock
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhydychen

    Manceinion
    Disgrifiad o’r llun,

    Manceinion

    Nottingham
    Disgrifiad o’r llun,

    Nottingham

  4. 'Falch o gael dysgu gyrru eto gan bo fi’n byw yn ganol nunlla mewn pentref bach'wedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    I unigolion fel Sara Jones, myfyriwr addysg gynradd ym Mhrifysgol Bangor, mae'r newyddion bod gwersi gyrru yn cael ailddechrau ddydd Llun yn destun dathlu.

    Ond gan ei bod yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol, mae'n rhaid iddi basio'i phrawf gyrru ar frys er mwyn iddi gael swydd dysgu ar ôl graddio yn yr haf.

    Mae'r ffaith ei bod yn "byw yn ganol nunlla mewn pentref bach" hefyd yn ychwanegu at y pwysau i basio.

    Mae Sara wedi bod yn dysgu dreifio ers tair blynedd bellach, ac yn teimlo'n rhwystredig bod yr holl ymarfer wedi cael ei ddadwneud yn y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y pandemig.

    "Dwi wedi methu blwyddyn o wersi ac ymarfer ac mae fy theori yn rhedeg allan mis nesa, felly bydd yn rhaid i mi ei ailwneud," meddai.

    Yn y DU, mae'n rhaid i fyfyrwyr basio'r prawf gyrru ymarferol o fewn dwy flynedd o basio'r prawf theori - rheol sydd wedi'i peri pryder i bobl mewn sefyllfa debyg i Sara.

    "Bydd angen 'mynedd i wneud hynna i gyd eto," meddai. "Bydd lot o wait hefyd ar ôl yr holl amser."

    Yn ogystal â'r drafferth o ailwneud ei theori a dal i fyny gyda'i sgiliau gyrru, nid oes ganddi lawer o amser sbâr ar hyn o bryd.

    "Mae'n anodd ffeindio amser rhydd i ffitio gwersi dreifio i mewn efo lot o aseiniadau," meddai. "Bydd yn rhaid i mi ffeindio hyfforddwr gyrru newydd hefyd gan fod fy hyfforddwr i'n llawn."

    gyrruFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed y DVLA bod 420,000 o bobl yn disgwyl prawf gyrru wedi iddyn nhw gael eu canslo yn sgil y pandemig

  5. Pryder ailagor gymaint ar yr un diwrnodwedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    BBC Radio Wales

    Dywedodd Debbie Corkish ei bod yn "eitha' nerfus" ond yn gyffrous i ailagor siop Wizarding Boutique yn Llandudno.

    Wedi cyfnod mor hir ar gau, roedd peryg, meddai wrth Radio Wales Breakfast iddi "anghofio sut i ddefnyddio'r til neu bo fi ddim yn gwybod be dwi'n neud. Fydda i'n falch o gael mynd i mewn heddiw a chael heddiw drosodd."

    Mae'n dadlau y byddai "wedi bod yn well tasen ni wedi cadw at y roadmap gwreiddiol, pan roedd awgrym y bydden ni'n ailagor ar 15 Mawrth.

    "Bydde hynny wedi rhoi ychydig wythnosau o siopa lleol yn unig, yn hytrach na siopa'n ailagor ar yr un diwrnod ag ailagor ysgolion, a'r ffiniau'n ailagor."

  6. 'Busnes ar-lein wedi fy nghynnal diolch byth'wedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Angharad Gwyn

    Dywedodd Angharad Gwyn, sy'n berchen siop Adra ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon, bod eu busnes ar-lein wedi eu cadw nhw i fynd yn ystod y cyfyngiadau diweddaraf.

    Mae'r cwmni'n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig o bob math, o nwyddau i'r cartref i anrhegion, celf, a dillad.

    "Rydym yn edrych ymlaen at weld cwsmeriaid unwaith eto, ond yn ffodus dydy'r busnes ar-lein heb arafu o gwbl ac mae'r archebion yna wedi'n cadw ni'n brysur iawn," meddai.

    "Yn naturiol rydym yn falch o ddweud nad ydym wedi colli busnes yn yr wythnosau diwethaf, ond mae hi wedi bod yn golled yn yr ystyr bod y siop wedi bod ar gau ac nad oeddan ni'n gallu gweld ein cwsmeriaid wyneb yn wyneb. Rydym yn edrych ymlaen i'w croesawu nhw'n ôl."

    Dywedodd y bydd y siop yn ailagor ddydd Iau, 15 Ebrill, ac nid ddydd Llun, am eu bod wedi penderfynu dal ati gydag oriau agor tymor y gaeaf - dydd Iau i ddydd Sul - am y tro.

  7. Angen sicrhau cyfle da i bawb,' medd Pennaethwedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Dywed Pennaeth Ysgol Bryn Tawe, Simon Davies, ei fod yn hapus "fod y disgyblion yn gallu dod 'nôl i'r ysgol o ddydd Llun ymlaen i gael bach o normalrwydd yn eu bywydau".

    "Mae pob blwyddyn wedi bod mewn cyn y Pasg ond ddim gyda'i gilydd - nawr bydd gennym amser i ganolbwyntio ar yr ysgol gyfan.

    "Yn amlwg mae rhai plant wedi delio yn well nag eraill gydag addysg ar y we, a'r hyn fydd yn bwysig nawr yw cefnogi'r rhai sydd wedi gweld hi'n anodd astudio dros y cyfnod ansicr yma.

    "Mae llawer o waith paratoi wedi mynd mewn i gael popeth yn barod ac mae'r staff wedi bod yn gweithio'n galed, nid dim ond yn paratoi ond hefyd wrth ddysgu'r plant o adref.

    "Gyda'r asesiadau ac arholiadau yn newid eleni eto mae hi dal yn mynd i fod yn gyfnod eitha' anodd ond bydd yna groeso i bawb o ddydd Llun ymlaen a'r hyn fydd yn bwysig yw sicrhau fod pawb yn cael y cyfle gorau."

  8. Beth sydd gan y gwleidyddion i'w ddweud?wedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Yn y gorffennol mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o wneud tro pedol dros ailagor siopau sy'n gwerthu nwyddau na sy'n hanfodol.

    Mae arweinydd y blaid yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi dweud y gellid fod wedi penderfynu'n gynt bod siopau'n cael ailagor yng Nghymru ar yr un diwrnod ag yn Lloegr.

    Dywedodd bod hynny wedi achosi "rhwystredigaeth yn y sectorau sydd wedi eu taro waethaf gan y pandemig a bydd yn peryglu mwy o swyddi yng Nghymru".

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi beirniadu "diffyg tegwch i fasnachwyr bach" sy'n gwerthu nwyddau anhanfodol. Cyhuddodd Lywodraeth Cymru o "fethu busnesau a gweithwyr yng Nghymru yn ddifrifol, a'r cymunedau sy'n dibynnu arnyn nhw".

    Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "daflu llawer o siopau bach a'r strydoedd mawr dan fws".

    Ychwanegodd: "Mae'r Llywodraeth Lafur Gymreig wedi trin y Stryd Fawr gyda dirmyg llwyr."

    Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn eu penderfyniadau o ran ailagor siopau.

    "Rydym yn cydnabod bod pawb eisiau sicrwydd i allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod busnesau eisiau bod ar agor ac yn masnachu," medd llefarydd.

    "Dyna pam mae'r Prif Weinidog wedi amlinellu cynllun i ddod â Chymru allan o fesurau clo lefel 4.

    "Ni allwn symud yn uniongyrchol ac yn llawn i lefel 3 mewn un cam."

    Ciwiau yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. "Cam arall at adfer diwydiant twristaeth dan warchae"wedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    BBC Radio Wales

    Mae'r hawl i deithio i ac o Gymru unwaith yn rhagor "yn gam arall at adferiad ein diwydiant twristiaeth sydd wedi bod dan warchae", yn ôl cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru.

    "Rydym yn dibynnu'n enfawr ar y marchnadoedd yn Lloegr," meddai Andrew Campbell wrth raglen Radio Wales Breakfast, "ac er mor braf yw cael y wlad i'ch hunain mae'n rhaid ystyried busnesau a swyddi.

    "Mae'n rhaid derbyn [yr angen i] ailagor yn raddol... rhaid gwneud y gorau ohono.

    "Mae'n ddechreuad arall, o'r wybodaeth ry'n ni'n ei chael gan ein busnesau. Mis Mai fydd pethau'n cyflymu - mae'n mynd i fod yn haf prysur iawn, iawn, rwy'n meddwl."

    Dinbyhc-y-PysgodFfynhonnell y llun, Susan Powell
  10. Y diwydiant manwerthu yn wynebu heriau cyn Covidwedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Mae ffigyrau diweddaraf Consortiwm Manwerthu Prydain yn dweud bod llai wedi ymweld â siopau Cymru ar gyfartaledd na siopau gweddill y DU ers 2019.

    Rhwng 2009 a 2019 cafodd 23,000 o swyddi eu colli yn y diwydiant manwerthu a chyfanwerthu yng Nghymru - dywed cynrychiolwyr bod Covid wedi gwneud heriau a oedd eisoes yn anodd yn fwy.

    Un siop a fydd yn agor ei drysau ddydd Llun fydd Debenhams, ond dim ond ar gyfer gwerthu nwyddau cyn iddi gau'n derfynol a symud i werthu ar-lein.

    Y ciw y tu allan i Debenhams Caerdydd fore Llun
    Disgrifiad o’r llun,

    Y ciw y tu allan i Debenhams Caerdydd fore Llun

  11. 'Siopau wedi bod ar gau am gyfnod o 113 o ddiwrnodau'wedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    BBC Radio Wales

    Sara Jones

    "Wrth siarad ar Radio Wales dywedodd Sara Jones o Gonsortiwm Manwerthu Cymru ei fod yn "ddiwrnod hynod o gyffrous wedi i'r siopau fod ar gau am 113 o ddiwrnodau.

    "Ry'n ni bach yn nerfus gan nad ydyn ni'n gwybod ar hyn o bryd pa mor fuan y bydd cwsmeriaid yn dychwelyd ond ry'n yn gwneud pob dim posib i sicrhau bod pawb yn ddiogel.

    "Mae'n beth da mai nifer cyfyngedig sy'n cael mynd i siop ar yr un pryd."

    Mae nifer o fusnesau, fel yr un isod yn Wrecsam, yn rhybuddio pobl i gymryd gofal.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Ystafell Ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol yn ailagorwedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Bydd cyfle i ymweld ag Ystafell Ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol o heddiw ymlaen ond rhaid archebu lle cyn cyrraedd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Llacio'r cyfyngiadau ar ganfasiowedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Mae rheolau newydd ar ymgyrchu ar gyfer etholiad y Senedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd wedi dod i rym heddiw hefyd.

    Dros y penwythnos daeth yr ymgyrchu i ben am tro yn sgil marwolaeth Dug Caeredin.

    Bydd Plaid Cymru yn ailgychwyn ei hymgyrch yn llawn brynhawn Llun, gan gynnwys canfasio neu gnocio drysau, sydd bellach yn cael ei ganiatáu gydag amodau.

    Bydd Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ailddechrau anfon taflenni brynhawn Llun cyn dychwelyd i'w hymgyrchoedd yn llawn ddydd Mawrth.

    Bydd y Ceidwadwyr yn ailgychwyn eu hymgyrch ddydd Mawrth.

    Bydd y Senedd yn cael ei hadalw fore Llun am 11:00 er mwyn rhoi teyrnged i fywyd a gwasanaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin.

    SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Y baneri wedi eu gostwng y tu allan i'r Senedd wedi marwolaeth Dug Caeredin

  14. Ciwiau cyn i'r siopau agorwedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Ciwiau yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dyma'r olygfa yng nghanol Caerdydd ben bore ma' wrth i siopau'r stryd fawr baratoi i ailagor.

  15. 'Pwysig cadw at y rheolau'wedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Dywed Nick Ireland, swyddog rhanbarthol o undeb y gweithwyr siopau USDAW ei bod yn bwysig i gwsmeriaid gofio ein bod yn parhau mewn pandemig.

    "Ry'n ni'n gofyn i bawb siopa yn ofalus gan gadw pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd, diheintio a thalu â cherdyn os yn bosib.

    "Byddwch yn gwrtais tuag at weithwyr siopau - ry'ch chi yn eu lleoliad gwaith a byddwch yn amyneddgar."

    ArwyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
  16. Gwerthwyr Big Issue yn cael dychwelydwedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Bydd gwerthwyr y Big Issue yn cael dychwelyd i’r strydoedd yng Nghymru a Lloegr i gael gwerthu’r cylchgrawn am y tro cynta ers 22 o wythnosau.

    Mae 130 o unigolion yn gwerthu y Big Issue yng Nghymru

    Fe fydd y gwerthwyr yn gwisgo cyfarpar PPE ac fe fydd pobl yn gallu talu am y rhifyn drwy eu cerdyn banc.

    Big IssueFfynhonnell y llun, PA Media
  17. Eira ar ddiwrnod cyntaf tymor yr haf!wedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    eira yn llanuwchllyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr eira yn Llanuwchllyn fore Llun

    Ydi mae'n ddiwrnod cyntaf tymor yr haf ond roedd yn rhaid i rai disgyblion wisgo'n gynnes iawn bore 'ma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 'Dan ni wedi dod allan o'r tywyllwch rŵan, do'wedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    BBC Radio Cymru

    Ann Catrin Evans

    "Dan ni wedi dygymod fatha pawb a trio gweld yr ochr bositif," medd Ann Catrin Evans o'r siop gemwaith Siop Iard, Caernarfon, "ond mae wedi bod yn anodd gwerthu trwy y cyfnod clo.

    "Da ni wedi gwerthu ar-lein a postio allan i bobl ond lot, lot llai o werthu na pan mae'r siop ar agor.

    "Mae'n braf gallu gweld y peth... gweld yr ansawdd, sut mae o wedi cael ei greu a trio fo mlaen - ti isio gweld sut mae'n teimlo."

    Dywedodd wrth Dros Frecwast bod camau i wneud y profiad "mor ddiogel a gallwn ni fod", gan gynnwys sgriniau gwydr, hylif diheintio dwylo a mynediad i "un bybl ar y tro".

    Ychwanegodd: "Fydd hi'n lyfli gallu bod yn agos at ein cwsmeriaid unwaith eto.

    "Dwi meddwl bod pawb yn barod i ddechrau siopau eto a dechrau gweld ein gilydd. Da ni wedi dod allan o'r tywyllwch rŵan, do. Mae'r haul allan, a da ni isio bach o normalrwydd."

    Siop Iard
    Disgrifiad o’r llun,

    Popeth yn eu lle i ddenu cwsmeriaid am y tro cyntaf ers misoedd

  19. Lletygarwch awyr agored i agor ar 26 Ebrillwedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Wrth i fusnesau, a mwyafrif yr ysgolion ailagor yn llawn heddiw ar 12 Ebrill dyma beth y gallwn ei ddisgwyl nesaf os yw'r amodau yn ffafriol.

    timeline
  20. 'Hapus a phryderus,' medd un rhiant o Aberystwythwedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Elin Mabbutt
    Disgrifiad o’r llun,

    'Dwi'n poeni rywfaint gan nad ydw i, fy nghyfoedion na nifer o'r athrawon wedi'u brechu,' medd Elin Mabbutt o Aberystwyth

    "Mi fydd hi'n rhyfedd," medd Elin Mabbutt o Aberystwyth, "gweld y tri yn mynd nôl heddi. Bydd hi'n hynod o dawel yma a dwi'm yn gwybod shwt mae pawb yn mynd i godi!"

    Mae gan Elin a'i gŵr Jeremy dri o blant - Alis ym mlwyddyn 7, Elan ym mlwyddyn 8 ac Ioan ym mlwyddyn 9.

    "Ychydig iawn mae nhw wedi bod yn yr ysgol - dim ond ar gyfer y diwrnodau lles. Mae nhw'n edrych ymlaen yn fawr iawn i fynd i weld eu ffrindiau.

    "Mae dysgu ar-lein wedi bod yn iawn - yn fwy anodd i flwyddyn 7 rwy'n credu gan bod nhw wedi colli diwedd blwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd a ddim wedi bod rhyw lawer yn yr ysgol uwchradd o gwbl.

    "Ond er bo fi'n falch bo nhw'n mynd nôl a bo nhw'n hapus mae'n rhaid i fi ddweud fy mod i bach yn bryderus.

    "Fy hun, ac rwy'n ymwybodol nad yw fy mhlant i yn 'neud arholiadau allanol, byddai'n well gen i eu bod yn aros adre tan fis Medi.

    "Dwi i na'm cyfoedion ddim wedi cael y brechlyn ac y mae hynny'n wir am lot o'r athrawon hefyd.

    "Be all ddigwydd yw bod rhaid i rai hunan-ynysu eto ac mae hynna'n siop siafins wedyn. Mae'n anodd iawn i athrawon ddysgu wyneb yn wyneb a rhoi gwersi ar-lein.

    "Mae hi mor bwysig bod pawb yn saff."

    teulu MabbuttFfynhonnell y llun, Elin Mabbutt
    Disgrifiad o’r llun,

    Ioan, Alis ac Elan ar eu ffordd i'r ysgol fore Llun