Crynodeb

  • Holl blant yn dychwelyd i’r ysgol yn llawn ar gyfer addysg wyneb yn wyneb o heddiw ymlaen

  • Siopau sydd ddim yn hanfodol hefyd yn cael ailagor am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr

  • Y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru o weddill y DU ac Iwerddon wedi cael eu codi

  • Cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi hefyd cyn etholiad y Senedd ar 6 Mai

  1. Disgyblion ar draws Cymru yn dychwelyd i'r ysgolwedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Mae disgyblion ar draws Cymru yn dychwelyd i gael addysg wyneb yn wyneb heddiw - dyma'r tro cyntaf eleni y bydd disgyblion o bob blwyddyn yn yr ysgol gyda'i gilydd.

    Mae plant rhwng tair a saith oed wedi bod yn ôl yn yr ysgol ers ddiwedd Chwefror ac ym mis Mawrth fe aeth gweddill disgyblion cynradd Cymru yn ôl i'r ysgol ynghyd â disgyblion uwchradd sy'n gwneud arholiadau TGAU a Safon Uwch.

    Roedd gan ysgolion hefyd yr hyblygrwydd i gael disgyblion blwyddyn 10 a 12 yn ôl, tra'n cynnig sesiynau lles i blant blynyddoedd 7, 8 a 9.

    desksFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Palas Print: 'Cyffrous ond ymwybodol bod rhaid bod yn ofalus'wedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd perchennog Palas Print, Eirian James, yng Nghaernarfon na fydd hi yn agor tan fore Mawrth ond ei bod yn hynod o gyffrous.

    “Dan ni yn edrych mlaen – 'dan ni yn ecsited ond hefyd 'dan ni yn bryderus ac yn ymwybodol iawn o’r angen i barhau i gadw ein hunain a'r gymuned yn ddiogel.

    “Mae rhaid i fi gyfaddef - fi yn edrych 'mlaen i allu cael sgwrs gyda pobl wrth y bwrdd wrth y drws.

    “O’dd pobl yn dda iawn yn ystod y cyfnod ro'n ni yn cael ailagor... yn ofalus iawn.

    Mae’r arwyddion yma - ni yn trio neud nhw mor gyfeillgar â phosib, ac roedd mwyafrif helaeth y bobl yn dod i mewn yn defnyddio y saniteiddiwr ac yn gwisgo masgiau.

    “Dwi yn ysu i gael cynulleidfa yn yr ardd – mae gyda ni gynlluniau a ni yn gobeithio rhoi nhw ar waith yn fuan iawn – jyst mater o logistics."

    Eirian
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd Eirian James, Palas Print, yn agor ei siop ddydd Mawrth

  3. Beth arall sy'n newid o heddiw ymlaen?wedi ei gyhoeddi 08:43 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    ·Colegau yn ail-ddechrau dysgu wyneb yn wyneb, yn gymysg â dysgu ar-lein;

    ·Y mwyafrif o ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol;

    ·Gwersi gyrru yn cael ailddechrau;

    ·Lleoliadau priodas yn cael gadael i ddarpar gleientiaid ymweld â'u safle drwy apwyntiad.

    priodasFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Ysgolion yn edrych ymlaen i groesawu disgyblionwedi ei gyhoeddi 08:37 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Mae nifer o ysgolion wedi bod yn anfon negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i ddweud eu bod yn croesawu'r disgyblion ...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Cwsmeriaid yn ymgasglu i fynd i siop yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Ers yn gynnar mae cwsmeriaid wedi bod yn ymgasglu i fynd i un o siopau Caerdydd.

    Mae nifer o siopau'r brifddinas wedi bod ar gau ers cyn Nadolig.

    Primark Caerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Cwsmeriaid yn casglu cyn i Primark agor yng Nghaerdydd

  6. ‘Wedi bod yn anodd ond wedi cael amser i baratoi’wedi ei gyhoeddi 08:31 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Un busnes sy’n cael agor heddiw ydy salon harddwch Hidden Beauty ym Miwmares, gyda'r perchnogion yn dweud eu bod yn edrych ymlaen yn fawr i fynd nôl i'r gwaith.

    "Fe fydd hi mor braf gweld pobl eto," medd Gwen Williams a Llinos Jones.

    "Mi ydan ni'n llawn am y pythefnos nesaf yn barod, ac mae'n braf cael dweud bod ein cwsmeriaid yn edrych ymlaen gymaint â ni- mae hynny'n gwneud y broses o ailagor hyd yn oed yn fwy cyffrous, ac rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth.

    "Mae hi wedi bod yn anodd, ond mi ydan ni wedi cael mwy o amser i baratoi ar gyfer ailagor y tro yma - chawson ni ddim llawer o notice y tro dwytha'.

    "Mae'n rhaid i bob un ohonan ni wneud ei ran, fesul dipyn, i guro'r Covid."

    Hidden BeautyFfynhonnell y llun, Gwen Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Agorodd Gwen Williams a Llinos Jones eu salon ym Miwmares yn 2019

  7. 'Teimlo fe Mrs Mop ac yn edrych ymlaen’wedi ei gyhoeddi 08:23 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Hyd heddiw dim ond archfarchnadoedd a siopau eraill sy'n gwerthu nwyddau angenrheidiol oedd wedi cael yr hawl i fod ar agor - fe gawson yr hawl i werthu nwyddau na sy'n angenrheidiol ddiwedd Mawrth, ac ar yr un diwrnod fe gafodd canolfanau garddio ailagor.

    Un o’r rhai sy’n edrych ymlaen yn fawr at gael ailagor yw perchennog Siop Inc yn Aberystwyth. Roedd Angharad Morgan wedi gobeithio cael yr hawl i ailagor dair wythnos yn ôl – ond wedi’r siom honno dywed ei fod bellach yn “barod amdani” ac yn awyddus i groesawu cwsmeriaid ac ydi mae wedi bod yn brysur yn glanhau!

    Angharad Morgan
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Angharad Morgan o Siop Inc wedi bod yn brysur yn paratoi

  8. Siopau a busnesau yn agor am y tro cyntaf ers misoeddwedi ei gyhoeddi 08:22 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021

    Wedi misoedd o fod ar gau, mae siopau a busnesau cysylltiad agos yng Nghymru yn cael ailagor o heddiw ymlaen.

    Gydol y bore mae nifer wedi bod yn rhannu eu balchder.

    Heddiw hefyd mae disgyblion ar draws Cymru yn dychwelyd i’r ysgol er mwyn cael addysg wyneb yn wyneb.

    Y diweddaraf yma.

    Caernarfon
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma'r rhybudd y tu allan i un siop yng Nghaernarfon fore Llun