Crynodeb

  • Perfformiad da gan Lafur wrth iddyn nhw ennill 30 sedd yn etholiad Senedd 2021

  • Y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru'n ennill pedair sedd ranbarthol yr un fore Sadwrn

  • Cyfanswm terfynol o 16 i'r Ceidwadwyr - yr uchaf erioed iddyn nhw yn y Senedd - gyda Phlaid Cymru ar 13

  • Y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd oddi ar y Blaid Lafur a Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Dem Rhydd

  • Jane Dodds ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio sedd ranbarth

  1. Diolch am ddarllen, a hwyl fawr!wedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni felly - Etholiad Senedd Cymru 2021 ar ben a'r canlyniadau i gyd i mewn.

    Llafur yw'r blaid fwyaf gyda 30 sedd gyda'r Ceidwadwyr yn ail ar 16 - dyna berfformiad gorau y ddwy blaid yn etholiadau'r senedd erioed.

    Plaid Cymru sy'n drydydd ar 13 gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio'r un sedd arall.

    Ry'n ni nôl i Senedd o bedair plaid yn unig.

    Diolch am aros gyda ni - welwn ni chi ymhen pum mlynedd!

    Sgorfwrdd
  2. Y map terfynol.... o'r diwedd!wedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    map
  3. Canol De Cymru: 2 i'r Ceidwadwyr; 2 i Blaid Cymruwedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021
    Newydd dorri

    Etholiad 2021

    • Andrew RT Davies (Ceidwadwyr)
    • Joel James (Ceidwadwyr)
    • Rhys ab Owen (Plaid Cymru)
    • Heledd Fychan (Plaid Cymru)
    Canol De Cymru
  4. Ai dyma ddiwedd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru?wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    S4C

    Dyma farn yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar raglen Etholiad S4C...

    Disgrifiad,

    Ymgyrchu diddymu'r Senedd 'wedi marw ar ei din'

  5. Mwy gan Jane Doddswedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Mae llawer o ddyfalu wedi bod a fydd Llafur yn ceisio dod i gytundeb gydag un AS y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd er mwyn llywodraethu'n hyderus.

    Wrth siarad ar BBC 1 dywedodd arweinydd - ac unig aelod y Dem.Rhydd, Jane Dodds:

    “Dwi ddim yn chwilio am swydd weinidogol neu ddirprwy weinidog o gwbwl, dwi am wneud yn siwr fy mod mewn gwrthblaid, a fy mod yn herio, ond hefyd gwneud yn siwr fy mod yn chwilo am ffordd i gydweithio a delifro rhai o’r polisiau yna hefyd."

  6. 'Llongyfarchiadau i fy ffrind Mark Drakeford'wedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Twitter

    Mae cyn-arweinydd Llafur ar draws y DU, Jeremy Corbyn wedi llongyfarch Mark Drakeford am lwyddiant Llafur Cymru yn etholiad y Senedd.

    Mae hi wedi bod yn stori wahanol iawn i'r blaid yng ngweddill y DU, felly diddorol yw eu gweld yn dal eu tir yng Nghymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Pedair sedd i fynd am y darlun cyflawnwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Wedi'r cyhoeddiad rhanbarthol yna o Ddwyrain De Cymru, rydyn ni'n gwybod pwy fydd 56 o'r 60 aelod fydd yn cynrychioli Cymru yn y Senedd nesaf.

    Dim ond rhanbarth Canol De Cymru i fynd...

    Sgorfwrdd
  8. ...ac un arall!wedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Wyneb newydd arall fydd Natasha Asghar. Cafodd hithau ei hethol fel AS Ceidwadol dros ranbarth Dwyrain De Cymru.

    Mae'n ferch i'r diweddar AS Muhammad Asghar a fu'n cynrychioli Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn y Senedd tan ei farwolaeth ym Mehefin 2020.

    asghar
  9. Aelod Senedd newydd arallwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Un wyneb newydd arall i'r Senedd fydd Peredur Owen Griffiths wedi iddo gael ei ethol fel AS rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru.

    Gobeithio y gwelwn ni ei wyneb cyn hir!

    peredur
  10. A fydd Llafur yn llywodraethau ar ben eu hunain?wedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    S4C

    Disgrifiad,

    Llafur ar 30 sedd: A fydd hynny'n ddigon i lywodraethu?

  11. 14 Ceidwadwr - eu canlyniad gorauwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae gan y Ceidwadwyr 14 aelod yn y Senedd erbyn hyn, sy'n gyfartal â'u canlyniad gorau yn Etholiadau'r Senedd.

  12. Dwyrain De Cymru: 2 i'r Ceidwadwyr; 2 i Blaid Cymruwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021
    Newydd dorri

    Etholiad 2021

    • Laura Anne Jones (Ceidwadwyr)
    • Natasha Asghar (Ceidwadwyr)
    • Delyth Jewell (Plaid Cymru)
    • Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru)
    Dwyrain De Cymru
  13. Ymateb byd busnes i'r etholiadwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Wrth ymateb i'r canlyniadau hyd yma, dywedodd Cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price: "Llongyfarchiadau i Lafur ar ennill y nifer mwyaf o seddi, ac i ymgeiswyr o bob plaid a gafodd eu hethol i'r Senedd wedi ymgyrch na welwyd ei thebyg.

    "Mae hwn yn gyfnod holl bwysig i economi Cymru, a rhaid i'r Senedd newydd gael ffocws miniog ar ail-adeiladu o effaith ddinistriol y pandemig.

    "Mae hynny'n golygu bob plaid yn gweithio gyda'i gilydd a gweithio gyda busnes i warchod swyddi, ail-adeiladu bywoliaeth pobl a chreu adfywiad teg a chynaliadwy sy'n datrys yr heriau y mae ein heconomi yn wynebu."

  14. Senedd 'o ddau hanner'wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    BBC Radio Wales

    Roedd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones ar BBC Radio Wales y bore 'ma yn trafod yr etholiad.

    Gofynnwyd iddo a fyddai'n rhaid i Lafur ystyried clymbleidio gan eu bod yn debygol o fod un sedd yn brin o fwyafrif.

    Atebodd: "Y gwir yw gyda 30 o seddi gallwch chi yn naturiol redeg Llywodraeth heb gefnogaeth unrhyw blaid. Mae o hyd yn beryglus, rhwng 2003 a 2007 fe wnaeth llafur golli 2 aelod ac wedi methu dibynnu ar eu pleidleisiau.

    "Mae Plaid yn debygol o fod yn y trydydd safle, a ddim mewn sefyllfa mor gref ac yr oedden ni yn 2007, a dwi yn amau y bydd Llafur yn teimlo y bydd modd iddyn nhw gario ymlaen heb glymblaid.

    "Rwy’n amau y bydd hi yn dymor o ddau hanner, yn y dyddiau cynnar bydd dim un plaid eisiau tynnu blewyn o drwyn y Llywodraeth yn ormodol oherwydd byddwn ni yn dod allan o Covid. Unwaith byddwn ni yn glir o hynna yna dwi’n meddwl y bydd yr hen steil wleidyddol yn ail-sefydlu ei hun, a dyna pryd y gwelwn ni ydi Llafur yn teimlo yn gyfforddus i gario mlaen."

    ieuan wyn
  15. S4C yn dychwelyd am fwy...wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    S4C

    Gallwch wylio rhaglen Etholiad S4C drwy glicio ar frig y dudalen yma....

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Pethau'n symud yn gyflym....wedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. 'Anghyfforddus' gweld Leanne Wood neithiwrwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    BBC Radio Wales

    Roedd yna fuddugoliaeth ysgubol yn y Rhondda i Lafur, gyda Elizabeth 'Buffy' Williams yn cipio'r sedd oddi ar Leanne Wood a Phlaid Cymru gyda mwyafrif swmpus o bron i 5,500.

    "Rydw i wedi cael tua dwy awr o gwsg, mae fy inbox wedi bod yn mynd trwy'r nos, codais am 6am a dechrau edrych trwy'r holl negeseuon, ond mae'n teimlo'n swreal iawn," meddai Ms Williams wrth Radio Wales.

    "Nid oeddwn yn siŵr ein bod wedi ennill, oherwydd ni allwch byth fod yn sicr, ond roedd yna deimlad da, ac roeddwn i'n meddwl na all yr holl bobl hyn fod yn dweud celwyddau ar stepen y drws."

    Wrth siarad am ei rhagflaenydd, ychwanegodd: "Mae [Leanne Wood] wedi bod yn aelod cynulliad ers 18 mlynedd, ac wedi bod yn powerhouse. Roedd yn anghyfforddus imi ei gweld neithiwr, fe wnes i ei llongyfarch am ei holl waith caled, oherwydd ei bod wedi gwneud gwaith caled.

    "Roeddwn ychydig yn siomedig a dweud y gwir na thalodd hi deyrnged i unrhyw un o'r ymgeiswyr eraill yn ei haraith, rydyn ni i gyd wedi rhoi ymdrech wych i hyn.

    "Mae'r Rhondda wedi dioddef llawer dros y blynyddoedd, ac rwy'n teimlo nawr bod yn rhaid i mi weithio'n hynod o galed i ddod â buddsoddiad yn ôl i'r Rhondda, wrth symud ymlaen mae'n syniad brawychus, ond rwy'n gwybod y gallaf ei wneud."

    Elizabeth 'Buffy' WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Elizabeth 'Buffy' Williams ydy Aelod o'r Senedd newydd y Rhondda

  18. Beth am y pedwerydd arweinydd?wedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Gydag arweinwyr tair o'r prif bleidiau - Mark Drakeford (Llafur), Adam Price (Plaid Cymru) a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) yn sicr o'u lle yn y Senedd pan fydd yn ail-ymgynnull mae'r ffocws yn troi heddiw at arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies.

    Y disgwyl yw y bydd yn dychwelyd gan mai ef sydd ar frig rhestr y Ceidwadwyr yn rhanbarth Canol De Cymru.

    Cawn weld......

    andrew rt davies
  19. Beth ddigwyddodd ddoe?wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Etholiad 2021

    Roedd dydd Gwener yn ddiwrnod prysur wrth i fwyafrif y pleidleisiau yn Etholiad Senedd Cymru 2021 gael eu cyfri.

    Os ydych chi am fwrw golwg yn ôl dros ddigwyddiadau'r dydd, beth am gymryd cipolwg dros ein llif byw ni ddoe?

    Mae wyth sedd eto i'w llenwi yn y Senedd, ac fe gewch chi'n canlyniadau - o ranbarthau Dwyrain De Cymru a Canol De Cymru - fel y byddan nhw'n cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach.

    cyfri
  20. Teyrnged AS Llafur i Leanne Woodwedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021

    Twitter

    Er iddo wneud sylwadau gafodd eu beirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol am Blaid Cymru yn Rhondda pan ddaeth hi'n amlwg fod Llafur wedi adennill y sedd oddi wrth Leanne Wood ddydd Gwener, mae Aelod Seneddol yr etholaeth, Chris Bryant, wedi rhoi teyrnged iddi ar Twitter neithiwr.

    Soniodd am "ei hymrwymiad a'i gwaith caled dros y gymuned lle cafodd ei geni a'i magu dros flynyddoedd lawer".