Dadansoddiad o'r etholiad hyd yma... Ceidwadwyr a'r Dem.Rhydd.wedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021
Teleri Glyn Jones
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Quote MessageMethodd y Ceidwadwyr a efelychu'r enillion mawr gan eu plaid yn Lloegr. Arwydd arall ein bod ni wedi gweld etholiad Cymreig - hynny ydy etholiad sydd ddim yn adlewyrchu'r cyd-destyn gwleidyddol Prydeinig. Mi fydd y Ceidwadwyr yma'n siomedig na lwyddon nhw i greu mwy o argraff. Eu strategaeth oedd perswdaio tri chwarter o'u cefnogwyr mewn etholiad cyffredinol i droi fyny i bleidleisio yn yr etholiad yma. Mae'n glir nad ydy hynny wedi gweithio. Er noson drychinebus i'r Democratiaid rhyddfrydol, mi gawn nhw gysur o'r ffaith bod Jane Dodds, yr arweinydd, wedi llwyddo i gael un sedd ar y rhestr yn y canolbarth. Er bod gan y blaid lafur ddigon o seddi i lywodraethu, efallai y bydd Mark Drakeford yn troi ati hi am gefnogaeth i ystwytho'r bum mlynedd nesaf. Wrth i mi sgwennu, mae Jane Dodds dal i ddisgwyl am y friend request ar Facebook.