Crynodeb

  • Cadarnhad y bydd busnesau lletygarwch dan do yn ailagor ddydd Llun

  • Anogaeth i beidio teithio tramor ac i gael gwyliau yng Nghymru

  • Pryderon bod amrywiolyn India yn gallu lledu'n gyflym

  • Bron i hanner oedolion ifanc Cymru wedi cael brechlyn

  • Cymru yn symud i lefel rhybudd un ym Mehefin os yw'r sefyllfa yn ffafriol

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    A dyna ni am heddiw ar y diwrnod y dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod y sefyllfa yng Nghymru yn parhau'n gadarnhaol ac y bydd dwy filiwn o bobl wedi cael y brechlyn cyntaf erbyn diwedd y penwythnos.

    Dywedodd hefyd:

    • Y bydd pob oedolyn wedi cael brechlyn erbyn Gorffennaf:
    • Y bydd system goleuadau traffig yn cael ei chyflwyno ar gyfer teithio rhyngwladol;
    • Ei fod yn bryderus am amrywiolyn India ond os yw'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu fe allai Cymru symud i lefel rhybudd un ym Mehefin;
    • Bydd app GIG a fydd yn weithredol o fewn mis yn gallu bod yn "basbort brechlyn".

    A dyna ni am heddiw - mwynhewch y penwythnos.

    Bydd y straeon diweddaraf i'w gweld ar wefan Cymru Fyw.

    Diolch am ddarllen.

    tafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ddydd Llun bydd modd ymgynnull o dan do

  2. App brechu i ddod - ond dim etowedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford wrth ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr y bydd app a fydd yn arddangos ein 'pasport brechu', ac a fydd ar gael yn Lloegr ddydd Llun, ar gael yng Nghymru yn ddiweddarach.

    Mae pedair wythnos o fwlch rhwng y ddwy system yn bosib, meddai, oherwydd trafferthion technegol rhwng y gwahanol systemau GIG.

    Mae angen i'r ddwy system 'siarad' gyda'i gilydd, a'i bod hi'n bwysig bod manylion pobl yn cael eu cadw'n ddiogel.

    Fe gadarnhaodd hefyd y bydd tystysgrif papur ar gael i bawb yng ngwledydd y DU i ddangos eu bod nhw wedi cael eu brechu'n llawn, ac y byddai modd i bobl ei gael drwy'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Gwarchod.

  3. Ceidwadwyr Cymru: 'Angen i'r ddwy lywodraeth gydweithio'wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Russell George ei fod yn croesawu'r ffaith bod Cymru yn symud i lefel 2 ddydd Llun ond dylid fod wedi cyflwyno map a fyddai wedi rhoi gobaith i fusnesau a chymunedau.

    Dywedodd hefyd ei fod yn bryderus bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y bydd cadw pellter cymdeithaso; a gwisgo mwgwd yn parhau tan yr hydref.

    "Beth mae pobl ei angen," meddai, "yw i lywodraethau Cymru a'r DU gydweithio fel nad oes dryswch am gyfyngiadau mewn gwledydd gwahanol - hynny'n enwedig gan nad yw'r feirws yn parchu ffiniau.

    "Ry'n hefyd yn bryderus nad yw'r arian sydd ar gael i gefnogi busnesau wedi'i ôl-ddyddio a bydd nifer o gwmnïau yn ei chael hi'n anodd ailddechrau wedi'r pandemig mewn cyfnod lle dylai Llywodraeth Cymru wneud pob dim posib i gefnogi cael pobl i ddychwelyd i waith a chreu swyddi newydd."

    russell george
  4. Data yn dangos effaith Covid ar economi Cymruwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Prifysgol Caerdydd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Plaid Cymru: 'Neges bositif'wedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Plaid Cymru

    Cafodd sylwadau Mr Drakeford ar bobl i gael gwyliau yng Nghymru yn hytrach na dramor yr haf hwn groeso gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

    "Mae'n neges bositif," meddai, "rydyn ni angen hyn ar gyfer yr economi hefyd.

    "Nid yn unig er mwyn gwarchod ein iechyd ni ond i gefnogi'r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch sydd wedi cael amser caled dros ben."

    Dywedodd Mr Price fod y sector dal angen cefnogaeth ariannol, a gofynnodd: "Beth ydy'r cynllun i'r diwydiant lletygarwch ar gyfer y misoedd i ddod?"

    Adam Price
  6. 'Ddim am i bobl sy'n mynd ar wyliau deimlo'n euog ond ...'wedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Os yw pobl yn penderfynu mynd dramor, dwi ddim am iddyn nhw deimlo'n euog," medd Mark Drakeford, "ond dwi am i bawb feddwl am eu diogelwch eu hunain a diogelwch pawb arall.

    "Yr hyn sy'n bwysig yw fod pobl yn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Cyngor Llywodraeth Cymru yw cael gwyliau yng Nghymru eleni ac osgoi unrhyw risg o ddod ag amrywolion i Gymru."

  7. Canllawiau newydd wrth i fusnesau ailagorwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Twitter

    Wrth i fusnesau ailagor ddydd Llun mae cymorth ar gael yma ...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. 'Angen mwy o wybodaeth am amrywiolyn India'wedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiwn ar amrywiolyn India dywed Mr Drakeford bod llawer mwy o gwestiynau nag atebion am yr amrywiolyn ar hyn o bryd.

    "Ni ddim yn gwybod digon amdano eto," medd Mr Drakeford, "mae tystiolaeth ragbrofol yn awgrymu ei fod yn lledu'n gynt nag amrywiolyn Caint. Mae'r ansicrwydd yn golygu bod yn rhaid i ni oedi rywfaint wrth i ni gael mwy o wybodaeth.

    "Dyw hi ddim yn glir chwaith a fydd y rhaglen frechu yn llai effeithiol - felly fe wnawn ni fwy o benderfyniadau wedi i ni gael mwy o wybodaeth," ychwanegodd y prif weinidog.

  9. Symud i lefel rhybudd un os yw'r sefyllfa yn ffafriolwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ar Fai 24 bydd y cyfyngiad ar faint o bobl sy'n cael ymweld â chartref gofal yn cael ei godi, medd y Prif Weinidog.

    Dywed hefyd y bydd yr adolygiad nesaf o fewn tair wythnos ac os yw'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gadarnhaol dywed y bydd modd i Gymru symud i lefel rhybudd un.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  10. Tystysgrifau statws brechu ar gael o ddydd Llun 24 Maiwedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanega y Prif Weinidog bod yn rhaid i drigolion Cymru hefyd gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer ymwelwyr ag unrhyw wlad y maent yn bwriadu teithio iddi.

    Gall cyfyngiadau fod ar waith, gan gynnwys tystiolaeth o frechu, profion, cwarantin a’r rhesymau dros ddod i’r wlad.

    O ddydd Llun 24 Mai ymlaen, bydd tystysgrifau statws brechu ar gael i bobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o’r brechiad ac sydd angen teithio ar frys i wlad lle mae gofyn iddynt ddangos prawf o’u brechiadau Covid.

  11. Beth yw'r rheolau teithio rhyngwladol?wedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd Cymru felly, medd Mark Drakeford, yn dilyn y rheolau teithio rhyngwladol sydd fel a ganlyn:

    • Nid yw pobl sy’n cyrraedd o’r gwledydd sydd ar y rhestr werdd yn gorfod treulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd i Gymru, ond mae’n rhaid iddynt archebu a thalu am brawf PCR gorfodol cyn neu ar yr ail ddiwrnod wedi iddynt ddychwelyd. Bydd pob teithiwr ac aelodau eu haelwydydd hefyd yn cael eu hatgoffa bod profion llif unffordd ychwanegol ar gael i fonitro eu hiechyd.
    • Mae'n ofynnol i bobl sy'n cyrraedd o’r gwledydd sydd ar y rhestr oren dreulio cyfnod o 10 diwrnod mewn cwarantin gartref ar ôl dychwelyd. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol. Mae gofyn hefyd iddynt archebu profion PCR gorfodol ar gyfer yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod, a thalu am y profion hynny. Yn wahanol i Loegr, nid yw Cymru'n gweithredu cynllun profion rhyddhau, lle gellir cymryd prawf ychwanegol ar y pumed diwrnod i leihau'r cyfnod cwarantîn. Y rheswm am hyn yw bod tua 30% o bobl sy'n datblygu Covid-19 yn gwneud hynny ar ôl y pumed diwrnod.
    • Mae'n ofynnol i bobl sy'n cyrraedd o wledydd sydd ar y rhestr goch dreulio 10 diwrnod llawn mewn cwarantin ar ôl cyrraedd man dynodedig yn y DU, a hynny mewn cyfleuster a reolir gan y llywodraeth - 'gwesty covid' - ar eu cost eu hunain, gan ddechrau o £1,750 y pen. Yn Lloegr neu yn yr Alban y mae holl bwyntiau mynediad y DU ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o wledydd ar y rhestr goch, sy'n golygu y bydd angen i drigolion Cymru sy'n dychwelyd o'r gwledydd hynny fynd i gwarantin y tu allan i Gymru. Mae hefyd yn ofynnol i deithwyr archebu profion PCR gorfodol ar yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod a thalu am y profion hynny.

    Bydd pobl nad ydynt yn dilyn y rheolau ar gyfer gwledydd ar y rhestr goch yn wynebu hysbysiadau cosb benodedig o £10,000.

  12. 'Dyma'r flwyddyn i aros gartref yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    “Bydd Cymru, fel rhannau eraill o'r DU, yn ailddechrau teithio rhyngwladol. Ond diogelu iechyd pobl yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac rydym am wneud popeth yn ein gallu i atal y coronafeirws rhag cael ei ailfewnforio i Gymru," medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

    "Ni fydd hyn fel teithio yn y gorffennol. Bydd pawb sy’n teithio dramor yn gorfod cael prawf ar ôl cyrraedd adref, a bydd gofyn i lawer o bobl dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd. Bydd dirwyon sylweddol yn cael eu rhoi i'r rhai nad ydynt yn dilyn y gofynion cyfreithiol.

    "Nid yw rhai gwledydd yn caniatáu i bobl o'r DU deithio yno eto. Fy nghyngor cryf i yw mai dyma'r flwyddyn i aros gartref a mwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig."

    portmeirion
  13. Cwarantin gorfodol i deithwyr sy'n dychwelyd o rai gwledyddwedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cadarnhau y bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau i bobl yng Nghymru o ddydd Llun 17 Mai.

    Fel rhan o’r newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru, bydd pobl sy’n byw yng Nghymru yn cael teithio i rai cyrchfannau tramor heb fod angen iddynt dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd.

    Ond bydd camau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i helpu i atal achosion newydd o’r coronafeirws rhag cael eu mewnforio i Gymru.

    Bydd system goleuadau traffig, fel sydd gan Loegr a’r Alban, yn cael ei chyflwyno. Bydd gwledydd yn cael eu rhoi mewn categori gwyrdd, oren neu goch, gan ddibynnu beth yw'r cyfraddau coronafeirws yn y gwledydd hynny.

    Mae cwarantin gorfodol ar waith ar gyfer pawb sy'n dychwelyd i'r DU o wledydd ar y rhestrau oren a choch. Rhaid i bawb sy'n dychwelyd ar ôl teithio dramor gael prawf PCR.

    traethFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd gwledydd yn cael eu rhannu i dair rhestr

  14. Lefel rhybudd dau o ddydd Llun ymlaenwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd Cymru'n symud i lefel rhybudd dau o ddydd Llun ymlaen.

    Mae hynny'n golygu y bydd:

    • Lletygarwch y tu mewn yn ail-agor i grwpiau o chwech o bobl o chwe chartref gwahanol
    • Llety gwyliau yn gallu ail-agor yn llwyr
    • Gall canolfannau adloniant agor eto, gan gynnwys sinemau, neuaddau bingo, canolfannau bowlio, canolfan chwarae dan do, casinos, theatrau a neuaddau cyngerdd.
    • Atyniadau dan do fel amgueddfeydd ac orielau yn cael agor
    • Hyd at 30 mewn digwyddiadau wedi eu trefnu dan do, a 50 y tu allan.

    Ychwanegodd: "Dydd Llun, byddwn yn codi'r cyfyngiadau ar y niferoedd sy'n cael ymweld a phobl mewn cartrefi gofal y tu mewn.

    "Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn cael ei gynnal ar ddechrau mis Mehefin.

    "Os ydy'r iechyd cyhoeddus yn parhau'n gadarnhaol fe fyddwn ni'n ystyried a allwn ni symud i lefel rhybudd un," meddai Mr Drakeford.

    Byddai hynny'n cynnwys edrych ar lacio’r rheolau ymhellach ynglŷn â chwrdd â phobl yn eu cartrefi eu hunain, cynyddu nifer y bobl sy’n gallu mynychu priodasau ac ailgychwyn digwyddiadau mwy, gan adeiladu ar brofiad y rhaglen beilot, a ddechreuodd ddydd Iau.

  15. Amrywiolyn India yn cael ei drosglwyddo'n gyflymwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cadarnhau bydd Cymru yn symud i lefel dau ddydd Llun.

    Cyn egluro be mae hynny yn ei olygu mae e'n mynegi pryderon am amrywiolyn India.

    Mae'n cadarnhau bod 26 achos yng Nghymru a dros 1,500 yn Lloegr.

    Dywed bod yr amrywiolyn yn cael ei drosglwyddo'n rhwydd o berson i berson - tebyg i amrywiolyn Caint ond o bosib yn cael ei drosglwyddo'n gynt.

  16. 'Y rhaglen frechu ar garlam'wedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    Yn ôl Mr Drakeford mae'r Llywodraeth o fewn cyrraedd i'w targed o frechu pob oedolyn erbyn canol mis Gorffennaf.

    Os fydd mwy o frechlynnau ar gael, meddai, bydd y rhaglen frechu yn cyflymu hefyd.

    Dywedodd bod dros 90% o breswylwyr mewn cartrefi gofal, pobl dros 70 ac 80 oed, wedi cael eu dos llawn o'r brechlyn.

    "Mae dros hanner y bobl yn eu 30au a thraean o bobl rhwng 18 a 29 oed wedi derbyn eu brechiad cyntaf," meddai.

    "Dros y wythnosau nesaf fe fyddwn ni'n cyflymu'r rhaglen frechu hyd yn oed yn gynt wrth i wledydd eraill y DU garlamu tuag at yr un nifer o ail ddos ac sydd eisoes wedi cael eu darparu yma yng Nghymru."

  17. Pobl ifanc yn 'heidio' i ganolfannau i gael brechiadwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Mae bron i hanner yr oedolion ifanc wedi derbyn brechlyn coronafeirws mewn rhai rhannau o Gymru.

    Yn y gogledd mae 44% o bobl 18-29 oed wedi cael dos cyntaf, tra bod 46% yng Nghaerdydd a'r Fro wedi cael o leiaf un brechiad.

    Ar gyfartaledd, mae 36.6% o bobl dan 30 oed wedi cael un pigiad led-led Cymru, gyda'r rhaglen frechu yn symud ar gyflymderau gwahanol fesul bwrdd iechyd.

    Dwedodd un rheolwr canolfan brechu fod pobl ifanc yn "heidio i'r canolfannau" mewn ymgais i ddychwelyd i fywyd arferol.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf, ar ôl llwyddo i gynnig dos cyntaf i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 erbyn canol mis Ebrill.

    Greta SionFfynhonnell y llun, Greta Sion
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Greta Sion o Gaerdydd wrth ei bodd yn derbyn ei brechlyn cyntaf cyn dychwelyd i'r Brifysgol ar gyfer gwneud cwrs ôl-radd

  18. Dwy filiwn wedi cael y brechlyn cyntaf yng Nghymru erbyn nos Sulwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei bod yn fraint bod yn brif weinidog unwaith eto ac arwain Cymru drwy'r pandemig.

    Mae'n dechrau gan ddweud bod cyfradd yr haint yn parhau yn isel iawn yng Nghymru. Erbyn hyn 10 achos ymhob 100,000 yw'r nifer - cyfradd llai nag 1% o achosion positif.

    Dim ond tri o bobl sydd bellach yn cael gofal critigol mewn ysbyty ac mae'r nifer sydd mewn ysbyty yn is nag yr oedd ar ddechrau'r pandemig 15 mis yn ôl.

    Yn ystod y penwythnos bydd dwy filiwn o bobl wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru.

    Dywed bod cyfradd frechu Cymru gyda'r orau yn y byd a'i fod yn ddiolchgar i weithwyr y GIG a gwirfoddolwyr.

  19. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Beth sy'n digwydd ddydd Llun?wedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Fe fydd gan hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yng Nghymru hawl i gyfarfod dan do mewn caffis, tai bwyta a thafarndai.

    Mae disgwyl cadarnhad y bydd modd ailagor:

    • pob llety gwyliau;
    • sinemâu, theatrau a lleoliadau adloniant eraill;
    • atyniadau dan do fel amgueddfeydd ac orielau;
    • a bod hyd at 30 yn cael bod mewn digwyddiadau wedi eu trefnu dan do, a 50 y tu allan.

    gwydrauFfynhonnell y llun, Getty Images