Crynodeb

  • Cadarnhad y bydd busnesau lletygarwch dan do yn ailagor ddydd Llun

  • Anogaeth i beidio teithio tramor ac i gael gwyliau yng Nghymru

  • Pryderon bod amrywiolyn India yn gallu lledu'n gyflym

  • Bron i hanner oedolion ifanc Cymru wedi cael brechlyn

  • Cymru yn symud i lefel rhybudd un ym Mehefin os yw'r sefyllfa yn ffafriol

  1. 'Amrywiolyn India yn bryder'wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Fore Gwener dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi ystyried llacio pellach ddydd Llun, ond bod ei lywodraeth yn aros am y cyngor diweddara' ynghylch amrywiolyn India o'r feirws.

    Mae 26 achos o'r amrywiolyn yng Nghymru yn ôl ffigyrau dydd Gwener, ond dywedodd Mr Drakeford bod cynnydd sylweddol mewn achosion yng ngogledd orllewin Lloegr yn bryder oherwydd yr agosatrwydd at ffin Cymru.

    Ychwanegodd y byddai'n oedi camau nesaf y broses o lacio cyfyngiadau "os ydy'r risg o wneud yn rhy fawr".

    "Os mai'r cyngor ar amrywiolyn India ydy ei fod yn ddiogel i symud ymlaen, yna ni fydd angen aros tan ddiwedd y tair wythnos i wneud hynny, ond mae'r amrywiolyn yn achos pryder i ni."

    straen o IndiaFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae 26 achos o amrywiolyn India yng Nghymru ar hyn o bryd

  2. Tystysgrif ar gael i bobl sydd wedi cael dau ddos o'r brechlynwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Mae disgwyl cadarnhad y bydd Cymru'n defnyddio system oleuadau traffig fel yn Lloegr a'r Alban.

    Mae'n golygu y bydd modd teithio i rai gwledydd heb orfod hunan-ynysu pan yn cyrraedd adref.

    O 24 Mai, bydd tystysgrif papur ar gael i bobl sydd wedi cael dau ddos o frechlyn ac sydd angen profi hynny wrth deithio.

    Ond mae'r llywodraeth yn dweud na fydd yn annog teithio heb ei fod yn angenrheidiol.

    brechuFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. 'Dim rhaid edrych ar y tywydd ddydd Llun'wedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Un sydd wedi bod yn aros yn eiddgar i agor y tu mewn yw Rhian Davies, perchennog tafarn y Crown and Sceptre yn Llangatwg.

    "Mae agor tu fas wedi bod yn dda - fi wedi cael lot o gefnogaeth y gymuned ond ddydd Llun nesaf bydd dim rhaid i ni edrych ar y tywydd.

    "Bydd pawb yn cael croeso mawr - eisoes mae'r lle yn llawn ddydd Llun a'r wythnos hon hefyd fi wedi cael booking am barti Nadolig!

    "Mae'r dyfodol yn mynd i fod yn well - mae hi wedi bod yn galed."

    Rhian Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    'Mae dyfodol gwell o'n blaen,' medd Rhian Davies o Langatwg

  4. Modd bwyta ac yfed dan do o ddydd Llun ymlaenwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Mae disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi hefyd bod Cymru'n symud i Lefel 2 y cynllun rheoli Covid-19 o ddydd Llun.

    Mae hynny'n golygu bod busnesau lletygarwch a lleoliadau adloniant dan do yn cael ailagor.

    Fe fydd mwy o bobl yn cael mynychu digwyddiadau wedi eu trefnu yn yr awyr agored a dan do.

    awyr agored
  5. 'Manteisiwch ar wyliau yng Nghymru eleni'wedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    gwyliauFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford roi cyngor i bobl beidio teithio dramor am dair wythnos arall oni bai bod rhesymau "hanfodol" - er bod y rheolau yn wahanol yn Lloegr.

    Cyngor Llywodraeth y DU ydy bod pobl yn Lloegr yn cael teithio i rai gwledydd tramor o ddydd Llun.

    Mae Portiwgal ac Israel ar y rhestr 'werdd' o leoliadau o'r DU, ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y dylid ond teithio dramor am resymau hanfodol o 17 Mai.

    Dywedodd Mark Drakeford mai hon yw'r flwyddyn i fanteisio ar y "cyfleoedd ffantastig" am wyliau yng Nghymru.

    Llanberis
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae yna anogaeth i aros yng Nghymru eleni yn lle mynd dramor

  6. Croeso i'r llif newyddion byw o gynhadledd Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2021

    Mae'n ddiwrnod cyhoeddi canfyddiadau adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar sefyllfa Covid-19.

    Dyma'r gynhadledd gyntaf ers yr etholiad wythnos diwethaf ac fe fydd yn cael ei harwain gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, am 12.15.

    Bydd y diweddaraf a'r ymateb i hynny i'w weld yma.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Mark Drakeford ei enwebu'n ddiwrthwynebiad fel prif weinidog ddydd Mercher