Crynodeb

  • Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer codi cyfyngiadau bron yn llwyr ar 7 Awst

  • Bydd nifer o reolau yn newid o ddydd Sadwrn hefyd - e.e. bydd dim rhaid cadw pellter cymdeithasol y tu allan

  • Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cadarnhau'r cynlluniau yn siambr y Senedd toc wedi 15:00

  • Mr Drakeford yna'n gwneud datganiad pellach i'r cyhoedd mewn cynhadledd am 17:15

  1. Diolch am ddilyn - dyma'r prif benawdau...wedi ei gyhoeddi 18:34 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Diolch i chi am ddilyn ein darllediadau byw heddiw wrth i newidiadau mawr i gyfyngiadau Covid yng Nghymru gael eu cyhoeddi.

    Felly beth sy'n digwydd a phryd?

    O ddydd Sadwrn, 17 Gorffennaf

    • Ni fydd yn rhaid i bobl gadw pellter cymdeithasol y tu allan;
    • Bydd unrhyw chwech o bobl yn gallu cwrdd mewn cartref preifat - neu fynd ar wyliau gyda'i gilydd;
    • Bydd rinciau iâ hefyd yn agor, a bydd digwyddiadau dan do wedi'u trefnu, gan gynnwys chwaraeon a gigs, yn gallu bwrw ymlaen gyda hyd at 1,000 o bobl yn eistedd neu 200 yn sefyll.

    O 7 Awst (os yw'r amodau'n caniatáu)

    • Dim cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd ag eraill;
    • Bydd pob busnes ac adeilad yn gallu ailagor;
    • Bydd disgwyl i gwmnïau gynnal asesiad risg;
    • Bydd angen masgiau wyneb mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth dderbyn gofal iechyd, ond nid mewn lletygarwch (caffis, tafarndai a bwytai) nac addysg;
    • Ni fydd angen i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif.

    A dyna ni am heddiw. Byddwch yn saff a hwyl fawr.

  2. 'Angen i fusnesau asesu'r risg yn iawn'wedi ei gyhoeddi 18:29 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Wrth i'r cyfyngiadau lacio, mae undeb y TUC wedi dweud fod angen parhau i sicrhau fod cwmniau yn glynu at y rheolau sydd dal mewn grym.

    Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb yng Nghymru, Shavanah Taj, fod angen i'r llywodraeth edrych eto ar sut i sicrhau bod busnesau'n cynnal yr asesiadau risg priodol.

    "Mae ein hymchwil ni wedi dangos yn gyson bod llai na hanner y gweithwyr yng Nghymru yn dweud bod eu cyflogwr wedi cynnal asesiad risg," meddai.

    "Dim ond un o bob pedwar sydd hefyd yn dweud eu bod nhw wedi cael eu holi fel rhan o unrhyw asesiad, er bod hyn yn rhan o'r gofynion cyfreithiol."

    Mae undeb Usdaw yn y cyfamser wedi croesawu'r gofynion i barhau i wisgo mygydau mewn siopau yng Nghymru.

  3. 'Angen cefnogaeth i gynghorau'wedi ei gyhoeddi 18:25 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wrth ymateb i sylwadau Mark Drakeford yn y gynhadledd, dywedodd Sam Rowlands AS o'r Ceidwadwyr Cymreig y byddai angen cymorth ar gynghorau os oedden nhw am fod yn rhan o'r broses o asesu risg busnesau.

    Ond dywedodd ei fod yn croesawu'r cynlluniau i lacio cyfyngiadau ymhellach ar 7 Awst.

    "Rydyn ni'n disgwyl i'r llywodraeth gadw llygad ar hyn ac ystyried yr holl risgiau dros yr wythnosau nesaf," meddai.

  4. 'Dim galw mawr am gael gwared ar fygydau'wedi ei gyhoeddi 18:22 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Plaid Cymru

    Dywedodd AS Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "falch" nad oedd Cymru wedi "plygu i'r pwysau" a llacio mor sydyn â Lloegr.

    "Mae'r dull fan hyn yn fwy pwyllog yn enwedig pan mae'n dod at barhau i wisgo mygydau," meddai.

    "Dydw i ddim yn clywed galw mawr i gael gwared ar fygydau."

  5. A fyddwn ni'n gwisgo masgiau ymhen 12 mis?wedi ei gyhoeddi 18:19 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ni allai "unrhyw berson call" ddweud y byddai'n amhosib i pobl yng Nghymru orfod gwisgo masgiau yn ystod haf y flwyddyn nesaf ond "gobeithio ddim, wrth gwrs", meddai Mark Drakeford.

    Dywedodd y prif weinidog "cyn gynted ag y bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn ddigon diogel inni roi'r gorau i fynnu bod pobl yn eu gwisgo yna dyna beth y byddwn yn ei wneud".

    "A allai barhau i weddill y flwyddyn hon? Wel bydd llawer iawn yn dibynnu ar yr hyn a ddaw yn yr hydref ac a ydym, wrth inni fynd i'r tywydd llai da, yn gweld adfywiad coronafeirws fel y gwnaethom y llynedd.

    "Bydd y brechlyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i hynny ac fe allai pethau eraill helpu hefyd."

    masgFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Amddiffyn yr oedi cyn llacio mwywedi ei gyhoeddi 18:12 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog wedi amddiffyn y penderfyniad i aros nes 7 Awst i lacio'r rhan fwyaf o gyfyngiadau.

    "Fel bob tro, 'dyn ni'n gwneud y pethau gyda'r risg lleiaf gyntaf," meddai.

    "Yn y cyd-destun 'dyn ni ynddo, ble mae niferoedd yn codi, ble mae tystiolaeth o rannau eraill o'r DU fod cyfraddau ysbyty yn codi, ble mae gennym ni 10 person mewn uned gofal dwys heddiw... dydych chi ddim eisiau gwneud pethau gyda'r risg uchaf yn syth.

    "Mae'r ffordd cam wrth gam yna o wneud pethau... ar batrwm bob tair wythnos, wedi gweithio'n dda i ni yng Nghymru."

  7. 'Dal modd cadw rheolau pellter cymdeithasol'wedi ei gyhoeddi 18:02 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd ymbellhau cymdeithasol dal yn un o'r pethau y gall busnesau wneud yn y dyfodol i ddiogelu cwsmeriaid wrth iddyn nhw gynnal asesiadau risg Covid, meddai'r prif weinidog.

    "Bydd e yna ochr yn ochr gyda mesurau eraill, yn hytrach na mesur ar wahân fel mae e ar hyn o bryd," meddai Mark Drakeford.

    Fodd bynnag, ni fydd y gorchymyn fel ag y mae ar hyn o bryd yn parhau pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio ar 7 Awst.

    Wrth symud ymlaen, bydd pwy o bwyslais ar yr asesiadau risg hynny, gyda phedwar o ofynion.

    Bydd angen cynnal asesiad risg, cynnwys gweithwyr yn yr asesiad, rhannu'r asesiad gyda'r cyhoedd, a sicrhau ei fod yn cael ei weithredu.

    arwyddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd dim angen cadw pellter cymdeithasol y tu allan o ddydd Sadwrn

  8. 'Dim angen gorfodaeth' ar dystysgrifau brechuwedi ei gyhoeddi 17:58 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mewn ymateb i gwestiwn gan Catrin Haf Jones o BBC Cymru ar dystysgrifau brechu, dywedodd Mark Drakeford na fyddai'n gorfodi busnesau i fynnu bod cwsmeriaid yn eu dangos.

    Mae modd i bobl yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, nawr gael 'pasbort brechu' i ddangos eu bod nhw wedi cael dau frechiad.

    Mae gweinidogion Llywodraeth y DU eisoes wedi gofyn i glybiau nos a threfnwyr digwyddiadau eraill yn Lloegr i ofyn am brawf o frechiad neu brawf Covid negyddol cyn gadael pobl mewn pan maen nhw'n ailagor.

    Ond dywedodd Mr Drakeford nad mater i lywodraethau yw annog busnesau, fel clybiau nos, i fynnu pasbortau brechlyn ar gyfer mynediad o 7 Awst.

    Mae pobl yng Nghymru wedi gallu cael eu statws brechu Covid-19 ar-lein ers 25 Mehefin ar gyfer teithio hanfodol dramor.

    Mae tystysgrifau papur hefyd wedi bod ar gael ers mis Mai, gyda dogfennau yn cael eu postio i'r rhai sy'n gofyn amdanyn nhw.

  9. Llacio'r rheolau ar orfod hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    O fis nesaf ymlaen fydd dim rhaid i bobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn hunan-ynysu os ydyn nhw wedi dod i gyswllt gyda phobl sydd wedi profi'n bositif.

    Ond ychwanegodd Mark Drakeford y bydd rheolau ychwanegol i warchod y rheiny sy'n gweithio mewn gweithfeydd iechyd a gofal.

    "Ond os oes gennych chi symptomau coronafeirws neu os ydych chi'n profi'n bositif, bydd angen hunan-ynysu os ydych chi wedi'ch brechu'n llawn neu beidio," meddai.

  10. 'Dim dewis' gan Drakeford ar deithwyr rhestr orenwedi ei gyhoeddi 17:41 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford wedi dweud nad oedd eisiau gadael i bobl sydd wedi cael dau frechiad i ddychwelyd o wledydd ar y rhestr oren heb orfod hunan ynysu.

    Ond doedd gan Lywodraeth Cymru "ddim dewis ymarferol ond dilyn" Llywodraeth y DU ar y mater, wedi i San Steffan gymeradwyo'r newid.

    Dywedodd Mr Drakeford y dylai unrhyw un oedd yn dychwelyd i Gymru o wlad 'oren' gymryd prawf PCR ar eu hail ddiwrnod, ac i osgoi mynd i ysbyty neu gartref gofal.

    "Dydy ein cyngor ni heb newid - rydyn ni'n parhau i gynghori yn erbyn teithio dramor am unrhyw reswm sydd ddim yn angenrheidiol," meddai.

    "Dyma'r flwyddyn i fynd ar wyliau gartref."

    maes awyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Llacio ddim yn 'ryddid i wneud beth fynnwch chi'wedi ei gyhoeddi 17:41 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Drakeford wedi rhybuddio fodd bynnag nad yw llacio'r cyfyngiadau yn golygu bod "rhyddid i wneud beth fynnwch chi".

    Dywedodd y byddai'n bwysig cadw rhai rheolau "er mwyn ein cadw ni i gyd yn saff", yn enwedig i bobl sydd fwyaf bregus.

    "Bydd asesiadau risg coronafeirws yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes, cyflogwr a threfnwr digwyddiadau," meddai.

    "Bydd angen gosod mesurau rhesymol mewn lle, yn seiliedig ar y risg sydd wedi'i ganfod."

    MD
  12. 'Manteisio' ar fod tu allan yn yr hafwedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r cyfyngiadau sy'n cael eu llacio'r penwythnos yma'n cynnwys gadael i hyd at chwech o bobl gyfarfod dan do mewn cartrefi a llety gwyliau.

    Bydd mwy hefyd yn cael mynychu digwyddiadau torfol dan do, a bydd meysydd sglefrio iâ yn ailagor.

    Fe fydd sefydliadau fel yr Urdd hefyd yn gallu gadael i grwpiau o hyd at 30 o blant i fynychu gwersylloedd dros y gwyliau haf.

    "Fe allwn ni fynd un cam ymhellach y tu allan," meddai.

    "Fydd dim terfyn ar faint o bobl sy'n cael cwrdd tu allan a bydd mwy o hyblygrwydd o gwmpas ymbellhau cymdeithasol o 17 Gorffennaf."

    Dywedodd bod hyn yn bosib oherwydd bod y wyddoniaeth yn dweud bod y risg o ddal yr haint yn llawer is yn yr awyr agored.

    "Rydyn ni i gyd eisiau manteisio ar fisoedd yr haf," ychwanegodd.

  13. Lefel Sero: 'Gwneud y mwyaf o'n rhyddid personol'wedi ei gyhoeddi 17:32 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Mr Drakeford ei fod yn "rhagweld y bydd 85% o holl oedolion Cymru wedi cael y ddau ddos" ​​erbyn cyrraedd Lefel Rhybudd Sero ar 7 Awst.

    "Dyluniwyd y lefel rhybuddio newydd sero i wneud y mwyaf o'n rhyddid personol," meddai.

    "Ni fydd unrhyw derfynau cyfreithiol ar nifer y bobl a all gwrdd, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, lleoedd cyhoeddus neu mewn digwyddiadau a bydd pob busnes ac adeilad ar agor, gan gynnwys clybiau nos."

    Ychwanegodd hefyd:

    • y dylai pobl barhau i weithio gartref "lle bynnag y bo modd";
    • y byddai gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn mannau cyhoeddus dan do, "heblaw am leoliadau addysg a lletygarwch"

    Bydd rhain yn cael eu hysgafnhau yn raddol wrth i'r risg i iechyd y cyhoedd leihau, meddai wedyn.

  14. 'Angen i fwy o bobl gael eu brechu'wedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn "fwyfwy hyderus" bod cyfradd frechu uchel Cymru wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol ac ysbyty.

    "Wedi gwanhau ond heb dorri. Mae risg o hyd y gallem weld niwed sylweddol yn y drydedd don hon," rhybuddiodd.

    "Bedair wythnos yn ôl, fe wnaethon ni oedi newidiadau i'r cyfyngiadau er mwyn canolbwyntio ar frechu cymaint o bobl â phosib.

    "Mae ein rhaglen frechu wedi gwneud gwaith gwych ac mae gennym gyfraddau derbyn da iawn, gan helpu i newid y berthynas â'r feirws.

    "Ond mae angen i fwy o bobl gael eu brechu - mae un o bob pedwar oedolyn o dan 40 oed eto i gael pigiad ac yn y grŵp oedran hwn rydyn ni'n gweld lefelau uchel o haint ar hyn o bryd.

    "Bydd ein gallu i lacio cyfyngiadau yn dibynnu'n rhannol ar gael cyfraddau brechu uchel yn y grŵp oedran hwn. Dewch ymlaen i gael eich brechlyn - nid yw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru."

  15. 'Dim amheuaeth' am drydedd donwedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn dechrau drwy ddweud bod "dim amheuaeth" fod Cymru ar ganol trydedd ton o Covid-19.

    Dywedodd y prif weinidog fod achosion wedi bod yn "cynyddu'n sylweddol ers diwedd Mai" oherwydd amrywiolyn Delta.

    "Er bod [cyfradd yr] achosion yn uchel - 145 achos am bob 100,000 person yng Nghymru - ar hyn o bryd, y newyddion da yw nad yw hynny wedi arwain at nifer fawr o bobl yn mynd yn ddifrifol wael neu angen mynd i'r ysbyty," meddai.

    "Yn ffodus, mae nifer y bobl sy'n marw yn parhau yn isel iawn."

  16. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Busnesau'n croesawu llacio'r rheolauwedi ei gyhoeddi 17:16 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Mae CBI Cymru, sy'n cynrychioli busnesau, wedi croesawu'r cyhoeddiad i lacio'r rhan fwyaf o gyfyngiadau erbyn 7 Awst.

    "Bydd llacio'r rheolau ar ddigwyddiadau dan do a thu allan yn hwb sydd i'w groesawu'n arbennig gan y diwydiannau hamdden a thwristiaeth sydd wedi dioddef yn enbyd dros yr 18 mis diwethaf," meddai eu cyfarwyddwr Ian Price.

    Ychwanegodd y byddai busnesau hefyd yn croesawu cael gwared o'r angen i ynysu os oes rhywun wedi bod mewn cyswllt ag achos positif, rhywbeth sy'n gallu effeithio ar lefelau staffio rhai busnesau yn wael.

    tafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i dafarndai

    Yn y cyfamser mae Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru hefyd wedi croesawu'r llacio, er ei fod yn digwydd "bythefnos a hanner ar ôl Lloegr".

    "Mae ein tafarndai a bragdai nawr angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi ynddyn nhw wrth ddiwygio Treth ar Werth, treth ar gwrw a chyfraddau busnes... er mwyn eu helpu i adfer," meddai llefarydd.

    Mae UKHospitality Cymru hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad, ond wedi rhybuddio y gallai'r gwahaniaeth rhwng dyddiadau Cymru a Lloegr greu "dryswch".

    "Rydyn ni'n poeni'n fawr na fydd pobl sydd ar eu gwyliau yn ystod y tymor prysuraf - sy'n dechrau dydd Sadwrn yma - yn ymwybodol o'r gwahaniaethau," meddai David Chapman.

  18. Newyddion cymysg i gwmnïau teithiowedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Mae ABTA, corff sy'n cynrychioli'r diwydiant teithio, wedi croesawu rhai rhannau o gyhoeddiad Mark Drakeford heddiw.

    "Mae'n dda gweld y bydd rheolau hunan-ynysu yn llacio ar 19 Gorffennaf i deithwyr sydd wedi'u brechu'n llawn ac yn dychwelyd i Gymru o wledydd ar y rhestr oren," meddai llefarydd.

    "Fodd bynnag, dylai'r prif weinidog edrych eto ar y cyngor yn erbyn 'unrhyw deithio rhyngwladol sydd ddim yn angenrheidiol' i bobl sydd wedi'u brechu.

    "Tra bod hyn yn parhau, bydd hyder pobl i deithio o Gymru yn parhau yn isel ac mae angen rhagor o gymorth ariannol ar asiantaethau teithio, sy'n parhau i wynebu'r amodau masnachu anoddaf o unrhyw sector."

    teithio dramorFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. 'Hyder cynyddol y bydd llai o niwed'wedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Owain Clarke
    Dadansoddiad gohebydd iechyd BBC Cymru

    Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i lacio rhai cyfyngiadau ond nid eraill yn seiliedig ar ddata o sawl ffynhonnell gan gynnwys modelau gan wyddonwyr sy'n defnyddio cyfrifiaduron anferth i geisio dadansoddi beth fydd yn digwydd nesaf.

    Roedd y modelau hynny yn darogan y drydedd don, ry'n ni'n gweld ar hyn o bryd, yn y cyfnod pan oedd cymdeithas dan glo yn ystod yr ail don.

    Ond beth am y cyfnod nesaf?

    Wel mae'r gwaith modelu diweddaraf yn awgrymu y bydd achosion yn parhau i gynyddu dros yr wythnosau nesaf gan gyrraedd y brig tua dechrau Awst ac arwain at ragor o bobl yn gorfod cael triniaeth mewn ysbyty ac yn anffodus, mwy na thebyg, rhagor o farwolaethau.

    Ond mae yna hyder cynyddol erbyn hyn y bydd y niwed yn llawer llai na chynt o ganlyniad i lwyddiant y rhaglen frechu, a'r ffaith fod llawer iawn o achosion ar hyn o bryd yn digwydd ymhlith pobol iau sy'n llai tebygol o ddatblygu salwch difrifol.

    Os hynny pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi dilyn patrwm Lloegr, a llacio'n gyflymach?

    Wel mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dadlau fod y risg o niwed yn bodoli o hyd ac wrth gwrs ry'n ni'n gwybod fod y gwasanaeth iechyd dan straen, yn delio â rhestrau aros a bod unedau brys yn brysur iawn - yn rhannol oherwydd bod pobl bellach yn cael cymdeithasu.

    Y peth diwethaf mae nifer o staff iechyd am weld ar hyn o bryd yw'r straen yn cynyddu ymhellach oherwydd twf salwch o ganlyniad i Covid.

    Ond cofiwch mae modd dehongli unrhyw fath o ddata mewn sawl ffordd wahanol.

    Dyna pam mai cyfrifoldeb gwleidyddion ac nid gwyddonwyr yw dewis y camau nesaf.

  20. Cefnogaeth i benderfyniad ar wisgo masgiauwedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Plaid Cymru

    Yn siarad yn gynharach yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS o Blaid Cymru ei fod yn cytuno gyda dull "gofalus" Llywodraeth Cymru a'i fod yn falch bod gorchuddion wyneb i'w defnyddio o hyd mewn siopau, trafnidiaeth gyhoeddus a lleoliadau iechyd.

    Dywedodd na ddylai gorchuddion wyneb fod yn fater o "ddewis y cyhoedd" gan mai eu "prif bwrpas yw amddiffyn y rhai o'n cwmpas".

    "Mae cael ein harwain gan ein dewisiadau unigol ein hunain yn ffordd hunanol o fynd o gwmpas pethau mewn pandemig ar y cyd," meddai.

    Rhun