Crynodeb

  • Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer codi cyfyngiadau bron yn llwyr ar 7 Awst

  • Bydd nifer o reolau yn newid o ddydd Sadwrn hefyd - e.e. bydd dim rhaid cadw pellter cymdeithasol y tu allan

  • Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cadarnhau'r cynlluniau yn siambr y Senedd toc wedi 15:00

  • Mr Drakeford yna'n gwneud datganiad pellach i'r cyhoedd mewn cynhadledd am 17:15

  1. Ceidwadwyr yn holi am gyfyngiadau ychwanegolwedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Yn ei ymateb i gyhoeddiad Mark Drakeford, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd y byddai wedi hoffi gweld "mwy o gyflymder" wrth lacio rhai o'r cyfyngiadau.

    Ond mae'n cydnabod fod etholwyr Cymru wedi cymeradwyo dull Llafur Cymru o daclo'r pandemig yn yr etholiad Senedd ym mis Mai.

    Gofynnodd am fwy o fanylion ar beth fydd y cyfyngiadau fydd dal mewn lle pan fydd Cymru'n cyrraedd 'Lefel 0'.

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Senedd

    Holodd hefyd a fydd cyfyngiadau lleol neu genedlaethol yn cael eu hailgyflwyno os oes cynnydd mewn achosion.

    Wrth gydnabod y cwestiynau "adeiladol", dywedodd Mr Drakeford nad yw'n rhagweld unrhyw gyfyngiadau ychwanegol i'r rheiny sydd yn y cynllun sydd newydd ei gyhoeddi.

    Bydd gwisgo masgiau yn dod yn orfodol mewn llai a llai o leoliadau hefyd wrth i'r llywodraeth barhau i asesu'r risg Covid yn genedlaethol.

    Mae'n ychwanegu mai rheolau cenedlaethol fydd y prif ffordd o ddelio gydag unrhyw gynnydd mewn achosion, a bod y ffaith fod y rhan fwyaf o'r boblogaeth bellach wedi eu brechu yn newid sut fydd unrhyw gyfyngiadau yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno.

  2. Beth am reolau hunan-ynysu?wedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Dywed Mark Drakeford y bydd y rheolau o ran hunan-ynysu yn newid y mis nesaf.

    Ar hyn o bryd mae'n rhaid i bawb sydd wedi dod i gyswllt gyda rhywun sydd wedi profi'n bositif hunan-ynysu am 10 diwrnod.

    Ond wrth siarad yn y Senedd yn gynharach, dywedodd Mr Drakeford fod y llywodraeth "yn bwriadu dileu'r gofyniad i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn" o 7 Awst.

    Ychwanegodd y Prif Weinidog fod "gwaith i'w wneud o hyd" cyn y bod modd cyflwyno'r newidiadau.

    Dywedodd y byddai angen addasu'r system ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal.

    "Bydd hunan-ynysu yn parhau i chwarae rhan bwysig iawn wrth dorri'r gadwyn drosglwyddo i unrhyw un sydd â symptomau'r feirws, unrhyw un sy'n profi'n bositif ac unrhyw un sydd heb gael dau ddos ​​o'r brechlyn."

  3. Hapusrwydd perchennog cwmni cychodwedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Dywed Winston Evans, perchennog Dolphin Spotting Boat Trips yng Nghei Newydd, ei fod "wrth ei fodd" gyda'r cyhoeddiad ar bellter cymdeithasol.

    O ddydd Sadwrn, bydd dim angen cadw pellter cymdeithasol y tu allan yng Nghymru.

    Dywed y bydd cychod nawr yn gallu cludo tua 50 o deithwyr, yn lle'r 12 a ganiatawyd o dan reolau blaenorol.

    Dywed fod galw mawr am deithiau cychod a’i fod yn edrych ymlaen at haf prysur.

    Mae'n amcangyfrif ei fod wedi colli tua 60% o'r refeniw hyd yma eleni.

    Winston Evans
  4. Beth yw newidiadau'r penwythnos yma?wedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Dyma rai o'r newidiadau fydd yn dod i rym o ddydd Sadwrn yma, 17 Gorffennaf:

    • Bydd dim rhaid cadw pellter cymdeithasol y tu allan;
    • Bydd yn bosib i hyd at chwe pherson gwrdd mewn cartrefi preifat a llety gwyliau
    • Bydd llacio ar y rheolau o gwmpas digwyddiadau wedi eu trefnu, gyda hyd at 1,000 yn cael cwrdd dan do os ydyn nhw'n eistedd, neu 200 yn sefyll.

    Dyma'r newidiadau oedd i fod i ddod i rym nôl ym mis Mehefin. Ond fe roddodd y llywodraeth stop ar hynny ar y pryd oherwydd pryderon am amrywiolyn Delta.

  5. Croesowedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 14 Gorffennaf 2021

    Prynhawn da a chroeso i'r llif byw yma fydd yn dod â'r ymateb i gyhoeddiadau'r dydd ac yn dilyn cynhadledd ddiweddaraf y llywodraeth.

    Yn gynharach heddiw, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau ar gyfer llacio cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru.

    Fe gadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y cynlluniau o flaen Aelodau o'r Senedd yn y siambr ym Mae Caerdydd toc wedi 15:00.

    Mae disgwyl iddo wneud cyhoeddiad pellach i'r cyhoedd am 17:15.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford yn siarad yn gynharach y prynhawn 'ma