Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford fu'n cynnal y gynhadledd

  • Mwyafrif cyfyngiadau coronafeirws Cymru'n cael eu llacio ddydd Sadwrn

  • Ar lefel rhybudd 0, bydd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd â phobl eraill yn cael eu codi a bydd modd i bob busnes ailagor

  • Ond rhai mesurau yn parhau - fel gofyniad i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus

  1. Dros 800 o achosion pellach...wedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    ...ond dim rhagor o farwolaethau, yn ôl datganiad diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Beth sy'n newid o ddydd Sadwrn?wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    • Dim cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd ag eraill;
    • Bydd pob busnes ac adeilad yn gallu ailagor, gan gynnwys clybiau nos;
    • Bydd disgwyl i gwmnïau gynnal asesiadau risg;
    • Bydd angen masgiau wyneb mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth dderbyn gofal iechyd, ond nid mewn caffis, tafarndai, bwytai nac ysgolion;
    • Ni fydd angen i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif.
    ClwbFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Mwy o ryddid - ond rhai mesurau diogelwch i barhauwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Daeth y cadarnhad yn hwyr nos Iau y bydd yna lacio sylweddol ar y rheolau wrth i Gymru'n symud i lefel rhybudd sero.

    Mae'n golygu codi'r holl reolau ar gwrdd â phobl eraill a bydd pob busnes yn cael ailagor.

    Ond bydd rhai mesurau diogelwch yn parhau i fod mewn grym - fel gorchuddio'r wyneb mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    Dywedodd y Prif Weinidog bod symud i lefel rhybudd sero yn "gam pwysig arall ymlaen" i bawb, ond ddim yn "ddiwedd y cyfyngiadau na rhyddid i bawb wneud fel y mynnant".

    Fe allwch chi ddarllen y stori yn llawn ar ein hafan.

    Dwy mewn mwgwd tu allan i siopFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Pnawn da...wedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    ...a chroeso i'n llif byw wrth i'r Prif Weinidog Mark Drakeford gadarnhau manylion y drefn o fory ymlaen wrth i Gymru lacio mwyafrif y cyfyngiadau sydd mewn grym ers misoedd i atal lledaeniad Covid-19.

    Fe allwch chi ddilyn y datblygiadau diweddaraf a'r ymateb cyn ac ar ôl cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru, sy'n dechrau am 12:30.

    Arhoswch gyda ni.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images