Cofnodi wyth marwolaeth Covid a 2,317 achos newyddwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2021
Cyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf wedi codi'n sylweddol i 557.8.
Read MoreDim cyhoeddiad sylweddol gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a hynny 5 wythnos ers i Gymru symud i Lefel Rhybudd Sero
Nid yw'n "anochel" y bydd cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno er mwyn delio â lledaeniad cynyddol coronafeirws, yn ôl y prif weinidog
Dywed y Prif Weinidog bod nifer yr achosion o Covid wedi codi yng Nghymru, yn y DU ac yn rhannau eraill o'r byd
Cofnodi pum marwolaeth Covid a 2,467 achos newydd yn y ffigyrau dyddiol diweddaraf, wrth i'r gyfradd achosion godi i 522 fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf
Canlyniadau'r adolygiad sy'n cael ei gynnal bob tair wythnos yn cael eu cyhoeddi'r wythnos nesaf
Cyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf wedi codi'n sylweddol i 557.8.
Read MoreDyna ni o'r gynhadledd heddiw. Dyma'r prif benawdau:
Diolch am ddilyn y llif byw. Am fwy o straeon Cymreig, ewch i Hafan Cymru Fyw.
Mae ffigyrau newydd yn dangos y bu un achos yng Nghymru o amrywiad newydd o coronafeirws - amrywiolyn Mu.
Ychwanegodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y straen at ei restr wylio ar 30 Awst.
Cafodd ei ganfod gyntaf yng Ngholombia ym mis Ionawr ac mae peth pryder y gallai helpu'r feirws i ddianc rhag yr amddiffyniad a roddwyd gan frechlynnau neu wrthgyrff rhag haint Covid-19 blaenorol.
Mae wedi cael ei ganfod mewn mwy na 30 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a sawl gwlad yn Ewrop.
Hyd at 1 Medi, bu 53 achos o'r amrywiad Mu yn y DU, gyda 47 wedi'u canfod yn Lloegr, tri yn yr Alban a dau yng Ngogledd Iwerddon.
Ond dywed Iechyd Cyhoeddus Lloegr - erbyn 8 Medi - nid oedd achosion pellach o'r amrywiolyn wedi'u cofnodi.
Plaid Cymru
Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth na ddylid diystyru pasbort brechu yn llwyr.
"Mi ellid eu defnyddio mewn rhai llefydd cyfyngedig," meddai.
Fe alwodd hefyd am ymchwiliad Covid i Gymru gan mai'r cynlluniau ar hyn o bryd yw bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y DU yn unig.
"Mae Cymru yn fwy na phennod yn y pandemig," ychwanegodd.
Wrth i bwysau ar ysbytai gynyddu, mae'r prif weinidog wedi apelio ar bobl i gymryd pob cam posib i atal y feirws.
Read MoreCeidwadwyr Cymreig
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, ei fod yn gwrthwynebu'r defnydd o basbort Covid ar gyfer defnydd domestig.
"Rwy'n gwrthwynebu'n chwyrn eu cael ar gyfer defnydd domestig," meddai, "am resymau moesegol ond hefyd rhesymau cyfreithiol.
"Mae nifer o resymau, yn wir, pam dwi'n credu bod cael pasbort Covid yn anghywir."
Dywedodd AS Maldwyn hefyd ei fod yn gwrthwynebu cyflwyno cyfnodau clo pellach.
"Rhaid i ni ddysgu o Covid," meddai.
Llywodraeth Cymru
Bydd gweinidogion yn penderfynu wythnos nesaf a fydd angen pasbort brechu i gael mynediad i rai digwyddiadau.
Dywedodd Mark Drakeford: "Mae'r Alban yn cyflwyno pasbort brechu ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr ar y cyntaf o Hydref tra y bydd pobl yn Lloegr angen cyflwyno tystiolaeth o frechu i gael mynd i ddigwyddiadau, lle mae risg uwch, o ddiwedd y mis.
"Mae'n anghyfrifol peidio ystyried cam o'r fath ar gyfer Cymru yn sgil cynnydd yn yr achosion ac felly fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn yr adolygiad ddydd Gwener nesaf.
"Mae nifer o faterion ymarferol a moesegol sydd angen eu hystyried wrth fynnu tystiolaeth o frechu ond ry'n yn ystyried y materion hynny ar hyn o bryd.
"Fydd dim angen pasbort brechu ar unrhyw un sydd angen defnyddio gwasanaeth cyhoeddus angenrheidiol ond petai brechu yn gwneud digwyddiadau y mae rhywun yn mynd iddo'n wirfoddol yn fwy diogel yna mae'n gyfrifoldeb ar y Cabinet i ystyried pasbort brechu."
Llywodraeth Cymru
"Rhaid i bawb fod yn 'gyfrifol' wrth ddefnyddio eu rhyddid," medd y Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr.
"Mae'r cyngor yn un syml - er mwyn cadw y rhyddid ry'n yn ei fwynhau ar hyn o bryd, rhaid i ni gyd ei ddefnyddio mewn ffordd gyfrifol.
"Mae yna ffyrdd syml ac ymarferol i wneud hynny - ac maent yn gwneud gwahaniaeth."
Llywodraeth Cymru
Nid yw'n "anochel" y bydd cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno er mwyn delio â lledaeniad cynyddol coronafeirws, yn ôl y prif weinidog.
Daeth y mwyafrif helaeth o gyfyngiadau Covid i ben yng Nghymru ar 7 Awst.
Ond dywedodd Mark Drakeford fod y GIG dan "bwysau aruthrol".
"Nid yw'r pwysau yn dod o coronafeirws yn unig," meddai.
"Ac mae yna lawer o bethau y gallwn eu gwneud gyda'n gilydd i helpu i ddelio â'r pwysau hynny heb ddychwelyd i'r math o fesurau a welsom yn gynharach yn y flwyddyn."
Bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd dros yr wythnos i ddod i drafod "mesurau pellach y gallwn eu cymryd i helpu i gadw Cymru yn ddiogel."
Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn amcangyfrif bod 46,800 o bobl â Covid yng Nghymru sy'n gyfystyr ag un ymhob 65 o bobl - 1.54% o'r boblogaeth.
Mae'r nifer wedi codi'n sylweddol ers wythnos diwethaf - sef 28,100.
Mae'r ffigyrau'n seiliedig ar brofion swab ac mi allent gynnwys pobl na sy'n ymwybodol bod ganddynt yr haint.
Mae dadansoddiad o'r canlyniadau yn dangos bod 3.4% o blant 10 oed â'r haint a 2.9% o rai 20 oed - mae'r nifer yn gostwng i 1.1% ymhlith pobl 40 ac i 0.6% ymhlith pobl 70 oed.
Ar gyfer gweddill y DU amcangyfrifir mai un o bobl 70 sydd â'r haint yn Lloegr, un ymhob 60 yng Ngogledd Iwerddon ac un ymhob 45 yn Yr Alban.
Llywodraeth Cymru
Dywed y Prif Weinidog bod disgwyl i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gadarnhau trefniadau ar gyfer pigiadau atgyfnerthu yn ystod yr wythnos sydd i ddod.
Dywedodd hefyd bod tystiolaeth o Israel yn awgrymu bod effeithiolrwydd y brechlyn yn lleihau wedi wyth mis ac felly bod brechlynnau atgyfnerthu yn bwysig.
"Fe fyddwn yn anfon gwahoddiadau yn syth wedi'r cyhoeddiad," meddai.
"Yn y cyfamser mae pedwar prif swyddog meddygol y DU yn parhau i drafod ac yn ystyried tystiolaeth bellach ar a ddylid brechu plant 12-15 oed.
"Mae disgwyl y penderfyniad hwnnw'r wythnos nesaf ac os penderfynir o blaid bydd y GIG yng Nghymru yn gweithredu'n syth."
Llywodraeth Cymru
"Mae'n rhaglen frechu gyda'r orau yn y byd - gyda 90% o bobl wedi cael dos cyntaf y brechlyn ac 84% wedi cael dau ddos," ychwanegodd Mr Drakeford.
"Mae dwy ran o dair o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael y dos cyntaf - mae'r ffigyrau yn uchel, diolch i'r bobl sy'n rhan o'r rhaglen frechu, ond mae yna nifer sylweddol o bobl na sydd wedi'u brechu ac yn wynebu risg o gael Covid.
"Mae nifer y rhai sy'n gorfod cael triniaeth ysbyty ddim wedi'u brechu - nifer o'r rhain yn 30 neu iau.
"Dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru - ac felly os nad ydych wedi'ch brechu ewch am bigiad er mwyn diogelu eich hun a'ch anwyliaid."
Llywodraeth Cymru
"Mae'n staff iechyd a gofal wedi blino'n lân wedi iddynt weithio yn ddiflino yn ystod y 18 mis diwethaf," medd y Prif Weinidog.
"Er mwyn helpu'r gwasanaeth rhaid cofio nad yw hi'n ofynnol i bawb cael triniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.
"Rhaid i bobl feddwl pa driniaeth sydd ei hangen ac efallai bod modd cael cymorth gan y fferyllydd neu'r meddyg lleol cyn mynd yn syth i'r ysbyty."
Llywodraeth Cymru
Mae'r ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe yn nodi y bydd y sefyllfa yn gwaethygu yn ystod yr wythnosau nesaf.
"Os yw'r raddfa bresennol yn parhau rhagwelir y bydd 3,200 o achosion y dydd yn cael eu cadarnhau wrth i'r niferoedd gyrraedd eu hanterth erbyn diwedd y mis," meddai.
"Tan nawr mae wedi bod yn bosib rheoli'r cynnydd o ganlyniad i'n rhaglen frechu gwbl wych ac mae hynny wedi helpu i leihau salwch difrifol.
"Ond wrth i'r haint leadenu yn ein cymunedau mae yna bwysau unwaith eto ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn sgil y pandemig.
"Ar hyn o bryd mae oddeutu 40 sydd â Covid yn mynd i'r ysbyty bob dydd - mae 420 o achosion sydd wedi'u cadarnhau mewn ysbytai ar draws Cymru - y nifer uchaf ers mis Mawrth.
"Mae'r model yn awgrymu y gallai y nifer sydd angen triniaeth ysbyty godi i 100 y diwrnod - mae'r niferoedd yma yn cynnwys y rhai sydd angen triniaeth ysbyty am gyfnod hir a'r rhai sydd angen triniaeth gofal dwys.
"Mae'r GIG eisoes o dan bwysau wrth i'r gwasanaeth ymateb i ofynion gofal iechyd brys ac wrth iddyn nhw gynnal llawdriniaethau a oedd eisoes wedi'u cynllunio," medd y Prif Weinidog.
Llywodraeth Cymru
Dywed y Prif Weinidog bod nifer yr achosion o Covid wedi codi yng Nghymru, yn y DU ac yn rhannau eraill o'r byd.
"Roedd yr achosion ar eu hisaf yn Ebrill a Mai ond mae amrywiolyn newydd delta yn golygu bod yr achosion wedi codi ddechrau Mehefin.
"Wrth i'r cyfyngiadau lacio mae'r niferoedd wedi codi - heddiw mae tua 520 achos ymhob 100,000 o bobl yng Nghymru.
"Y tro diwethaf i'r cyfraddau fod mor uchel oedd ym mis Rhagfyr," ychwanegodd.
Llywodraeth Cymru
Wrth ddechrau ar ei araith dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd canlyniadau'r adolygiad sy'n cael ei gynnal bob tair wythnos yn cael eu cyhoeddi'r wythnos nesaf.
Ond dywed ei fod am roi manylion y darlun iechyd cyhoeddus diweddaraf heddiw wrth i bawb ddychwelyd i'r ysgol ac i'r gwaith yr wythnos hon.
"Dyma'r wybodaeth," meddai, "y bydd y Cabinet yn ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau yn ystod yr wythnos nesaf.
"Mae'n cynnwys ymchwil arbenigol a newydd gan Brifysgol Abertawe."
Ychwanegodd y Prif Weinidog mai ei brif neges, er bod cyfyngiadau wedi eu llacio, yw nad yw'r feirws wedi diflannu - "dyw'r pandemig ddim ar ben yma yng Nghymru".
Mae modd hefyd gwylio'r gynhadledd ar S4C neu ar yr iPlayer yma.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae pum marwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 wedi'u cofnodi yng Nghymru dros y 24 awr hyd at 09:00 fore Iau.
Mae'n dod â chyfanswm y marwolaethau - yn ôl dull Iechyd Cyhoeddus Cymru o gofnodi - i 5,726.
Cadarnhawyd 2,467 o achosion newydd o'r feirws hefyd, gan ddod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 303,743.
Mae'r gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf wedi codi eto - o 501.8 i 522.7.
Yn y cyfamser, mae bwrdd iechyd yn ne Cymru wedi cyfyngu ar ymweliadau ysbytai yn sgil cynnydd mewn cleifion coronafeirws.
O heddiw ymlaen, ni fydd ymwelwyr yn cael mynychu unrhyw un o ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sydd wedi eu lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Dywedodd y bwrdd iechyd mewn datganiad eu bod wedi cyflwyno'r cyfyngiadau "er diogelwch ein cleifion a'n staff".
Mae'r penderfyniad yn rhoi cyfle i'r bwrdd "reoli lefelau Covid yn ein hysbytai", medden nhw.