Crynodeb

  • Dim cyhoeddiad sylweddol gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a hynny 5 wythnos ers i Gymru symud i Lefel Rhybudd Sero

  • Nid yw'n "anochel" y bydd cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno er mwyn delio â lledaeniad cynyddol coronafeirws, yn ôl y prif weinidog

  • Dywed y Prif Weinidog bod nifer yr achosion o Covid wedi codi yng Nghymru, yn y DU ac yn rhannau eraill o'r byd

  • Cofnodi pum marwolaeth Covid a 2,467 achos newydd yn y ffigyrau dyddiol diweddaraf, wrth i'r gyfradd achosion godi i 522 fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf

  • Canlyniadau'r adolygiad sy'n cael ei gynnal bob tair wythnos yn cael eu cyhoeddi'r wythnos nesaf

  1. Caniatáu profion teithio preifat mewn rhai achosionwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 10 Medi 2021

    Mae modd i deithwyr ddefnyddio profion Covid preifat os nag yw'n bosib cael profion sydd wedi eu cymeradwyo mewn pryd, medd Llywodraeth Cymru.

    Daw'r penderfyniad wedi i un teithiwr o Gaerdydd dreulio oriau yn ceisio cael y prawf angenrheidiol.

    Mae Dafydd Sion wedi trefnu hedfan i Sbaen wythnos nesaf ac mae'n poeni na fydd hi'n bosib iddo gael y prawf sydd wedi'i gymeradwyo mewn pryd er ei fod wedi treulio oriau ar-lein ac ar y ffôn gyda'r asiantaeth, CTM.

    O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn rhaid iddo dalu y ddirwy o £1,000 am ddefnyddio y prawf PCR anghywir.

    Darllenwch am ei stori'n llawn yma.

    Mae profion PCR y Gwasanaeth Iechyd yn costio £68 yr unFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae profion PCR y Gwasanaeth Iechyd yn costio £68 yr un

  2. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 10 Medi 2021

    Diolch am ymuno gyda ni heddiw ar gyfer ein llif byw arbennig sy'n dod â'r diweddaraf i chi am sefyllfa'r pandemig yng Nghymru.

    Bydd cynhadledd Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei harwain heddiw gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, yn dechrau am 12:15.

    Does dim disgwyl unrhyw gyhoeddiad sylweddol, ond bydd Mr Drakeford yn rhoi trosolwg o'r sefyllfa yn ein hysbytai a diweddariad ar y rhaglen frechu, ymysg pethau eraill.

    Cyn hynny, dyma ambell stori berthnasol sydd wedi bod yn y penawdau heddiw...