Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford fu'n cynnal y gynhadledd

  • Rhaid i bobl gael pasbort brechu neu brawf negyddol er mwyn mynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr o fis nesaf

  • Dim newidiadau eraill i reolau Covid-19 Cymru am o leiaf tair wythnos

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw heddiw, wrth i'r Prif Weinidog Mark Drakeford cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno Pàs Covid ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru.

    Bydd pobl angen dangos eu bod wedi cael eu brechu'n llawn neu wedi cael prawf negyddol am Covid er mwyn mynychu rhai digwyddiadau o 11 Hydref ymlaen.

    Fe wnaeth Mr Drakeford hefyd annog pobl i weithio gartref pan fo modd.

    Mae'r manylion llawn ar gael yn yr erthygl ar ein hafan.

    Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro!

    ClwbFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Rhagweld 'problemau gyda gweithredu'r cynllun'wedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Plaid Cymru

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru fod "elfennau o'r cynllun Pàs Covid yma yn fy nrysu".

    "Mae'n targedu grwpiau mwy o bobl - ry'n ni'n sôn am gemau pêl-droed, nid dim ond clybiau nos - felly mae problemau gyda gweithredu'r cynllun yn sicr," meddai.

    Rhun ap Iorwerth
  3. Cwestiynu amseru cyflwyno'r Pàs Covidwedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies ei fod yn "amheus iawn" o'r amserlen i gyflwyno'r Pàs Covid.

    "Mae 11 Hydref rai wythnosau ar ôl brig y drydedd don yn ôl modelu'r llywodraeth," meddai.

    Roedd yn feirniadol hefyd nad oedd y Prif Weinidog wedi trafod y nifer o achosion sy'n cael yr haint mewn ysbytai, ac na roddodd ddigon o sylw i'r ffaith fod nifer o fyrddau iechyd wedi gorfod gohirio triniaethau.

    "Dyma ddwy broblem fawr, a hyd yma dydyn ni ddim wedi cael cynllun ar gyfer y gaeaf gan Lywodraeth Cymru chwaith," meddai.

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Ystyried gwneud ffugio Pàs Covid yn droseddwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried "dros y dyddiau nesaf" a ddylen nhw ei gwneud hi'n "drosedd benodol" i ffugio Pàs Covid yn fwriadol, yn ôl y Prif Weinidog.

    Dywedodd Mark Drakeford fod gweinidogion "yn gywir i fod yn bryderus" am y syniad gall pobl gamddefnyddio'r broses brofi.

    "Os oes yna bobl sy'n meddwl bod hwn yn hawdd, eu bod nhw'n gallu dyfeisio canlyniadau, fe allan nhw ddarganfod bod yna oblygiadau arwyddocaol iddyn nhw am wneud hynny," meddai.

    Ond dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn credu bod "y nifer helaeth o bobl eisiau helpu, eisiau gwneud y peth cywir".

    Pan ofynnwyd iddo sut fyddai'r Pàs Covid yn gwella cyfraddau brechu, yn enwedig ymysg pobl ifanc, dywedodd Mr Drakeford "nad yw'r system yn bennaf yn fesur i wella'r [cyfraddau] brechu ond rydw i'n gobeithio y bydd yn cael effaith ar hynny hefyd".

    Pas CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Cabinet wedi cwrdd pedair gwaith i drafod Pàs Covidwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Fe wnaeth y cabinet gwrdd pedair gwaith yr wythnos hon i drafod cyflwyno Pàs Covid, yn ôl y Prif Weinidog.

    Cafodd y penderfyniad terfynol ond ei wneud brynhawn ddoe.

    Wrth siarad yn ystod y gynhadledd dywedodd Mark Drakeford nad ydyn nhw'n cael eu cyflwyno tan 11 Hydref er mwyn rhoi amser i'r sectorau perthnasol baratoi.

    Dywedodd: "Rydw i fy hun yn ymwybodol iawn, ac mae'r cabinet wastad yn ymwybodol iawn o oblygiadau popeth sy'n ymwneud â rhyddid sifil.

    "Does neb eisiau ymyrryd â rhyddid sifil pobl, heblaw am er mwyn atal rhoi mwy o gyfyngiadau ar fywydau pobl."

    Dywedodd fod y rheiny sy'n dioddef o Covid-19 hefyd â hawliau, gan ychwanegu mai "rhan o'u ryddid nhw yw byw mewn cymuned ble rydyn ni'n dilyn mesurau rhesymol er mwyn cadw ein gilydd yn ddiogel".

  6. Triniaethau: 'Anodd cael y cydbwysedd cywir trwy'r gaeaf'wedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn cydymdeimlo gyda byrddau iechyd sydd wedi gorfod gohirio triniaethau oherwydd pwysau Covid-19 ar ysbytai.

    "Mesur dros dro ydy e pan maen nhw'n gwneud hyn, ac maen nhw'n awyddus i ddychwelyd i ddarparu'r triniaethau arferol hynny cyn gynted â'i bod yn ddiogel gwneud hynny," meddai.

    "Ond mae hi am fod yn anodd cael y cydbwysedd cywir trwy'r gaeaf."

    Mark Drakeford
  7. Cynlluniau pàs Covid yn 'siomedig'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi disgrifio'r cynlluniau i gyflwyno "pasbort brechu" yng Nghymru fel "siomedig".

    Dywedodd yr arweinydd Jane Dodds y bydd hi'n pleidleisio yn erbyn y mesur os oes pleidlais arno yn y Senedd.

    "Byddai cyflwyno hyn yn golygu, am y tro cyntaf, y byddwch yn cael cais i roi gwybodaeth feddygol preifat i ddieithryn er mwynhau mwy o ryddid o fewn cymdeithas, ond ni fydd yn lleihau cyfraddau trosglwyddo," meddai.

    "Mae pasbortau brechu yn tarfu ar ein hawliau sifil, ac fe fyddan nhw'n eithrio cymunedau du ac ethnig yn anghymesur - cymunedau sydd, hyd yma, wedi bod yn llai parod nag eraill i gael eu brechu.

    "Brechlynnau yw ein ffordd allan o'r pandemig, ond nid pasbortau brechu."

    JD
  8. Covid-19: Wyth marwolaeth yn rhagorwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Cafodd wyth marwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr hyd at 09:00 fore Iau.

    Mae'n dod â chyfanswm y marwolaethau - yn ôl dull Iechyd Cyhoeddus Cymru o gofnodi - i 5,782.

    Cadarnhawyd 2,618 o achosion newydd o'r feirws hefyd, gan ddod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 320,099.

    Er hyn, mae'r gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf wedi disgyn am y pumed diwrnod yn olynol - o 500.1 i 487.6.

    Mae'r gyfradd yna ar ei huchaf yng Nghastell-nedd Port Talbot (730.6), Sir Gaerfyrddin (678.1) a Merthyr Tudful (669.7) - ond mae'r ffigyrau hynny yn gostwng yn gyffredinol.

    Mae'r raddfa yn Sir Fynwy bellach o dan 200 (189.2) gyda Sir Benfro yr ail isaf ar 293.3, dyna unig siroedd gyda chyfradd sy'n llai na 300.

    Graff yn dangos nifer y marwolaethau yng Nghymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Covid-19: Marwolaethau yng Nghymru

  9. Pàs Covid yn 'fwy na phrawf brechu yn unig'wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford fod un ffordd arall o atal coronafeirws, sef pàs Covid.

    Ychwanegodd bod y mater yn codi cwestiynau cyfreithiol, moesegol ac ymarferol, ond eu bod wedi penderfynu cyflwyno cynllun o'r fath ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr o 11 Hydref.

    Fe fydd y pàs yn cadarnhau eich statws brechu, neu yn cadarnhau eich bod wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn y deuddydd diwethaf.

    Mynnodd bod pàs Covid yn wahanol i brawf eich bod wedi'ch brechu oherwydd bod modd cael mynediad i glybiau neu ddigwyddiadau gyda phrawf negyddol, yn ogystal â chael eich brechu'n llawn.

    Dywedodd bod hyn er mwyn peidio â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd methu cael eu brechu.

  10. 'Angen parhau i weithio o adref'wedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd gweithio o adref yn parhau i gael ei annog, meddai'r Prif Weinidog.

    Dywedodd Mark Drakeford: "Os nad ydych yn gorfod bod yn y swyddfa, gweithiwch o adref pryd bynnag rydych chi'n gallu."

    Ychwanegodd fod y pwyslais ar weithio o adref yn wahanol i'r cynllun yn Lloegr.

    "Yn Lloegr, mae gweithio o adref yn rhan o Gynllun B - fan hyn mae'n rhan o Gynllun A ac yn cyd-fynd â chyngor SAGE i adeiladu ein hamddiffyniadau'n gynnar," meddai.

  11. 'Byth yn rhy hwyr i gael eich brechu'wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford fod dros 90% o bobl wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn yn y mwyafrif o grwpiau blaenoriaeth.

    Ond ymysg pobl 18-39 oed, mae tua 30% eto i dderbyn dau ddos.

    Dywedodd eto nad yw hi fyth yn rhy hwyr i gael eich brechu, ac mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol i ddiogelu eich hunain a phawb o'ch cwmpas.

    "Mae wedi atal miloedd o achosion o salwch difrifol a marwolaethau eleni," meddai.

  12. Rhaglen frechu plant 12-15 oed i ddechrau fis Hydrefwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd llythyrau yn dechrau cael eu hanfon yn fuan i bobl 12-15 oed yn eu gwahodd i gael brechlyn, meddai'r Prif Weinidog.

    Dywedodd Mr Drakeford y byddai llythyrau yn dechrau cael eu hanfon "yr wythnos nesaf".

    "Byddan nhw'n derbyn un dos o'r brechlyn Pfizer ac rydym yn disgwyl dechrau'r rhaglen frechu erbyn 4 Hydref," meddai.

    Ychwanegodd: "Bydd hwn yn rhoi amser i deuluoedd siarad am y brechlyn.

    "Fe fyddwn ni hefyd yn dyblu ar ein hymdrechion i annog pawb sydd heb gael y brechlyn eto i gael un."

  13. Annog pawb sy'n gymwys am frechlyn arall i'w dderbynwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog mai'r "ffordd orau o amddiffyn ein hunain ydy cael ein brechu".

    Oherwydd hynny mae'n annog pawb sy'n gymwys i dderbyn brechlyn atgyfnerthu, sydd wedi dechrau cael eu darparu yng Nghymru'r wythnos hon.

    Pobl sy'n byw a gweithio mewn cartrefi gofal a staff iechyd fydd yn cael eu blaenoriaethu, cyn i'r grwpiau blaenoriaeth eraill ei dderbyn dros yr wythnosau nesaf.

  14. 'Rhaid dilyn pum cam i barhau yn Lefel 0'wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth siarad yn ystod y gynhadledd i'r wasg, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod y cabinet wedi penderfynu cadw Cymru o dan gyfyngiadau Lefel 0 am dair wythnos arall.

    Ond ychwanegodd Mr Drakeford y byddai'n rhaid cymryd pum cam er mwyn sicrhau bod Cymru'n gallu parhau i aros ar Lefel 0 trwy'r hydref.

    Dywedodd y byddai'n rhaid "dechrau'r ymgyrch brechlynnau atgyfnerthu; cynnig brechlynnau i bobl 12-15 oed; ail-bwysleisio pwysigrwydd gweithio o adref; codi ymwybyddiaeth ac atgyfnerthu'r gyfraith yn ymwneud â gwisgo mygydau tu fewn; a chyflwyno pasbort Covid".

  15. Mwy angen triniaeth ysbyty, a mwy yn marwwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhaledd fod y gyfradd achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl wedi cynyddu o tua 415 dair wythnos yn ôl i tua 490 heddiw.

    Ychwanegodd y Prif Weinidog bod cynnydd wedi bod hefyd yn nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty oherwydd Covid-19, nifer y bobl sydd angen gofal dwys, a marwolaethau

    Dywedodd fod y gwasanaeth iechyd dan bwysau aruthrol, ac y gall pobl leddfu'r pwysau ar wasanaethau trwy beidio mynychu unedau brys oni bai ei fod yn hanfodol.

  16. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Ar gyfer beth fydd angen cael pasbort brechu?wedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Fe fydd y gofyniad i ddangos Pàs COVID y GIG i rym ar 11 Hydref.

    O hynny ymlaen, bydd angen i bobl dros 18 oed gael y 'pasbort brechu' i fynd i'r canlynol:

    • Clybiau nos;
    • Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, fel cyngherddau neu gonfensiynau;
    • Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl;
    • Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy'n cynnwys mwy na 10,000 o bobl.

    Gall pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pàs COVID y GIG i ddangos a rhannu eu statws brechu.

    Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.

    CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Y gynhadledd yn dechrau mewn pum munudwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Cyfnod clo yw'r 'peth olaf rydyn ni am ei weld'wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford yn ei ddatganiad: "Ledled Cymru, mae achosion o'r coronafeirws wedi codi i lefelau uchel iawn dros yr haf wrth i ragor o bobl ddod at ei gilydd a chyfarfod ac, yn drasig, mae rhagor o bobl yn marw o'r feirws ofnadwy hwn.

    "Y peth olaf rydyn ni am ei weld yw rhagor o gyfyngiadau symud a busnesau yn gorfod cau eu drysau eto.

    "Dyna pam mae rhaid inni gymryd camau bach ond ystyrlon yn awr i reoli lledaeniad y feirws a lleihau'r angen am fesurau llymach yn nes ymlaen."

    Ar ddiwedd y cyfnod adolygu diweddaraf o'r rheolau Covid, dywedodd hefyd y bydd ymwybyddiaeth o fesurau diogelu Covid allweddol eraill a chamau i'w gorfodi yn cynyddu.

    Bydd y mesurau hyn yn cynnwys gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Cyflwyno pasbort brechu yng Nghymru o fis nesafwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi y bydd yn rhaid i bobl gael pasbort brechu neu ddangos eu bod wedi cael prawf negyddol am Covid er mwyn mynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr o fis nesaf ymlaen.

    Cyn y gynhadledd dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y mesur wedi'i gyflwyno er mwyn ceisio rheoli lledaeniad coronafeirws.

    Bydd y lefel rhybudd yn parhau ar sero am y tair wythnos nesaf er bod nifer yr achosion yn uchel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd.

    Fe wnaeth Mr Drakefod hefyd annog pobl i weithio gartref pan fo modd, ac i sicrhau eu bod yn cael eu brechu'n llawn.