Beth ydy barn y gwrthbleidiau ar basportau brechu?wedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich+1 17 Medi 2021
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies fod ei blaid "yn glir yn ein gwrthwynebiad o basbortau brechu, ac fe fyddwn yn annog gweinidogion Llafur i ddileu unrhyw gynlluniau sydd ganddyn nhw i'w cyflwyno".
Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth yn credu y dylid gwahardd pasbortau brechu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, "ond os yw'r dystiolaeth yn dangos eu bod yn gallu cyfyngu ar ymlediad [y feirws] mewn rhai lleoliadau y mae pobl yn dewis eu mynychu yna mae'n gwneud synnwyr i'w hystyried".
Ychwanegodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Mae pasbortau brechu yn tarfu ar ein hawliau sifil, ac fe fyddan nhw'n eithrio cymunedau du ac ethnig yn anghymesur - cymunedau sydd, hyd yma, wedi bod yn llai parod nag eraill i gael eu brechu".