Crynodeb

  • Cymru i groesawu Awstria i Gaerdydd yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle

  • Bydd enillwyr y gêm honno gartref yn erbyn Yr Alban neu Wcrain yn y ffeinal

  • Fe fydd y gemau ail gyfle (un cymal) i gael eu chwarae ar 24 a 29 Mawrth 2022

  1. Pwy 'dan ni eisiau - a phwy 'dan ni eisiau osgoi?wedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Er bod Cymru gartref yn y rownd gynderfynol, mae 'na ambell sawl tîm heriol allen ni wynebu hyd yn oed ymhlith y rheiny sydd ddim yn y detholion uchaf.

    Mae'r Wcrain (25ain) a Gwlad Pwyl (27ain) yn weddol agos i ni ar restr detholion FIFA (mae Cymru'n 19eg), tra bod Awstria (30ain), Gweriniaeth Tsiec (31ain) a Thwrci (37ain) hefyd yn dimau safonol - Gogledd Macedonia (67ain) yw'r gwanaf yn y pot yma.

    O'r detholion allen ni wynebu yn y ffeinal, mae tri ohonyn nhw'n uwch na ni yn y rhestr - Yr Eidal (6ed), Portiwgal (8fed) a Sweden (18fed).

    Yn ôl rhestrau FIFA, felly, Rwsia (34ain) neu'r Alban (38ain) fyddai'r timau gorau i'w cael yn ein llwybr ni.

    Yr Eidal yn ennill Euro 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr Eidal oedd enillwyr Euro 2020 - ond maen nhw yn y gemau ail gyfle ar ôl gorffen yn ail i'r Swistir yn eu grŵp rhagbrofol

  2. Beth ydy trefn y seremoni?wedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Mae'r seremoni yn dechrau yn Zurich am 16:00, ond fel sy'n arferol gyda'r pethau yma, does dim disgwyl i'r enwau ddechrau cael eu dewis yn syth.

    Unwaith bydd hynny'n digwydd, y chwe phrif ddetholion fydd yn dod allan o'r het gyntaf - felly ar y pwynt yna, mi fyddwn ni'n gwybod pa dîm 'mawr' sydd yn llwybr Cymru, ac felly o bosib am ein hwynebu ni yn y ffeinal.

    Yna fe fydd y chwe thîm arall yn cael eu dewis, ac felly byddwn ni'n darganfod pa un fydd yn dod i Gaerdydd ar gyfer y gêm gynderfynol.

    Yn olaf, fe fydd un bêl bwysig arall yn dod allan o'r pot - yr un fydd yn penderfynu enillwyr pa un o'r ddau 'bâr' fydd yn cael bod adref yn y ffeinal.

    Cwpan y BydFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Sut mae'r gemau ail gyfle yn gweithio?wedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Mae Cymru'n gwybod eu bod nhw bellach ddwy gêm o Gwpan y Byd, gyda rownd gynderfynol ar 24 Mawrth a ffeinal bosib ar 29 Mawrth.

    Fel un o'r prif ddetholion, bydd Cymru gartref yn yr ornest gyntaf yn erbyn unai Gwlad Pwyl, Wcrain, Twrci, Gogledd Macedonia, Gweriniaeth Tsiec neu Awstria.

    Yna bydd ffeinal yn cael ei chwarae yn erbyn enillwyr un o'r 'parau' eraill - allai gynnwys Yr Eidal, Portiwgal, Sweden, Rwsia neu'r Alban.

    Mae'n golygu mai tri lle yn unig sydd yn Qatar i'r 12 tîm fydd yn cystadlu yn y gemau ail gyfle.

    Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Aaron Ramsey'n dathlu ar ôl y canlyniad yn erbyn Gwlad Belg sicrhaodd le Cymru fel un o brif ddetholion y gemau ail gyfle

  4. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Prynhawn da a chroeso i'n llif byw arbennig wrth i Gymru ganfod pwy fydd yn rhaid trechu os ydy tîm Rob Page am gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

    Ar ôl gorffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol, bydd Cymru ymysg y prif ddetholion wrth i'r enwau ddod allan o'r het yn Zurich ar gyfer y gemau ail gyfle.

    Bydd yn rhaid i Gymru ennill dwy gêm os ydyn nhw am gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, ac fe fyddwn ni'n darganfod eu gwrthwynebwyr yn y rownd gynderfynol, a'r gwrthwynebwyr posib yn y rownd derfynol yn ystod yr awr neu ddwy nesaf.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan!

    cwpan y byd