Cofnodi pedwar achos newydd o Omicron yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich 10 Rhagfyr 2021
Cofnodi pedwar achos newydd o Omicron a naw marwolaeth arall cysylltiedig â Covid.
Read MoreRhaid i bobl sy'n dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi'i heintio ag amrywiolyn Omicron hunan-ynysu am 10 diwrnod
Angen i bawb wisgo mygydau mewn ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion
Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i gadw ysgolion ar agor
Y cynllun brechu yn mynd i fod yn heriol a galw am fwy o bobl i gynorthwyo
Derbyn argymhellion y JCVI ar frechu
Cofnodi pedwar achos newydd o Omicron a naw marwolaeth arall cysylltiedig â Covid.
Read MoreY Gweinidog Iechyd yn rhybuddio rhag cymdeithasu gormod yn ystod y gwyliau oherwydd pryderon amrywiolyn Omicron.
Read MoreA dyna'r cyfan o'r gynhadledd ar y diwrnod y dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod amrywiolyn Omicron yn "ddatblygiad difrifol arall yn y pandemig".
Cadarnhaodd yr orfodaeth i wisgo mwgwd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion a'r rheolau teithio newydd.
Os oes unrhyw un yn dod i gysylltiad agos neu gysylltiad posib â'r amrywiolyn newydd bydd rhaid hunan-ynysu am 10 diwrnod - os ydynt wedi'u brechu ai peidio.
Dywedodd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i gadw ysgolion ar agor a bod y gweinidog addysg yn cadw golwg ofalus ar y sefyllfa.
Fe fydd mwy o drafodaeth ar lawr y Senedd y prynhawn yma yn ystod cwestiynau 'r Prif Weinidog.
Diolch i chi am eich cwmni - mae gweddill newyddion y dydd ar wefan Cymru Fyw.
Llywodraeth Cymru
Dywed y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, "na fydd eithriad" i reolau hunan-ynysu carfan Rygbi Caerdydd.
"Ry'n am i'r bechgyn ddychwelyd adref ond fe fydd rhaid i'r amodau fod yr un fath â phawb arall. Fyddan nhw ddim yn eithriad.
"Fe fydd yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu ond does dim lle yng Nghymru iddyn nhw wneud hynny.
"Fe fyddai eu trosglwyddo o'r maes awyr i westy yng Nghymru yn cynyddu'r risg ac fe fyddai gofyn i westy yng Nghymru i ddod yn westy hunan-ynysu cyn y Nadolig yn ormod i'w ofyn," ychwanegodd.
Ceidwadwyr Cymreig
Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Russell George y dylai Llywodraeth Cymru gael “gweinidog brechu” pwrpasol.
Dywedodd y byddai hyn yn caniatáu i weinidog ganolbwyntio ar y rhaglen frechu tra gallai'r gweinidog iechyd ddelio â'r pwysau eraill sy'n wynebu'r GIG.
“Mae’r gweinidog iechyd bellach yn cael ei dynnu i bob cyfeiriad a dyna pam mae angen gweinidog brechu pwrpasol arnom er mwyn i’r gweinidog iechyd allu delio â’r pethau anodd eraill a gall y gweinidog brechu ganolbwyntio ar gyflwyno canolfannau cerdded i mewn, sydd angen eu cael yn ôl, a’r canolfannau brechu torfol hynny y mae angen eu hailagor hefyd.
“Y flaenoriaeth nawr yw cael y brechiad i freichiau pobl," ychwanegodd.
Plaid Cymru
Ar ran Plaid Cymru dywedodd Delyth Jewell ei bod yn bryderus am les staff rheng flaen y GIG.
"Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn hynod o anodd i weithwyr y GIG a gweithwyr cymdeithasol.
"Rhaid i ni sicrhau fod cefnogaeth ar gael i bobl a fydd yn wynebu straen yn ystod yr wythnosau nesaf," meddai.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru am gadw ysgolion ar agor "cyn hired â phosib" er y pryderon presennol am yr amrywiolyn newydd, medd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.
"Ry'n yn ymwybodol o'r niwed y gall hyn ei wneud i blant, mae eu tynnu o'r ysgol yn achosi anawsterau" o ran addysg ac iechyd meddwl.
"Felly byddwn yn gwneud ein gorau i gadw ysgolion ar agor a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r mesurau ar wisgo mygydau - nid dim ond yn y coridorau ond yn y dosbarthiadau hefyd," meddai.
"Ry'n am i blant wneud profion y flwyddyn nesaf, ac am bob diwrnod y maent yn ei golli mae'n anodd bwrw ymlaen â'r profion hynny.
"Y gweinidog addysg fydd yn penderfynu ar hynny, ac rwy'n gwybod ei fod yn cadw golwg agos ar y sefyllfa," ychwanegodd.
Mae'n rhy gynnar i ddweud a fydd cyfyngiadau newydd, meddai Eluned Morgan ond dylai pobl "ymddwyn yn ofalus a chymryd o ddifrif y sefyllfa a'r bygythiad, yn wir, o gymysgu â phobl eraill y tu mewn yn ystod y cyfnod hwn".
"Nid yw Omicron wedi cyrraedd Cymru eto, ond cwestiwn o amser yn unig ydyw cyn iddo wneud."
Llywodraeth Cymru
Mae'r JCVI hefyd yn argymell bod disgyblion 12-15 oed yn cael ail ddos o frechlyn Pfizer-BioNTech - o leiaf 12 wythnos wedi'r dos cyntaf.
"Fe fyddwn ni yn dilyn y cyngor hwnnw," medd Dr Gill Richardson.
"Bydd ehangu'r rhaglen frechu yn her," ychwanegodd.
"Fe fydd yn rhaid brechu ar raddfa gyflymach ac ehangu'r gweithlu.
"Mae gennym ddigon o gyflenwad ac fe fyddwn yn gweithio gyda'r GIG i wireddu'r cynlluniau.
"Bydd mwy o glinigau, ac fe fyddwn yn defnyddio safleoedd lle mae "gyrru mewn" yn bosib.
"Mae yna lawer nad ydym yn gwybod am yr amrywiolyn hwn ond fe fydd cael cryfhau'r diogelwch y mae brechu yn ei roi i ni o gymorth.
"Dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu," meddai.
Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig i'r sawl sydd wedi cael Covid-19 i gael brechiad - fe fydd brechu yn rhoi amddiffyniad mwy parhaol."
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Dywed Dr Gill Richardson, dirprwy brif swyddog meddygol rhaglen brechlyn Covid-19, Llywodraeth Cymru y bydd pob oedolyn yn cael brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru - a bod hyn yn golygu ehangu'r rhaglen i gynnwys pawb sydd rhwng 18 a 39 - pobl sydd eisoes wedi cael dau ddos o'r brechlyn.
"Fe fyddwn yn brechu pobl hŷn yn gyntaf a'r rhai sydd mewn grwpiau risg.
"Mae dros 840,000 o bobl wedi cael brechlyn atgyfnerthu hyd yma - pobl 65 a throsodd, pobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartref gofal a gweithwyr rheng flaen y GIG gan fwyaf.
"Mae'r JCVI yn argymell ein bod yn cwtogi y cyfnod rhwng yr ail ddos a'r brechlyn atgyfnerthu i dri mis," meddai.
Llywodraeth Cymru
Mae'r gweinidog iechyd yn cadarnhau y rheolau am wisgo mwgwd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion unwaith eto.
Mae'n dweud hefyd y bydd y rheolau hunan-ynysu yn newid.
"Os bydd rhywun yn gysylltiad agos i achos sydd wedi ei gadarnhau neu achos posib o Omicron yng Nghymru, bydd rhaid iddynt hunan-ynysu am 10 diwrnod - beth bynnag eu hoed neu statws brechu," meddai.
Llywodraeth Cymru
Dywed y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod y Prif Weinidog a Phrif Weinidog Yr Alban wedi gofyn i'r DU ailgyflwyno yr orfodaeth i deithwyr wedi'u brechu gael prawf PCR ar yr wythfed diwrnod wedi dychwelyd - fel amddifyniad pellach rhag yr haint.
Llywodraeth Cymru
Er mwyn atal lledaeniad yr haint a chadw Cymru'n ddiogel dywed y gweinidog iechyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau yn ystod y dyddiau diwethaf.
"Mae'r prif ffocws wedi bod ar deithio rhyngwladol," meddai.
"Yn unol â phenderfyniad gweddill y DU ry'n wedi gosod 10 o wledydd De Affrica ar restr goch teithio rhyngwladol.
"Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw un sy'n teithio i Gymru o'r gwledydd yma gwblhau 10 diwrnod o gwarantin, mewn gwesty penodol.
"Yn ogystal bydd teithwyr sydd wedi'u brechu ac yn dychwelyd i'r DU o wlad na sydd ar restr goch yn gorfod hunan-ynysu a chymryd prawf PCR o fewn deuddydd wedi dychwelyd.
"Os yn cael prawf negatif nid oes rhaid iddynt hunanynysu wedi hynny ond os yw'r prawf yn bositif bydd rhaid hunanynysu am 10 diwrnod neu tan eu bod yn cael prawf negatif," ychwanegodd.
Wrth agor y gynhadledd dywed y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod "am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymddangosiad yr amrywiolyn coronafeirws newydd – sy’n cael ei adnabod fel omicron – a'r camau rydyn ni’n eu cymryd yng Nghymru i'ch diogelu".
Mae'n cadarnhau bod 14 achos wedi eu cadarnhau yn y DU a bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i fwy o achosion posib.
"Does dim achosion yng Nghymru ar hyn o bryd," meddai ond "mae'n rhaid i ni baratoi".
"Mae hwn yn ddatblygiad difrifol arall yn y pandemig, ac yn un rydyn ni’n ei gymryd o ddifri," ychwanegodd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd amrywiolyn Omicron ei ganfod yn Ewrop yn gynt na'r hyn a gredwyd yn wreiddiol.
Dywed swyddogion iechyd yn Yr Iseldiroedd ei fod wedi ei ganfod yno dros wythnos yn ôl wedi dau brawf dilynol rhwng 19 Tachwedd a 23 Tachwedd.
Fe glywson ni gyntaf am yr amrywiolyn newydd wedi iddo gael ei ganfod yn Ne Affrica ar 24 Tachwedd.
"Dyw hi ddim yn glir a wnaeth y bobl yma ymweld â De Affrica," medd swyddogion.
Wrth ymateb i orchymyn Llywodraeth Cymru ei bod hi'n ofynnol i wisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion unwaith eto dywedodd Debbie Thomas, pennaeth polisi National Deaf Children's Society Cymru: "Fe ddylai iechyd cyhoeddus fod yn flaenoriaeth ond mae'n rhaid cofio bod gorchuddio wyneb yn gwneud bywyd yn anodd iawn i blant a myfyrwyr byddar.
"Mae'n amhosib darllen gwefusau a mynegiant wynebau.
"Mae angen i ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion siarad â'u disgyblion a myfyrwyr byddar ar frys er mwyn sichrau nad yw eu haddysg yn dioddef.
"Os ydynt ar eu hôl hi - gallai effaith hynny bara am flynyddoedd."
O heddiw ymlaen bydd yn rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn Lloegr - mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Ers 04:00 bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n cyrraedd y DU gael prawf PCR o fewn 48 awr a bydd hi'n ofynnol i deithwyr hunanynysu nes bod y canlyniad yn un negyddol.
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.