Crynodeb

  • Rhaid i bobl sy'n dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi'i heintio ag amrywiolyn Omicron hunan-ynysu am 10 diwrnod

  • Angen i bawb wisgo mygydau mewn ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion

  • Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i gadw ysgolion ar agor

  • Y cynllun brechu yn mynd i fod yn heriol a galw am fwy o bobl i gynorthwyo

  • Derbyn argymhellion y JCVI ar frechu

  1. Rhai pobl yn dechrau canslo byrddau mewn bwytaiwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2021

    Dywed Chris Seager, sy'n berchen ar dri bwyty yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin bod pobl yn dechrau canslo byrddau.

    "Dyw canslo bwrdd i nifer fach ddim yn broblem ond mae rhai partïon mawr wedi dechrau canslo ac mae hynna'n broblem pan nad oes llawer o rybudd.

    "Fe wnaeth un parti o 20 ganslo ddoe - mae'r amrywiolyn newydd yn newid pethau - mae pobl hŷn yn dymuno bod yn fwy gofalus.

    "Ni ddim yn anghytuno - ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid i bobl wneud be sy'n iawn iddyn nhw.

    "Ar hyn o bryd ry'n yn cadw at y canllawiau ac ry'n yn gobeithio na fydd yna fwy o ganllawiau gan bod gallu gwneud elw yn anodd.

    "Rwy'n credu bydd hyn yn taro busnesau - yn enwedig lletygarwch."

    bwytaiFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Ceidwadwyr: 'Angen cadw ysgolion ar agor'wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Cyn y gynhadledd fe ddywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn dymuno i'r llywodraeth:

    • Benodi gweinidog brechu;
    • Sicrhau canolfannau 'cerdded i mewn' i gael y brechlyn atgyfnerthu;
    • Ailofyn i wirfoddolwyr am gymorth er mwyn sicrhau 'y fyddin frechu'
    • Sefydlu canolfannau llawfeddygol rhanbarthol i ostwng rhestrau aros'
    • Ymrwymo i gadw ysgolion ar agor;
    • Ymrwymo i lacio cyfyngiadau fel cael gwared ar basborts frechu - os nad yw amrywiolyn Omicron yn fwy peryglus na Delta.
    ysgolionFfynhonnell y llun, PA Media
  3. 'Dim cynlluniau i gau busnesau ar hyn o bryd'wedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y prif weinidog ddydd Llun nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i gau busnesau - er bod llythyr wedi cael ei anfon i'r Trysorlys yn gofyn am gymorth petai Llywodraeth Cymru yn dewis cymryd mesurau pellach.

    "Pwynt y llythyr yw sicrhau na fydd Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn a wnaethant y llynedd," meddai Mark Drakeford.

    "Pan ro'n i angen help, fe ddywedodd y Trysorlys 'na dyw hynna ddim yn bosib'.

    "Ond bythefnos wedyn pan roedd pethau wedi newid yn Lloegr fe ddywedon nhw 'iawn', doedd hynna ddim yn deg i neb a dyna ddiben y llythyr," ychwanegodd.

    busnesFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Brechlyn atgyfnerthu i bawb dros 18wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2021

    Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi argymell y dylai brechlynnau atgyfnerthu gael eu cynnig i bawb dros 18 er mwyn atal ton newydd o achosion yn sgil Omicron.

    Mae argymhellion newydd y JCVI yn nodi hefyd y dylid cwtogi'r bwlch rhwng cael yr ail frechlyn a'r brechlyn atgyfnerthu i dri mis.

    Nodwyd yn ogystal y dylai plant oed 12 i 15 gael eu gwahodd am ail ddos dri mis wedi cael y cyntaf.

    Dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, cadeirydd y JCVI, nad yw'n rhagweld y bydd yr amrywiolyn newydd yn gafael yn y DU ond bod arbenigwyr eisiau bod yn y lle gorau posib petai mwy o achosion.

    Mae'r JCVI yn rhoi cyngor i weinidogion ar draws y DU ond gwleidyddion sy'n dewis gweithredu'r argymhellion ai peidio.

    boosterFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Angen gwisgo mygydau dan do mewn ysgolion a cholegauwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2021

    mygydau

    Nos Lun fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud ei bod hi'n ofynnol i bawb wisgo mygydau mewn dosbarthiadau ysgol uwchradd, colegau a phrifysgolion ac ardaloedd cymunedol.

    Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Mae ymddangosiad yr amrywiad newydd hwn yn ddatblygiad difrifol yn y pandemig parhaus.

    "Rydym eisoes wedi cymryd camau cyflym ar deithio rhyngwladol, ochr yn ochr â llywodraethau eraill y DU.

    "Rydym nawr yn cyflwyno mesur ychwanegol, tra ein bod ni yn dod i ddeall mwy am y straen newydd hwn.

    "Dylai holl staff a dysgwyr yn ein hysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion nawr wisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oes modd cynnal pellter corfforol.

    "Mae nifer o leoliadau eisoes yn gweithredu ar y sail hon, wedi llywio gan eu hasesiadau risg, ond bydd hwn nawr yn drefniant cenedlaethol.

    "Mesur rhagofalus dros dro yw hwn a fydd ar waith ar gyfer yr wythnosau o'r tymor sy'n weddill ac ar yr adeg honno bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu. Dylai hyn ddod i rym ym mhob lleoliad cyn gynted â phosibl."

    Jeremy Miles
  6. Trafodaethau ar gau ysgolion yn gynnar cyn y Nadoligwedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mewn cyfweliad radio dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai nawr yw'r amser i gyflwyno mesurau diogelwch pellach mewn ysgolion.

    "Mae yna dair wythnos yn weddill o'r tymor ac mae'n ddyletswydd arnom i gadw'r plant a staff yn ddiogel," meddai.

    Dywedodd hefyd bod gweinidogion yn parhau i drafod yr awgrym o gau ysgolion yn gynt dros y Nadolig - mae'r trafodaethau hynny yn cael eu cynnal gydag undebau ac awdurdodau lleol.

    Plant NadoligFfynhonnell y llun, PA Media
  7. 'Nadolig gwell na'r llynedd ond rhaid bod yn ofalus'wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae angen i bobl fod yn ofalus wrth wneud eu cynlluniau Nadolig eleni, medd y Prif Weinidog.

    Ychwanegodd: "Rhaid i bobl baratoi at y Nadolig yn y modd ry'n wedi'u cynghori gydol yr amser.

    "Fe ddylai'r Nadolig fod yn wahanol eleni. Fe ddylai'r Nadolig fod yn well eleni.

    "Ond dyw hynna ddim yn golygu y dylai pobl ddiystyru y pethau syml yna sy'n ein diogelu ni ac eraill.

    "Meddyliwch am bobl fregus - os oes pobl yn eich teulu yn debygol o ddioddef o coronafeirws - ystyriwch yn ofalus a ydych yn ymweld â nhw ac yn eu cynnwys yn eich cynlluniau.

    "Gwnewch brawf llif unffordd os ydych yn mynd i rywle all fod yn risg i chi ac eraill a gwisgwch fwgwd mewn llefydd poblog cyhoeddus."

    NadoligFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. 'Angen atal 'chwaneg o heintiadau wythnos cyn y Nadolig'wedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2021

    Yr wythnos diwethaf dywedodd Dr Eilir Hughes, sy'n feddyg teulu yn Nefyn, y dylai holl ysgolion Cymru gau o leiaf wythnos cyn y Nadolig er mwyn lleihau'r risg fod plant yn heintio perthnasau dros y gwyliau.

    Dywedodd y byddai torri'n gynt ar gyfer y gwyliau yn golygu mwy o siawns o ddod i wybod os oedd plentyn wedi dal Covid cyn iddyn nhw gymysgu gyda mwy o bobl.

    Ar hyn o bryd mae ysgolion yn 12 o'r 22 sir yng Nghymru - pob un yn y de - yn gorffen tymor yr hydref ar 17 Rhagfyr, tra bod y gweddill yn gorffen ar 21 neu 22 Rhagfyr.

    "Y rheswm mwyaf amlwg [dros gau yn gynt] yw ei fod yn helpu i atal 'chwaneg o heintiadau ddigwydd ymysg y plant yn ystod y wythnos olaf sy'n arwain at y Nadolig - llai o gymysgu, llai o heintiadau.

    "Mae llawer o bobl yn aros i gael eu hyblyn, sef y brechiad booster, felly byddai dal y feirws dros y Nadolig, o bosib gan blentyn, yn golygu gohirio ei chael hi ymhellach i'r gaeaf," meddai.

    Disgrifiad,

    Cau ysgolion yn gynt 'i gael Nadolig rhydd o Covid'

  9. Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r amrywiolyn newyddwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2021

    Am 12:15 fe fydd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn rhoi gwybodaeth i'r wasg a'r cyfryngau am sut mae Cymru yn paratoi ar gyfer yr amrywiolyn newydd Omicron.

    Yn ymuno â hi fe fydd Dr Gillian Richardson - yr un sy'n gyfrifol am y rhaglen frechu yng Nghymru.

    Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yma.

    Croeso aton ni.

    omicronFfynhonnell y llun, Getty Images