Crynodeb

  • Disgwyl i Omicron daro Cymru ym mis Ionawr

  • Trydydd pigiad Covid i bob oedolyn cyn diwedd Ionawr

  • Anogaeth i bobl wneud profion llif unffordd dros Y Nadolig

  • Rhybudd i ferched beichiog gael y brechlyn

  • Gweinidogion yn cadw llygad ar ysgolion ac yn ystyried cyfyngiadau pellach

  1. Cofnodi pedwar achos newydd o Omicron yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich 10 Rhagfyr 2021

    Cofnodi pedwar achos newydd o Omicron a naw marwolaeth arall cysylltiedig â Covid.

    Read More
  2. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    A dyna ni am heddiw o gynhadledd ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.

    Prif neges Llywodraeth Cymru yw ei bod yn bwysig cael eich brechu - ac mae pigiad fyddai'r anrheg Nadolig gorau i "chi a'r teulu".

    Wythnos nesaf bydd yr ymdrechion i frechu yn cynyddu'n fawr a'r nod yw sicrhau fod pob oedolyn yn cael brechlyn atgyfnerthu cyn diwedd Ionawr.

    Bydd gwahoddiadau yn cael eu hanfon i bawb ond os ydych dros 65 a ddim eto wedi cael y brechlyn atgyfnerthu dylech gysylltu â'ch bwrdd iechyd.

    Mae yna bryderon y bydd yr amrywiolyn newydd - Omicron - yn gafael yng Nghymru ddiwedd Ionawr.

    Mae sylw i'r haint ar hyn o bryd yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ar lawr y Senedd - y diweddaraf yma.

    Ddydd Gwener bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn arwain cynhadledd y Llywodraeth.

    Diolch am eich cwmni,

    Hwyl am y tro a chadwch yn ddiogel.

    brechuFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Plaid Cymru: 'Busnesau angen eglurder'wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Plaid Cymru

    Dywed Plaid Cymru y dylai gweinidogion seilio unrhyw benderfyniadau am reoliadau newydd neu gyfnodau clo ar dystiolaeth am ddifrifoldeb amrywiolyn Omicron.

    Dywedodd Delyth Jewell AS: "Dyw bod mewn gwacter ddim yn le da i fod - mae busnesau angen eglurder a oes yna gyfyngiadau pellach ai peidio."

  4. Ceidwadwyr: "Llywodraeth yn derbyn ein hawgrymiadau'wedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Russell George: “Rwy’n falch o weld y gweinidog yn derbyn rhai o’n hawgrymiadau gyda chanolfannau cerdded i mewn a gyrru drwodd - dyna beth wnaethon ni ei awgrymu rai wythnosau yn ôl.

    "Mae'r gweinidog wedi gwneud tro pedol o safbwynt hyn, gan ddweud yn wreiddiol y byddai'n anodd rheoli, felly rydym yn falch o weld y gweinidog yn derbyn rhai o'n hawgrymiadau."

    Russell George
  5. Cyngor i ferched beichiog gael eu brechuwedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae yna anogaeth i ferched beichiog gael eu brechu cyn bod amrywiolyn Omicron yn gafael yng Nghymru.

    Dywed Dr Gill Richardson bod "mwy o ferched beichiog heb eu brechu mewn unedau gofal dwys na'r hyn a ddylai fod".

    Dywed bod ffigyrau diweddar yn dangos bod 1 claf ymhob 6 yn derbyn triniaeth ddwys ECMO (Extracorporeal membrane oxygenation) tra'n feichiog.

    Ychwanegodd Dr Richardson bod y penderfyniad yn "anodd iawn" a bod "merched yn poeni ac yn bryderus".

    Ond dywedodd bod yn rhaid i ferched beichiog siarad â bydwragedd a pharterniaid am y brechlyn "gan ein bod yn drist iawn wedi profi trasedïau real wrth i rai merched beichiog orfod adael eu teuluoedd yn sgil amrywiolyn Delta".

  6. 'Tasg Hercwleaidd'wedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Dr Gill Richardson mai tywydd gwael yn y gaeaf yw "ein gelyn gwaethaf" yn y broses o gyflwyno brechiad atgyfnerthu.

    Dywedodd fod eira yn gynharach eleni wedi “tarfu” ar roi brechlynnau.

    "Os gwelwch yn dda, blaenoriaethwch eich apwyntiad lle bynnag y gallwch".

    Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan mai'r nod yw cyflwyno dros 200,000 o frechiadau yr wythnos.

    "Ystyriwch fod poblogaeth Abertawe tua 246,000.

    "Felly mae hynny'n llawer o frechlynnau i'w cyflwyno bob wythnos.

    "Rydyn ni'n mynd i gyrraedd 1.3 miliwn o bobl ychwanegol dros yr wythnosau nesaf.

    "Mae'n dasg Hercwleaidd".

    EiraFfynhonnell y llun, PIXABAY
  7. 'Angen gwneud prawf llif unffordd cyn cwrdd ag eraill'wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae angen i bobl wneud prawf llif unffordd cyn cyfarfod pobl dros y 'Dolig, medd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.

    Bydd gweinidogion yn cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon cyn penderfynu a oes angen cyflwyno mwy o gyfyngiadau i frwydro yn erbyn yr amrywiolyn newydd o Covid-19.

    Un dewis yw ehangu y defnydd o basys Covid i fwytai a thafarndai.

    "Yn amlwg mae yna ystyriaethau pellach wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen. Ddydd Gwener bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford, yn gwneud rhai cyhoeddiadau.

    "Dwi'n credu yn y sefyllfa bresennol bod yn rhaid i bobl fod yn ofalus.

    "Mae 'Dolig yn amser lle mae pobl yn hoffi dod at ei gilydd.

    "Be 'da ni'n argymell yw fod pawb yn gwneud prawf llif unffordd cyn cwrdd - yn enwedig os oes yna bobl fregus yn y cwmni.

    "Mae gweinidogion yn cadw llygad ar sefyllfa ysgolion," ychwanegodd.

    prawf llif unfforddFfynhonnell y llun, get
  8. Gallai fod 'angen lleihau rhywfaint o ofal wedi’i gynllunio'wedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y gallai fod “angen lleihau rhywfaint o ofal wedi’i gynllunio” i gynnal y rhaglen atgyfnerthu ”ond rydym yn amlwg yn gobeithio y gallwn gadw ein meddygfeydd i fynd fel arfer”.

    "Yr hyn rydyn ni'n edrych arno yw pyliau byr o weithgaredd," meddai.

    "Yn amlwg, gallai hynny olygu ail-flaenoriaethu ac mae hyblygrwydd o fewn y system i allu ymateb yn ôl y capasiti sydd ar gael."

    Mae rhai meddygon teulu wedi "cynnig cefnogaeth, ond nid ydym yn disgwyl i'r ddarpariaeth yn ein cymuned gael ei lleihau ar hyn o bryd," ychwanegodd Ms Morgan.

  9. 'Disgwyl i don sylweddol o Omicron daro Cymru'wedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Meddai Eluned Morgan: “Rwy’n credu bod angen i ni hefyd ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl i don sylweddol o Omicron daro Cymru.

    "Mae'r modelu yn awgrymu y bydd hynny'n cyrraedd ei anterth erbyn diwedd mis Ionawr, a dyna pam mae brys o ran cael pobl i gael y brechlyn atgyfnerthu cyn gynted â phosibl. "

  10. Scarlets yn ildio gêm ddiwrnod ar ôl diwedd cwarantinwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Yn ôl y rhanbarth mae "risg corfforol i ddewis unrhyw aelod o'r garfan sydd ar hyn o bryd yn hunan-ynysu".

    Read More
  11. 'Nid ydym yn gwybod pa mor sâl mae'r amrywiolyn hwn yn eich gwneud chi'wedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, ei bod bellach yn amlwg bod yr amrywiolyn Omicron yn "lledaenu'n gyflym iawn" a "mae hynny'n amlwg yn destun pryder".

    "Nid ydym yn gwybod pa mor sâl mae'r amrywiolyn hwn yn eich gwneud chi." meddai.

    Dywedodd fod derbyniadau i'r ysbyty yn Ne Affrica wedi mynd i fyny o tua 143 i 788 mewn pythefnos "ond nid ydym yn gwybod a yw hynny'n batrwm y byddem yn ei weld yn cael ei adlewyrchu yn ein poblogaeth".

    "Nid ydym yn gwybod i ba raddau y bydd brechlynnau yn ein hamddiffyn ond rydym yn credu y byddant yn rhoi llawer mwy inni na chael dim brechlyn o gwbl.

    "Felly dyna pam mai ein ple heddiw yw ein helpu ni yn y sefyllfa hon.

    "Mae gennym ni fyddin yn barod i gyflwyno'r rhaglen frechu hon, ond mae angen i'r cyhoedd ddod gyda ni.

    "Rydyn ni angen i chi gamu i fyny a chamu ymlaen pan fyddwch chi'n cael eich galw."

    BrechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Un ysgol yng Ngheredigion yn cau'n gynnar yn sgil Covidwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Cyngor Ceredigion

    Mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau y bydd Ysgol Dyffryn Cledlyn ger Llanybydder yn cau dros dro o ddydd Mawrth ymlaen yn dilyn cadarnhad bod nifer o achosion o Covid-19 ymhlith disgyblion a staff.

    Gwnaed y penderfyniad i gau safle’r ysgol yn dilyn ymgynghoriad llawn a chytundeb gan yr Awdurdod Lleol.

    Bydd disgyblion yn cael eu haddysgu o bell yr wythnos hon a bydd yr ysgol yn parhau ar agor ar gyfer disgyblion bregus.

    Mae’r Cyngor yn annog pob rhiant i fod yn ymwybodol o symptomau Covid-19, sy’n cynnwys tymheredd uchel, peswch newydd parhaus neu golled neu newid i synnwyr blas neu arogl.

    Ond mae yna symptomau cynnar eraill hefyd, gan gynnwys cur pen, blinder neu boenau cyffredinol sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r ffliw.

  13. 'Yr anrheg Nadolig gorau i chi a'ch teulu'wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    ‘Does dim gwahaniaeth os taw hwn fydd eich brechiad cyntaf neu eich brechiad atgyfnerthu, ewch i gael eich brechu," medd y Gweinidog Iechyd.

    "A pheidiwch ag anghofio – os na fuoch chi i’ch apwyntiad yn gynharach yn y flwyddyn, ‘dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.

    "Yn ystod y 12 mis diwethaf, brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau rhag y feirws.

    "Maent wedi arbed bywydau ac wedi gwanhau y cysylltiad rhwng yr haint a salwch difrifol ac atal miloedd rhag gorfod cael triniaeth ysbyty.

    "Dros yr wythnosau nesaf, felly, rhowch flaenoriaeth i gael eich brechiad neu’ch brechiad atgyfnerthu.

    "Dyma'r anrheg Nadolig gorau i chi a'ch teulu eleni."

    NadoligFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Nifer yn treulio eu hail Nadolig yn brechu poblwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Dr Richardson hefyd y bydd system tecstio newydd yn cael ei chreu fel bod hi'n haws i bobl aildrefnu eu hapwyntiad.

    "Mae nifer yn treulio eu hail Nadolig yn brechu pobl.

    "Plis cefnogwch nhw gan flaenoriaethu a bod yn bresennol ar gyfer eich apwyntiad.

    "Os nad ydych yn gallu mynd, aildrefnwch," meddai.

  15. Y trefniadau ar gyfer cael y brechlyn atgyfnerthuwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae yna gais i bawb aros am wahoddiad i gael y brechlyn atgyfnerthu.

    Ond os ydych dros 65 a ddim eto wedi cael llythyr am eich brechlyn atgyfnerthu mae angen i chi gysylltu â'ch bwrdd iechyd yn uniongyrchol. Mae manylion ar wefan y bwrdd iechyd ac ar wefan Llywodraeth Cymru.

    Mae yna anogaeth i bawb gadw at eu hapwyntiad ac os ydych yn gyflogwr mae Dr Richardson yn eich annog i roi amser bant i staff ar gyfer cael y brechlyn.

    "Mae nifer o'r rhai sy'n gweithio mewn canolfannau brechu wedi gorfod canslo eu gwyliau blynyddol ac mae cynlluniau Nadolig llawer wedi gorfod newid wrth i ni geisio brechu pawb mor fuan â phosib," meddai.

    BrechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Awydd bod yn wirfoddolwr?wedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Dr Richardson yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddarparu mwy o ganolfannau brechu - gan gynnwys canolfannau lle gellir cerdded neu yrru i mewn iddynt.

    "Bydd canolfannau ar agor yn hwyrach yn y nos ac am oriau hwy ar y penwythnos," meddai.

    Mae hefyd yn cadarnhau bod cynlluniau ar y gweill i gydweithio â meddygon teulu a fferyllfeydd i roi'r brechlyn a bod ymdrechion i gael staff llywodraeth leol, y gwasanaeth tân a myfyrwyr i helpu gyda'r gwaith.

    Mae'n annog unrhyw un sydd am wirfoddoli i gysylltu gan ddweud bod manylion ar wefan Llywodraeth Cymru.

    Dywed hefyd bod cais wedi cael ei roi i'r Lluoedd Arfog unwaith eto am gymorth.

    Dr Gill RichardsonFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  17. Cyflenwad digonol o frechlynnau Pfizer a Modernawedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Dr Gill Richardson, dirprwy prif swyddog meddygol rhaglen brechlyn Covid-19 Llywodraeth Cymru ei bod yn hyderus y bydd pob oedolyn sy'n gymwys wedi cael cynnig brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd Ionawr.

    "Mae gennym gyflenwad digonol o frechlynnau Pfizer a Moderna i wneud hyn.

    "Ry'n eisoes wedi cynyddu nifer y bobol ry'n yn eu brechu ac erbyn wythnos nesaf ry'n yn gobeithio cynnig dros 200,000 apwyntiad yr wythnos," meddai.

  18. Brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn erbyn diwedd Ionawrwedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Iechyd bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i ehangu y rhaglen frechu fel bod pob oedolyn yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu a bod plant 12-15 yn cael cynnig ail ddos o'r brechlyn.

    "Heddiw, rydyn ni am egluro sut y byddwn ni’n cynnig brechiad atgyfnerthu i bob oedolyn sy’n gymwys erbyn diwedd mis Ionawr.

    "Bydd hon yn ymdrech enfawr arall ar gyfer ein rhaglen frechu – a’n Gwasanaeth Iechyd – sydd wedi gwneud cymaint yn barod i ddiogelu pobl ym mhob cwr o Gymru," meddai.

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  19. Defnydd o'r brechlynwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Defnydd o'r brechlyn
  20. Arhoswch am eich gwahoddiad i gael pigiadwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Yn ogystal ag agor mwy o ganolfannau brechu, bydd meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol yn parhau i roi brechiadau a bydd gweithwyr llywodraeth leol, gwasanaethau tân a myfyrwyr yn darparu cymorth o fath arall i glinigau.

    Er taw'r nod yw cynyddu capasiti, mae'r Gweinidog Iechyd yn mynnu y dylai pobl aros am wahoddiad cyn mynd am frechiad, gyda'r gwahoddiadau'n cael eu hanfon ar sail oedran a pha mor fregus yw unigolyn.

    Eluned Morgan