Crynodeb

  • Disgwyl i Omicron daro Cymru ym mis Ionawr

  • Trydydd pigiad Covid i bob oedolyn cyn diwedd Ionawr

  • Anogaeth i bobl wneud profion llif unffordd dros Y Nadolig

  • Rhybudd i ferched beichiog gael y brechlyn

  • Gweinidogion yn cadw llygad ar ysgolion ac yn ystyried cyfyngiadau pellach

  1. 'Rhaid bod yn barod ar gyfer mwy o achosion'wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod pedwar achos o amrywiolyn Omicron yng Nghymru ond mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer mwy o achosion, meddai.

    "Gall y niferoedd godi yn sydyn mewn byr amser.

    "Mae llawer 'dan ni ddim yn gwybod am yr amrywiolyn ond mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn symud yn sydyn ac mai hwn fydd y prif amrywiolyn yn y man yn hytrach na delta," ychwanegodd.

  2. Gwyliwch y gynhadledd ymawedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Pedwar achos o amrywiolyn Omicron hyd ymawedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Hyd yma mae pedwar achos o'r amrywiolyn Omicron wedi cael eu darganfod yng Nghymru - pob un yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

    Mae tri o'r pedwar gyda chysylltiad â theithio neu'n gysylltiad agos a rhywun sydd wedi teithio dramor, ond mae arbenigwyr yn dal i ymchwilio i'r pedwerydd achos.

    OmicronFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 88% o bobl yn eu 70au wedi cael trydydd pigiadwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Nefyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Teithiodd dros 1,000 o bobl i ganolfan yn Nefyn ddydd Sul i gael eu brechu

    O'r 130,448 o frechiadau sydd wedi cael eu dosbarthu yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae 117,247 wedi bod yn bigiadau atgyfnerthu, sef 90% o'r holl frechiadau yn y cyfnod yma.

    Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod 88% o bobl yn eu 70au a 64% o bobl yn eu 60au wedi cael trydydd brechiad hyd yma.

    Yn ddiweddar mae'r rhaglen frechu wedi llwyddo i ddosbarthu tua 19,000 o frechiadau y dydd ond ar ei anterth yn ystod y gwanwyn roedd y rhaglen yn llwyddo i frechu tua 40,000 y dydd.

    Dyma ymateb Dr Eilir Hughes o Nefyn ar Dros Frecwast i'r bwriad o roi brechlyn atgyfnerthu i mwy o bobl.

    Disgrifiad,

    Y meddyg teulu Dr Eilir Hughes oedd yn siarad ar #DrosFrecwast

  5. Omicron: Tystiolaeth gynnar bod brechlyn yn 'effeithiol'wedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod brechlynnau Covid-19 yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn newydd o'r haint, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Dywed eu dirprwy gyfarwyddwr meddygol dros dro bod y dystiolaeth gynnar yn "galonogol".

    Er hyn, pwysleisiodd Dr Eleri Davies bod angen casglu tystiolaeth bellach am amrywiolyn Omicron a bod "cwestiynau'n dal i fod" amdano.

    Dywedodd ei fod yn edrych yn "debygol" bod yr amrywiolyn yn lledaenu'n gyflymach nag amrywiolion blaenorol o Covid-19.

    Er nad yw'n glir eto a yw Omicron yn achosi salwch mwy difrifol, dywedodd Dr Davies mai'r cyngor yw i gael eich brechu a pheidio cwrdd ag eraill os ydych yn teimlo'n sâl.

    Disgrifiad,

    Omicron: Tystiolaeth gynnar bod brechlynnau'n 'effeithiol'

  6. 'Rhowch flaenoriaeth i'ch apwyntiad'wedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Fel rhan o'r ymateb i fygythiad yr amrywiolyn Omicron, mae'r gwasanaeth iechyd eisoes wedi cynyddu faint o frechiadau atgyfnerthu sy'n cael eu dosbarthu.

    Mae mwy na 19,000 o frechiadau y dydd yn cael eu rhoi ar hyn o bryd a'r nod dros yr wythnosau nesaf fydd cynyddu hynny i fwy na 200,000 yr wythnos.

    Mae hyn yn golygu fod Cymru wedi mabwysiadu'r un targed brechu â Lloegr a'r Alban.

    Dywed y gweinidog iechyd y bydd yn rhaid i bawb roi blaenoriaeth i'w hapwyntiad.

    "Mae'n bwysicach na phob dim arall," meddai.

    cerdyn apwyntiadFfynhonnell y llun, PA Media
  7. Anelu at gynnig dros 200,000 o frechiadau'r wythnoswedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae disgwyl i'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, gadarnhau y bydd pob oedolyn sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu yn cael cynnig pigiad erbyn diwedd Ionawr.

    I gyflawni hyn, bydd y gwasanaeth iechyd yn anelu at gynnig dros 200,000 o frechiadau'r wythnos yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

    Bydd mwy o ganolfannau brechu "cerdded i mewn" a rhai sy'n cynnig pigiadau drwy ffenestr car yn cael eu hagor ac mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn unwaith eto am gymorth y lluoedd arfog.

    lluoedd arfogFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Lluoedd Arfog wedi bod yn helpu'r GIG yn gyson yn ystod y pandemig

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2021

    Am 12:15 fe fydd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn arwain cynhadledd ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.

    Yn ymuno â hi fe fydd Dr Gillian Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Brechlynnau).

    Mae disgwyl iddynt roi'r manylion diweddaraf am y cynllun brechu gan ganolbwyntio ar y brechlynnau atgyfnerthu.

    Arhoswch gyda ni i gael y manylion diweddaraf.

    boosterFfynhonnell y llun, Getty Images