Crynodeb

  • Gobeithio cynnig trydydd brechlyn i oedolion cymwys yng Nghymru cyn diwedd Rhagfyr

  • Staff clinigol y GIG i gael eu dargyfeirio i weithio ar y rhaglen frechu er mwyn cyrraedd y targed

  • Y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn dweud fod "dim byd oddi ar y bwrdd" o ran cyfyngiadau pellach

  • 30 o achosion Omicron wedi cael eu cofnodi yng Nghymru hyd yma

  • Bydd adolygiad arall o'r cyfyngiadau coronafeirws ddiwedd yr wythnos

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.

    I grynhoi, dywedodd y Gweinidog Iechyd y bydd staff clinigol y GIG yn cael eu dargyfeirio i weithio ar y rhaglen frechu er mwyn cyrraedd y targed o gynnig brechlyn i bawb sy'n gymwys cyn diwedd y mis.

    Ychwanegodd Eluned Morgan y bydd canolfannau brechu yn ymestyn eu horiau agor, o oriau man y bore i hwyr yn y nos, ac y bydd rhai newydd yn cael eu creu.

    Dywedodd hefyd fod "dim byd oddi ar y bwrdd" o ran cyfyngiadau pellach, cyn i adolygiad arall o'r cyfyngiadau coronafeirws cael ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos.

    Fe fydd y llif byw yn ôl ar gyfer y gynhadledd honno felly, ond tan hynny, diolch am ddilyn a hwyl fawr.

  2. Ceidwadwyr: Angen gwybodaeth glir am beth i'w wneudwedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, mae "elfen o ddryswch" am neges y llywodraeth ar frechlynnau atgyfnerthu.

    Galwodd am "wybodaeth glir am yr hyn sydd angen i bobl ei wneud".

    "Rydw i'n barod i'w gael e," meddai. "Dydw i ddim wedi cael tecst, dydw i ddim wedi cael gwybod beth i'w wneud."

    Ychwanegodd nad oes digon o wybodaeth i ddangos yr angen am fwy o gyfyngiadau Covid.

    "Ry'n ni'n gwybod ar y funud bod gennym gyfradd is o'r amrywiolyn newydd yng Nghymru - ry'n ni eto i weld y cynnydd sydd wedi'i ddarogan," meddai Mr George.

    "Felly dydyn ni ddim eto mewn safle ble mae angen i ni fod yn trafod cyfyngiadau ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau."

    Russell George
  3. Plaid Cymru: Diffyg eglurder am sut i daro'r targedwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Plaid Cymru

    Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth nad ydy'r llywodraeth wedi egluro'r ddigon clir sut y bydd y rhaglen frechu yn cael ei chyflymu er mwyn cyflawni'r targed newydd.

    "Mae 'na ddisgwyliadau uchel iawn gan y cyhoedd, ond dydw i ddim wedi gweld eto sut y bydd hynny'n cael ei gyflawni yn ymarferol," meddai.

    Ychwanegodd ei bod yn annheg i'r llywodraeth annog pobl i ddod ymlaen am frechlyn atgyfnerthu pan fo cymaint yn awyddus i'w gael ond heb gael cynnig eto.

    "Nid cael pobl i ddod ymlaen ydy'r broblem rydw i'n ei gael gyda fy etholwyr, ond pobl yn rhwystredig nad ydyn nhw'n gwybod pryd y byddan nhw'n cael eu brechiad," meddai.

    Dywedodd hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru wella eu cyfathrebu gyda'r cyhoedd.

    Rhun ap Iorwerth
  4. 'Peidiwch methu'ch apwyntiadau'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Rhybuddiodd Dr Gill Richardson fod pob apwyntiad brechu sy'n cael ei fethu yn achosi oedi i'r holl broses.

    Dywedodd Dr Richardson fod llwyddiant y rhaglen frechu mae hi'n gyfrifol amdano "yn dibynnu ar y cyhoedd anhygoel yng Nghymru yn dod ymlaen i gymryd eu slot".

    "Rydyn ni'n gwybod nad oes modd osgoi hynny weithiau. Os yw pobl yn sâl, rydyn ni'n deall," meddai.

    "Ond i lawer o bobl, rydyn ni wir angen iddyn nhw ddeall nawr bod angen iddyn nhw gymryd eu slot os yn bosib."

  5. Cysylltiadau agos ag Omicron i barhau i orfod ynysuwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i ofyn i unrhyw un sy'n dod i gysylltiad agos â rhywun sydd ag amrywiolyn Omicron i hunan-ynysu am 10 diwrnod, yn ôl y gweinidog.

    Dywedodd Eluned Morgan nad oes bwriad i ddilyn Lloegr, ble mae cysylltiadau agos yn gwneud profion llif unffordd am saith diwrnod, ond y bydd hynny'n cael ei adolygu'n gyson.

    "Ar y funud ry'n ni'n eithaf contained - dim ond 30 achos sydd gennym yng Nghymru," meddai.

    "Felly fe fyddwn yn parhau ar y trywydd yr ydym arni ar hyn o bryd am gyhyd ag y gallwn ni, ond yn amlwg mae'n bosib y bydd y sefyllfa'n newid yn sydyn iawn a bydd yn rhaid i ni addasu pan, ac os, yw hynny'n digwydd."

  6. 'Dyletswydd' i wneud prawf LFT cyn gweld rhywun breguswedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dylai pobl sydd yn glinigol fregus "wneud eu hasesiad risg eu hunain" cyn iddyn nhw fynd allan, meddai Dr Gill Richardson.

    Dywedodd Dr Richardson y dylai pobl fregus "sicrhau nad ydyn nhw'n mynd i lefydd torfol iawn heb fwgwd, a cheisio cymdeithasu mewn llefydd sydd wedi'u hawyru".

    Ychwanegodd y dylai teulu a ffrindiau'r bobl hynny ei gweld hi fel "dyletswydd" i wneud prawf llif unffordd cyn mynd i'w gweld, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n trosglwyddo Covid iddyn nhw.

    Dywedodd Eluned Morgan fod "cyffuriau gwrthfirysol bellach ar gael i helpu" hefyd, yn wahanol i'r tonnau cynt o Covid.

  7. 'Dim byd oddi ar y bwrdd' gyda chyfyngiadau pellachwedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiwn am unrhyw gyfyngiadau posib cyn y Nadolig ar gwrdd â phobl eraill, dywedodd Eluned Morgan mai'r "peth olaf 'dyn ni eisiau gwneud yw canslo Nadolig".

    "Ond dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw beth oddi ar y bwrdd chwaith," meddai'r gweinidog.

    Dywedodd mai'r peth gorau er mwyn osgoi cyfyngiadau pellach oedd cymryd camau gofalus nawr, gan gynnwys cymryd profion llif unffordd (LFT) cyn cwrdd â phobl.

    "Mae o yn ein dwylo ni, fel unigolion ac fel cymunedau [i osgoi gorfod cael cyfyngiadau pellach]."

    cynhadledd
  8. Torri yn ôl ar ofal eraill 'am dair wythnos yn unig'wedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd Llywodraeth Cymru'n galw ar y "fyddin o bobl" i ddod ymlaen a helpu gyda'r rhaglen frechu fel y gwnaethon nhw y tro diwethaf, yn ôl Eluned Morgan.

    Fe fydd hynny'n cynnwys 16,000 o bobl sy'n gweithio mewn gofal cynradd, yn ogystal â'r fyddin, a grwpiau eraill fel fferyllwyr cymunedol.

    "Beth sy'n glir yw mae hwn am fod yn waith am dair wythnos yn unig," meddai'r Gweinidog Iechyd.

    Ychwanegodd y bydd "gofal sydd wedi'i gynllunio yn cael ei dorri 'nôl rywfaint, ond dim ond tair wythnos fydd hi".

  9. 'Cynnig' brechlyn cyn diwedd y flwyddynwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb y cwestiwn cyntaf gan newyddiadurwyr ynghylch pryd all pobl ddisgwyl cael cynnig eu brechlyn atgyfnerthu, dywedodd Dr Gill Richardson y bydd pawb yn cael "cynnig" y pigiad cyn diwedd y flwyddyn, ac y dylai'r apwyntiad ddilyn "yn fuan iawn wedyn".

    Ond bydd hynny'n dibynnu i raddau ar sefyllfa unigol pobl, gyda rhai ddim yn gymwys i gael cynnig apwyntiad nes diwedd y mis beth bynnag.

    Gallai pobl hefyd orfod wynebu oedi cyn gallu cael eu brechiad os ydyn nhw wedi dal Covid yn ddiweddar.

  10. Cais i staff y GIG ganslo eu gwyliau dros y Nadoligwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Ms Morgan y bydd angen mwy na dyblu cyflymder y rhaglen frechu os am daro'r targed o gynnig brechiad arall i bawb erbyn diwedd y flwyddyn.

    Ychwanegodd y gweinidog eu bod hefyd wedi gofyn i staff y gwasanaeth iechyd ganslo eu gwyliau dros yr wythnosau nesaf fel bod modd brechu "cannoedd ar filoedd o bobl".

    Dywedodd hefyd ei bod hi'n "debygol" y bydd angen cymryd camau pellach y tu hwnt i'r rhaglen frechu er mwyn amddiffyn pobl Cymru.

    "Cefnogwch y Gwasanaeth Iechyd trwy roi blaenoriaeth i gael pigiad atgyfnerthu," meddai.

    "Dyma'r peth gorau y gall pob un ohonom ei wneud i amddiffyn ein hunain rhag amrywiolyn Omicron."

  11. Canolfannau brechu i ymestyn eu horiauwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Eluned Morgan y bydd canolfannau brechu yn ymestyn eu horiau agor, o oriau man y bore i hwyr yn y nos, er mwyn rhoi cymaint o gyfle â phosib i bobl ddod am eu brechiad atgyfnerthu.

    Mae cannoedd ar filoedd o apwyntiadau eisoes wedi eu cynnig i bobl, a bydd yr apwyntiadau hyn yn parhau i sefyll.

    Ond yn y dyddiau nesaf dywedodd y gweinidog y byddan nhw'n tecstio a ffonio pawb sydd eisoes wedi cael dau ddos, er mwyn cynnig apwyntiad am drydydd.

    Bydd rhai pobl hefyd yn cael cynnig i fynychu slotiau cerdded-i-mewn - a bydd pobl yn parhau i gael eu galw yn nhrefn eu risg.

    brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. 'Ffocws y GIG i symud tuag at frechu'wedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Eluned Morgan mai cyflymu'r rhaglen frechu ydy "blaenoriaeth bennaf y GIG".

    Yn ôl y Gweinidog Iechyd mae hynny'n golygu y bydd angen i "ffocws y GIG symud tuag at frechu pobl am amser byr".

    "Bydd y GIG yn parhau i ddarparu gwasanaethau allweddol a gofal brys. Ond byddwn yn symud yr holl staff clinigol sydd ar gael i ganolfannau brechu," meddai.

    Fe fydd capasiti canolfannau brechu hefyd yn cael ei ehangu, a chanolfannau newydd yn cael eu creu.

    Ychwanegodd ei bod eisiau "mynegi fy niolch i bawb sy'n gweithio tu ôl i'r llenni i gynllunio ein rhaglen frechu, ac i’r miloedd lawer o bobl sy'n gweithio mewn clinigau brechu ledled Cymru".

  13. Ymchwil yn parhau i effaith Omicronwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Dr Gill Richardson, dirprwy prif swyddog meddygol y rhaglen frechu, yn dechrau drwy ddweud bod ymchwil yn parhau i ymddygiad amrywiolyn Omicron, a pha mor sydyn mae'n lledaenu.

    Dywedodd bod astudiaethau sydd wedi dod i'r amlwg dros y penwythnos yn awgrymu nad yw pigiadau AstraZeneca a Pfizer yn gwarchod yn erbyn Omicron cystal ag yr oedden nhw gyda Delta.

    Ond mae'r amddiffyniad yn erbyn Omicron yn gwella'n sylweddol ar ôl cael trydydd brechiad, ac felly mae'n pwysleisio bod pawb angen mynd am eu hwblyn os allen nhw.

    "Rhaglen y brechlyn atgyfnerthu yw'r flaenoriaeth i'r gwasanaeth iechyd nawr," meddai.

    brechlynFfynhonnell y llun, PA Media
  14. 'Omicron yn bresennol ym mhob bwrdd iechyd bellach'wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth y gynhadledd fod amrywiolyn newydd Omicron yn bresenol ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru bellach, a bod nifer yr achosion yn "tyfu'n ddyddiol".

    Cadarnhaodd gyhoeddiad y Prif Weinidog neithiwr, mai bwriad y llywodraeth bellach yw "cynnig apwyntiad i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Rhagfyr" i gael eu brechlyn atgyfnerthu.

    Mae hyn fis ynghynt na'r targed gwreiddiol - diwedd mis Ionawr.

    OmicronFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Brechu yw'r 'unig ffordd ymlaen i arbed trychineb'wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Yn ôl Dr Phil White o Gymdeithas Feddygol Brydeinig Cymru, bydd meddygon yn "gwneud ein gorau i gyrraedd y targed".

    Dywedodd ei fod o'r farn mai cyfuniad o dactegau yw'r ffordd ymlaen - canolfannau galw i mewn, gwahodd pobl am eu brechlyn a phobl yn trefnu eu hapwyntiadau eu hunain.

    Ychwanegodd ar Dros Frecwast fore Mawrth ei bod yn bosib y bydd angen gohirio rhai triniaethau neu apwyntiadau er mwyn rhyddhau meddygon i frechu.

    "Mae'n bwysig i'w gymryd o - dyna'r unig ffordd ymlaen nawr i ni arbed trychineb dros y gaeaf," meddai.

    Disgrifiad,

    Yn ôl Dr Phil White o BMA Cymru, brechu yw'r "unig ffordd ymlaen nawr i ni arbed trychineb dros y gaeaf"

  17. Galw am gael gwared ar yr angen i oruchwyliowedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Yn ôl y meddyg teulu Dr Eilir Hughes o Nefyn, fe fyddai cael gwared ar yr angen i bobl gael eu goruchwylio am 15 munud ar ôl iddyn nhw dderbyn brechlyn Pfizer yn hwyluso'r rhaglen frechu yn fawr.

    Mae awgrym y bydd yr angen i oruchwylio yn cael ei ddiddymu o fewn y dyddiau nesaf i gyflymu'r broses o ddosbarthu brechlynnau atgyfnerthu.

    "Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod yn realistig - mae yna elfennau, ar hyn o bryd, sy'n bodoli efo'r hyblyn - er enghraifft, sicrhau fod pobl yn cael eu goruchwylio ar ôl ei chael hi," meddai.

    "Petaen nhw yn medru llacio'r rheolau yma - gwneud y gwaith ymarferol yn rhwyddach i feddygfeydd ar draws Cymru - yna dwi'n meddwl bod modd i ni 'neud dipyn o wahaniaeth yn y cyflymder 'dan ni'n rhoi'r brechlyn allan.

    Ond tan 'dan ni'n medru goroesi'r heriau hynny dwi'n teimlo, efallai, bod hi'n rhy anodd ond amser a ddengys ac efallai bod modd i rai o'r pethau 'ma lacio wrth i ni geisio cyflymu."

    Dr Eilir Hughes
  18. Y gynhadledd yn dechrau am 12:15wedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Cofnodi dwy farwolaeth a 1,819 achos newyddwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae dwy farwolaeth bellach yn gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw.

    Mae'n golygu bod 6,491 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig.

    Cafodd 1,819 o achosion ychwanegol eu cofnodi hefyd yn y 24 awr hyd at 09:00 fore Llun, gan ddod â'r cyfanswm i 541,254 yn ôl dull ICC o gofnodi.

    Mae'r gyfradd saith diwrnod am bob 100,000 o bobl wedi gostwng fymryn eto, o 500.1 i 499.4.

    Mae 1,101,053 o bobl bellach wedi cael eu brechlyn atgyfnerthu - bron i hanner y 2,282,420 sydd wedi cael dau ddos.

  20. Beth oedd ymateb y gwrthbleidiau?wedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Wrth ymateb i'r cyhoeddiad neithiwr dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Does dim angen rhagor o gyfyngiadau arnom os oes cyfran fawr iawn o bobl yn cael eu brechu.

    "Mae dyletswydd ar bobl sy'n gymwys i gael eu brechlyn ac mae gan y llywodraeth Lafur gyfrifoldeb i gyflymu'r rhaglen frechu. Mae cymdeithas rydd ac economi agored yn dibynnu ar hynny."

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Mae'n rhaid i'n Gwasanaeth Iechyd dderbyn y gefnogaeth a'r adnoddau y mae ei angen i weithredu'r cynllun brechu fel mater o flaenoriaeth lwyr a dylid ehangu apwyntiadau 'cerdded i mewn' fel bod mwyafrif y boblogaeth yn cael brechlyn atgyfnerthu erbyn y flwyddyn newydd."

    Ychwanegodd bod adroddiadau o brinder profion llif unffordd yn "hynod bryderus ac ni allai fod wedi dod ar adeg waeth".

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images