Crynodeb

  • Gobeithio cynnig trydydd brechlyn i oedolion cymwys yng Nghymru cyn diwedd Rhagfyr

  • Staff clinigol y GIG i gael eu dargyfeirio i weithio ar y rhaglen frechu er mwyn cyrraedd y targed

  • Y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn dweud fod "dim byd oddi ar y bwrdd" o ran cyfyngiadau pellach

  • 30 o achosion Omicron wedi cael eu cofnodi yng Nghymru hyd yma

  • Bydd adolygiad arall o'r cyfyngiadau coronafeirws ddiwedd yr wythnos

  1. Omicron: 'Dau ddos ddim digon effeithiol'wedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi'r cynllun brechu newydd mewn neges ar deledu BBC Cymru nos Lun.

    Dywedodd Mr Drakeford fod Omicron yn bygwth creu "sefyllfa ddifrifol iawn" ac erbyn diwedd y mis, yr amrywiolyn newydd fydd "prif ffurf y feirws, gan gyflwyno ton newydd o haint a salwch".

    Ychwanegodd "nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon" a bod y pigiad atgyfnerthu yn "hollbwysig i wella'r amddiffyniad rhag yr amrywiolyn newydd sy'n lledaenu'n gyflym".

    Disgrifiad,

    Drakeford: 'Dau ddos ddim digon effeithiol yn erbyn Omicron'

  2. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2021

    Bore da a chroeso i'n llif byw o gynhadledd Llywodraeth Cymru wedi i'r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi neithiwr y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu cyn diwedd y flwyddyn.

    Dywedodd ei fod yn rhagweld y bydd angen treblu nifer y brechiadau sy'n cael eu rhoi er mwyn taro'r targed hwnnw.

    Ychwanegodd bod y llywodraeth yn "debygol o orfod cymryd rhagor o gamau i ddiogelu Cymru".

    Yn annerch y gynhadledd heddiw fydd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan a'r cyfarwyddwr brechu Dr Gill Richardson, fydd yn rhoi rhagor o fanylion am sut y bydd Cymru'n cyrraedd y targed.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan.

    BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images