Crynodeb

  • Rhagor o gyfyngiadau i ddod i rym yng Nghymru o 26 Rhagfyr yn sgil amrywiolyn Omicron

  • Gwasanaeth bwrdd yn unig mewn tafarndai a bwytai, a dim ond chwech i gael eistedd gyda'i gilydd

  • Dim cyfyngiad cyfreithiol ar gymysgu rhwng aelwydydd a chwrdd mewn tai pobl eraill

  • Ond cyngor i bobl gyfyngu ar eu cysylltiadau, profi eu hunain yn gyson ac awyru os yn cwrdd dan do

  • Rhaid cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr mewn mannau cyhoeddus

  1. Nadolig Llawen!wedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.

    I grynhoi, bydd rhagor o gyfyngiadau i ddod i rym yng Nghymru o 26 Rhagfyr yn sgil amrywiolyn Omicron.

    Bydd hynny'n cynnwys gwasanaeth bwrdd yn unig mewn tafarndai a bwytai, a dim ond chwech i gael eistedd gyda'i gilydd.

    Ni fydd cyfyngiad cyfreithiol ar gymysgu rhwng aelwydydd a chwrdd mewn tai pobl eraill, ond mae cyngor i bobl gyfyngu ar eu cysylltiadau, profi eu hunain yn gyson ac awyru os yn cwrdd dan do.

    Mae'r holl gyfyngiadau diweddaraf wedi cael eu crynhoi yn yr erthygl ar ein hafan.

    Tan y tro nesaf felly, diolch am ddilyn, a Nadolig Llawen!

    NadoligFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Does gennym ni mo’r staff'wedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Yn ymateb i'r cyfyngiadau diweddaraf dywedodd Ashley Stephens, perchennog tafarn yr Unicorn ym Mhont-y-pwl: "Rwy’n deall bod angen cyflwyno cyfyngiadau fel hyn er mwyn helpu rheoli hwn, ond eto fyth does gennym ni mo’r staff.

    "Dyna beth mae’n golygu - ni methu rhoi y gwasanaeth a bydd pobl jest ddim yn dod aton ni o gwbl fydden i'n meddwl.

    "Mae’n mynd i’n chwalu ni fwy na’r cyflwr ni ynddi ar y funud, felly mae hynny'n 25% o’r busnes wedi mynd.

    "Ar adeg cinio Sul fe allen ni gael 120 a mwy o bobl, ond ni ddim am gael y ffigyrau hynny ddim mwy."

    Unicorn
  3. 'Cyfnod anoddaf y pandemig hyd yma' i letygarwchwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Mae'r Gymdeithas Diwydiannau Gyda'r Nos (NTIA) wedi ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog drwy ddweud ei fod yn "ergyd ddinistriol" i letygarwch a'r sector nos ehangach.

    Dywedodd y gymdeithas fod arolwg o'r sector yr wythnos hon wedi dangos fod effaith ariannol y cyfyngiadau "eisoes yn llawer mwy na'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig".

    Ychwanegodd yr NTIA eu bod yn cydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi'u cyfyngu'n ariannol o ran faint o gefnogaeth allen nhw gynnig, a bod angen rhagor o gymorth gan San Steffan.

    "Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth y DU i ailgyflwyno ffyrlo yn syth, a darparu cefnogaeth gymesur i'r gwledydd datganoledig fel bod busnesau ar draws y DU yn gallu goroesi beth sydd nawr yn edrych fel cyfnod anoddaf y pandemig hyd yma."

    clwb nosFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd yn rhaid i glybiau nos gau'n gyfan gwbl o 26 Rhagfyr ymlaen

  4. Rheolau newydd 'wir yn ergyd' i fwytaiwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Bydd y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer lletygarwch o Ddydd San Steffan ymlaen yn debyg iawn felly i'r hyn a welon ni yn gynharach eleni yn dilyn y cyfnod clo - pellter rhwng byrddau, gwasanaeth bwrdd neu drwy apiau, a rhoi manylion cyswllt unwaith eto.

    "Mae’r rheol dau fetr, mae hwnna wir yn mynd i effeithio ni fel busnes," meddai Gareth Evans, rheolwr bwyty Baravin yn Aberystwyth.

    "Fi'n credu byddwn ni colli 24 cadair mas o'r bwyty eto. Ma' hwnna wir yn ergyd."

    Ychwanegodd Paul Slevin, llywydd Siambr De Ddwyrain, De Orllewin a Chanolbarth Cymru y bydd y cyfyngiadau newydd yn "her arall i fusnesau" ac yn ergyd.

    Ond ychwanegodd fod ganddyn nhw ran bwysig i'w chwarae wrth atal lledaeniad yr haint, a'u bod yn croesawu'r cymorth ariannol fydd yn dod gan Lywodraeth Cymru yn sgil hynny.

    Gareth Evans
  5. Plaid Cymru'n croesawu 'camau cadarn'wedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Plaid Cymru

    Wrth ymateb i gyhoeddiad Mr Drakeford dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod angen cymryd "camau cadarn" yn sgil "difrifoldeb y bygythiad".

    "Dwi wedi bod yn galw am beidio rhoi terfyn ar gartrefi yn cwrdd achos mae'n adeg o'r flwyddyn lle mae pobl angen treulio amser gyda'u hanwyliaid," meddai.

    "Ond wrth gwrs mae angen i'r canllawiau fod yn glir ar beth ddylen nhw wneud."

    Ychwanegodd y gallai fod angen "cryfhau" y rheolau yn y flwyddyn newydd, gan rybuddio bod angen bod yn wyliadwrus o hyd.

    "Tasen ni ddim yn gwneud unrhyw beth rŵan, mi fasen ni mewn trwbl go iawn ym mis Ionawr."

    Rhun ap Iorwerth
  6. Beirniadu cyhoeddi'r rheolau 'fesul tipyn'wedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wrth ymateb i'r rheolau newydd, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod yn anhapus fod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau manylion fesul tipyn yn ystod yr wythnos.

    Roedd hynny'n ei gwneud hi'n "anoddach" i bobl eu deall a'u dilyn, meddai.

    Dywedodd hefyd y dylai rheolau newydd gael eu pasio yn y Senedd gyntaf cyn cael eu cyflwyno, fel sy'n digwydd yn San Steffan.

    Roedd yn cytuno, fodd bynnag, gyda Mark Drakeford y dylai pobl gymryd "cyfrifoldeb personol" dros daclo'r feirws, yn hytrach na chael y llywodraeth yn dweud wrthyn nhw faint o bobl maen nhw'n cael cyfarfod dros y Nadolig.

    Ond mynnodd fod "dryswch" yn y rheolau gweithio o adref o hyd, gyda phobl yn gallu "mynd i'r dafarn heb ddirwy, ond cael dirwy os ydyn nhw'n mynd i'r gwaith".

    Andrew RT Davies
  7. Drakeford i weld ei blant a'u teuluoedd ar ddyddiau gwahanolwedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog y bydd yn gweld ei blant a'u teuluoedd ar ddyddiau gwahanol dros y Nadolig oherwydd Covid-19.

    Yn ôl Mark Drakeford maen nhw'n awyddus i ddilyn canllawiau'r llywodraeth i adael bwlch rhwng gweld pobl.

    "Yn hytrach na'r hyn y bydden ni efallai wedi'i wneud fel arfer - pawb yn dod ar ddydd Nadolig - mi fyddwn yn gwahanu ymweliadau ar y sail y dywedon ni'r wythnos ddiwethaf - mae Nadolig llai yn Nadolig diogel," meddai.

    "Ond ar yr un pryd, fe allwch chi gael Nadolig da os ydych chi'n bod yn ofalus."

  8. Llywodraeth y DU 'mewn paralysis' ar gyflwyno cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn credu fod Llywodraeth y DU "mewn cyflwr o baralysis" pan ddaw at gyflwyno cyfyngiadau Covid newydd.

    Dywedodd ei fod yn credu bod holl weinidogion y DU yn gweld yr un data ag y mae Llywodraeth Cymru'n ei gael "am yr angen i weithredu'n gyflym yn sgil Omicron".

    Ond er bod achosion yn llawer uwch mewn rhannau o Loegr, yn enwedig yn Llundain, dydy Llywodraeth y DU heb gymryd camau tebyg i Gymru eto.

    Awgrymodd Mr Drakeford fod hynny oherwydd "gwrthdaro o fewn y cabinet" yn San Steffan rhwng "lleisiau rhesymol" a'r rheiny sy'n cymryd "safbwynt gwahanol".

    "Dwi ddim yn credu fod hyn oherwydd nad ydyn nhw'n gweld y data," meddai.

    "Maen nhw'n gweld y data, ond dydyn nhw ddim yn barod i weithredu ar y peth."

    Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Boris Johnson yn gweld yr un data â ni, meddai Mark Drakeford - pam felly nad yw wedi gweithredu?

  9. Mynnu fod tystiolaeth wyddonol yn cael ei chyhoeddiwedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Drakeford wedi mynnu fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r dystiolaeth wyddonol sy'n sail i'w penderfyniadau yn gyson.

    "Ry'n ni'n gwneud popeth ry'n ni'n ei weld ar gael yn gyhoeddus," meddai wrth y gynhadledd.

    "Yr hyn ry'n ni'n ei weld ydy amrywiolyn newydd yng Nghymru, ble mae nifer yr achosion newydd yn cynyddu'n ddyddiol, ble mae'r amser dyblu yn golygu y bydd yr achosion hynny yn eu miloedd o fewn dyddiau, a ble mae nifer y bobl sy'n wael ac mor wael eu bod angen triniaeth ysbyty yn sylweddol.

    "Rwy'n credu fod ein gweithredoedd yn gymesur i'r risgiau ry'n ni'n ymwybodol ohonynt."

    Ond ni ddywedodd pryd y byddai'r dystiolaeth a arweiniodd at y cyfyngiadau diweddaraf yn cael ei gyhoeddi.

    Y tro diwethaf i'r llywodraeth gyhoeddi unrhyw gyngor gwyddonol y derbynion nhw oedd ar 10 Rhagfyr.

    SwabFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 'Rheolau nawr fel na fydd angen rhai wedyn'wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Os yw'r rheolau Covid newydd yn arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion, awgrymodd Mr Drakeford na fyddai angen felly am ragor o gyfyngiadau yn y Flwyddyn Newydd.

    "Dyna pam 'dyn ni wedi symud yn gynnar, yn gynt na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig," meddai.

    "Dyna pam mae'r newidiadau yma'n dod i mewn yn syth ar ôl y Nadolig, ac os ydyn nhw'n cael yr effaith rydyn ni'n ei fwriadu, mae'n lleihau'r risg y bydd angen mwy arnom."

  11. Awgrym i bobl gyfyngu i dair aelwyd ar y prydwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Er nad oes cyfyngiadau cyfreithiol ar y nifer o aelwydydd all gwrdd mewn tai pobl, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn awgrymu tair aelwyd ar y tro fel rheol i'w dilyn.

    Ond cyngor, yn hytrach na chyfraith, fydd hynny "am ein bod ni oll wedi dysgu cymaint dros y misoedd am y ffyrdd y dylem ni ymddwyn", meddai Mr Drakeford.

    "Os ydy pobl eisiau awgrym, y tro diwethaf i ni fod mewn cyfyngiadau mwy llym, tair aelwyd oedd yn cael ei ddefnyddio fel y mwyafrif y dylai pobl gael ynghyd ar unrhyw adeg," meddai.

    CwrddFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Gofyn am gymorth ffyrlo gan Lywodraeth y DUwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog wedi ailadrodd ei alwad ar Lywodraeth San Steffan i ailgyflwyno mesurau ffyrlo ar gyfer y sectorau sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.

    "Er mwyn mynd yn bellach, petai angen hynny, does gan Lywodraeth Cymru ddim y grym ariannol yn y bôn nac hyd yn oed ffyrdd ymarferol o helpu pobl sydd o bosib methu gweithio," meddai Mark Drakeford.

    "Ar gyfer hynny, mae angen cymorth Llywodraeth y DU."

    Mae llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi gwneud yr un alwad, gyda Mr Drakeford yn dweud bod angen cymryd y camau hynny er mwyn "diogelu" busnesau pan maen nhw'n ailagor ar ôl y Nadolig.

    Rishi SunakFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    A fydd cymorth pellach ar ffyrlo yn dod gan Rishi Sunak?

  13. Awgrym fod angen llai o gyfyngiadau yn 'gamddealltwriaeth'wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd bod yr awgrym fod angen llai o gyfyngiadau oherwydd adroddiadau fod Omicron yn amrywiolyn llai difrifol yn "gamddealltwriaeth" o'r wyddoniaeth.

    "Mae'n gamddealltwriaeth o'r safle ry'n ni ynddi i feddwl 'os ydy Omicron yn llai difrifol na Delta, mae hynny'n datrys y broblem'," meddai.

    Ychwanegodd "hyd yn oed pe bai Omicron hanner mor ddifrifol â Delta" y byddai angen cyfyngiadau "oherwydd y cyflymder mae'n lledaenu".

    Dywedodd hefyd fod Omicron yn llawer mwy difrifol na'r hyn y mae rhai penawdau wedi awgrymu.

    OmicronFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Rheol gweithio o adref 'yn gwarchod gweithwyr, nid eu cosbi'wedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mewn ymateb i gwestiwn ar y dirwyon posib o £60 i weithwyr sydd ddim yn gweithio o adref pan allen nhw, mae Mark Drakeford yn dweud ei fod yn "croesawu'r cyfle" i wneud y mater yn glir.

    Dywedodd y prif weinidog mai'r oll maen nhw wedi ei wneud yw ailgyflwyno rheol "oedd gennym ni'n gynharach yn y pandemig" - un ble na chafodd yr un gweithiwr eu dirwyo.

    Yn hytrach, meddai, y bwriad yw "gwarchod gweithwyr, nid eu cosbi" drwy gyflwyno rheolau y gall gweithwyr gyfeirio eu cyflogwyr ato os ydyn nhw'n teimlo fod pwysau afresymol arnyn nhw i ddod i'r gwaith.

    Mae'r rheolau'n golygu bod disgwyl bellach i bobl weithio o adref ble bynnag sy'n bosib, ac y gallai busnesau wynebu dirwyon hefyd am fethu a sicrhau hynny'n ddigonol.

    gweithio o adrefFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. 'Cyfnod mwyaf difrifol y pandemig hyd yma'wedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog ein bod nawr ar ddechrau "cyfnod mwyaf difrifol y pandemig hyd yma".

    "Does yr un ohonom eisiau gweld y cyfyngiadau a'r lefelau rhybudd yn dychwelyd," meddai Mr Drakeford.

    "Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein hunain a chadw Cymru'n ddiogel," meddai.

    "Fe allwn ni weithio gyda'n gilydd ac fe fyddwn ni'n goroesi hyn - fe fydd dyddiau gwell i ddod."

  16. Profion LFT yn hytrach na hunan ynysuwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford hefyd yn dweud eu bod yn newid y rheolau ar hunan ynysu.

    Bellach ni fydd rhaid i blant ac oedolion sydd wedi eu brechu'n llawn hunan ynysu os ydyn nhw wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun a Covid-19.

    Yn hytrach, fe fydd yn rhaid iddyn nhw gymryd prawf llif unffordd (LFT) bob dydd, ac fe fyddan nhw'n cael mynd i'r gwaith.

    Ond fe fydd y rheiny sydd heb eu brechu'n llawn yn parhau i orfod hunan ynysu os ydyn nhw wedi bod yn gyswllt agos.

    Dyw Llywodraeth Cymru heb chwaith newid y rheolau ar hunan ynysu gyda Covid fel mae Lloegr wedi - dros y ffin, dim ond am saith diwrnod sydd yn rhaid hunan ynysu os ydych chi wedi dal yr haint bellach, os ydych chi'n profi'n negyddol ar y diwedd.

    prawf LFTFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. £120m o gymorth i fusnesauwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd symud i 'Lefel Rhybudd Dau' yn helpu busnesau "i barhau i fasnachu tra'n cryfhau mesurau i wella iechyd cyhoeddus".

    Ond mae'n cyfaddef y bydd hyn yn effeithio ar fusnesau, ac felly bydd £120m ar gael i glybiau nos, digwyddiadau, siopau, lletygarwch a busnesau twristiaeth a hamdden er mwyn eu helpu nhw.

    Mae disgwyl rhagor o fanylion ar hynny gan y Gweinidog Economi Vaughan Gething yfory, meddai.

  18. Gwahardd ar bartïon o dros 30 o bobl dan dowedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Er nad oes cyfyngiadau cyfreithiol ar gwrdd mewn tai pobl, dywedodd y Prif Weinidog y bydd trosedd benodol yn cael ei chyflwyno ar gyfer casgliad mawr o bobl.

    Fe fydd hi'n anghyfreithlon i dros 30 o bobl gwrdd dan do, a 50 o bobl yn yr awyr agored - yr un niferoedd â digwyddiadau eraill.

    Dywedodd fod hyn oherwydd bod Omicron yn ffynnu mewn grwpiau mawr, yn enwedig dan do.

    Ychwanegodd y bydd y rheolau mewn grym am yr amser byrraf posib, ac y byddan nhw'n cael eu hadolygu'n gyson.

    PartiFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Dim rheolau cyfreithiol ar gymysgu mewn tai a gerddiwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford na fydd rheolau cyfreithiol i gyfyngu ar gymysgu yn nhai a gerddi pobl, ond y bydd rhagor o gyngor yn cael ei ddarparu.

    Ychwanegodd fod modd peidio â gwneud hynny oherwydd y nifer sydd wedi'u brechu, argaeledd profion llif unffordd, a bod pobl bellach yn fwy ymwybodol o sut i amddiffyn eu hunain.

    Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn cynghori pobl i wneud pum peth os yn cyfarfod â phobl eraill yn eu tai:

    • Cyfyngu nifer y bobl sy’n dod i’ch cartref;
    • Sicrhau fod pobl yn gwneud prawf llif unffordd cyn ymweld;
    • Cwrdd yn yr awyr agored os yn bosib, ond sicrhau fod digon o awyr iach yn dod i'r ystafell os yn cwrdd dan do;
    • Gadael bwlch rhwng unrhyw ymweliadau;
    • Cofio cadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo.
    TeuluFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Newidiadau o Ddydd San Steffan ymlaenwedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford nawr wedi amlinellu'r mesuriadau newydd fydd yn dod i rym o 06:00 ar 26 Rhagfyr:

    • Cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn mannau cyhoeddus ble mae modd;
    • 'Rheol chwe pherson' yn dychwelyd i lefydd fel lletygarwch, sinemâu a theatrau;
    • Mesurau ychwanegol i dafarndai a bwytai, fel gwasanaeth bwrdd, mygydau, a chasglu manylion cyswllt;
    • Hyd at 30 yn cael cwrdd ar gyfer digwyddiadau dan do, a hyd at 50 y tu allan.

    Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y byddai clybiau nos yn cau, a bydd hynny'n digwydd yr un pryd ag y mae'r cyfyngiadau diweddaraf yn dod i rym.

    Ond ar ôl dweud y byddai digwyddiadau chwaraeon i gyd yn gorfod digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig o Ddydd San Steffan ymlaen, maen nhw nawr yn dweud y caiff hyd at 50 o bobl wylio gemau cymunedol - a bod eithriad ar gyfer chwaraeon plant.

    gweini diodyddFfynhonnell y llun, Pacemaker