'Bydd sefyllfa Omicron ond yn gwaethygu'wedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich 22 Rhagfyr 2021
Llywodraeth Cymru
Gan agor y gynhadledd dywedodd y Prif Weinidog fod y sefyllfa gydag amrywiolyn Omicron yn symud yn gyflym iawn yng Nghymru, a "hyd yn oed ers i mi siarad gyda chi ddydd Gwener, mae nifer yr achosion wedi cynyddu'n sydyn".
"Rydyn ni'n disgwyl i'r duedd yma barhau a chyflymu. Mae Omicron yma yng Nghymru ac mae'n lledaenu'n sydyn," meddai Mark Drakeford.
Ychwanegodd mai'r amrywiolyn newydd fydd yr un mwyaf amlwg yng Nghymru cyn hir, fel sydd eisoes yn wir yn Lloegr a'r Alban.
"Erbyn Gŵyl San Steffan fe fyddwn ni'n gweld nifer o filoedd o achosion newydd ledled Cymru yn ddyddiol," meddai.
"Mae pobl eisoes i ffwrdd o'r gwaith yn sâl, yn rhoi gwasanaethau allweddol dan straen. Fe fydd y sefyllfa yma yn gwaethygu."
Dywedodd mai dyma'r rheswm pam fod yn rhaid cyflwyno rhagor o gyfyngiadau wedi'r Nadolig.