Crynodeb

  • Mae'r nifer sy'n cael cymryd rhan mewn digwyddiad awyr agored yn cynyddu i 500 o ddydd Sadwrn, ac yna fe fydd y cyfyngiadau'n cael eu diddymu o 21 Ionawr

  • Fe fydd cyfyngiadau ar fusnesau, clybiau nos a digwyddiadau dan do yn symud i Lefel Sero o 28 Ionawr

  • Os fydd y sefyllfa'n parhau i wella o safbwynt Omicron, fe fydd gemau rygbi'r Chwe Gwlad a gemau ailgyfle pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn cael digwydd o flaen torf lawn

  1. Hwyl am y tro!wedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am ddilyn ein llif byw wrth i'r prif weinidog Mark Drakeford gyhoeddi manylion llacio'r cyfyngiadau Covid yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf.

    Fe fydd unrhyw ddiweddaru i'r sefyllfa i'w gweld ar ein hafan wrth gwrs.

    Pob hwyl i chi am heddiw.

  2. Tri dyddiad allweddolwedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    I grynhoi felly, dyma'r tri dyddiad dros y pythefnos nesaf i'w nodi pan mae'n dod at godi'r cyfyngiadau Covid a symud tuag at lefel rhybudd sero.

    graffeg
  3. Galw am lacio rheolau yn gyntwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    BBC Cymru Fyw

    Ymatebodd Ben Francis ar ran Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru drwy alw am godi'r cyfyngiadau ar y sector lletygarwch yn gynt.

    Dywedodd: "Ry'n ni a'n haelodau yn cydnabod pwysigrwydd cadw Cymru'n ddiogel, a'r heriau ddaeth oherwydd leldaeniad Omicron.

    "Mae busnesau Cymru wedi gweithio'n ddi-flino i ddilyn y canllawiau a chyngor gan Lywodraeth Cymru ac mae llacio'r cyfyngiadau i'w groesawu.

    "Ond mae pryder yn parhau bod sector sydd mor bwysig ac sydd wedi diodde' fwyaf o'r cyfyngiadau yn wynebu sefyllfa fregus, ac ry'n ni'n galw felly ar y llywodraeth i ystyried codi'r cyfyngiadau ar 21 Ionawr er mwyn llinaru'r pwysau ar y busnesau hynny."

  4. Croeso gan siambr fusneswedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    BBC Cymru Fyw

    Mae cadeirydd Siambr Fusnes Cymru yn y de a'r canolbarth, Paul Slevin wedi dweud y bydd busnesau'n "croesawu" camau i symud at lefel rhybudd sero yn y pythefnos nesaf.

    "Mae paratoi yn allweddol tra bod y feirws gyda ni, a bydd angen i fusnesau addasu i weithio o gwmpas y feirws ac unrhyw amrywiolyn sy'n dod yn y dyfodol," meddai.

    "Mae'r cynllun hwn yn rhoi eglurder i fusnesau, gan adael iddyn nhw gynllunio ymlaen yn fwy manwl a chyda hyder."

  5. Angen cymorth i letygarwch, meddai Plaidwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Plaid Cymru

    Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod angen mwy o gymorth ariannol i'r sector lletygarwch.

    Roedd hi'n bechod, meddai, fod bwytai a thafarndai wedi cael eu "taro'n wael" gan y cyfyngiadau diweddar.

    "Pythefnos i ffwrdd tan mae pethau'n cyrraedd yn ôl i lefel sero, ond fe allai pethau symud ychydig yn gynt eto, bydden i o blaid hynny," meddai.

    "Ond mae'n rhaid i ni wneud hynny'n ofalus... achos dwi ddim eisiau gweld lletygarwch yn dioddef eto."

  6. 'Tro pedol oedd hwn' meddai'r Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies wedi mynnu fod cyhoeddiad heddiw yn dangos fod y prif weinidog wedi gorfod gwneud "tro pedol" ar y cyfyngiadau.

    "Roedd e'n dweud wrthym ni [yn gynharach yn yr wythnos] ein bod ni yn llygad y storm a bod 10 diwrnod arall cyn y gallai symud, ac yna 48 awr wedyn mae'n symud," meddai.

    Dywedodd Mr Davies fod y cyfyngiadau hefyd wedi effeithio ar fusnesau yng Nghymru.

    "Mae'r prif weinidog yn dweud bod y cyfyngiadau yn dod ag achosion i lawr, ond yr unig beth mae'r cyfyngiadau yma wedi'i wneud mewn sawl rhan o Gymru ydi dod a chyfleoedd busnes i lawr," ychwanegodd.

  7. 'Tystiolaeth gref' fod Omicron ddim mor ddifrifolwedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn dweud fod y "dystiolaeth yn cryfhau" i ddangos nad yw Omicron yn amrywiolyn mor ddifrifol o Covid a'r rhai blaenorol rydyn ni wedi eu gweld.

    Nifer y bobl sy'n dal Omicron, yn hytrach na pha mor ddifrifol wael ydyn nhw, yw'r prif her y tro hwn, meddai.

    Dywedodd fod nifer y bobl sydd mewn unedau gofal dwys yng Nghymru gyda Covid bellach wedi gostwng o 40 yr wythnos diwethaf, i 30 bellach.

    "Mae'n dystiolaeth bellach ein bod ni wedi pasio'r brig yna a bod pethau wedi gwella," meddai.

  8. Newyddion 'gwych' i dafarnauwedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am godi cyfyngiadau, dywedodd Emma McClarkin - prif weithredwr Cymdeithas Tafarnau a Chwrw Cymru bod y newyddion yn "wych i dafarnau a bragwyr".

    "Ar gyfartaledd mae tafarnau Cymru wedi colli 30% o'u hincwm dros bythefnos y Nadolig ac wedi eu taro'r ddrwg.

    "Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda gweinidogion i sicrhau y gall tafarnau a bragwyr ailddechrau ac adfer go iawn. Mae cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru yn bwysig i hyn."

    tafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. 'Staff Llywodraeth Cymru heb fod yn cynnal partis'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ymateb i gwestiwn ar beth fyddai ei ymateb petai'n dod i'r amlwg fod partion wedi cael eu cynnal gan staff Llywodraeth Cymru, mae Mark Drakeford yn dweud nad yw'n "ymwybodol o unrhyw bartis o'r math yna o gwbl" ac y byddai'n "siomedig iawn" petai hynny wedi digwydd.

    Daw hynny mewn ymateb i ragor o adroddiadau o bartion yn cael eu cynnal yn Downing Street tra bod gweddill y wlad yn byw dan gyfyngiadau Covid llym ar y pryd.

    "Doedd braidd dim digon o bobl yn yr adeilad yma beth bynnag i gael parti hyd yn oed petai pobl eisiau," meddai Mr Drakeford, gan fod staff Llywodraeth Cymru ar y cyfan wedi bod yn ceisio gweithio o adref.

    Ychwanegodd: "Dro ar ôl tro dwi wedi dod yma i ddweud bod gan bobl sy'n gwneud y rheolau gyfrifoldeb arbennig i ddilyn y rheolau, a dyna 'dyn ni wastad wedi trio ei wneud fan hyn."

    Wrth ymateb i gwestiwn pellach ar yr un pwnc, dywedodd Mr Drakeford ei bod hi'n ymddangos fel bod "diwylliant" o fewn Downing Street a staff Boris Johnson eu bod nhw "uwchlaw'r rheolau sy'n berthnasol i bobl eraill".

    Ychwanegodd fod ganddo "barch" i Sue Gray, y gwas sifil sy'n arwain yr ymchwiliad i'r digwyddiadau yn Downing Street, ond y dylai'r ymchwiliad fod wedi cael ei roi i rywun sy'n "hollol annibynnol" ac nid yn atebol i'r prif weinidog.

  10. Cadw addysg 'wyneb-yn-wyneb'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Mynnodd Mr Drakeford nad yw ei lywodraeth yn symud yn "rhy gyflym" gyda'r cynllun i lacio cyfyngiadau.

    Dywedodd Mr Drakeford eu bod yn gweithredu "yn ofalus, cam wrth gam, mewn ffordd fydd yn caniatau i ni adolygu'r penderfyniadau".

    Ychwanegodd y bydd yn gwylio'n "ofalus iawn" beth sy'n digwydd yn ysgolion Cymru dros yr wythnosau nesaf ac y byddan nhw'n "gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau y gallwn barhau gydag addysg wyneb-yn-wyneb am gyhyd ag y gallwn".

  11. '30% o bobl dal yn heintus ar ddiwrnod pump o gael Covid'wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Gyda Lloegr yn gostwng yr angen i hunan ynysu lawr i bum diwrnod os yw pobl yn profi'n negyddol, a oes disgwyl i Gymru ddilyn hynny?

    "Byddwn ni'n edrych ar ba bynnag dystiolaeth mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio i ddod i'r penderfyniad yna," meddai Mark Drakeford.

    Ychwanegodd fod y dystiolaeth gafodd ei ddangos pan benderfynwyd i newid o 10 diwrnod i saith yn dangos bod "dros 30% o bobl dal yn heintus" ar ddiwrnod pump o fod gyda Covid.

    Os yw gwyddonwyr Cymru'n dweud ei bod hi'n bosib symud i gyfnod hunan ynysu o gyn lleied a phump diwrnod yna byddai'n bosib newid y rheol, meddai, "ond dydyn ni heb weld y dystiolaeth yna eto".

    mdFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  12. Data yn 'cyfiawnhau' cyfyngiadau dros y Nadoligwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r cwestiwn cyntaf i Mark Drakeford yn holi a wnaeth Llywodraeth Cymru orymateb i'r don Omicron o ystyried y data sydd bellach wrth law.

    Wfftio hynny mae'r prif weinidog, gan ddweud bod y ffigyrau'n dangos fod cynnydd sydyn wedi digwydd, a bod angen taclo hynny.

    Ychwanegodd bod y camau gafodd eu cymryd gan Gymru yn "angenrheidiol ac effeithiol", gan gyfeirio at y gwahaniaeth yn nifer yr achosion o'i gymharu gyda Lloegr.

    Mae hynny wedi cyfiawnhau'n llwyr y camau mae Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi eu cymryd," meddai.

  13. 'Y pandemig ddim drosodd - ond dyddiau gwell o'n blaenau'wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn gorffen ei anerchiad drwy ddiolch wrth "bawb yng Nghymru" sydd wedi dilyn y rheolau i gadw'u hunain ac eraill yn saff.

    Ychwanegodd bod "ymdrechion enfawr" staff canolfannau brechu, gweithwyr iechyd a gwasanaethau cyhoeddus wedi helpu i drechu'r don ddiweddaraf o Covid.

    "Dyw hyn ddim yn golygu bod y pandemig drosodd - mae Omicron dal gyda ni ac mae lefelau coronafeirws dal yn uchel yn ein cymunedau," meddai.

    "Bydd rhai dyddiau ac wythnosau anodd wrth i ni barhau i ymateb i Omicron, ond rydyn ni'n gwybod y bydd mwy o ddyddiau gwell o'n blaenau ni i gyd."

  14. Codi cyfyngiadau eraill mewn pythefnoswedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Yr wythnos ganlynol, ar ddydd Gwener 28 Ionawr, mae disgwyl i Gymru symud yn gyfan gwbl i lefel rhybudd sero.

    Bydd hyn yn golygu:

    • Clybiau nos yn cael ailagor;
    • Gweithio o adref pan yn bosib ddim yn ofyniad cyfreithiol bellach;
    • Busnesau a sefydliadau i gynnal asesiadau risg ar gyfer Covid;
    • Angen pas Covid i fynd i glybiau nos, digwyddiadau, sinemâu a theatrau;
    • Diddymu'r 'rheol 6 pherson' a gorfod cadw pellter 2m mewn lletygarwch.

    Bydd y rheolau ar hunanynysu i bobl sy'n cael prawf Covid positif yn parhau, ond bydd y rheolau'n cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru bob tair wythnos.

  15. Torfeydd llawn yn cael dychwelyd penwythnos nesafwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    O ganlyniad i'r gostyngiad mewn achosion, meddai Mark Drakeford, mae modd dechrau codi cyfyngiadau "yn ofalus a graddol" dros y pythefnos nesaf.

    Mae'r prif weinidog yn cadarnhau y bydd un newid yn digwydd o ddydd Sadwrn yma ymlaen, sef bod nifer y bobl sy'n cael bod mewn digwyddiad awyr agored yn cynyddu o 50 i 500.

    Yna, os bydd yr amodau'n parhau i fod yn ffafriol, bydd newidiadau ar ddydd Gwener 21 Ionawr yn cynnwys:

    • Dim cyfyngiadau ar nifer y bobl mewn gweithgareddau awyr agored;
    • Torfeydd yn cael dychwelyd yn llawn i gemau chwaraeon;
    • Dim angen mesurau ychwanegol ar letygarwch yn yr awyr agored;
    • Angen pas Covid ar gyfer digwyddiadau awyr agored mwy eu maint.
  16. Ton Omicron 'llai nag yn Lloegr'wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r ail sleid sy'n cael gan Mr Drakeford yn dangos fod y don Omicron wedi bod yn llawer is yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon nac yn Lloegr.

    Roedd "mwy o fesurau gwarchod" yn y gwledydd datganoledig hynny dros y cyfnod, meddai'r prif weinidog.

    Mae Mr Drakeford hefyd yn dweud bod "arwyddion positif" fod nifer y cleifion Covid mewn ysbytai yn disgyn.

    Yn ogystal, mae dros 1.8m o bobl yng Nghymru bellach wedi cael hwb frechlyn, ac mae'r rhaglen brechiadau atgyfnerthu wedi bod yn gynt yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU, meddai.

    achosionFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  17. 'Troi cornel' ar y don Omicronwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn dechrau'r gynhadledd drwy ddweud bod sefyllfa'r amrywiolyn Omicron wedi gwella dros yr wythnos ddiwethaf, a bod pethau'n dechrau "troi cornel".

    Mae'r sleid gyntaf sy'n cael ei dangos ganddo yn y gynhadledd yn dangos y twf sydyn mewn achosion dros gyfnod y Nadolig ac yna, fel y disgwyl, y gostyngiad yn dechrau dangos.

    Mae Mr Drakeford yn rhybuddio bod yn rhaid bod yn ofalus gyda'r data, gan fod newid yn y rheolau'n ddiweddar wedi golygu nad oes yn rhaid i bawb sy'n cael prawf LFT positif nawr fynd am brawf PCR pellach.

    Ond roedd data o ffynhonellau eraill eisoes yn dangos gostyngiad yn nifer yr achosion, meddai.

    achosionFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  18. Dilynwch y gynhadledd yn fyw...wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Heintiadau yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Cyfnod 'anodd' yn dod i ben?wedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Gydag ymbellhau cymdeithasol yn orfodol ers Rhagfyr, yn ogystal â rheol chwe pheron a chlybiau nos ar gau, mae'r cyfyngiadau diweddaraf wedi bod yn "anodd" yn ôl perchennog caffi o Landeilo.

    Dywedodd Laura Hubbard o siop Flows: "Dim ond caffi bach ydyn ni, ac mae'r cyfyngiadau'n golygu bo' ni wedi colli 10 bwrdd yn y caffi.

    "Mae hynny'n meddwl bod 30 yn llai o bobl yn gallu dod mewn, ac mae e wedi bod yn anodd.

    "Ni'n troi yn far bob nos Wener a nos Sadwrn hefyd so ni really ishe mynd nôl nawr i ddim cyfyngiadau."

    laura hubbard