Crynodeb

  • Mae'r nifer sy'n cael cymryd rhan mewn digwyddiad awyr agored yn cynyddu i 500 o ddydd Sadwrn, ac yna fe fydd y cyfyngiadau'n cael eu diddymu o 21 Ionawr

  • Fe fydd cyfyngiadau ar fusnesau, clybiau nos a digwyddiadau dan do yn symud i Lefel Sero o 28 Ionawr

  • Os fydd y sefyllfa'n parhau i wella o safbwynt Omicron, fe fydd gemau rygbi'r Chwe Gwlad a gemau ailgyfle pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn cael digwydd o flaen torf lawn

  1. Y ffigyrau brechu diweddarafwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Pedair marwolaeth yn rhagorwedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi'r ystadegau diweddaraf am Covid, gan gofnodi pedair marwolaeth yn rhagor ddydd Gwener, a 2,864 o achosion newydd.

    Gan bod y drefn o gynnal profion PCR wedi newid, maen debygol fod nifer yr achosion mewn gwirionedd yn uwch.

    statsFfynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  3. Tystiolaeth gadarnwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Yn ymateb ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth ei fod yn croesawu symud i lefel rhybudd sero, yn ogystal â threfn llacio'r cyfyngiadau.

    "Dwi wedi bod yn dweud dros yr wythnos ddiwetha' bod y dystiolaeth yn edrych yn gadarn iawn - be 'dan ni'n cael rŵan yw cadarnhad mai fel 'na ma hi, a dwi'n falch ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad yma."

  4. 'Gorymateb' medd y Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Ry'n ni wedi bod yn galw am fap allan o'r cyfyngiadau ac rwy'n falch eu bod nhw o'r diwedd wedi gwrando ar ein galwadau.

    "Er gwaethaf tystiolaeth wyddonol fanwl o Dde Affrica, fe wnaeth gweinidogion Cymru or-ymateb i Omicron, ac mae hynny wedi achosi poen a phryder i deuluoedd a busnesau yng Nghymru.

    "Yn anffodus, mae Llafur wedi golygu bod Cymru yn sefyll ar ben eu hunain yn y DU gyda'r cyfyngiadau mwyaf llym ym meysydd chwaraeon, gweithgaredd awyr agored a lletygarwch."

  5. Torfeydd chwaraeon yn dychwelyd?wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    BBC Radio Wales

    Bu Mark Drakeford hefyd yn siarad ar Radio Wales fore Gwener, ac fe ofynnwyd iddo a fyddai gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael digwydd o flaen torf yn Stadiwm Principality.

    Atebodd: "Cyn belled bod achosion Omicron yn parhau i ddisgyn gyda phatrwm parhaus am wythnos arall, yna rwy'n gobeithio medru cadarnhau ddydd Gwener nesaf y gall hynny ddigwydd."

    Byddai hynny'n newyddion da i gefnogwyr rygbi cyn gemau yn erbyn Yr Alban, Ffrainc a'r Eidal yn Chwefror a Mawrth, ac wrth gwrs cefnogwyr pêl-droed Cymru cyn gemau ail gyfle allweddol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddiwedd Mawrth.

    cefnogwyr
  6. Gwadu tro pedolwedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    BBC Radio 4

    Wrth gael ei holi ar raglen Today ar BBC Radio 4 y bore 'ma, fe wnaeth y prif weinidog wadu bod ei lywodraeth wedi gwneud tro pedol ar y cyfngiadau.

    Ddydd Mawrth fe ddywedodd bod Cymru "yng nghanol storm Omicron" cyn cyhoeddi newidiadau neithiwr.

    Ond atebodd Mark Drakeford: "Y gwrthwyneb sy'n wir mewn gwirionedd. Ry'n ni yng Nghymru wedi dilyn y wyddoniaeth a'r data. Ry'n ni'n gwneud penderfyniadau anodd pan bod hynny'n angenrheidiol.

    "Ac oherwydd y penderfyniadau anodd yna, ac yn bennaf oherwydd y ffordd wych y mae pobl Cymru wedi dilyn y cyngor yna, ry'n ni nawr mewn lle gwell i greu llwybr allan o hyn ac yn ol i Lefel Rhybudd Sero."

    drakeford
  7. Llacio'r cyfyngiadau yn raddolwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    Bydd y cyfyngiadau'n newid mewn pedwar cam, meddai'r prif weinidog, gyda'r nifer all fynd i ddigwyddiad awyr agored yn codi o 50 i 500 o ddydd Sadwrn, 15 Ionawr.

    O 21 Ionawr, ni fydd cyfyngiad ar y nifer sy'n cael mynd i ddigwyddiad awyr agored, ac ni fydd cyfyngiadau ar fusnesau letygarwch awyr agored.

    Yna o 28 Ionawr ymlaen, fe fydd busnesau lletygarwch dan do yn symud i Lefel Sero, ac fe fydd clybiau nos yn cael agor.

    barFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich 14 Ionawr 2022

    BBC Cymru Fyw

    Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion llacio rheolau Covid Cymru yn eu cynhadledd newydd ddydd Gwener, fe gewch chi'r diweddaraf yma wrth i'r newidiadau gael eu cyhoeddi'n ffurfiol.

    Y prif weinidog Mark Drakeford fydd yn arwain y gynhadledd, a fydd yn dechrau am 12:15.

    Croeso aton ni.