Cymru yn gollwng cyngor i beidio teithio dramorwedi ei gyhoeddi 17:44 Amser Safonol Greenwich 25 Ionawr 2022
Mae'n golygu nad oes cyngor yn erbyn mynd ar wyliau dramor am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Read MoreTorfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored
Dim cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored
Diddymu'r mesurau ychwanegol ar letygarwch awyr agored, fel y rheol chwech o bobl a phellter cymdeithasol
Angen Pàs Covid i ddigwyddiadau mawr awyr agored, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i ddilyn cyngor gwyddonol
Y Ceidwadwyr yn gofyn unwaith eto am ymchwiliad Covid penodol i Gymru
Plaid Cymru yn erfyn ar bawb i gael y brechlynnau
Bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel sero ddydd Gwener nesaf
Mae'n golygu nad oes cyngor yn erbyn mynd ar wyliau dramor am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Read MoreDaw sylwadau Mark Drakeford wrth i Boris Johnson wynebu mwy o bwysau yn sgil digwyddiadau yn Downing Street.
Read MoreMark Drakeford yn dweud y gallai Cymru recriwtio staff iechyd fydd yn colli eu swyddi yn Lloegr.
Read MoreDywedodd Jocelyn iddi ddewis genedigaeth rydd am nad oes ffydd ganddi yng ngwasanaethau mamolaeth y GIG.
Read MoreRhai dysgwyr gyrru yn disgwyl misoedd lawer a theithio cannoedd o filltiroedd i gael prawf.
Read MoreA dyna ni am heddiw.
Prif neges y Prif Weinidog oedd bod sefyllfa Covid Cymru wedi gwella digon i lacio nifer o gyfyngiadau heddiw gan symud i lefel sero ddydd Gwener nesaf.
Er hynny, mae'n rhybuddio bod Covid yn parhau a bod 50 wedi marw yn yr ysbyty yr wythnos hon.
Mae Mr Drakeford yn honni nad yw Llywodraeth y DU yn dilyn cyngor gwyddonwyr a'u bod wedi llacio nifer o gyfyngiadau er mwyn tynnu sylw oddi ar Brif Weinidog San Steffan, Boris Johnson.
Gwadu hynny mae Ceidwadwyr Cymru.
Mae Plaid Cymru yn dweud ei bod yn bwysig fod pawb yn cael eu brechu ac yn annog y rhai na sydd wedi cael brechlyn i gael un.
Ddydd Mawrth nesaf bydd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, yn gwneud cyhoeddiad am ysgolion ac fe fydd adolygiad Covid nesaf Llywodraeth Cymru ymhen tair wythnos.
Diolch am eich cwmni.
Cofiwch y bydd gweddill straeon y dydd a holl straeon a chwaraeon y penwythnos ar wefan Cymru Fyw.
Plaid Cymru
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ei bod yn allweddol i "annog y rheiny sydd heb eu brechu i'w gael e", am y bydd Covid yn "parhau yn salwch difrifol iawn" i'r rheiny sydd wedi'i wrthod.
"Beth am i ni geisio cael y bobl hynny sydd heb eu brechu i'w gael e er mwyn eu hamddiffyn nhw a'n diogelu ni i gyd er mwyn atal senario ble all amrywiolyn newydd ddod i'r amlwg," meddai.
"Os oes gyda ni garfan fawr o bobl sydd heb eu brechu fe all hynny arwain ar amrywiolyn mwy difrifol - a gobeithio na fydd hynny'n digwydd.
"Mae angen i ni sicrhau nad ydyn ni'n gyrru'r neges anghywir - dydy'r ffaith fod Covid yn dod yn endemig ddim yn golygu ei fod wedi diflannu."
Ceidwadwyr Cymreig
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, yn cwestiynu honiad Mr Drakeford nad yw gweinidogion llywodraeth y DU yn dilyn y wyddoniaeth ac yn galw eto am ymchwiliad cyhoeddus yn benodol i Gymru er mwyn canfod sut mae'r llywodraeth wedi delio â Covid.
"Mae gennym y cyfraddau marwolaeth gwaethaf ymhlith cenhedloedd y DU," meddai.
"Hefyd mae'r nifer y rhai sy'n aros am driniaeth yn codi," ychwanegodd.
Galwodd hefyd am godi'r cyfyngiadau yn gynt.
"Dan ni ddim eisiau aros pythefnos arall," meddai.
"Rhaid i ni symud yn gynt. Os yw'r Prif Weinidog yn mynnu fod yr hyn y mae'n ei wneud yng Nghymru yn iawn, pam ei fod yn dianc rhag ymchwiliad cyhoeddus i Gymru?"
Llywodraeth Cymru
Ychwanegodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd fod y llywodraeth yn parhau i ystyried a ddylid gostwng y cyfnod hunan-ynysu o saith diwrnod i bump i'r rheiny sydd wedi'u brechu'n llawn.
"Rydyn ni wedi cael adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe yn edrych ar y dystiolaeth," meddai.
"Fe fydd y Prif Swyddog Meddygol yn ystyried hwnnw ac yn rhoi ei gyngor i ni."
Ychwanegodd fod grŵp gwyddonol TAC y llywodraeth hefyd yn cwrdd heddiw i drafod yr un pwnc.
"Fe fydd gan weinidogion y cyngor yna erbyn dechrau'r wythnos nesaf ac yna fe fyddan ni'n edrych ar wneud penderfyniad.
"Os mai'r cyngor yw ei bod nawr yn ddiogel i wneud hynny rwy'n siŵr y bydd gweinidogion yn dilyn y cyngor hynny, ond dydw i ddim wedi gweld cyngor yn dweud hynny hyd yma."
Llywodraeth Cymru
Mae'r penderfyniad i godi'r cyfyngiadau Covid yn llwyr yn Lloegr yn cael ei wneud i dynnu sylw oddi ar "drafferthion enbyd y mae'r Prif Weinidog wedi'i greu i'w hun", yn ôl Mark Drakeford.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru y bydd safbwynt "mwy gofalus" yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru o hyd.
"Os oes unrhyw un yn credu fod y cyhoeddiadau'r wythnos hon ar coronafeirws o ganlyniad i ystyriaeth ofalus o'r wyddoniaeth neu am fod ganddynt gynllun gwerth chweil, rwy'n credu y byddai hynny'n safbwynt optimistig iawn," meddai Mr Drakeford.
Ychwanegodd nad oedd yn synnu am drafferthion diweddar Boris Johnson.
"Mae'r Prif Weinidog wedi cael ei ddiswyddo o ddwy swydd yn y gorffennol am beidio â dweud y gwir," meddai.
"Mewn nifer o ffyrdd, rwy'n credu mai'r hyn ry'n ni'n ei weld ydy hanes yn dal i fyny ag ef."
Llywodraeth Cymru
Dywed y Prif Weinidog nad yw'r ffaith bod Deddf Coronafeirws y DU yn dod i ben ar 25 Mawrth yn mynd i effeithio rhyw lawer ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu gan mai ar ddeddfwriaeth arall (un Iechyd Cyhoeddus 1984) y mae Cymru wedi dibynnu arni yn ystod y pandemig.
Deddf 1984 sydd wedi'n galluogi i roi mesurau ger bron y Senedd ar basys Covid, gorchuddion wyneb a chyfyngu torfeydd, ychwanegodd.
Llywodraeth Cymru
Does gan Lywodraeth Cymru ddim cynlluniau i godi tâl am brofion llif unffordd (lateral flow tests) yn ôl y Prif Weinidog.
Dywedodd fod Cymru mewn "safle da" i barhau i gael "cyflenwad cryf" o'r profion, ac y byddai unrhyw benderfyniad i stopio eu cynnig am ddim yn cael ei wneud ar y cyd rhwng pedair llywodraeth y DU.
Mae adroddiadau papur newydd yn awgrymu fod gweinidogion y DU yn bwriadu cynnig profion am ddim mewn rhai amgylchiadau yn unig yn y dyfodol, fel meysydd iechyd ac addysg, ac i bobl sydd â symptomau.
"Mae penderfyniadau ariannu yn cael eu gwneud gan y pedair gwlad ar y cyd, mae'n bwysig i mi bwysleisio hynny," meddai Mark Drakeford.
"Dyw hwn ddim yn benderfyniad i Lywodraeth y DU ei wneud ar ei liwt ei hun ac yna ei gyhoeddi i'r gweddill ohonom."
Ychwanegodd nad oedd Llywodraeth y DU wedi awgrymu iddo ef y byddai'n dechrau codi tâl am y profion.
Llywodraeth Cymru
Mae Cymru yn glynu at y model o godi'r cyfyngiadau gam wrth gam, meddai'r Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr.
Wrth i wasanaethau normal ddychwelyd i darfarndai a bwytai heddiw bydd cyfyngiadau yn parhau ar letygarwch y tu mewn am wythnos arall.
Bydd clybiau nos hefyd yn parhau ar gau am wythnos arall.
Dywed Mr Drakeford ei fod yn gweithredu ar sail cyngor gwyddonwyr ac mae wedi beirniadu codi y rhan fwyaf o'r cyfyngiadau mor fuan yn Lloegr.
"Gweithredu gam wrth gam yn unol â chyngor gwyddonol sydd wedi cadw Cymru yn ddiogel gydol y pandemig a 'dyw e ddim yn fwriad gennym i wyro oddi ar y fformiwla lwyddiannus honno," ychwanegodd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mr Drakeford fod Cymru "wedi goroesi'r storm gyda'n gilydd trwy ddilyn y rheolau a'r holl fesurau sydd wedi'n cadw'n ddiogel dros y ddwy flynedd ddiwethaf".
"Yn anffodus dyw'r pandemig yma ddim wedi dod i ben eto. Mae coronafeirws 'da ni o hyd. Ond fe allwn edrych i'r dyfodol gyda gobaith o'r newydd fod dyddiau gwell i ddod," meddai.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau diolch i bawb am eu hymdrechion dros yr wythnosau diwethaf, yn enwedig y rheiny fu'n rhan o'r rhaglen frechu.
Ychwanegodd nad yw hi "fyth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru - boed hynny'n ddos cyntaf, ail, neu'n frechlyn atgyfnerthu".
Dywedodd y bydd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles yn cynnal y gynhadledd yr wythnos nesaf i fanylu ar y camau nesaf i ysgolion.
Llywodraeth Cymru
Cadarnhaodd Mark Drakeford fod Cymru'n symud i lefel rhybudd sero ar gyfer holl ddigwyddiadau awyr agored o heddiw ymlaen.
Mae hynny'n cynnwys y bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon ac ni fydd yn rhaid i letygarwch gadw at reolau fel y rheol chwech o bobl tu fas.
Dywedodd fod £1m wedi'i roi i glybiau chwaraeon gafodd eu taro gan y cyfyngiadau diweddaraf, a bod £2m arall i ddilyn.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog hefyd y bydd Cymru'n symud i lefel rhybudd sero ym mhob sefyllfa ddydd Gwener nesaf.
"Bydd y rheolau hunan-ynysu ar gyfer pawb sy'n profi'n bositif am Covid yn parhau mewn lle, a'r rheolau ar fygydau mewn mannau cyhoeddus dan do," meddai Mr Drakeford.
Fe fydd y rheolau yn cael eu hadolygu nesaf mewn tair wythnos.
Llywodraeth Cymru
"Er ein bod wedi pasio brig y don, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gofnodi nifer o farwolaethau yn sgil yr haint.
"Yr wythnos hon yn unig fe wnaeth 50 o bobl farw oherwydd Covid-19.
"Mae hyn yn rhoi darlun i ni o effaith dynol y pandemig," meddai Mr Drakeford.
Dywedodd bod llawer o siarad yr wythnos hon wedi bod am "fyw gyda'r feirws".
"Ond rhaid cofio bod y 50 yma a mwy na 9,000 o deuluoedd eraill ar draws Cymru wedi colli un annwyl.
"Iddyn nhw dyw'r llwybr ymlaen ddim yn un hawdd.
"Yma yng Nghymru wnawn ni ddim anghofio yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw."
Llywodraeth Cymru
"Mae yna rywfaint o newyddion da am effaith omicron ar y gwasanaeth iechyd hefyd," meddai'r Prif Weinidog.
Dywed bod llai o bobl angen triniaeth ysbyty yn sgil Covid-19 a bod llai o gleifion yn gyffredinol gyda'r haint ond mae'n rhybuddio bod pwysau o hyd ar y GIG.
"Mae dros 1,000 o bobl yn yr ysbyty gyda Covid-19 ac er bod cyfraddau absenoldeb staff ac hunan-ynysu wedi gostwng mae nhw yn parhau i fod yn uchel ar 7.3%," ychwanegodd.
Llywodraeth Cymru
Ychwanegodd y Prif Weinidog fod angen cymryd gofal gyda ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru gan eu bod yn dangos profion PCR positif yn unig, ond fod ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos yr un duedd.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau roedd cyfraddau'n gostwng yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn yr wythnos hyd at 15 Ionawr, a Chymru oedd â'r gyfradd isaf o wledydd y DU.
Yr amcangyfrif oedd bod tua un ym mhob 25 person yng Nghymru â Covid-19 yr wythnos honno.
"Rydych chi'n gweld yn amlwg y bwlch rhwng Cymru a'r Alban - ble roedd lefelau diogelu uwch - a Lloegr," meddai.
Llywodraeth Cymru
Wrth agor y gynhadledd dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod yn hyderus fod brig ton Omicron wedi pasio a hynny wedi i ni weld cyfraddau uchel iawn o'r haint yng Nghymru.
"Ymdrechion pawb a llwyddiant y rhaglen frechu sy'n gyfrifol am hynny," meddai.
Yn fuan wedi'r Nadolig ac yn nechrau Ionawr roedd nifer yr achosion fesul 100,000 o bobl yn 2,300.
500 yw'r nifer bellach.
"Mae'r lefelau yma yn debyg i'r rhai a welwyd cyn i Omicron gyrraedd Cymru.
"Ond rhaid cofio bod lefelau uchel o'r haint yn parhau yn ein cymunedau," ychwanegodd.