Crynodeb

  • Torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored

  • Dim cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored

  • Diddymu'r mesurau ychwanegol ar letygarwch awyr agored, fel y rheol chwech o bobl a phellter cymdeithasol

  • Angen Pàs Covid i ddigwyddiadau mawr awyr agored, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i ddilyn cyngor gwyddonol

  • Y Ceidwadwyr yn gofyn unwaith eto am ymchwiliad Covid penodol i Gymru

  • Plaid Cymru yn erfyn ar bawb i gael y brechlynnau

  • Bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel sero ddydd Gwener nesaf

  1. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 21 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  2. 'Braf bod nôl'wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 21 Ionawr 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Ruth Crump o Glwb Pêl-droed Y Bala y bydd hi'n braf bod nôl ddydd Sadwrn.

    "'Dan ni wrth ein boddau wedi mis ansicr - doedden ni ddim yn gwybod pryd y caem ni fynd yn ôl ac yn meddwl sut oedd chwaraewyr yn mynd i allu cadw'n heini," meddai.

    "Roedden yn parchu y penderfyniad, wrth gwrs, ond ddim yn deall pam fod pobl yn gallu mynd i dafarn a methu cerdded mewn i Faes Tegid - lle dwi'n gweld yn saffach."

    Ar ran Clwb Rygbi Aberystwyth dywedodd Wyn Morgan eu bod nhw yn "edrych ymlaen yn fawr i groesawu Bethesda yfory ac yn disgwyl torf sylweddol".

    Clwb Pêl-droed Y BalaFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Y Bala
  3. Gostyngiad sylweddol yn nifer achosion Cymruwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich 21 Ionawr 2022

    Mae cyfradd achosion Covid yng Nghymru wedi gostwng 66% mewn wythnos gyda'r nifer bellach yn 500.8 achos ym mhob 100,000 o bobl - yr isaf ers 9 Rhagfyr.

    Mae nifer y cleifion mewn ysbytai sydd â Covid yn parhau i fod yn 757 - 11% yn is na'r wythnos ddiwethaf ac mae 25 o bobl angen gofal dwys - y niferoedd isaf ers 11 Awst.

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y Llywodraeth i osod dyddiad pendant ar gyfer codi pob cyfyngiad - gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb a hunan-ynysu.

    stryd fawrFfynhonnell y llun, PA Media
  4. 'Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i ddilyn y wyddoniaeth'wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich 21 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    "Dwi ddim yn credu bod amheuaeth fod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i ddilyn y wyddoniaeth ers tro," meddai Mr Drakeford wrth ymateb i'r gymhariaeth rhwng mesurau yng Nghymru a Lloegr ar raglen Breakfast y BBC fore heddiw.

    "Mae'n lywodraeth sydd mewn trafferthion mawr o'i gwneuthuriad ei hun, a wastad yn chwilio am bennawd fydd yn tynnu sylw o'r llanast y mae ynddo."

    Ychwanegodd nad ydy Llywodraeth Cymru "angen creu penawdau i dynnu sylw oddi ar drafferthion fel y mae'r llywodraeth yn Lloegr".

    Drakeford a JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Beth fydd yn digwydd ar ddydd Gwener 28 Ionawr?wedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich 21 Ionawr 2022

    Ddydd Gwener nesaf bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero.

    Mae hyn yn golygu'r canlynol:

    • Bydd clybiau nos yn ailagor;
    • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau'r perygl o'i ledaenu;
    • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sydd ar agor i'r cyhoedd a gweithleoedd yn dod i ben;
    • Ni fydd y rheol chwech o bobl mewn grym mwyach ar gyfer ymgynnull mewn safleoedd fel lletygarwch, sinemâu a theatrau;
    • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig na chasglu manylion cyswllt;
    • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori gweithio gartref ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol.
    lletygarwch etoFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ni fydd yn rhaid darparu gwasanaeth bwrdd yn unig o ddydd Gwener nesaf ymlaen

  6. Heibio'r storm ond angen gofal o hydwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich 21 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog nos Iau: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos ein bod wedi pasio brig y don Omicron.

    "Gallwn felly lacio'r mesurau lefel rhybudd dau fel rhan o'n cynllun gofalus a graddol.

    "Mae angen gofal o hyd, ond rydym yn parhau i fod yn hyderus bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn mynd i'r cyfeiriad cywir ac y gallwn, wythnos nesaf, symud yn llawn i lefel rhybudd sero, oni bai bod y sefyllfa'n newid er gwaeth.

    "Mae'n bwysig bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau a'r canllawiau i ddiogelu eu hunain a'u hanwyliaid. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar y cynnig o bigiad atgyfnerthu os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny."

    omicronFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Ydw i angen Pàs Covid?wedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich 21 Ionawr 2022

    Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr awyr agored sydd â mwy na 4,000 o bobl ynddynt os nad yw pobl yn eistedd, neu 10,000 o bobl os ydynt yn eistedd.

    Bydd rhaid parhau i ddangos Pàs Covid ym mhob sinema, theatr a neuadd gyngerdd hefyd.

    passFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Lefel sero o heddiw ymlaen ar gyfer gweithgareddau awyr agoredwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich 21 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Daeth cadarnhad gan y Prif Weinidog nos Iau y bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero ar 28 Ionawr, oni bai fod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwaethygu.

    O heddiw ymlaen bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.

    Mae hyn yn golygu'r canlynol:

    • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored;
    • Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored;
    • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael gweithredu heb y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr, fel y rheol chwech o bobl a chadw pellter cymdeithasol o 2m.
    lletygarwchFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Croesowedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich 21 Ionawr 2022

    Croeso unwaith eto.

    Am 12:15 fe fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi y diweddaraf ar lacio rheolau coronafeirws yng Nghymru.

    Bydd y newyddion diweddaraf ac atebion y Prif Weinidog i gwestiynau'r wasg i'w gweld yma ynghyd â'r ymateb.

    DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 'Roedd hi'n werth cyflwyno cyfyngiadau yn sgil Omicron'wedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich 16 Ionawr 2022

    Y Gweinidog Economi, Vaughan Gething, yn dweud bod budd wedi dod o gyflwyno'r cyfyngiadau ym mis Rhagfyr.

    Read More
  11. 'Cynnydd sylweddol' yn nifer y dysgwyr Cymraegwedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2021

    Nifer y dysgwyr Cymraeg a gweithgareddau dysgu wedi cynyddu yn ystod y pandemig, yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

    Read More
  12. 'Trafod cynnal I'm a Celebrity yng Nghymru eto'wedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich 4 Chwefror 2021

    Cyn-ymgynghorydd 'I'm a Celebrity' yn dweud bod trafodaethau ar gynnal y gyfres yng Nghastell Gwrych eto.

    Read More
  13. Gwraig a mam Mark Drakeford wedi cael Covidwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 21 Hydref 2020

    Dywed Mark Drakeford mai'r amser anoddaf ar lefel bersonol oedd pan cafodd ei wraig a'i fam yr haint.

    Read More
  14. Covid-19: Band pres yn poeni na fydd modd cwrddwedi ei gyhoeddi 08:35 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2020

    Pryderon Band Pres Pontarddulais na fydd hi'n ddiogel cyd-chwarae offerynnau pres rhag lledu'r feirws.

    Read More
  15. Gething yn ymddiheuro ar ôl rhegi am gyd-aelod Llafurwedi ei gyhoeddi 18:49 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020

    Vaughan Gething yn ymddiheuro i gyd-AC Llafur ar ôl rhegi wrth gyfeirio ati mewn cyfarfod dros y we.

    Read More