Crynodeb

  • Adolygiad o reolau coronafeirws yng Nghymru - a hynny am y 198fed tro

  • Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd gweddill y rheolau Covid yn dod i ben ar 28 Mawrth

  • Mae hyn yn cynnwys diwedd ar y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb ac i hunan-ynysu

  • Gweinidogion wedi cyhoeddi hefyd y bydd profi "cyffredinol" yn dod i ben yn raddol o ddiwedd Mawrth

  • Cymru fydd y wlad olaf yn y DU i ddiddymu'r holl gyfyngiadau coronafeirws

  • Nifer y profion PCR positif wedi gostwng bron i 25% yn yr wythnos ddiweddaraf - cyfradd o 158.7 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl

  1. Diolch a hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Efallai fod o'n dweud cyfrolau am y newid agwedd tuag at Covid, ond gan mai dim ond pedwar o newyddiadurwyr oedd yn holi cwestiynau yn y gynhadledd newyddion heddiw mae'r cyfan wedi dod i ben yn gynt gan arfer.

    Fe wnawn ni eich gadael am y tro felly, gyda chrynodeb o'r hyn fydd yn digwydd ymhen ychydig dros dair wythnos o safbwynt rheolau Covid yng Nghymru.

    Diolch am ddarllen a hwyl fawr i chi.

    cyfyngiadau
  2. 'Nid diwedd y daith'wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Plaid Cymru

    Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru ei bod yn bwysig gwybod sut y byddai Llywodraeth Cymru'n ymateb os fydd "pethau cymryd tro gwael, er ein bod yn gobeithio na fydd hynny'n digwydd wrth gwrs".

    Gofynnodd Rhun ap Iorwerth: "Pa mor barod yw'r llywodraeth i weithredu'n gyflym, a beth fyddai hynny'n ei olygu?

    Ychwanegodd fod "digon o gwestiynau i'w gofyn o hyd" am y dull o ddelio gyda coronafeirws.

    "Er ein bod yn falch ein bod mewn lle gwell, dydyn ni ddim wedi cyrraedd diwedd y daith chwaith," meddai.

  3. 'Angen dileu cyfyngiadau yn syth'wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies y dylid codi'r cyfygniadu yn syth yn hytrach nag aros tan ddiwedd y mis, ac mae Cymru yw'r rhan olaf o'r DU i gadw cyfyngiadau mewn lle.

    Dywedodd: "Doedd y prif weinidog ddim yn gallu cyflwyno dadl wyddonol dros gadw'r cyfyngiadau yng Nghymru. Y perygl o'u cadw yn hirach nag sydd angen yw os fydd rhaid eu hailgyflwyno yn y dyfodol oherwydd amrywiolyn newydd o Covid yna fydd pobl ddim yn fodlon cadw atyn nhw."

  4. Amrywiolion newydd 'yn bryder'wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Cyfaddefodd Mr Drakeford bod methu darganfod amrywiolion newydd oherwydd diwedd ar brofion torfol "yn bryder gwirioneddol".

    Ychwanegodd mai dyma pam y gwnaeth geisio "yn aflwyddiannus" i berswadio llywodraeth y DU i fabwysiadu "dull mwy graddol" o leihau'r profion.

    Ond dywedodd bod capasiti profi Llywodraeth Cymru yn ei galluogi i barhau i fonitro'n effeithiol gan fod gan Gymru un o'r systemau gorau yn y byd i adnabod genomau'r feirws a rhoi "lefel o fonitro sy'n ddigon da i allu canfod amrywiolion newydd".

    Dywedodd y byddai sgyrsiau'n parhau gyda llywodraeth y DU i sicrhau bod digon o fonitro'n digwydd os fydd angen codi'r lefel unwaith eto.

  5. 'Gofalwch am y rhai bregus'wedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Dywedodd Richard Pugh o elusen canser Macmillan yng Nghymru:

    “Mae dychwelyd i rhyw fath o normalrwydd yn mynd i gael ei groesawu gydag ochenaid o rhyddhad, ond rhaid i ni gofio na fydd pawb yn medru rhannnu hynny. I bobl gyda salwch sy'n effeithio ar eu system imiwnedd, mae'r cyfnod clo a ddechreuodd yn Mawrth 2020 yn debyg o barhau.

    “Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru'n mynd i barhau gyda phrofion wedi'u targedu, ac yn gobeithio y bydd hyn yn cynnwys pobl gyda chanser sy'n fregus. Drwy'r newid yma, rhaid i Gymru adnabod grwpiau bregus a chyfathrebu'n glir gyda nhw am yr hyn y mae'r newidiadau yn ei olygu iddyn nhw."

  6. 'Hyderus' y bydd pobl yn gwisgo mygydauwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Mark Drakeford ei fod yn hyderus y bydd pobl yn parhau i wisgo mygydau ac yn cymryd camau eraill i gadw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ddiogel rhag Covid.

    Mae Llywodraeth Cymru yn gollwng gofynion cyfreithiol i bobl wisgo mygydau wyneb, ond y cyngor swyddogol yw y dylid eu defnyddio o hyd mewn lleoedd gorlawn.

    Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n meddwl bod pobl yng Nghymru wedi gweithredu trwy gydol y pandemig mewn ffordd sy'n cydnabod nid yn unig bod y gweithredoedd hynny o gymorth iddynt, ond eu bod yn awyddus i sicrhau bod pobl eraill yn cael eu cadw'n ddiogel hefyd."

    Y sicrwydd gorau i'r rhai sy'n poeni am leddfu cyfyngiadau, meddai, oedd "os bydd pawb arall yn parhau i wneud y pethau hynny a all ein cadw'n ddiogel i'r dyfodol".

    mdFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Angen gwarchod rhag amrywiolion newyddwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd cadw'r gallu i brofi am Covid er mwyn delio gydag ynrhyw amrywiolion newydd sy'n debyg o ymddangos.

    Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Dr Frank Atherton: "Rwy'n nodi fod y Grŵp Ymgynghorol Gwyddonol at Argyfyngau (SAGE) a'r Grŵp Ymgynghorol ar Fygythiadau Feirysau Newydd (NERVTAG) o'r farn fod amrywiolion newydd yn debygol iawn o ymddangos, ac fe allan nhw arwain at lefelau mwy sylweddol o niwed uniongyrchol nag y gwelsom gydag amrywiolyn Omicron."

    Dr Frank Atherton
  8. Byw gyda Covid?wedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb y cwestiwn "Ai dyma'r amser y mae Cymru'n dechrau byw gyda'r feirws?" atebodd Mr Drakeford:

    "Dwi'n credu bod ni wedi bod yn byw gyda'r feirws ers sbel erbyn hyn.

    "Ni nawr yn dechrau trin Covid fel pethau eraill fel y frech goch ac ati... ni'n gwybod sut mae delio gyda pethau felly, a ni'n gwybod nawr beth ni angen neud i ddelio gyda Covid.

    "Ry'n ni ar y rhan yna o'r ddaith, gobeithio, le gallwn ni reoli Covid yn ein bywydau bob dydd, ond dyw rheoli fe ddim yn golygu ei anwybyddu.

    "Mae'n golygu cymryd camau synhwyrol o'r math yr y'n ni wedi disgrifio heddiw."

  9. Ystadegau profionwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Ar frig yr ail don o Covid yng Nghymru, roedd 37,000 o brofion PCR yn cael eu cynnal yn wythnosol.

    Ers mis Medi diwethaf, mae 25,000 o brofion yn cael eu cynnal ar gyfartaledd bob wythnos, ond mae'r ffigwr yna wedi disgyn yn sylweddol dros yr wythnosau diwethaf.

    Yn yr wythnos ddiwethaf, 14,800 o brofion a gynhaliwyd, ac fe arweiniodd y rheini at 300 o achosion positif.

    pcrFfynhonnell y llun, PA Media
  10. Profion llif unffordd i barhau am ddim am y trowedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd profion llif unffordd (LFT) yn parhau i fod ar gael am ddim i bobl sydd gyda symptomau am y tro, ond bydd profion PCR yn cael eu targedu ar grwpiau penodol, megis pobl mewn cartrefi gofal, pobl sy'n mynd i'r ysbyty a staff iechyd a gofal ymhlith eraill.

    mdFfynhonnell y llun, llywodraeth cymru
  11. Cadarnhad o'r newidiadau ar 28 Mawrthwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd y canlynol yn digwydd yng Nghymru o 28 Mawrth, "os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn ffafriol":

    • Gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yn dod i ben;
    • Gofyniad cyfreithiol i hunan-ynysu yn dod i ben;
    • Gofyniad cyfreithiol i fusnesau gynnal asesiad risg Covid penodol a chymryd camau rhesymol yn dod i ben;
    • Y defnydd arferol o brofion PCR ar gyfer y cyhoedd yn dod i ben - profion llif unffordd ar gael ar-lein am ddim yn lle hynny.

    Cadarnhaodd y bydd y llywodraeth yn cynghori - ond nid yn gorfodi - pobl i hunan-ynysu os ydyn nhw'n sâl.

    "Wrth i ni agosáu at ail ben-blwydd y pandemig, gallwn edrych i'r dyfodol gyda hyder cynyddol y bydd y flwyddyn nesaf yn un lle bydd gennym berthynas wahanol iawn â'r feirws," meddai.

  12. 'Byth yn rhy hwyr' i gael brechlynwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford bod y rhaglen frechu wedi "gwanhau'n sylweddol y cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol".

    Mae bron i 6.9m dos ​​o'r brechlyn wedi'u darparu ers lansio'r rhaglen ychydig dros flwyddyn yn ôl, meddai, "gan arbed miloedd o fywydau".

    "Byddwn yn ychwanegu at amddiffyniad pobl ymhellach drwy gynnig brechlyn atgyfnerthu gwanwyn i bobl hŷn a’r rhai mwyaf agored i niwed," meddai.

    "A byddwn yn cynnig brechlyn i bob plentyn pump i 11 oed.

    "Os nad ydych wedi cael brechlyn eto neu os nad ydych wedi cwblhau eich cwrs, nid yw byth yn rhy hwyr."

    cymru a'r DUFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae achosion Cymru yn llai na gweddill y DU

  13. Nifer sy'n yr ysbyty gyda Covid yn 'sefydlog'wedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford fod gostyngiad yn nifer yr achosion positif ym mhrifysgolion Cymru ac yn nifer y disgyblion ysgol sy'n absennol oherwydd Covid-19 yn yr wythnosau diwethaf.

    "Mae nifer y bobl yn yr ysbyty gyda Covid-19 yn sefydlog, sef tua 830," meddai.

    "Er ei bod yn newyddion da nad yw'r ffigwr hwn yn codi, ar y lefel hon, mae pwysau'r pandemig yn parhau i gael ei deimlo ar draws y GIG ac mae rhai canlyniadau difrifol ar wasanaethau a thriniaethau iechyd eraill.

    "Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd wedi gwella diolch i'ch holl waith caled dros y misoedd diwethaf.

    "Y canlyniad yw, yn yr adolygiad tair wythnos diweddaraf hwn o’r rheoliadau coronafeirws, y bydd Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd sero."

  14. Achosion yr wythnos ddiwethafwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford fod "ein perthynas â'r feirws yn newid diolch i'r cyfraddau uchel iawn o frechu".

    "Nid yw hyn yn golygu bod y pandemig drosodd ond mae'n golygu bod y ffordd yr ydym yn rheoli coronafeirws yn newid," meddai.

    Dywedodd fod cyfradd achosion Covid-19 yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol ers brig ton Omicron dros y Nadolig - gyda'r gyfradd tua 160 i bob 100,000 o bobl yma ar sail profion PCR.

    Yn yr arolwg diweddaraf gan yr Ystadegau Gwladol (ONS), meddaim roedd y canlyniadau'n awgrymu bod tua un o bob 30 o bobl wedi'u heintio.

    "Roedd lefelau haint yn is yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU," meddai.

    achosionFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  15. Gwyliwch y gynhadledd yn fyw...wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Mae modd gwylio'n fyw yma ar yr iPlayer hefyd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. 'Llacio wrth i'r tywydd wella yn synhwyrol'wedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae Dr Eilir Hughes wedi bod yn siarad am ei bryder y bydd pobl yn gweld y cyhoeddiad dros nos am lacio'r cyfyngiadau fel arwydd bod y pandemig ar ben.

    Ond dywedodd y bydd "Covid gyda ni am rai blynyddoedd eto," ac roedd yn bryderus am bobl fregus neu mewn iechyd gwael wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.

    Ychwanegodd: "Dwi yn falch i ryw raddau bod yna oedi wedi bod yn y cyhoeddiad yma yng Nghymru i gymharu hefo rhannau eraill o Brydain.

    "Pan 'da chi yn llacio rheolau fel hyn mae rhaid chi neud yn siŵr bod chi yn 'neud o ar adeg sydd yn saffach i ryw raddau, ond wrth gwrs cael balans yna gyda y gost na hefyd i bobl, a 'da ni yn gw'bod bod lledaeniad y feirws yn gostwng yn nes ydach chi yn mynd at y tywydd gwell, at yr haf.

    "Sôn am ddiwedd mis Mawrth... mae hynna yn swnio yn llawer mwy synhwyrol na 'neud o pan oedd y tywydd yn fwy garw."

  17. Brechlyn blynyddol i'r bobl fwyaf bregus?wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ar Dros Frecwast: "Fe fydd y gofyniad cyfreithiol i hunan ynysu yn dod i ben ar 28 Mawrth.

    "Mi fydd canllawiau mewn lle ac wrth gwrs os mae pobl yn meddwl bod Covid gyda nhw mi fyddwn ni yn gofyn iddyn nhw - yn yr un ffordd ac mae nhw yn gneud gyda ffliw ar hyn o bryd - mi ddylen nhw gymryd mesurau ac aros gartref a sicrhau bod nhw yn cadw ffwrdd wrth bobl sydd yn fregus.

    "Beth i ni yn rhagweld [gyda brechiadau] yw dros y gwanwyn yma mi fydd cynnig yn cael ei roi i bobl sydd dros 75 mlwydd oed, ac wedyn mi fydd yna gynnig ehangach yn yr hydref i bobl dros 50 oed, ac felly dwi yn rhagweld y byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd rhaid cael brechlyn yn flynyddol i'r bobl hynny sydd mwyaf tebygol o ddiodde' os gawn nhw Covid."

  18. Ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymruwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Cwsmeriaid salonau a siopau trin gwallt yn 'nerfus'wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae'r cyfyngiadau wedi aros mewn grym am hirach yn achos busnesau cysylltiad agos, fel salonau harddwch a thrin gwallt.

    Dywedodd dau berchennog busnes wrth Dros Frecwast eu bod am barhau i ddilyn llawer o'r rheolau Covid hyd yn oed pan fydd y cyfyngiadau'n diflannu'n gyfan gwbl, gan fod achosion yn parhau yn y gymuned.

    "Dan ni am gario' mlaen am 'chydig bach fel ydan ni, neud yn siŵr bod ni'n cadw pawb yn saff," meddai Mandy Hallas, sydd â siop trin gwallt ym Mangor.

    "Ella mewn 'chydig bach bydd pobl yn dechra' teimlo'n gyffyrddus a nawn ni fynd yn slow bach, dwi'n meddwl."

    torri gwalltFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae Lois Morgan-Pritchard, sy'n rhedeg salon harddwch yn y Ffôr ger Pwllheli, yn bwriadu parhau i wisgo masg "am rŵan", yn rhannol i ddiogelu ei chwsmeriaid mwyaf bregus.

    Ond dywedodd bod unigolion hunangyflogedig hefyd yn gorfod gofalu am eu hiechyd eu hunain i osgoi colli incwm trwy salwch.

    Dywedodd bod ei chwsmeriaid "yn reit nyrfys" er eu bod yn edrych ymlaen at beidio gorfod gwisgo mwgwd, ond bod "dal angen bod yn wyliadwrus".

    Mae Mandy a Lois yn bwriadu parhau i gymryd profion Covid bob bore, hyd yn oed pan fydd yn rhaid talu amdanyn nhw.

  20. Y ffigyrau brechu diweddaraf...wedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter