Crynodeb

  • Adolygiad o reolau coronafeirws yng Nghymru - a hynny am y 198fed tro

  • Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd gweddill y rheolau Covid yn dod i ben ar 28 Mawrth

  • Mae hyn yn cynnwys diwedd ar y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb ac i hunan-ynysu

  • Gweinidogion wedi cyhoeddi hefyd y bydd profi "cyffredinol" yn dod i ben yn raddol o ddiwedd Mawrth

  • Cymru fydd y wlad olaf yn y DU i ddiddymu'r holl gyfyngiadau coronafeirws

  • Nifer y profion PCR positif wedi gostwng bron i 25% yn yr wythnos ddiweddaraf - cyfradd o 158.7 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl

  1. A fydd cyfyngiadau'n dod i ben i bawb?wedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Quote Message

    Mae yna eithriadau wrth gwrs ac wrth gwrs fe fyddwn ni yn fwy gofalus yn y sefyllfaoedd hynny fel ysbytai er enghraifft a chartrefi gofal – fe fydd yna eithriadau ond yn gyffredinol, dyna y sefyllfa fyddwn ni yn symud iddyn nhw. Fe fyddwn ni yn rhoi canllawiau mewn lle i sicrhau bod pobl yn gwybod yn union beth yw'n disgwyliadau ni fel llywodraeth.

    Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru

  2. A fydd profion Covid am ddim yn parhau?wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Wrth ymateb i'r cwestiwn ar Dros Frecwast, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

    "Fe fydd y manylion ar hyn yn cael ei roi gerbron y cyhoedd heddiw gan y prif weinidog ond wrth gwrs fe fyddwn ni mewn sefyllfa lle byddwn ni yn symud i bwynt lle na fydd rheini yn cael eu rhoi.

    "O 28 Mawrth er enghraifft, fydd y profion sydd yn rhad ac am ddim yn y lle gwaith yn cael eu hatal – ond fe fydd y prif weinidog yn rhoi mwy o fanylion heddiw ynglŷn â pryd fydd mesurau eraill a’r profion eraill yn cael eu hatal.

    "Ar gyfer y bobl hynny y rhai mwyaf bregus... y bobl er enghraifft sydd yn immune suppressed mi fydd profion ar gael iddyn nhw wrth gwrs."

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Dileu cyfyngiadau ar 28 Mawrthwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    Fe allai'r cyfyngiadau Covid sy'n parhau mewn grym yng Nghymru gael eu diddymu ar 28 Mawrth.

    Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru awgrymu dyddiad ynglŷn â phryd y gallai'r cyfreithiau ar wisgo mygydau a hunan-ynysu ddod i ben.

    Mae gweinidogion wedi cyhoeddi hefyd y bydd profi "cyffredinol" yn dod i ben yn raddol o ddiwedd Mawrth.

    Bydd mwy o fanylion yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru am 12:15 heddiw.

    covidFfynhonnell y llun, bbc
  4. Bore da a chroeso!wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich 4 Mawrth 2022

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw o gynhadledd newyddion Covid-19 Llywodraeth Cymru.

    Dyma'r 198fed tro i'r llywodraeth gynnal cynhadledd gyda'r manylion diweddaraf am y pandemig, ac yn adolygu'r mesurau sydd mewn lle i liniaru'r effeithiau.

    Ond gan fod disgwyl cyhoeddiad y bydd yr holl gyfyngiadau'n dod i ben erbyn diwedd y mis, efallai mai hwn fydd un o'r olaf o'r cynadleddau?

    Arhoswch hefo ni.....