Crynodeb

  • Cyffro yn Ninbych a'r cyffiniau ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022

  • Shuchen Xie, 12, yn ennill y Fedal Gyfansoddi

  • Mynediad eleni am ddim a phawb ar y llwyfan

  • Eisteddfod yr Urdd yn 'rhan bwysig' o fywyd llywydd y dydd, Jade Davies

  1. 'Mor falch ein bod wedi cael tocyn i Sioe Cyw'wedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Roedd yna ryddhad i Cai a’i fam Ceri, o Ruddlan, ar ôl llwyddo i gael tocynnau Sioe Cyw.

    “Ddaethon ni yma yn fuan i gael rhain achos maen nhw’n mynd mor sydyn - felly wnaethon ni ddeffro’n gynnar - er bod ei frawd o adra efo’r frech ieir,” meddai Ceri.

    Sioe Cyw
  2. Cyflwyno llywyddion anrhydeddus Sir Ddinbychwedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae 'na chwech o lywyddion anrhydeddus yn Eisteddfod yr Urdd eleni, a hwythau'n cael eu cydnabod am eu cyfraniad sylweddol i ardal Sir Ddinbych dros y blynyddoedd.

    Bydd 'na seremoni nes ymlaen y bore 'ma i Beryl Lloyd Roberts, Ffion Davies, Leah Owen, y chwiorydd Morfydd a Menna Jones, a'r ddiweddar Margaret Edwards.

    "Maen nhw wir yn gymwynaswyr i'r mudiad ac mae'n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr ŵyl eleni," meddai cyfarwyddwr yr eisteddfod, Siân Eirian.

    Leah OwenFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Leah Owen yn un o lywyddion anrhydeddus yr ŵyl

  3. Jade Davies: ‘Fuaswn i byth lle ydw i rŵan heb Eisteddfod yr Urdd’wedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae cael bod yn Lywydd y Dydd yn “dangos y cylch cyfan o lle ‘nes i gychwyn i lle ydw i heddiw,” meddai'r actores Jade Davies.

    “Roeddwn yn cystadlu bron pob blwyddyn, gydag Ysgol Twm o’r Nant ac Ysgol Glan Clwyd.

    “Roeddem ni’n ennill lot! Mewn corau, deuawdau ac ar ben fy hun. Ond yr un sy’n aros yn y cof ydi’r tro olaf 'nes i gystadlu ac ennill cystadleuaeth yr alaw werin.

    “Dwi’n cofio teimlo’n nerfus ar y dyddiau cystadlu. Ond dwi wedyn yn cofio’r teimlad anhygoel pan oeddwn i’n cyrraedd y llwyfan.”

    Yn ferch ifanc leol o Ddinbych, mae Jade wedi gwneud dipyn o enw iddi hun fel un o fawrion byd y West End.

    Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, symudodd i Lundain i goleg Academi Urdang lle bu’n hyfforddi ac yn dilyn cwrs perfformio mewn sioeau cerdd.

    Y peth gorau am yr Urdd ydy’r “siawns mae’r mudiad yn ei roi i blant a phobl ifanc i gael gwneud y pethau y maen nhw’n ei fwynhau,” meddai.

    “Fuaswn i byth yn lle ydw i rŵan heb Eisteddfod yr Urdd! Fe wnaeth y profiad o ganu o flaen miloedd o bobol roi gymaint o hyder i fi.”

    Welsh of the West EndFfynhonnell y llun, Twitter: Welsh of the West End
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Jade (ail o'r dde) yn un o gantorion Welsh of the West End

  4. Y thri chyfansoddwr sydd wedi dod i'r brig eleniwedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Y brif seremoni heddiw ydi’r Fedal Gyfansoddi – ac mae ‘na drefn newydd i’r prif gystadlaethau eleni.

    Am y tro cyntaf, rydyn ni’n cael gwybod pwy ydi’r tri terfynol yn y bore.

    Ond dydyn ni – na nhw – yn cael clywed pwy sydd wedi dod i’r brig nes y prynhawn yma.

    Y tri chyfansoddwr sydd wedi dod i’r brig eleni ydi:

    • Gwydion Powel Rhys o Rachub yng Ngwynedd, sy’n astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain
    • Kai Edwards Fish o Ysgol Gyfun Gwynllyw, sy’n astudio yng Ngholeg Chweched Dosbarth Henffordd
    • Shuchen Xie, disgybl 12 oed o Goleg St. John’s yng Nghaerdydd
  5. Cadeirydd: 'Diolch i bawb ac mae'r Eisteddfod yn haeddu llwyddo'wedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae 'na ddiolchiadau di-ri gan Dyfan Phillips, cadeirydd pwyllgor gwaith yr eisteddfod eleni, i bawb sydd wedi helpu'r ŵyl yn Sir Ddinbych i ddigwydd eleni.

    "Mae'n fraint aruthrol bod yn gadeirydd yma eleni," meddai, "ac mae'r eisteddfod yn haeddu llwyddo wythnos yma."

    Dyfan Phillips
  6. Cadw elfennau o’r Eisteddfod-T yn y prif gystadlaethauwedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Ar gyfer y prif seremonïau bydd tri phrif enillydd yn cael eu gwahodd i’r llwyfan cyn datgelu pwy sy’n gyntaf, ail a thrydydd, fel a welwyd yn ystod Eisteddfod T.

    I ddathlu’r datblygiad, mae fersiwn newydd o Ymdeithgan yr Urdd, Sain, Cerdd a Chân, wedi’i pharatoi yn arbennig ar gyfer y Prif Seremonïau.

    Comisiynwyd Band Pres Llareggub i fynd ati i greu fersiwn newydd o’r gân, sy’n cynnwys llais Lily Beau.

    Ar raglen Dros Frecwast dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod Siân Eirian: "Mae wedi bod yn ddwy flynedd heriol, ac mae Covid wedi bod yn anodd i bawb, ond mae Covid hefyd wedi rhoi cyfle i ni edrych ar y 'Steddfod mewn ffordd fel bydden ni byth wedi 'neud o’r blaen ac wedi dod â chystadlaethau digidol.

    "O ran y seremonïau fe fyddan nhw yn cyhoeddi y tri sydd wedi dod i’r brig, yr un ohonyn nhw yn gwybod os ydyn nhw yn ennill.

    "Felly bydd nifer fawr o bethau o'r Eisteddfod T, rwy’n gobeithio, yn dod yn rhan o'r brifwyl."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Siân Eirian yng nghynhadledd y wasg: 'Neb yn cael cam eleni'wedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Yng nghynhadledd y wasg agoriadol yr Eisteddfod dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Siân Eirian, bod ‘na dipyn wedi newid o ran trefniadau’r cystadlaethau wedi bwlch o dair blynedd.

    “Be 'dan ni wedi 'neud ydi cymryd y gorau o Eisteddfod T a’r eisteddfod draddodiadol... a chael dathliad teilwng o ganmlwyddiant yr Urdd,” meddai.

    Gyda thri pafiliwn, a dim rhagbrofion eleni, gallai’r newid brofi’n un poblogaidd gyda nifer o athrawon, rhieni a phlant.

    “Bydd neb yn cael cam – mae pawb wedi cyrraedd y llwyfan!”

    sian eirian
  8. Does na'r un 'Steddfod yn gyflawn heb Sioe Cyw!wedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    sioe cyw

    Mae yna giw am docynnau Sioe Cyw… mae’n rhaid cyrraedd yn gynnar i sicrhau lle yn sioe S4C!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Prif seremoni’r dydd: Gwobrwyo y prif gyfansoddwrwedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Prif seremoni’r dydd yw cyflwyno Y Fedal Gyfansoddi i’r prif gyfansoddwr.

    Mae’r fedal yn coffáu Grace Williams – y gyfansoddwraig enwog o’r Barri.

    Y beirniad eleni yw Mared Emlyn.

    Enillodd Mared y fedal hon yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith Perlau yn y Glaw sydd yn cael ei berfformio’n aml mewn cystadlaethau a gwyliau telyn.

    Mae Mared yn delynores a chyfansoddwraig ac yn aelod o dîm creadigol Ensemble Cymru.

    Rhoddir y Fedal eleni gan Gôr Rhuthun.

    Noddir y Seremoni, a fydd yn digwydd ar Lwyfan y Cyfrwy am 15:00, gan Gyngor Sir Ddinbych.

    Mae’r tri chyfansoddwr buddugol wedi cael eu gwahodd i’r eisteddfod heddiw ac fel a ddigwyddodd yn yr Eisteddfod T dyw’r enillydd ddim yn gwybod ei fod wedi ennill.

    Alaw Grug EvansFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Alaw Grug Evans oedd enillydd y llynedd pan gynhaliwyd y seremoni yn Llangrannog

  10. Tri phafiliwn – coch, gwyn a gwyrddwedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae’r cystadlu eleni yn digwydd mewn tri phafiliwn ar y maes.

    Fe ddechreuodd y cystadlu am 9 o’r gloch – unawdau a llefarwyr sydd yn y pafiliwn coch, mae nifer o gystadlaethau dawnsio yn y pafiliwn gwyn ac ymhlith y cystadlaethau sydd yn y pafiliwn gwyrdd mae’r gerddorfa, unawdau piano ac yn nes ymlaen y prynhawn ‘ma y gân actol.

    Mae ysgolion ar draws Cymru wedi bod yn dymuno yn dda i'r disgyblion sy'n cystadlu ar y diwrnod cynta'.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Llywyddion y Dyddwedi ei gyhoeddi 09:41 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Bydd chwech Llywydd y Dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

    Seren y West End Jade Davies yw llywydd heddiw, y cyfansoddwr Robat Arwyn sydd ddydd Mawrth, yr artist, cyflwynydd a’r awdures Non Parry yw llywydd dydd Mercher, y cogydd, Bryn Williams yw llywydd dydd Iau a’r actor Llŷr Ifans a’r a cyflwynydd Lisa Gwilym yw llywyddion ddydd Gwener.

    Dyw Jade Davies, oherwydd ymrwymiadau gwaith, ddim yn gallu bod yn bresennol ond fe fydd hi’n siarad ar zoom.

    Mae Jade yn dod o Ddinbych ac mae wedi perfformio yn Les Miserables, Sister Act a Phantom of The Opera ac wedi teithio gyda Chitty Chitty Bang Bang.

    Theatr ClwydFfynhonnell y llun, Theatr Clwyd
  12. Dim rhagbrofion – llwyfan i bawbwedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Fydd dim angen gofyn eleni ‘pwy sydd wedi cael llwyfan?’.

    Does dim rhagbrofion - yn hytrach, bydd pob un o'r cystadleuwyr sy'n cyrraedd yno yn cael y cyfle i berfformio ar un o dri llwyfan ar y maes - yn hytrach na'r un prif bafiliwn arferol.

    Mae’r cystadleuwyr oll wedi wynebu eisteddfodau cylch a sir.

    Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 oedd yr eisteddfod olaf cyn i'r pandemig daro
    Disgrifiad o’r llun,

    Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 oedd yr eisteddfod olaf cyn i'r pandemig daro

  13. Tri pheth i’w wneud heddiwwedi ei gyhoeddi 09:21 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Yr Arddorfa
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr Arddorfa

    Sut beth fyddai cymysgu pêl fasged gyda dawns?

    Ewch draw i’r Arddorfa am 2 i gael gwybod!

    Yno fe fydd Ysgol Ddawns Anti Karen ac Athletwyr Clwb Pêl fasged y West Coast Warriors, Aberystwyth, yn rhoi perfformiad i gyfeiliant y trac ‘Rhyl’ gan Tara Bandito.

    Yna am 3 bydd cyfle i droellwyr y dyfodol wella eu sgiliau yng ngweithdy DJ ym Mhentref Mistar Urdd.

    I’r rhai sy'n hoff o chwaraeon, beth am fynd draw i gleddyfa yn yr adran Chwaraeon rhwng 10-11.

    Tegwen MorrisFfynhonnell y llun, bbc
  14. Degau o bobl yn cyrraedd ac yn edrych ymlaenwedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Ambell gwmwl ond mae'n braf a sych yn Ninbych - ac mae pawb yn edrych ymlaen at ddiwrnod cyntaf arbennig iawn.

    Roedd yr Eisteddfod ddiwethaf wyneb yn wyneb yn 2019.

    Urdd
  15. Y cystadleuwyr yn dechrau cyrraeddwedi ei gyhoeddi 09:10 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae Amelie, Eira a Magi o Lanfair Talhaearn wedi cyrraedd y Maes yn gynnar i gystadlu yn yr ymgom i ddysgwyr - y gystadleuaeth gyntaf ar lwyfan y Pafiliwn Gwyrdd.

    Tri o blant ger mynedfa'r Maes
  16. Angen cael tocyn o flaen llawwedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae mynediad i'r Eisteddfod eleni am ddim ond mae yna gyngor i eisteddfodwyr gael tocyn o flaen llaw oherwydd y rheolau iechyd a diogelwch.

    "Er bod hi'n eisteddfod am ddim mae angen i bawb archebu tocyn ymlaen llaw a'i lawrlwytho i'w ffôn," meddai Siân Eirian.

    "Oherwydd iechyd a diogelwch mae'n rhaid i ni fod yn gwybod faint sydd ar y safle, faint sy'n mynd a dod ond fe allwn ni gynorthwyo naill ai yn swyddfa'r Eisteddfod neu hyd yn oed ar ddiwrnod yr Eisteddfod.

    "Mae gynnon ni swyddfa docynnau a 'dan ni yna i gynorthwyo pawb na sy'n gyfarwydd â'r dechnoleg."

    Sian Eirian
  17. Bryn Williams - O'r gegin i'r maes parciowedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Wrth i'r ymwelwyr ddechrau cyrraedd, mae'r cogydd lleol Bryn Williams wedi camu o'r gegin i'r maes parcio er mwyn helpu â'r croeso.

    "Dwi yma ers 05:45 bore 'ma - wnaethon ni gyd ddechra' adeg hynny. Roedd o'n araf i ddechra' ac yn bwrw 'chydig, ond ma'n braf rŵan ac yn brysur.

    "Ma'n neis bod yma. Dwi'n gallu gweld tŷ fi o fama!"

    Bryn Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Bryn Williams yn tywys car ben bore

  18. Mynediad am ddim eleni i ddathlu’r 100wedi ei gyhoeddi 08:49 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae mynediad i’r eisteddfod eleni am ddim wedi buddsoddiad ariannol gwerth £527,000 gan Lywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant yr Urdd.

    Yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Siân Eirian, y gobaith ydy ceisio denu cynulleidfaoedd newydd ac ehangu gorwelion plant Cymru.

    "'Dan ni'n ymfalchïo ein bod ni'n sefydliad cynhwysol, yn agored i blant a phobl ifanc o bob cwr a'n gobaith ni ydy denu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru gan gynnwys ardaloedd difreintiedig.

    "Ac efallai bydd y rhai a oedd ond yn dod am ddiwrnod yn treulio dau ddiwrnod neu dri rŵan.

    "Mae'n holl bwysig ein bod ni'n newid, mae'r Eisteddfod T wedi agor y drysau i gynnwys pobl newydd... a dwi'n credu bydd hyn yn wir yn Ninbych," meddai.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Cryn gyffro wrth i'r maes agor am y tro cynta'wedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    banerFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

    Croeso i ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

    Roedd yr eisteddfod i fod i’w chynnal yn 2020 ond oherwydd y pandemig bu’n rhaid ei gohirio am ddwy flynedd.

    Mae yna gryn gyffro felly wrth i’r maes agor am y tro cyntaf fore Llun.

    Ymhlith y dorf mae gohebwyr Cymru Fyw.

    Arhoswch gyda ni i gael y diweddaraf.

    Disgrifiad,

    Pobl yn cyrraedd y maes ben bore