a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Teyrnged ar y traeth

    Mae 'na rywun wedi bod wrthi ar draeth Ynys y Barri yn gwneud teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II ar ddiwrnod ei hangladd.

    Ynys y Barri
  2. Yr orymdaith ar fin cyrraedd pen y daith yn Windsor

    Mae'r orymdaith ar fin cyrraedd pen y daith a phan fyddan nhw'n cyrraedd grisiau gorllewin Capel San Siôr bydd gosgordd o Warchodlu Bataliwn 1af y Grenadwyr yn cario arch y Frenhines i'r capel.

    I'r Teulu Brenhinol mae'r orymdaith heddiw yn adlais o'u profiad diweddar yn 2021 pan fu farw Dug Caeredin.

    Ym mis Ebrill 2021 cafodd angladd Dug Caeredin ei gynnal yn Windsor
    Image caption: Ym mis Ebrill 2021 cafodd angladd Dug Caeredin ei gynnal yn Windsor
  3. Dau o gorgwn y Frenhines yn Windsor

    Mae'r Teulu Brenhinol bellach yn dilyn yr arch yn Windsor ac hefyd ar y ffordd roedd dau o gorgwn y Frenhines - Muick a Sandy.

    corgis
  4. Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: 'Ffydd y Frenhines wedi gwneud argraff'

    Dywedodd cyn-Lywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod "ffydd y Frenhines wastad wedi gwneud argraff fawr" arno.

    "Roedd hi'n teimlo yn ei chalon yr awydd i wasanaethu pobl a'i bod, mewn gwirionedd, wedi cael ei chysegru i'r swydd," meddai.

    "Nid sioe oedd ei defosiwn - roedd hi'n cymryd diddordeb yn y pregethau."

    Fe wnaeth y Frenhines ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn 2012
    Image caption: Fe wnaeth y Frenhines ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn 2012
  5. Trefn y gwasanaeth claddu

    Bydd Gwasanaeth y Traddodiant yn dechrau yng Nghapel San Siôr, Castell Windsor am 16:00, o dan arweiniad Deon Windsor, Y Gwir Barchedig David Conner.

    Yn dilyn y Weddi Agoriadol, bydd gweddïau yn cael eu cyflwyno gan Reithor Sandringham, Gweinidog Crathie Kirk a Chaplan y Capel Brenhinol, Windsor Great Park.

    Côr Capel San Siôr fydd yn canu yn ystod y gwasanaeth, a bydd y Deon wedyn yn darllen o Lyfr Datguddiad Pennod 21, adnodau 1-7.

    Cafodd y darlleniad hwnnw ei wneud yn angladdau mam-gu a thad-cu y Frenhines, Brenin George V yn 1936 a’r Frenhines Mary yn 1953, yn ogystal ag angladd ei thad George VI yn 1952.

  6. Cysylltiad gydag Eglwysi Cadeiriol Llandaf a Thyddewi

    Mudiad arall y bu'r Frenhines yn gysylltiedig ag ef oedd Cyfeillion Eglwys Gadeiriol Llandaf.

    Ymwelodd â'r gadeirlan bedair gwaith yn ystod ei theyrnasiad.

    Gwasanaeth o ddiolchgarwch am gwblhau gwaith adnewyddu'r Gadeirlan oedd yr achlysur cyntaf iddi ei fynychu, a hynny ym mis Mawrth 1960.

    Yn ystod y gwasanaeth darllenodd Ddug Caeredin lith.

    Roedd ymweliad arall ag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn rhan o amserlen brysur Jiwbilî Arian y Frenhines yn 1977.

    Yn 1999 cafodd gwasanaeth ei gynnal yn y gadeirlan i gyd-fynd ag agoriad swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn 2012 daeth y Frenhines a Dug Caeredin yn ôl fel rhan o daith y Jiwbilî Ddiemwnt.

    Roedd y Frenhines yn Ganon Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn noddwr Gŵyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

    Un o draddodiadau blynyddol y Frenhines oedd dosbarthu arian cablyd - maundy money - ar Ddydd Iau Cablyd - defod sy'n dyddio 'nôl ganrifoedd.

    Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn cadeirlan wahanol bob blwyddyn, ac yn 1982 tro Tyddewi oedd hi i gynnal y seremoni hynafol.

    Ar 1 Mehefin 1995 cafodd Tyddewi ei chydnabod yn ddinas, wrth i'r Frenhines gyflwyno'r breintlythyr mewn seremoni yn yr Eglwys Gadeiriol yno.

    Y Frenhines yn Llandaf yn 1960
    Image caption: Y Frenhines yn Llandaf yn 1960
  7. Cyn-Archesgob Cymru Barry Morgan: 'Byth yn swil' wrth sôn am ei ffydd

    Ddoe ddiwrnod cyn angladd y Frenhines Elizabeth II bu nifer o wasanaethau a gweddïau ar draws Cymru yn cofio am ei chyfraniad.

    Ar hyd teyrnasiad y Frenhines Elizabeth II, doedd hi "fyth yn swil" wrth sôn am ei ffydd, yn ôl cyn-Archesgob Cymru Barry Morgan.

    Fel Goruchaf Lywodraethwr Eglwys Lloegr, bu ei ffydd yn graig iddi ar adegau o lawenydd ac yn ystod yr adegau anodd.

    Dywedodd Dr Morgan: "Roedd hi wastad yn cofio ei bod wedi gwneud y llw i Dduw i fod yn Frenhines.

    "Yn ei hareithiau Nadolig blynyddol roedd pwysigrwydd ei ffydd yn amlwg, wrth iddi bwysleisio rôl crefydd yn ei bywyd bob dydd."

    Bu Dr Morgan yn Archesgob Cymru am bron i 14 mlynedd, a daeth i adnabod y Frenhines yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

    Dywedodd y cyn-Archesgob nad oedd y Frenhines "fyth yn swil pan yn sôn am ei ffydd"
    Image caption: Dywedodd y cyn-Archesgob nad oedd y Frenhines "fyth yn swil pan yn sôn am ei ffydd"
  8. Modd gweld y cyfan a chlywed rhaglen Radio Cymru yma

    BBC Radio Cymru

    Mae sylwebaeth Radio Cymru o ail ran yr angladd wedi cychwyn ac mae modd gweld y cyfan drwy glicio ar y saeth ar frig y dudalen yma.

  9. Y clychau a'r gynnau yn gefndir i'r orymdaith

    Wrth i arch y Frenhines ymlwybro o Albert Road i’r drws gorllewinol mae clychau Sebastopol yn Nhŵr Crwn y castell a chloch y Curfew Tower yn canu unwaith bob munud.

    Mae'r gynnau hefyd yn tanio bob munud o lawnt orllewinol Castell Windsor.

    Am 16:00 bydd y gwasanaeth Traddodiant (Committal) yn cael ei gynnal sef y weithred, a'r elfen gysylltiedig o'r gwasanaeth angladdol, o roi corff i orwedd mewn bedd.

    Rai munudau cyn hynny bydd y Brenin ac aelodau’r Teulu Brenhinol yn ymuno â’r orymdaith ar droed.

    windsor
  10. Y dorf yn Windsor yn cofnodi eu profiadau ar eu ffoniau

    cofnodi
  11. Tân Castell Windsor yn 1992 yn ergyd i'r Frenhines

    Mae yng Nghastell Windsor 1,000 o ystafelloedd a 13 erw o dir.

    Roedd y Frenhines wrth ei bodd yn gwahodd teuluoedd brenhinol, arlywyddion a phrif weinidogion gwledydd eraill yma.

    Roedd y tân a gafwyd yng Nghastell Windsor yn 1992 rhan o'i annus horribilis.

    Roedd difrod y tân yn ddirfawr - yn 2011 fe benderfynodd y Frenhines mai yn y fan hon y byddai ei phrif gartref unwaith eto gyda'r castell erbyn hynny wedi'i adnewyddu'n llwyr.

    tan windsor
  12. Pwysigrwydd Windsor i'r Frenhines

    Mae'r sylwebydd Tomos Dafydd Davies wedi bod yn siarad ar Newyddion S4C am bwysigrwydd Windsor i'r Frenhines.

    "Mae’r dref frenhinol yma yn barod i groesawu’r ddiweddar Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn ôl i’w chartref ysbrydol, lle oedd hi hapusaf," meddai.

    "Mae’r muriau hanesyddol yma wedi tystio rhai o benodau mwyaf arwyddocaol y teulu brenhinol, cyfnodau o gecru, o goncwest ac, yn ddiweddar wrth gwrs, galar cyhoeddus.

    "Mae’n gwbl pwrpasol ei bod hi’n dychwelyd i’r lle hwn."

    Video content

    Video caption: Cyfle i bobl dalu teyrnged i'r Frenhines wrth iddi deithio i Windsor
  13. 'Wedi colli menyw hyfryd'

    Video content

    Video caption: Sian Thomas o Lanelli - 'Roedd yr awyrgylch yn hyfryd dros ben'.

    Gwyliodd Sian Thomas o Lanelli yr hers yn gadael canol Llundain ar ymyl ffordd ger Hyde Park.

    "Roedd pawb yn barch i gyd," dywedodd, "a phawb o'n i'n siarad gyda yn ei hoffi hi fel menyw, fel Brenhines, fel rhywun teulu."

    Dywedodd y daeth "tristwch" drosti pan welodd yr hers yn diflannu i lawr y ffordd.

    "Ni 'di colli menyw hyfryd. Ni'n mynd i weld gwahaniaeth ond gobeithio nawr bydd y Brenin Charles yn gwneud jobyn mor dda â hi."

  14. 'Pan aeth hi, roedd e mor annisgwyl'

    Bu Albert Evan James, 98, yn gwylio'r angladd o gartref gofal Sŵn y Môr yn Aberafan.

    "Mae'n wych i weld, fyddwn ni ddim yn gweld hyn eto," meddai.

    "Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan aeth hi, roedd e mor annisgwyl. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gwybod fod ei hamser hi'n agosáu.

    "Fe ges i MBE am fy ngwasanaeth i'r Awyrlu. Roeddwn i fod i fynd i Balas Buckingham i'w dderbyn gan y Frenhines.

    "Ond roedd yn rhaid iddi hi gael llawdriniaeth, felly fe wnaeth y Tywysog Charles ei roi i mi yng Nghaerdydd."

    Albert Evan James

    Ychwanegodd Betty Lloyd, 88: "Roedd e'n bwysig gwylio achos dros y blynyddoedd mae hi wedi bod yn Frenhines dda.

    "Mae'n neis bod gyda ffrindiau a siarad a chael sgwrs am y Frenhines, a'i chofio hi."

    Betty James
  15. Y Frenhines wrth ei bodd yng Nghastell Windsor

    Roedd y Frenhines yn meddwl y byd o Gastell Windsor - yn ferch fach byddai hi a'r teulu yn dod i dreulio penwythnosau yn y Royal Lodge.

    Yn ystod y 1930au ac yn nghyfnod y rhyfel roedd yn llecyn lle gallai hi a'i chwaer gael preifatrwydd.

    Dyma'r lle roedd y Frenhines yn ei alw'n "adref" ac o'r fan yma a hithau'n 14 oed y gwnaeth hi siarad â faciwîs ifanc yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

    faciwis
  16. Y gynulleidfa yn cyrraedd Capel San Siôr

    Ers oddeutu 14:00 mae'r gynulleidfa wedi bod yn dechrau cyrraedd Capel San Siôr.

    Yn eu plith mae prif weinidogion tiriogaethau’r Gymanwlad.

    Yn ogystal mae aelodau o’r Teulu Brenhinol na sy'n cerdded y tu ôl i’r arch yn cyrraedd y Capel.

    Capel San Siôr yw’r eglwys sy’n cael ei dewis yn aml gan y Teulu Brenhinol ar gyfer priodas, bedydd ac angladd brenhinol.

    San Sior
    Image caption: Capel San Siôr yw’r eglwys sy’n cael ei dewis yn aml gan y Teulu Brenhinol ar gyfer priodas, bedydd ac angladd brenhinol
  17. Argraffiadau olaf o Abaty Westminster

    Dyma argraffiadau olaf ein gohebydd Rhodri Llywelyn o Abaty Westminster y prynhawn yma, wrth i arch y Frenhines adael ar ei ffordd i Windsor.

    Video content

    Video caption: Clychau'n canu ar gyfer rhan olaf taith y Frenhines
  18. Taith yr arch o Gastell Windsor

    gfx
  19. Gorymdaith ar hyd The Long Walk i Gastell Windsor

    The Long Walk

    Bydd yr orymdaith yn dechrau am 15:10 ar ôl i'r arch gael ei chludo ar yr Hers Wladol o Wellington Arch.

    Bydd aelodau'r Teulu Brenhinol yn ymuno yn yr orymdaith tua 15:40.

  20. Yr Hers Wladol yn cyrraedd Windsor

    Mae'r hers bellach yn cyrraedd Windsor ac yna fe fydd pobl yn cerdded gyda hi ar hyd y llwybr hir sy'n arwain at y castell.

    Ar hyd y ffordd dair milltir mae aelodau o'r lluoedd arfog yn un rhes.

    Mae disgwyl i'r Brenin a gweddill y Teulu Brenhinol ymuno â'r orymdaith ychydig yn hwyrach - wrth y pedrongl yng Nghastell Windsor.

    Y pedrongl yng Nghastell Windsor yn ystod y pandemig yn 2020
    Image caption: Y pedrongl yng Nghastell Windsor yn ystod y pandemig yn 2020