a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. 'Siawns unwaith mewn bywyd'

    Christopher Keane a’i ferch, Ronni, 13 oed o Langollen.
    Image caption: Christopher Keane a’i ferch, Ronni, 13 oed o Langollen.

    Mae Christopher Keane a’i ferch, Ronni, 13 oed o Langollen, wedi teithio i Lundain yn y car dros nos.

    Dywedodd Ronni ei bod "wedi blino" ond bod hwn yn "siawns unwaith mewn bywyd."

    "Mae’r Frenhines yn haeddu ein parch ni."

  2. Joe Biden wedi cyrraedd

    Mae Arlywydd yr UDA, Joe Biden, bellach wedi cyrraedd Abaty Westminster gyda'i wraig Jill.

    Mae'n un o sawl arweinydd byd sydd wedi teithio i Lundain ar gyfer y gwasanaeth heddiw.

    Yn ystod ei theyrnasiad fe wnaeth Elizabeth II gwrdd â phob un o arlywyddion y UDA, ag eithrio un, sef Lyndon B. Johnson.

    Joe Biden
  3. Cysgu'n y car ar ôl 'taith munud olaf'

    Fe wnaeth Kelly Griffin, 40, a Jessica Jones, 33, benderfyniad munud olaf i deithio o Gaerdydd i Lundain - gan gysgu yn y car er mwyn cael lle ar y Mall yn gynnar.

    Dywedodd Kelly ei bod hi am ddweud ffarwel i'r Frenhines ar "ddiwrnod emosiynol".

    "Mae'n bwysig bod yn rhan o hanes. 'Dyn ni byth am brofi unrhyw beth fel hyn eto yn ein bywydau," meddai.

    "Byddai'n methu ei geiriau o ysbrydoliaeth, yn enwedig yn ystod Araith y Frenhines ar Ddydd Nadolig."

    Kelly a Jessica
  4. Y gwesteion yn cyrraedd Westminster ar hyn o bryd ...

    Dyma'r drefn yn Abaty Westminster heddiw wrth i lygaid y byd wylio.

    gfx
  5. Be sy'n digwydd heddiw?

    Mae'r Frenhines wedi bod â rhan flaenllaw yn nhrefniadau'r angladd gan eu hadolygu droeon. Dyma drefn y dydd:

    trefn
  6. Croeso i'r llif byw ar ddiwrnod angladd y Frenhines Elizabeth II

    Wedi deng niwrnod o alaru swyddogol mae angladd y Frenhines Elizabeth II yn cael ei gynnal yn Abaty Westminster.

    Bu farw yn 96 oed yn Balmoral ar 8 Medi.

    Mae'n ddiwrnod hanesyddol gan mai dyma'r angladd gwladol cyntaf ers angladd y Prif Weinidog, Winston Churchill, yn 1965.

    Mae'n gohebwyr yn Llundain a Windsor, ac hefyd yn casglu'r ymateb yng Nghymru wrth i nifer ymgynnull i weld yr angladd gyda'i gilydd.

    Croeso aton ni.

    brenhines Cymru