a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. 'Rhywun wastad yn mynd i fod yn siomedig'

    Mae Rob Page wedi bod yn egluro ei benderfyniadau mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales.

    "Y peth gwaethaf am y swydd yma ydy siomi'r rhieny sydd ddim yn y 26," meddai.

    "Y gweddill, dydw i heb ffonio nhw yn dweud eu bod nhw mewn - roedd well gen i iddyn nhw ddarganfod yr un pryd â phawb arall.

    "Mae hynny'n neis iddyn nhw'i weld, ond ar yr ochr arall mae rhywun wastad yn mynd i fod yn siomedig.

    "Dwi wedi cael cwpl o sgyrsiau anghyfforddus - rhai oherwydd anafiadau, rhai oherwydd dewisiadau.

    "Mae'n rhaid i ni symud 'mlaen nawr a dewis y garfan fydd yn gallu cystadlu ac ennill gemau i ni."

    Page
  2. Pa chwaraewyr sy'n colli allan?

    Roedden ni eisoes yn gwybod na fyddai Rhys Norrington-Davies yn y garfan oherwydd anaf, ac mae'n debyg mai dyna'r rheswm pam fod Tyler Roberts yn absennol hefyd.

    Yr enwau amlycaf eraill sy'n colli allan ydy Rabbi Matondo a Wes Burns.

    Does dim lle chwaith i rai o'r enwau mwy anghyfarwydd oedd yn cael eu hystyried fel opsiynnau, fel Luke Harris, Joe Jacobson, Oli Cooper a Nathan Broadhead.

    Chwaraewyr
  3. Carfan brofiadol

    Mae Rob Page wedi dewis carfan cymharol brofiadol - dim ond pump o'r chwaraewyr sydd wedi ennill llai na 10 cap dros Gymru.

    Mae 'na dri sydd wedi ennill dros 100 o gapiau - Chris Gunter, Gareth Bale a Wayne Hennessey.

    Ac mae hyd yn oed rhai o aelodau ieuengach y garfan, fel Chris Mepham, Ethan Ampadu, Harry Wilson, Joe Morrell a Dan James, i gyd â dros 30 o gapiau er nad ydy'r un ohonyn nhw'n hŷn na 25 oed.

    Mae llawer o'r bygythiad ymosodol yn dal i ddod gan Gareth Bale (40 gôl) ac Aaron Ramsey (20).

    Ond ag eithrio'r golwyr, mae dros hanner y garfan wedi sgorio gôl ryngwladol dros Gymru.

  4. Y garfan yn llawn

    carfan Cymru
  5. Newydd dorriYmosodwyr

    Gareth Bale - Los Angeles FC, 108 cap, 40 gôl

    Kieffer Moore - Bournemouth, 29 cap, 9 gôl

    Mark Harris - Caerdydd, 5 cap

    Brennan Johnson - Nottingham Forest, 15 cap, 2 gôl

    Dan James - Fulham (ar fenthyg o Leeds), 38 cap, 5 gôl

    Ymosodwyr
  6. Newydd dorriCanol cae

    Sorba Thomas - Huddersfield, 6 cap

    Joe Allen - Abertawe, 72 cap, 2 gôl

    Matthew Smith - Milton Keynes Dons, 19 cap

    Dylan Levitt - Dundee United, 13 cap

    Harry Wilson - Fulham, 38 cap, 5 gôl

    Canol cae

    Joe Morrell - Portsmouth, 30 cap

    Jonny Williams - Swindon, 32 cap, 2 gôl

    Aaron Ramsey - Nice, 75 cap, 20 gôl

    Rubin Colwill - Caerdydd, 7 cap, 1 gôl

    Canol cae
  7. Newydd dorriAmddiffynwyr

    Ben Davies - Tottenham Hotspur, 74 cap, 1 gôl

    Ben Cabango - Abertawe, 5 cap

    Tom Lockyer - Luton, 14 cap

    Joe Rodon - Rennes (ar fenthyg o Tottenham Hotspur), 30 cap

    Chris Mepham - Bournemouth, 33 cap

    Amddiffynwyr

    Ethan Ampadu - Spezia (ar fenthyg o Chelsea), 37 cap

    Chris Gunter - AFC Wimbledon, 109 cap

    Neco Williams - Nottingham Forest, 23 cap, 2 gôl

    Connor Roberts - Burnley, 41 cap, 3 gôl

    Amddiffynwyr
  8. Newydd dorriGolwyr

    Wayne Hennessey - Nottingham Forest, 106 cap

    Danny Ward - Caerlŷr, 26 cap

    Adam Davies - Sheffield United, 3 cap

    Golwyr
  9. Y cyhoeddiad ar fin cael ei wneud...

    Dy'n ni ar fin cael gwybod pwy fydd y chwaraewyr fydd yn cynrychioli Cymru mewn Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

    Pwy fydd y 26 chwaraewr lwcus? Dy'n ni ar fin darganfod!

  10. Dilynwch y cyhoeddiad gyda BBC Cymru

    Yn ogystal â dilyn y cyhoeddiad ar ein llif byw, mae modd gwylio'r cyfan ar BBC One Wales, neu wrando ar y cyfan ar BBC Radio Cymru.

    Neu fe allwch chi wrando ar Radio Cymru tra'n dilyn ein llif, trwy glicio ar yr eicon ar dop y dudalen o 19:00 ymlaen.

  11. Pryd mae gemau Cymru yn Qatar?

    Gyda gemau Cwpan y Byd yn dechrau ar 20 Tachwedd, does dim rhaid i Gymru ddisgwyl yn hir ar gyfer eu blas cyntaf o Gwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd.

    Fe fydd Cymru'n chwarae ar ddydd Llun 21 Tachwedd, dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Mawrth 29 Tachwedd.

    Mae Cymru wedi'u gosod yng ngrŵp B, gyda'r Unol Daleithiau, Iran a Lloegr, a bydd dau o'r grŵp yn camu ymlaen i rownd yr 16 olaf.

    Bydd holl gemau grŵp Cymru yn cael eu chwarae yn Stadiwm Ahmad bin Ali, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Stadiwm Al-Rayyan.

    Gemau Cymru
  12. Pwy sy'n ansicr o'u lle ar yr awyren?

    26 o chwaraewyr fydd yn rhan o'r garfan ar gyfer Cwpan y Byd, ac mae'r mwyafrif llethol o'r rheiny yn benderfyniadau hawdd i Rob Page.

    Ond pwy ydy'r chwaraewyr hynny sy'n fwy ansicr o'u lle ar yr awyren?

    Dyw Rubin Colwill ddim wedi bod yn chwarae'n gyson i Gaerdydd yn ddiweddar oherwydd anaf, ac mae Tyler Roberts hefyd wedi bod yn absennol i QPR am yr un rheswm.

    Ydy Rabbi Matondo wedi creu digon o argraff yn Ranger eleni i sicrhau ei le yn y garfan?

    Un fydd yn bendant yn absennol oherwydd anaf ydy Rhys Norrington-Davies, felly a fydd hynny'n agor y drws i rhywun fel Wes Burns neu Tom Lockyer?

    Enwau newydd i'r garfan ydy Luke Harris o Fulham a Joe Jacobson o Birmingham - a fydd lle iddyn nhw?

    Neu a fydd rhywun yn cael eu cynnwys yn y garfan am y tro cyntaf, fel Nathan Broadhead o Wigan neu Oli Cooper o Abertawe?

    Cawn ddarganfod yn ddigon buan!

    Tyler Roberts, Rubin Colwill a Wes Burns
    Image caption: Fydd Tyler Roberts, Rubin Colwill a Wes Burns ar yr awyren i Qatar?
  13. Beth 'dan ni’n ei wybod am wrthwynebwyr Cymru?

    Yr Unol Daleithiau, Iran a Lloegr fydd gwrthwynebwyr Cymru yng Ngrŵp B yng Nghwpan y Byd Qatar.

    Ond gyda'r bencampwriaeth lai na phythefnos i ffwrdd, faint ydych chi'n ei wybod am y timau y bydd Cymru'n eu herio?

    Ein gohebydd Iolo Cheung sy'n cyflwyno'r holl wybodaeth fydd ei angen arnoch chi cyn y gemau allweddol ar 21, 25 a 29 Tachwedd.

    Video content

    Video caption: Beth 'dan ni’n ei wybod am wrthwynebwyr Cymru?
  14. Page yn dyheu am Kevin De Bruyne!

    Yn gynharach heddiw, tra'n agor cyfleusterau 3G newydd yn Nhreherbert, fe gafodd ddisgyblion Ysgol Gynradd Penyrenglyn gyfle i holi ambell gwestiwn i Rob Page.

    Un cwestiwn i reolwr Cymru oedd, pe bai'n gallu dewis unrhyw chwaraewr o wlad arall i gynrychioli Cymru, pwy fyddai hwnnw?

    Ei ateb? Chwaraewr canol cae Manchester City a Gwlad Belg - Kevin De Bruyne.

    Gyda Chymru wedi chwarae yn ei erbyn sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, ag yntau wedi sgorio deirgwaith yn y gemau hynny, dy'n ni'n deall pam!

    Bale a De Bruyne
  15. 'Gallen ni fod wedi gwerthu 1,000 o docynnau!'

    Mae rheolwr Neuadd Les Tylorstown, Rebecca Sullivan, yn dweud bod y pentref cyfan mor falch o gael y cyhoeddiad yn digwydd fan hyn heno.

    "Naethon nhw gysylltu rai misoedd yn ôl [i ofyn am ddefnyddio'r lle] felly mae e wedi bod dan fy het ers sbel!" meddai.

    "Ond do'n ni ddim yn disgwyl cymaint o hype â hyn i fod yn onest.

    "Naethon ni ond ddweud wrth y cyhoedd ryw wythnos yn ôl, ac fe wnaeth y tocynnau werthu mas o fewn yr awr.

    "Ers 'ny mae wedi bod yn bonkers, pawb isie tocyn, yn gofyn 'c'mon, jyst fi yw e, gad fi mewn!' - gallen ni fod wedi gwerthu 1,000 o docynnau.

    "Mae e'n wych i bobl leol ac mae pawb isie bod yn rhan ohono fe."

    Rebecca Hall
  16. Fydd Joe Allen yn holliach i deithio i Qatar?

    Un sy'n gobeithio bod yn ddigon iach i gael ei enwi yn y garfan heno ydy Joe Allen.

    Dyw'r chwaraewr canol cae heb ymddangos i Abertawe ers iddo anafu llinyn y gar fis Medi.

    Mae rheolwr yr Elyrch, Russell Martin wedi cadarnhau na fydd yn chwarae iddyn nhw cyn Cwpan y Byd, ond mae Cymru'n gobeithio y bydd ar gael i deithio fel rhan o'r garfan i Qatar.

    Y cwestiwn mawr ydy a fydd yn barod ar gyfer y gêm gyntaf mewn 12 diwrnod, ac os ddim, a fydd yn cael ei ddewis os na fydd ar gael nes yn hwyrach yn y gystadleuaeth?

    Joe Allen
  17. Dwylo i fyny os 'dych chi'n mynd i Qatar!

    Llai nag awr i fynd nes y cyhoeddiad, ac mae Neuadd Les Tylorstown yn prysur lenwi!

    Neuadd
  18. Agor cae 3G newydd yn swyddogol

    Bore 'ma bu Rob Page yn Ysgol Gynradd Penyrenglyn yn Nhreherbert, ble roedd plant ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gŵyl bêl-droed.

    Roedd yn cael ei gynnal ar y cyfleusterau 3G newydd sydd wedi cael eu hadeiladu yna - a rheolwr Cymru yno i'w agor yn swyddogol heddiw.

    Rob Page ar ei ymweliad ag Ysgol Penyrenglyn
  19. Gwrandewch ar y dadansoddi ar Radio Cymru

    Yn ogystal â dilyn y llif byw, bydd hefyd cyfle i wrando ar yr holl ddadansoddi mewn rhaglen arbennig heno ar BBC Radio Cymru rhwng 19:00-19:30.

    Dyma ohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llyr i egluro mwy.

    View more on twitter