Crynodeb

  • Y graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru wedi gostwng am yr ail flwyddyn yn olynol

  • Y canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn y pandemig

  • Miloedd o ddisgyblion ar draws Cymru yn derbyn canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a chymwysterau galwedigaethol

  • Cam arall tuag at ddychwelyd i'r drefn arferol, medd y rheoleiddiwr cymwysterau

  • 32,960 o geisiadau arholiad Safon Uwch yng Nghymru eleni - 7.2% yn is na 2022, ond yn gyson gyda 2019

  1. Dyna'r cyfan am y tro - diolch am ddilyn! 👋wedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Mae hi wedi bod yn fore prysur yma wrth i filoedd o bobl ifanc drwy Gymru dderbyn canlyniadau hollbwysig - hynny wedi cyfnod anodd iawn ym myd addysg yn sgil y pandemig.

    Gallwch ddarllen stori'r bore'n llawn yma.

    Diolch am eich cwmni, hwyl i chi!

    Canlyniadau
  2. 'Carreg filltir hollbwysig'wedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Fe ddywedodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg ei fod am longyfarch pobl ifanc Cymru am lwyddo wedi "cyfnod anodd dros y blynyddoedd diwethaf".

    "Mae'n garreg filltir bwysig iawn," meddai Jeremy Miles, "yn siarad â rhai o'r dysgwyr heddiw, dw i'n cofio sut beth oedd e i fi!"

    Jeremy Miles

    Ychwanegodd y gweinidog fod bron i 80% o ddisgyblion y DU wedi cael lle yn eu dewis cyntaf o brifysgol heddiw.

    "Nid pawb sy'n cael eu canlyniadau heddiw fydd eisiau mynd i'r brifysgol fel eu cam nesaf - ond i'r rheiny sydd eisiau gwneud, mae'n opsiwn da."

  3. Hapusrwydd yng Ngarth Olwg ⭐️wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Roedd 'na olwg balch iawn ar wynebau rhai o ddisgyblion Ysgol Garth Olwg heddiw.

    Roedd canran y graddau A*‐C ar gyfer y cyrsiau Lefel A yn 82% - ac felly ar ei uchaf ers agor yr ysgol 3‐19 newydd yn 2019.

    Garth OlwgFfynhonnell y llun, Ysgol Garth Olwg
  4. O Goleg Menai i Goleg King'swedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Mathemateg yn boblogaiddwedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Cafwyd 32,960 o geisiadau arholiad Lefel A yng Nghymru eleni - 7.2% yn is na 2022, ond yn gyson gyda 2019.

    Mathemateg sy'n parhau i fod y pwnc mwyaf poblogaidd.

    Yng Nghymru roedd y gyfradd basio tua'r un peth ar gyfer bechgyn a merched, gyda bechgyn yn sicrhau cyfran ychydig yn uwch o raddau A*.

  6. 'Angen cydnabod yr heriau mae'r bobl ifanc wedi'u hwynebu'wedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Fe wnaeth disgyblion barhau i dderbyn ychydig o gymorth ychwanegol eleni yn sgil y pandemig - ac un sy'n cefnogi'r penderfyniad hwnnw ydy Laurel Davies, pennaeth Ysgol Ystalyfera Bro Dur.

    Pennaeth

    “Mae’n rhaid i ni gyraedd realiti y system arholiadau lle mae plant yn gorfod mynd trwy’r broses o eistedd arholiadau.

    "Ond hefyd maen rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cydnabod yr heriau mae’r bobl ifanc yma wedi wynebu.

    "Ac wrth gwrs y peth arall yw, dyma’r rhai cyntaf sydd wedi gorfod eistedd arholiadau fel rhan o arholiadau BTEC. Felly mae hwnna hefyd yn effeithio ar y graddau terfynol.”

  7. Ystyried prentisiaeth?wedi ei gyhoeddi 11:23 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Nid prifysgol yw'r unig lwybr posib i'r bobl ifanc sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw wrth gwrs - dyma gyngor i'r rheiny sy'n ystyried dilyn prentisiaeth.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cofiwch am y system Gliriowedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    I'r rheiny sydd heb cweit gael y canlyniadau roedden nhw wedi ei obeithio amdano, mae dal ffyrdd o sicrhau lle yn y brifysgol gan gynnwys drwy'r system Glirio.

    Mae holl brifysgolion Cymru'n cynnig llefydd ar rai cyrsiau drwy'r system honno, ac yn ôl Teleri Lewis, Rheolwr Gweithrediadau'r Adran Farchnata, Prifysgol Aberystwyth, mae 'na dipyn o "fwrlwm" wedi bod eisoes y bore 'ma.

    "Yn amlwg mae yna ansicrwydd," meddai. "Maen nhw wedi derbyn eu canlyniadau a falle ddim 'di cael yr hyn ro'n nhw'n gobeithio, ond fi'n teimlo bod nhw'n ymwybodol iawn o'r opsiwn glirio.

    Teleri Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Teleri Lewis a staff eraill ym mhrifysgolion Cymru wedi bod wrthi'n brysur yn ateb galwadau Clirio y bore 'ma

    "Ni 'di cael pobl yn holi cwestiynau da, maen nhw'n gwybod y wybodaeth ni'n holi amdano, maen nhw wedi paratoi cryn dipyn o flaen llaw.

    "Ni yma i gefnogi a chynnig cymaint o gymorth â phosib. Ni hefyd yn cynnig, dros y penwythnos, cyfle i ddod i ymweld â'r brifysgol.

    "So mae hynny hefyd yn gyfle bach sbesial ac extra i gadw pawb yn hapus a dangos bod 'na opsiynau arall ar gael, ac i beidio panico."

  9. Digon o ddathlu yn Nyffryn Nantlle! 🎉wedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion am ennill y canran mwyaf o raddau A* ac A yn hanes yr ysgol!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Y patrwm dros y blynyddoedd diwethafwedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Mae’r graddau Cymru-gyfan yn is na llynedd fel rhan o’r siwrne 'nôl at lefelau 2019 - y flwyddyn olaf cyn i Covid darfu ar arholiadau ac addysg pobl ifanc.

    Roedd canran y graddau A ac A* yn 34% eleni, o'i gymharu gyda 40.9% yn 2022.

    graff Lefel A
  11. 'Dyfalbarhad wedi talu ar ei ganfed' yn Ysgol Bro Preseli 👏wedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    "Rydym yn hynod falch o gyflawniadau ein disgyblion yng nghanlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol eleni," meddai Rhonwen Morris, Pennaeth Ysgol Bro Preseli.

    CanlyniadauFfynhonnell y llun, Ysgol Bro Preseli

    Mae'r disgyblion wedi derbyn "canlyniadau canmoladwy ar draws yr ystod o bynciau," meddai.

    "Mae eu gwaith caled, eu gwydnwch a'u dyfalbarhad wedi talu ar ei ganfed. Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchiad o'u hymroddiad a'r arweiniad ragorol a ddarperir gan ein staff addysgu a chymorth."

    Llongyfarchiadau mawr!

    CanlyniadauFfynhonnell y llun, Ysgol Bro Preseli
  12. 'Gweithio'n galed ar ôl blwyddyn anodd'wedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Yng Ngholeg Gwent, mae'r staff yn dymuno dathlu llwyddiant y disgyblion wedi cyfnod anodd iawn yn sgil y pandemig.

    Megan Melbourne o Goleg Gwent

    "Ni mor falch ohonyn nhw gyd," medd Megan Melbourne o adran gofal ac iechyd y coleg.

    "Ma' nhw di gweithio'n rili galed ar ôl cael blwyddyn rili anodd. Ni gyd mor browd ohonyn nhw."

  13. 'Peidiwch cymharu gyda blynyddoedd eraill'wedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Dywedodd Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol undeb penaethiaid NAHT Cymru, nad oedd hi'n beth doedd gwneud cymariaethau yn dilyn "un o'r cyfnodau mwyaf heriol i addysg".

    "I'r mwyafrif helaeth o ddisgyblion Lefel A yn enwedig, dyma'r canlyniadau cyntaf erioed maen nhw wedi ei gael o eistedd arholiadau ffurfiol, ar ôl methu allan ar y profiad TGAU traddodiadol oherwydd y pandemig," meddai.

    Cadeiriau gwag
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gafodd arholiadau eu canslo yn ystod y pandemig

    "Er ein bod ni'n gweld canlyniadau gwahanol eleni, ddylai hyn ddim cymryd i ffwrdd o gwbl o lwyddiannau'r disgyblion, ac mae unrhyw un sy'n meddwl bod cymharu'r data flwyddyn i flwyddyn yn beth defnyddiol angen ailfeddwl.

    "Mae'n anghynorthwyol ac yn digalonni'r myfyrwyr hynny, eu hathrawon a'u teuluoedd.

    "Mae profiad ysgol y bobl ifanc yma wedi cael ei darfu, ond maen nhw wedi rhagori."

  14. Mwy o lwyddiant 👏wedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Bydd Megan Evans ac Amelia Asher yn astudio'r gyfraith ac addysg yn y brifddinas ar ôl derbyn eu canlyniadau y bore 'ma...

    Amy

    ... tra bod Amy White, 17, am gychwyn prentisiath efo SONY ar ôl derbyn A* a B yng Ngholeg Gwent.

  15. Graddau dal yn uwch na chyn y pandemigwedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Y gyfradd basio cyffredinol ar gyfer Lefel A oedd 97.5%, gydag 13.5% yn llwyddo i gael gradd A*.

    Roedd llai o fesurau mewn lle ers cyfnod Covid i helpu disgyblion eleni, ond cafodd rhywfaint o wybodaeth ei roi iddyn nhw cyn yr arholiadau ac roedd y graddio'n parhau i fod yn fwy hael.

    Shakira a Laura
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Shakira a Laura o Goleg Gwent yn gobeithio mynd i astudio nyrsio iechyd meddwl ym Mhrifysgol De Cymru

    Mae hyn yn wahanol i Loegr, ble maen nhw wedi dychwelyd i'r drefn o raddio disgyblion fel oedden nhw yn 2019.

    Dywedodd Cymwysterau Cymru bod y canlyniadau eleni tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2022.

    Y bwriad yw i ddychwelyd i'r broses cyn y pandemig yn 2024.

  16. Mwy o newyddion da!wedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Fe fydd Cai yn dilyn cwrs Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi iddo dderbyn D, D, C ac A.

    Cai
    Disgrifiad o’r llun,

    Llongyfarchiadau, Cai!

  17. Disgyblion hapus Morgan Llwyd ⭐️wedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Dyma'r olygfa yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam bore 'ma, gyda disgyblion yn amlwg yn hapus gyda'u canlyniadau!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Dadansoddiad ein gohebydd addysgwedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg BBC Cymru

    "Dair blynedd ar ôl i arholiadau gael eu canslo am y tro cyntaf yn sgil Covid-19, mae effaith y pandemig i’w weld o hyd ar drefn canlyniadau Cymru.

    "Yn ôl y disgwyl mae’r graddau Cymru-gyfan yn is na llynedd fel rhan o’r siwrne 'nôl at lefelau 2019.

    "Ond mae 'na rai mesurau wedi bod mewn lle eleni eto i geisio rhoi rhywfaint o hwb i fyfyrwyr.

    "Y polisi yn Lloegr oedd symud 'nôl yn gynt i’r sefyllfa cyn y pandemig.

    "Ac mae 'na ddadlau dros beth sydd fwyaf "teg", yn enwedig pan mae’r graddau yma yn gallu dylanwadu ar lefydd prifysgol neu swyddi.

    "Y bwriad yw gollwng y mesurau ychwanegol yng Nghymru flwyddyn nesaf, ond mae’r drafodaeth am degwch yn debygol o barhau wrth i’r to nesaf wneud eu arholiadau nhw."

  19. Canlyniadau Safon Uwch: Gostyngiad yn y graddau A ac A*wedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023
    Newydd dorri

    Mae'r graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru wedi gostwng am yr ail flwyddyn yn olynol, ond mae canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn y pandemig.

    Roedd canran y graddau A ac A* yn 34% eleni, o'i gymharu gyda 40.9% yn 2022.

    Jeremy Miles
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles fod cymorth ychwanegol wedi gwneud arholiadau eleni'n "deg".

    Dywedodd Cymwysterau Cymru, sy'n goruchwylio'r arholiadau, fod rhai ffiniau graddau wedi cael eu gosod yn is nag y bydden nhw cyn 2020 er mwyn cydnabod y tarfu fuodd ar ddisgyblion yn ystod Covid.

    Cafodd canlyniadau AS, a chymwysterau Lefel 3 galwedigaethol a thechnegol gan gynnwys BTEC, hefyd eu cyhoeddi.

    Gallwch ddarllen y cyfan yma.

  20. Llongyfarchiadau! 🎉wedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Ac wrth i'r canlyniadau ddechrau'n cyrraedd, mae newyddion da iawn draw yn Ysgol Ystalyfera, Bro Dur...

    Taryn

    Taryn, 18, sydd wedi ennill 2A* ac un A - a lle i astudio Almaeneg a Phortiwgaleg ym Mhrifysgol Rhydychen...

    Agor canlyniadau
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r wên yn dweud y cyfan!

    ... ac mae Amelia yn edrych 'mlaen yn arw at ddilyn cwrs Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi iddi dderbyn A, B, a C!