Crynodeb

  • Y graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru wedi gostwng am yr ail flwyddyn yn olynol

  • Y canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn y pandemig

  • Miloedd o ddisgyblion ar draws Cymru yn derbyn canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a chymwysterau galwedigaethol

  • Cam arall tuag at ddychwelyd i'r drefn arferol, medd y rheoleiddiwr cymwysterau

  • 32,960 o geisiadau arholiad Safon Uwch yng Nghymru eleni - 7.2% yn is na 2022, ond yn gyson gyda 2019

  1. Criw clirio Aberystwyth yn barod...wedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Prifysgol Aberystwyth

    Mae'r criw clirio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn barod i dderbyn galwadau ac am brysurdeb yr oriau nesaf.

    Teleri Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Cofiwch fod opsiynau eraill ar gael, medd Teleri Lewis

    Os nad ydych chi'n cael y canlyniadau roeddech chi'n disgwyl, "y peth cyntaf yw i beidio â phoeni, mae 'na ddewis arall i gael," meddai Teleri Lewis o'r brifysgol.

    "Mae staff profiadol yma i fynd drwy’r holl opsiynau... ffoniwch yw’r cyngor gorau."

    "Maen gystadleuol bob blwyddyn gydag ambell gwrs fel milfeddygaeth sy’n llawn, ond mae 'na lefydd a dewis i gael ond i bobl roi galwad."

    Aberystwyth
    Disgrifiad o’r llun,

    Criw clirio Aberystwyth yn barod amdani...

  2. Croissants a moctêls i groesawu disgyblion nerfuswedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Mae staff yng Ngholeg Gwent yng Nglyn Ebwy wedi paratoi gwledd fach i'r disgyblion wrth iddyn nhw gasglu eu canlyniadau.

    moctelsFfynhonnell y llun, bbc

    Oes mae 'na croissants a moctêls i groesawu disgyblion nerfus ac hefyd stondinau ffair!

    Mae dros 2,000 o fyfyrwyr y coleg yn cael eu canlyniadau bore 'ma.

  3. Dechrau agor yr amlenni...wedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Mae'n siŵr y gwelwn ni sawl llun tebyg wrth i'r dydd fynd yn ei flaen!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Gair o gyngor...wedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi atgoffa pobl ifanc bod sawl lle i droi am gyngor os ydyn nhw'n poeni nad oedd eu canlyniadau'n ddigon da.

    Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau fel Gyrfa Cymru ac UCAS, yn ogystal â'r gallu i apelio canlyniadau.

    "Ac yn olaf, cofiwch bod eich canlyniadau ddim yn eich diffinio chi - mae gan fywyd hapus sawl llwybr."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Peidiwch â phanicio'wedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Gyrfa Cymru

    Catrin Owen o Gyrfa Cymru sy'n egluro rhai o'r opsiynau sydd ar gael i ddisgyblion sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw.

    "Peidiwch â phanicio" oedd ei phrif neges ar BBC Radio Cymru, gan fod digon o opsiynau ar gael.

    Disgrifiad,

    Gyrfa Cymru: 'Weithiau dydy'r brifysgol ddim yr unig opsiwn'

  6. Pob lwc gan y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. 'Posib y bydd mwy o gystadleuaeth am lefydd clirio'wedi ei gyhoeddi 08:50 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Mae dros draean o blant 18 oed o Gymru wedi gwneud cais am lefydd yn y brifysgol.

    Erbyn diwedd mis Mehefin, roedd 21,320 o geisiadau o Gymru am lefydd ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig, yn ôl ffigyrau diweddaraf y gwasanaeth mynediad i brifysgol, UCAS.

    Dylai myfyrwyr sy'n chwilio am lefydd ar gyrsiau drwy'r broses glirio ymateb yn gyflym, meddai Prifysgol Caerdydd.

    "Bydd y darlun yn newid fesul munud a bydd galw mawr am y lleoedd sy'n weddill".

    Proses clirioFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dywedodd Prifysgol De Cymru y gallai parhad effaith y pandemig ychwanegu rhywfaint o ansicrwydd at sut y byddai clirio'n mynd eleni.

    Gallai newidiadau i'r broses raddio gael effaith ar berfformiad meddai llefarydd, gan olygu bod mwy o fyfyrwyr yn archwilio opsiynau a hynny o bosib yn achosi mwy o gystadleuaeth ar gyfer rhai cyrsiau.

  8. 'Anodd sefyll Safon Uwch ar ôl canslo TGAU'wedi ei gyhoeddi 08:43 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Yn ôl un sy'n disgwyl ei chanlyniadau heddiw, roedd hi'n deg bod disgyblion wedi cael mwy o gefnogaeth, a bod angen y cyfnod pontio yma ar ôl y pandemig.

    Roedd y profiad o sefyll arholiadau Uwch Gyfrannol ac yna Safon Uwch yn heriol ar ôl i arholiadau TGAU gael eu canslo yn sgil y pandemig, medd Gwen Evans.

    Dwy ferchFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwen Evans (chwith) ar ei diwrnod olaf yn yr ysgol

    "Roedd yn anodd - y broses o sefyll arholiadau adolygu yn y ffordd gywir," esboniodd Gwen, "hyd yn oed eistedd mewn neuadd i'w gwneud, a'r pwyslais ar yr arholiadau eu hunain.

    "Dwi'n teimlo fy mod wedi colli allan ar lawer o addysg ac roeddwn yn teimlo bod angen i fi ddal i fyny."

  9. Croeso lliwgar yn Ngholeg Gwent!wedi ei gyhoeddi 08:38 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Dyma'r olygfa fydd yn croesawu disgyblion yng Ngholeg Gwent, Glyn Ebwy y bore 'ma wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch a BTEC.

    Coleg Gwent
    Disgrifiad o’r llun,

    Barod i ddathlu...

    Mae'r staff yno'n amlwg yn deall pwysigrwydd cael lluniau da ar y diwrnod mawr!

  10. Darlun o ganlyniadau Safon Uwch ers 2018...wedi ei gyhoeddi 08:31 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Er bod disgwyl i ganlyniadau eleni fod yn is nag yn 2022, mae'n annhebygol y byddan nhw'n gostwng i'r lefelau yn 2019.

    Cafodd arholiadau eu canslo yn 2020 a 2021 ac fe gafodd graddau eu pennu gan athrawon.

    Dyma ddarlun o'r canlyniadau ers 2018, gan edrych ar y graddau uchaf...

    Graff
  11. Disgwyl canlyniadau Safon Uwch is er cymorth Covidwedi ei gyhoeddi 08:25 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Mae disgwyl i ganlyniadau Safon Uwch eleni fod yn is na'r llynedd, er bod disgyblion wedi derbyn cymorth ychwanegol gyda'u harholiadau yn sgil Covid.

    Dywedodd y rheoleiddwr arholiadau y byddai canlyniadau Cymru gyfan tua hanner ffordd rhwng rhai 2019 a 2022.

    CanlyniadauFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae'r mesurau yn dilyn y graddau uwch gafodd eu rhoi gan athrawon pan gafodd arholiadau eu canslo yn ystod y pandemig.

    Fe fydd galw mawr am lefydd ar gyrsiau poblogaidd drwy'r broses glirio, yn ôl rhai prifysgolion Cymreig.

    Bydd yr ystadegau ar gyfer eleni yn cael eu cyhoeddi tua 09:30 - ond tan hynny, dyma'r rhagolygon yn llawn.

  12. Mae'n ddiwrnod canlyniadau - croeso aton ni!wedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 17 Awst 2023

    Mae'n fore allweddol i filoedd o ddisgyblion a myfyrwyr wrth iddyn nhw dderbyn canlyniadau arholiadau a chyrsiau.

    Ar draws Cymru fe fydd graddau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a chanlyniadau rhai cymwysterau galwedigaethol yn cael eu cyhoeddi.

    Fe ddown i â'r diweddaraf i chi - y canlyniadau, yr ymateb a chyngor prifysgolion a swyddogion gyrfaoedd.

    Croeso aton ni.

    arholiadauFfynhonnell y llun, Getty Images