Diolch am eich cwmniwedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2024
Mae'n ymddangos fod pethau'n gwella erbyn hyn, gyda'r rhybudd melyn am eira a rhew gan y Swyddfa Dywydd wedi dod i ben o fewn yr hanner awr ddiwethaf.
I arbed gwaith sgrolio i chi, dyma'r prif benawdau:
- Dros 40 o ysgolion ar gau ar hyd a lled y wlad ar ôl eira dros nos;
- Siroedd gorllewinol - yn enwedig Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro - sydd wedi'u heffeithio waethaf;
- Nos Fercher oedd y noson oeraf o'r gaeaf hyd yn hyn - cofnodwyd -9.1C ym Mhowys.
Yn y cyfamser, mae'r gwasanaethau brys yn parhau i rybuddio pobl i gymryd gofal, yn enwedig gyrwyr.
Ond dyna'r oll gan dîm llif byw Cymru Fyw am heddiw - diolch o galon i chi am ddilyn a chymerwch ofal yn y tywydd oer.