Crynodeb

  • Dros 65 o ysgolion ar gau ar hyd a lled Cymru ar ôl eira dros nos

  • Siroedd gorllewinol - yn enwedig Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro - sydd wedi'u heffeithio waethaf

  • Rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira a rhew mewn grym ers 22:00 nos Fercher - daeth i ben am 11:00 ddydd Iau

  • Nos Fercher oedd y noson oeraf o'r gaeaf hyd yn hyn - cofnodwyd -9.1C ym Mhowys

  • Y tymheredd isaf a gofnodwyd erioed oedd -23.3C (-10F), yn Rhaeadr Gwy, Powys, ym mis Ionawr 1940

  1. Mwy o ysgolion yn cauwedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio fod rhew ac eira yn bosib mewn rhannau o Gymru ddydd Mawrth, Mercher ac Iau yr wythnos hon.

    Ond mae'r mwyafrif o ysgolion wedi bod ar agor drwy'r wythnos - tan heddiw.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.

  2. Cymru yn deffro i flanced o eirawedi ei gyhoeddi 08:22 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Capel CurigFfynhonnell y llun, Carlos82/BBC Weather Watchers
    Disgrifiad o’r llun,

    Capel Curig, Sir Conwy

    Capel Curig, Sir ConwyFfynhonnell y llun, Carlos82/BBC Weather Watchers
    Disgrifiad o’r llun,

    Capel Curig, Sir Conwy

    Llandegla, Sir DdinbychFfynhonnell y llun, Siobhan/BBC Weather Watchers
    Disgrifiad o’r llun,

    Llandegla, Sir Ddinbych

  3. Gwynedd - saith ysgol ar gau hyd ymawedi ei gyhoeddi 08:14 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Mae 'na saith o ysgolion yng Ngwynedd ar gau hyd yma. Mae Ysgol Dyffryn Nantlle "wedi cau yn rhannol" oherwydd prinder staff sydd methu teithio i'r ysgol oherwydd y tywydd.

    Mae'r rhestr llawn yma ar wefan Cyngor Gwynedd., dolen allanol

  4. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:09 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Diolch am ymuno gyda chriw Cymru Fyw ar fore oer i'r mwyafrif yng Nghymru.

    Byddwn ni'n dod â'r diweddaraf i chi wrth i ysgolion ar hyd a lled y wlad gau ar ôl i eira ddisgyn dros nos.