Crynodeb

  • Protest ffermwyr yn cyrraedd y Senedd - wedi sawl protest ar draws Cymru

  • Y ffermwyr yn gwrthwynebu y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - cynllun mawr Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu'r diwydiant ar ôl Brexit

  • Bydd rhaid i ffermwyr ymrwymo i sicrhau bod coed ar 10% o'u tir, a chlustnodi 10% arall fel cynefin i fywyd gwyllt

  • Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda ffermwyr a bod y cynllun mewn cyfnod ymgynghorol ar hyn o bryd

  • Ffermwyr hefyd yn poeni am achosion o TB mewn gwartheg

  • Dywed Heddlu'r De fod tua 3,000 o bobl y tu allan i’r Senedd ddydd Mercher

  • Daeth y brotest i ben yn heddychlon gyda mân aflonyddwch i'r cyhoedd, meddai'r heddlu

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 16:19 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Dyna ni am heddiw - diolch yn fawr i chi am ddilyn ein llif byw o Fae Caerdydd.

    Heddiw fe wnaeth miloedd o amaethwyr deithio i'r brifddinas i wrthwynebu newidiadau sylweddol, sy'n "anymarferol" ym marn yr undebau.

    Dywedodd Heddlu De Cymru fod "tua 3,000" o bobl yn rhan o'r dorf y tu allan i'r Senedd.

    Yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Rydym ond yn gallu llwyddo mewn partneriaeth, mae wir angen i ni gydweithio, a dyna rydym yn gwneud."

    Mae'r stori yn parhau i ddatblygu ac mae modd cael y diweddaraf drwy ddarllen ein prif stori ni yma.

    Yn y cyfamser, gwyliwch y fideo isod i gael blas o'r hyn ddigwyddodd heddiw. Diolch eto am ddilyn a hwyl fawr.

    Disgrifiad,

    FIDEO: Miloedd o ffermwyr yn protestio yn y Senedd

  2. 3,000 o bobl yn y brotest - heddluwedi ei gyhoeddi 16:04 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror
    Newydd dorri

    Heddlu De Cymru

    Mae protest ym Mae Caerdydd wedi dod i ben yn heddychlon gyda mân aflonyddwch i'r cyhoedd, meddai Heddlu'r De.

    Dywed y llu fod tua 3,000 o bobl y tu allan i’r Senedd ddydd Mercher.

    Dywedodd yr Uwcharolygydd Esyr Jones: "Mae Heddlu De Cymru'n parchu'r hawl i brotestio'n heddychlon, ac yn dilyn trafodaeth gyda'r trefnwyr fe lwyddon ni i sicrhau bod y brotest yn digwydd yn ddiogel, yn gyfreithlon gyda chyn lleied â phosib o darfu ar y cyhoedd yn gyffredinol.

    "Mae dod â thractorau a cherbydau amaethyddol eraill i mewn i amgylchedd dinas prysur yn peri risg i ddiogelwch defnyddwyr eraill y ffordd ac o bosib yn cyfyngu ar symudiadau gwasanaethau brys.

    "Fodd bynnag, gan weithio gyda threfnwyr y brotest a Chyngor Caerdydd, cafodd man cadw addas ei adnabod a fyddai'n golygu nad oedd fawr o darfu neu oedi ar lwybrau o amgylch Bae Caerdydd ac ar draws rhwydwaith ffyrdd ehangach de Cymru."

  3. Lluniau: Protest ffermwyr o flaen y Seneddwedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Oriel luniau o'r miloedd aeth i Fae Caerdydd i wrthwynebu newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth.

    Read More
  4. FIDEO: 'Ein dyfodol ni' - barn y genhedlaeth nesa'wedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Disgrifiad,

    Mali, Lisa a Ela yn sôn pam eu bod nhw'n rhan o'r brotest

    "Mae hwn am ein dyfodol ni," dywedodd Mali, 16 oed.

    "'Da ni wedi cael ein magu a fo. Dyna 'da ni isio cario 'mlaen.

    "Ar y funud 'da ni methu rili gweld y dyfodol", dyna farn Ela, sy'n 15 oed.

    Ychwanegodd Lisa, sy' hefyd yn 16 oed, ei bod wedi cael ei magu i fod yn ffarmwraig a dywedodd y gallai gynlluniau newydd y llywodraeth fygwth hynny.

    "Mae o am stopio fel 'na a dylse fo ddim bod," meddai Lisa.

  5. Grym geiriauwedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Ffermwyr gyda'u placardiau yn cerdded heibio geiriau'r bardd Gwyneth Lewis ar Ganolfan y Mileniwm yn gynharach heddiw

    Ffermwyr yn cerdded ger Canolfan y Mileniwm gyda placardiauFfynhonnell y llun, Christopher Furlong/Getty
  6. Ar ôl y brotest, y trafod yn dechrauwedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r drafodaeth nawr wedi symud y tu fewn i'r Senedd, wrth i'r gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths wynebu cwestiynau aelodau.

    Mae hi wedi'i chyhuddo o gam "sinigaidd" gan lefarydd materion gwledig y ceidwadwyr, Sam Kurtz, yn sgil y cyhoeddiad ddoe y bydden nhw'n adolygu rhai o'u polisïau amaeth.

    Dywedodd Mr Kurtz ei fod wedi cymryd "protest fawr a chryfder teimlad mewn cymunedau gwledig i newid pethau".

    Dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru bod rhaid i Ms Griffiths ddod â ffermwyr efo hi ar y siwrne yma.

    "Heb ffermwyr yn cymryd rhan yn y cynllun yma, ni fydd yna unrhyw un i sicrhau'r canlyniadau y mae pawb yn eu rhannu" o ran taclo newid hinsawdd.

    Dywedodd y gweinidog nad oedd unrhyw beth wedi'i benderfynu eto a'i bod hi eisiau cynllun yn y pendraw y bydd "pob ffarmwr eisiau bod yn rhan ohono".

  7. 'Araith emosiynol' Nigel Owenswedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Iwan Davies

    Roedd Iwan Davies (dde yn y llun) o ardal Glasfryn yn pwysleisio effaith araith Nigel Owens ar ei emosiynau.

    "O ran y siaradwyr, roedd araith Nigel Owens yn tynnu blew o 'ngwar i, oedd o'n emosiynol iawn.

    "Y neges bwysig ydy bod ni yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a 'dan ni angen cael ein cydnabod am hynna.

    "Mae'r gwaith yn cael ei 'neud yn barod," meddai.

  8. Diffyg presenoldeb Llafur yn 'siomedig'wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Roedd Ifan Davies o Dregaron wedi teithio i Gaerdydd ar gyfer y brotest.

    "Roedd 'na siaradwyr da heddiw ar draws y sbectrwm amaeth, gwleidyddol, â'r [elusen] DPJ," meddai.

    "Ac roedd e'n brotest hollol heddychlon, sy'n glod i ni fel diwydiant, bod ni 'di bihafio gyda chymaint o urddas.

    "Gobeithio bod nhw'n mynd i wrando, ond o'n i'n siomedig bod neb o Lafur 'di dod allan."

    Roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ym Mrwsel heddiw.

    Ifan Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    John Davies (chwith) ac Ifan Davies

  9. FIDEO: 'O bydded i gefn gwlad barhau!'wedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Ar ddiwedd yr areithiau fe ganodd y dorf yr anthem genedlaethol, ond gydag un addasiad ar y diwedd: "O bydded i gefn gwlad barhau."

    Gwyliwch y fideo isod:

    Disgrifiad,

    Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei chanu wrth i ffermwyr wrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth

  10. FIDEO: Tractorau'n troi'r brif ffordd yn faes parciowedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Mae ffermwyr sy'n protestio wedi troi priffordd sydd fel arfer yn brysur yng Nghaerdydd yn faes parcio.

    Disgrifiad,

    Mae nifer o ffermwyr wedi teithio i Fae Caerdydd yn eu tractorau heddiw mewn protest

  11. 'Awr dywyllaf' amaeth Cymruwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Iolo Cheung
    Gohebydd Cymru Fyw ym Mae Caerdydd

    Dyma yw "awr dywyllaf" amaeth yng Nghymru, yn ôl un siaradwr.

    Pan mae'n crybwyll enwau Mark Drakeford a'r Gweinidiog Amaeth Lesley Griffiths, mae 'na fwio ymhlith rhai.

    Mae'n "warthus", meddai'r dyn, bod hi dal ddim yn glir beth yw dyfodol taliadau amaeth bron i wyth mlynedd ers Brexit.

    Yn sgil rhyfeloedd rhyngwladol ar hyn o bryd, mae angen mwy nag erioed i fod yn hunan-gynhaliol o ran bwyd.

    Bae CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

    "Ein tir ni ydi o, a ni sy'n cynhyrchu'r bwyd," meddai'r ffermwr o Lanfairfechan, Gareth Wyn Jones, wrth y dorf.

    "Mae wedi bod yn fis anodd i fi, nes i bron gerdded i ffwrdd, ond rhaid i ni aros yn gryf.

    "'Dan ni isio ffarmio sy'n gynaliadwy, yn amgylcheddol, ac yn fforddiadwy."

  12. 'Dwi wedi gorfod dysgu llawer yn sydyn'wedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths AS wedi ymateb i'r cyhuddiadau nad oes gan y Llywodraeth Lafur ddealltwriaeth o gefn gwlad.

    "Dwi wedi gorfod dysgu llawer am y maes yn sydyn, ond dwi wedi llwyddo i ennyn dealltwriaeth helaeth o'r maes amaethyddiaeth yn fy swydd," meddai.

    "Rydym ond yn gallu llwyddo mewn partneriaeth, mae wir angen i ni gydweithio, a dyna rydym yn gwneud.

    "Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Undebau ac maen nhw'n hapus gyda strwythur y cynllun.

    "Dwi'n meddwl mai'r rheswm inni wneud y cyhoeddiad ddoe oedd er mwyn tynnu ychydig o stêm o'r sefyllfa."

    Ychwanegodd Ms Griffiths mai'r "ffermwyr yw'r bobl gorau i'n helpu" er mwyn cyflawni targedau uchelgeisiol ar gyfer coetir newydd.

    LG
  13. 'Weles i ddim un aelod Llafur'wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru ym Mae Caerdydd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Ffermwr a gollodd 600 o wartheg yn siaradwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Iolo Cheung
    Gohebydd Cymru Fyw ym Mae Caerdydd

    Mae'r dorf nawr yn clywed gan fwy o ffermwyr, gan gynnwys Stuart Williams, a gollodd 600 o wartheg dros dair blynedd oherwydd profion TB.

    Mae'n dweud fod ei fywoliaeth a'i iechyd meddwl wedi cael ei chwalu "gan y polisi mwyaf hurt erioed i gael ei greu".

    "Y diwrnod aeth y fuwch olaf, fe gollodd fy nhad ei waith bywyd, fe gollais i fy mreuddwydion, ac fe gollodd fy mhlant eu dyfodol," meddai.

    protestioFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae'r dorf nawr yn clywed gan filfeddyg sy'n dweud nad yw'r diciâu "yn mynd i ffwrdd" yng Nghymru.

    "Ac eto mae Llywodraeth Cymru'n dweud wrtho ni bod y sefyllfa'n gwella," meddai.

    Cynnydd ym mhoblogaeth y moch daear yw'r broblem, meddai.

    "Does dim un ohonon ni eisiau gweld moch daear yn diflannu'n llwyr," meddai.

    "Ond mae angen rheoli'r boblogaeth mewn ffordd iach."

  15. Nigel Owens: 'Anrhydedd bod yma heddiw'wedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Mae'r cyn-ddyfarnwr rygbi, Nigel Owens, sydd nawr yn ffermwr, wedi bod yn siarad o flaen y dorf.

    "Yn 2015, cefais y fraint fawr o ddyfarnu rownd derfynol Cwpan y Byd yn Twickenham - eiliad balchaf fy ngyrfa," meddai.

    "Ond heddiw rydw i hyd yn oed yn fwy balch o ddod i siarad o flaen pobl dda, weddus.

    "Mae'n anrhydedd cael bod yma i siarad ac i'ch cefnogi heddiw fel cyd-ffermwr."

    Nigel OwensFfynhonnell y llun, PA Media

    Ychwanegodd: "Does dim modd cael bwyd ar y bwrdd heb ffermwyr."

    Mae'n ychwanegu bod ffermwyr wedi protestio a chodi eu llais hyd yma mewn modd "heddychlon a chydag integrity".

    "Dyna pam mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn eich cefnogi chi," meddai.

  16. 2,500 o brotestwyr hyd yma - heddluwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Heddlu De Cymru

    Mae'r heddlu yn amcangyfrif mai tua 2,500 o brotestwyr sydd yma ar hyn o bryd.

    Ond mae disgwyl i fwy o bobl gyrraedd - mae nifer o fysiau wedi'u dal ar yr A470.

  17. FIDEO: 'Yma i brotestio yn heddychlon'wedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Disgrifiad,

    Y cyflwynydd a'r amaethwr Alun Elidyr yn siarad yn y brotest ym Mae Caerdydd

    "'Da ni yma i brotestio a 'da ni yma i fod yn heddychlon wrth 'neud hynny a throsglwyddo neges," meddai Alun Elidyr.

    Ychwanegodd y ffermwr a'r cyflwynydd teledu fod amaethwyr yn benderfynol nad ydyn nhw am darfu ar fywydau cwsmeriaid a threthdalwyr yn y broses.

  18. FIDEO: '26 o fysus dal ar y ffordd'wedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Iolo Cheung
    Gohebydd Cymru Fyw ym Mae Caerdydd

    Mae Wyn Evans, ffermwr gwartheg a defaid o Geredigion, yn croesawu'r dorf, ac yn dweud y dylai'r diwydiant fod yn "falch" o'r ymgyrch hyd yma.

    Mae 26 o fysus dal ar y ffordd, meddai, gan ofyn am gymeradwyaeth hefyd i'r rheiny sydd adref yn wyna a methu bod yma heddiw.

    Mae hefyd yn pwysleisio mai'r rheswm maen nhw ym Mae Caerdydd heddiw yw oherwydd mai dyma "ganolbwynt democratiaeth yng Nghymru, lle mae'r penderfyniadau yn cael eu gwneud".

    Mae hynny’n denu ychydig o fwio o fewn y dorf, ond mae Mr Jones yn ychwanegu: "Brwydr ffermwyr yw hwn, a'r diwydiant amaeth - a neb arall."

    Disgrifiad,

    Ffermwyr yn heidio yn eu miloedd i Gaerdydd

  19. 'Chydig o anghytuno yn y dorfwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Iolo Cheung
    Gohebydd Cymru Fyw ym Mae Caerdydd

    Mae rhai o arweinwyr undebau amaeth Cymru yn annerch y dorf.

    "Ein swydd ni nawr yw ceisio gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i atebion," meddai Ian Rickman o Undeb Amaethwyr Cymru.

    "Mae'r gefnogaeth ni'n ei gael yn bwydo mewn i'r economi wledig.

    "A ni'n falch o fwydo'r genedl - dyma 'dan ni yma i wneud."

    protest

    Ychwanegodd Abi Reader o NFU Cymru bod angen sefyll gyda'n gilydd i gyrraedd sefyllfa o sero net.

    Mae'r sylw yna'n denu ambell i waedd yn anghytuno - mae'n amlwg bod 'na elfennau o'r dorf sydd ddim yn cydweld â'r neges yna.

  20. FIDEO: 'Dydyn nhw ddim yn gwrando arnon ni'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Fe wnaeth criw o Gorwen gychwyn am Gaerdydd ben bore Mercher.

    Un oedd ar y bws oedd Buddug Eidda o Glanrafon. Dywedodd: "Sa 'dan ni'n mynd lawr 'na i ddweud be 'da ni'n feddwl 'dyn nhw ddim am gael y neges."

    Fe ddywedodd bod y ffermwyr yn teimlo'n "ddig".

    "'Dan ni ddim isho neud be ma' nhw [y Llywodraeth] yn gofyn i ni 'neud, achos da ni'n rhoi fyny tir da, ffrwythlon i be' ma' nhw eisiau," meddai.

    Ychwanegodd: "Dydyn nhw ddim yn gwrando arnon ni, mae'n syml."

    Dywedodd Gwyn Edwards o Fetws Gwerful Goch bod y brotest heddiw yn fwy na gwrthwynebu'r Cynllun Ffermio Cynaliadawy.

    "Mae hyn yn fwy na dim ond am y polisi SFS a be' sy'n mynd ymlaen ar y funud.

    "Mae'n berwi ers blynyddoedd - mae'r rheolau sydd yn cael eu rhoi i ni yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

    "Mae'r gwaith papur, mae'rrecords- popeth ar ben sy' gynnon ni'n barod a digon yw digon.

    "'Dan ni wedi cael llond bol ac mae amryw o'n cenhedlaeth ni yn dod yn nes at oed ymddeol... mae'n rhaid i ni wneud hyn er mwyn y genhedlaeth nesa'," ychwanegodd Mr Edwards.