Crynodeb

  • Protest ffermwyr yn cyrraedd y Senedd - wedi sawl protest ar draws Cymru

  • Y ffermwyr yn gwrthwynebu y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - cynllun mawr Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu'r diwydiant ar ôl Brexit

  • Bydd rhaid i ffermwyr ymrwymo i sicrhau bod coed ar 10% o'u tir, a chlustnodi 10% arall fel cynefin i fywyd gwyllt

  • Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda ffermwyr a bod y cynllun mewn cyfnod ymgynghorol ar hyn o bryd

  • Ffermwyr hefyd yn poeni am achosion o TB mewn gwartheg

  • Dywed Heddlu'r De fod tua 3,000 o bobl y tu allan i’r Senedd ddydd Mercher

  • Daeth y brotest i ben yn heddychlon gyda mân aflonyddwch i'r cyhoedd, meddai'r heddlu

  1. 'Tua 3,000 i 4,000 o bobl'wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    Iolo Cheung
    Gohebydd Cymru Fyw ym Mae Caerdydd

    Byswn i'n amcangyfrif bod tua 3-4,000 o bobl y tu allan i'r Senedd yn barod - dydi'r tywydd glawog heb eu cadw nhw i ffwrdd.

    Rydan ni wedi siarad efo pobl o bob cwr o Gymru sydd wedi dod yma, a llawer eisiau dangos eu presenoldeb er mwyn pwysleisio i Lywodraeth Cymru gymaint sy'n anhapus gyda'u polisïau amaeth.

    Mae 'na lawer o arwyddion efo sloganau fel "Dim ffermwyr, dim bwyd", ac mae 'na ambell un yn fwy uniongyrchol feirniadol o'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'i lywodraeth Lafur hefyd.

    Mae'r areithiau ar fin dechrau, fydd yn cynnwys cymysgedd o wleidyddion, undebau amaeth, a'r ffermwyr eu hunain.

    protest
  2. 'Edrych ar ôl y ffermydd i'r plant'wedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    Megan, Steffan, Dylan a Hari yn protestio
    Disgrifiad o’r llun,

    Megan, Steffan, Dylan a Hari o Abergwaun

    "Ni'n edrych ar ôl y ffermydd i'r plant iddyn nhw gael ffarmo," meddai Teleri Jenkins, o Abergwaun, sy'n fam i Megan a Hari.

    "Mae'r diwydiant ffarmo yn hollol bwysig i bawb sy'n byta ac yfed."

    Ychwanegodd ei bod yn anhapus gyda'r pwysau ar amaethwyr i leihau allyriadau carbon.

    "Mae ffermwyr yn easy target," meddai.

  3. Traffig yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    Heddlu De Cymru

    Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn gwybod bod bwriad i gynnal protest ym Mae Caerdydd ddydd Mercher ac y gallai hynny gynnwys traffig yn teithio'n araf ar draws ffyrdd y rhanbarth.

    Does dim bwriad, medd y llu, i gau ffyrdd ond fe fydd yna gyfyngu ar fynediad i rai ffyrdd o amgylch y Senedd.

    Mae'r A48 o Sain Nicolas i gyfeiriad Caerdydd yng Nghroes Cwrlwys yn brysur iawn ar hyn o bryd, meddai Cyngor Caerdydd.

    "Ystyriwch ffordd arall," meddai neges ar X, dolen allanol.

  4. Tractors yn y brifddinaswedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    Mae rhai o ffyrdd Caerdydd yn edrych yn wahanol iawn heddiw wrth i nifer o ffermwyr deithio i'r brifddinas yn eu tractorau.

    Rhes o dractors yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Jacob Anthony
    Tractorau ar y fforddFfynhonnell y llun, Jacob Anthony
  5. FIDEO: TB yn 'lladd ein ffarmwrs ni'wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    Disgrifiad,

    Gareth Wyn Jones: 'Da ni yma i ofyn tri cwestiwn'

    Mae Gareth Wyn Jones, un o ffermwyr amlycaf Cymru, wedi beirniadu'r llywodraeth droeon yn y gorffennol.

    Yn siarad gyda Cymru Fyw ar risiau'r Senedd heddiw, dywedodd fod rhaid delio gyda phroblem TB, neu'r diciâu.

    "Mae o'n lladd ein hanifeiliaid ni, mae o'n lladd ein ffarmwrs ni, ac mae o'n lladd ein busnesau ni," meddai.

    "Mae'n amser i ni gal newid yn y deddfa' a polisïa' a symud petha' yn eu blaena'."

  6. 'Delio gyda TB ers dros wyth mlynedd'wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    protest

    "Ni gyd 'ma i ddangos i'r leaders bod ni ddim yn pushover," meddai Reian Jenkins o Ffostrasol, Ceredigion.

    Ychwanegodd Rhiannon Phillips o ardal Glynarthen yng Ngheredigion: "Ni eisiau sicrhau dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.

    "Mae TB yn broblem fawr i ni, ni wedi bod yn delio gyda fe ers dros wyth mlynedd.

    "Mae dros 20 o wartheg yn mynd gyda ni nawr."

  7. Llywodraeth Cymru: 'Cyfnod ymgynghori yw hwn'wedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    Yn gyson mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cynllun ar hyn o bryd mewn cyfnod ymgynghori.

    Maen nhw'n dweud eu bod yn gwrando ar ffermwyr ac wedi cydweithio gyda ffermwyr ar y cynllun.

    "Rydw i wastad wedi ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cyfathrebu â chymaint o ffermwyr â phosib," meddai Lesley Griffiths, y gweinidog sy'n gyfrifol am faterion gwledig yng Nghymru.

    "Mae gennym ni dros 24,000 o ffermwyr yma yng Nghymru – alla i ddim siarad â phawb yn unigol," ychwanegodd.

    Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 7 Mawrth.

  8. Protestiadau ar draws Ewropwedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    Ar draws Ewrop yn ddiweddar mae golygfeydd o ffermwyr yn eu tractors yn protestio wedi hawlio'r penawdau.

    O wlad i wlad mae'r rheswm pam fod amaethwyr yn anniddig yn amrywio - ond mae costau cynyddol, rheoliadau llymach a newidiadau polisi yn gwynion cyffredin.

    Mae ffermwyr Cymru yn honni bod gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi troi cefn ar gefn gwlad.

    Daeth tua 3,000 o ffermwyr a phobl sydd ynghlwm â'r byd amaeth i gyfarfod tanllyd ym mart Caerfyrddin ar 8 Chwefror.

    Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod eu hymrwymiad i'r sector amaeth "ar yr adeg heriol hon yn glir iawn".

    Ffermwyr Pwylaidd yn cymryd rhan mewn protest yn erbyn Bargen Werdd yr UE a mewnforio grawn o Wcráin yn Warsaw, Gwlad Pwyl ddoeFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ffermwyr Pwylaidd yn cymryd rhan mewn protest yn erbyn Bargen Werdd yr UE a mewnforio grawn o Wcráin yn Warsaw, Gwlad Pwyl ddoe

  9. 'Profi pwynt'wedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    llun

    "Mwy na'm byd, 'dan ni yma i ddangos i Lywodraeth Cymru bod 'na lais gan bobl cefn gwlad Cymru," meddai Richard Jones o Frynsiencyn ym Môn (chwith yn y llun).

    "'Dan ni 'di trio siarad drwy'r undebau, ond 'dan ni rwan yn gorfod dod i galon Llywodraeth Cymru i brofi pwynt, bod y polisi ddim yn mynd i weithio - dydi o ddim yn one-size fits all."

    Rheolau plannu coed ydy pryder mwya' William Bown o Lannerchymedd (nesa i Richard), yn enwedig ar dir ffrwythlon Ynys Môn.

    "Bysa fo'n golygu 10% o dy dir yn goed, a 10% arall yn habitat," meddai.

    "Ti'n colli tir ffarmio, a 'dan ni ddim yn siwr faint o arian gawn ni am blannu coed chwaith."

  10. Pam bod ffermwyr Cymru yn protestio?wedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae ffermwyr Cymru yn protestio ers wythnosau bellach, gan honni bod gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi troi cefn ar gefn gwlad.

    Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod eu hymrwymiad i'r sector amaeth "ar yr adeg heriol hon yn glir iawn".

    Ond beth yw'r materion sy'n achosi'r drwgdeimlad?

    Darllenwch erthygl fer ein gohebydd amgylchedd, Steffan Messenger i wneud synnwyr o'r cyfan.

    Daeth tua 3,000 o bobl o'r byd amaeth ynghyd ym mart Caerfyrddin nos Iau, 8 Chwefror
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth tua 3,000 o bobl o'r byd amaeth ynghyd ym mart Caerfyrddin ar 8 Chwefror - ond mae disgwyl mwy yng Nghaerdydd heddiw

  11. Croesowedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2024

    Diolch am ymuno efo ni ar gyfer digwyddiad a allai fod yn bennod arwyddocaol iawn yn stori'r gwrthdaro parhaus rhwng amaethwyr a Llywodraeth Cymru.

    Mae disgwyl i filoedd o bobl fynd i Fae Caerdydd i wrthwynebu newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth, sy'n "anymarferol" ym marn yr undebau.

    Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn helpu hwyluso'r brotest - sydd i fod i ddechrau'n swyddogol am 12:30 y tu allan i adeilad y Senedd - ond maen nhw'n annog pobl i beidio â mynd yno mewn tractorau.

    Dywed llywodraeth Lafur Cymru eu bod yn gwrando ar bryderon y sector.

    Bydd Cymru Fyw yn dod â'r diweddaraf i chi o Fae Caerdydd am yr oriau nesa felly arhoswch efo ni.