Crynodeb

  • Mark Drakeford yn dweud ei bod yn "rhyfeddol" bod Boris Johnson wedi gwrthod cyfarfod â'r gwledydd datganoledig

  • Honnodd Drakeford hefyd bod Johnson yn "absennol i raddau helaeth" o drafodaethau

  • Dywedodd y dylai cyfnod clo fod wedi digwydd dros y DU yn gynharach

  • Ond roedd effaith cyfnodau clo, yn enwedig ar blant, yn "pwyso'n drwm" arno

  • Cafodd Ysgrifennydd Iechyd y DU fanylion "sylfaenol" am ddatganoli yn "gyfan gwbl anghywir"

  • Defnydd o WhatsApp dan y chwyddwydr eto, gyda Mr Drakeford yn dweud mai 11 o weithiau y defnyddiodd y cyfrwng

  • Disgrifiodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart fel ffigwr "ymylol" oedd yn "llenwi ei ddyddiau drwy ysgrifennu llythyrau ataf"

  1. Simon Hart yn 'llenwi ei ddyddiau drwy ysgrifennu llythyrau ataf'wedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae Mr Drakeford yn disgrifio Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Simon Hart fel person "ymylol" i'w ymwneud â Llywodraeth y DU.

    Meddai: "Yr anhawster oedd, yn y dyddiau cynnar, gydag a dweud y gwir, ychydig iawn arall i'w wneud, roedd yr ysgrifennydd gwladol yn llenwi ei ddyddiau drwy ysgrifennu llythyrau ataf yn holi am gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru."

    Mae'n dadlau bod risg ei fod yn "dechrau amharu ar ein gallu i wneud y pethau roedd angen i ni eu gwneud".

    Mae Mr Drakeford yn cofio iddo orfod ysgrifennu at Mr Hart i ddweud wrtho na allai fynd ymlaen i flaenoriaethu ateb ei ohebiaeth ac nad oedd yn atebol iddo ond "i Senedd y Cymry".

    Simon HartFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Simon Hart oedd Ysgrifennydd Cymru yn ystod y pandemig

  2. 'Dan anfantais' mewn cyfarfodydd COBRAwedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae’r ymchwiliad wedi cael gwybod yn flaenorol nad oedd y gwledydd datganoledig yn aml yn cael gwybod am gyfarfodydd COBRA tan yn hwyr iawn, gyda phapurau briffio’n cael eu rhannu ychydig funudau’n unig cyn dechrau.

    Mae Mr Drakeford o'r farn bod hyn yn golygu bod gwledydd datganoledig "dan anfantais", gan ei bod wedi cymryd amser iddynt ddal i fyny â'r trafodion.

    Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol o “bryderon yn Llywodraeth y DU” ynghylch “gollwng” manylion o’r cyfarfodydd hyn i’r wasg yn ôl yr honiad am Nicola Sturgeon – prif weinidog yr Alban ar y pryd.

    Ond dywed Mr Drakeford: “Byddwn i hefyd wedi gwybod na allent gyfeirio at un enghraifft."

  3. Proffil Drakeford yn uwch nag erioed o'r blaenwedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Ben Price
    Gohebydd BBC Cymru

    MDFfynhonnell y llun, Getty Images

    Fe gynyddodd proffil cyhoeddus Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn sylweddol yn ystod y pandemig wrth i Lywodraeth Cymru gynnal cynhadleddau i’r wasg dyddiol a oedd yn cael eu darlledu’n fyw i’r genedl.

    Roedd penderfyniadau Prif Weinidog Cymru wrth ymateb i Covid-19 o dan y chwyddwydr yn fwy nag erioed o ganlyniad.

    Yn ogystal â hynny, fe gafodd Mr Drakeford ei wahodd i gyfarfodydd COBRA Llywodraeth y DU er mwyn trafod yr ymateb i Covid.

    Mae COBRA yn cwrdd yn achlysurol o dan arweiniad Prif Weinidog Prydain i drafod yr ymateb i argyfwng cenedlaethol.

  4. Boris Johnson yn 'absennol i raddau helaeth'wedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Dywedodd Mr Drakeford fod ei ymwneud â Michael Gove, canghellor Dugaeth Caerhirfryn ar y pryd, wedi gweithio'n dda.

    Yn ei ddatganiad i’r ymchwiliad, fe’i disgrifiodd serch hynny fel “blaenwr medrus yn y canol heb dîm wedi’i drefnu y tu ôl iddo a lle roedd y rheolwr yn absennol i raddau helaeth”.

    Dywedodd wrth y gwrandawiad nad oedd prif weinidog y DU “byth yn y cyfarfodydd hyn nac wrth y bwrdd” a thra bod Mr Gove yn uwch weinidog gyda chyfrifoldeb am y materion hyn ac y byddai ei lais yn cyfrif… “mae ganddo ddylanwad yn hytrach na'r gallu i wneud penderfyniad” fel y byddai gan y prif weinidog.

    Michael GoveFfynhonnell y llun, PA Media
  5. 'Rhyfeddol' gwrthod cyfarfodydd gwledydd y DUwedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae’r ymchwiliad wedi cael gwybod na wnaeth prif weinidog y DU ar y pryd, Boris Johnson yn fwriadol gyfarfod ag arweinwyr y gwledydd datganoledig ar ddechrau’r pandemig rhag ofn iddo roi “yr argraff ffug bod y DU yn wladwriaeth ffederal”.

    Mae Mr Drakeford yn disgrifio hyn fel "rhyfeddol", gan ychwanegu: "Ysgrifennais yn rheolaidd iawn at y prif weinidog, yn gofyn am gyfres ragweladwy o gyfarfodydd rhwng penaethiaid y pedair gwlad.

    “Doedd hi erioed wedi fy nharo fod y prif weinidog wedi gwrthod y ceisiadau hyn, nid am resymau ymarferol… ond fel mater o bolisi.”

    Dywed Mr Drakeford y byddai wedi bod yn “well” cael y cyfarfodydd hyn, gan y byddai wedi caniatáu i benderfyniadau “ar y cyd”, os nad yn union yr un fath, gael eu gwneud.

    Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Beth fydd ffocws y trafod heddiw?wedi ei gyhoeddi 10:27 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Arwydd cyfnod clo

    Mae'r gwrandawiadau yng Nghaerdydd yn dod o dan yr ail ran o'r ymchwiliad, sy'n canolbwyntio ar lywodraethu a phenderfyniadau "craidd" yn ystod y pandemig.

    Mi allwn ni ddisgwyl i Mark Drakeford gael ei holi ar bynciau eang heddiw, o benderfyniadau cynnar ei lywodraeth wrth ddelio â'r pandemig, y drefn gyfathrebu rhwng llywodraethau Caerdydd a San Steffan wrth i'r haint ledaenu, a pha wersi sydd wedi eu dysgu.

    Mae'n debygol y cawn ni atebion ynghylch rhai o benderfyniadau dadleuol y cyfnod hefyd - gan gynnwys cyfnodau clo byr, rhyddhau pobl hŷn i gartrefi gofal heb brawf, a'r drefn o brofi am Covid-19.

  7. Drakeford yn derbyn cyfrifoldeb am bob penderfyniadwedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Agorodd Mark Drakeford ei dystiolaeth drwy ddisgrifio penderfyniadau uwch weinidogion.

    “Fy null fel prif weinidog oedd gwneud yn siŵr eu bod yn benderfyniadau ar y cyd gan y cabinet cyfan".

    Roedd penderfyniadau “bob amser yn cael eu gwneud yn uniongyrchol yn y cabinet”, er bod rhai yn nyddiau cynnar iawn y pandemig wedi’u gwneud ar sail yr hyn y byddai’r cabinet wedi’i ddymuno, yn seiliedig ar drafodaethau blaenorol.

    Dywedodd ei fod yn derbyn cyfrifoldeb am bob penderfyniad, ac yn cymeradwyo'r penderfyniadau hynny.

  8. Tystiolaeth Mark Drakeford yn dechrauwedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae Mark Drakeford wedi dechrau ateb cwestiynau gan Tom Poole KC, sy'n dechrau trwy drafod cefndir Mr Drakeford mewn gwleidyddiaeth, yn arwain at ei benodi’n brif weinidog ym mis Rhagfyr 2018.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Ymchwiliad Covid-19 y DU
  9. Beth mae'r ymchwiliad wedi ei ddysgu hyd yn hyn?wedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Roedd na sawl aelod o'r llywodraeth yn rhoi tystiolaeth ddoe, ac fe ddaeth llawer o wybodaeth i'r amlwg o'r croesholi:

    • Y cyn-Gwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles yn cyfaddef nad oedd gan Lywodraeth Cymru yr hawl gyfreithiol i gau ysgolion ym Mawrth 2020.
    • Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, yn dweud nad oedd llawer o eglurder yn dod o'r Trysorlys yn San Steffan yn ystod misoedd cyntaf y pandemig.
    • A'r Gweinidog Iechyd presennol Eluned Morgan, a ddywedodd ei bod wedi anfon negeseuon Whatsapp at Brif Weinidog Cymru yn ystod y dyddiau cyn y cyfnod clo cyntaf yn galw am gamau i atal pobl rhag dod i Gymru ar wyliau.

    Darllenwch fwy am yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu hyd yn hyn yma.

  10. Beth mae'r ymchwiliad wedi ei ddysgu hyd yn hyn?wedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    whatsappFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dros y pythefnos diwethaf mae’r ymchwiliad wedi clywed gan:

    • Y cyn-weinidog iechyd, Vaughan Gething, a ddywedodd ei fod yn destun "embaras" bod negeseuon WhatsApp o gyfnod y pandemig wedi cael eu dileu. Dywedodd hefyd y byddai dechrau'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 ychydig ddyddiau ynghynt wedi achub mwy o fywydau.
    • Cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, a ddywedodd mai cymhelliant Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig oedd bod yn wahanol dim ond er mwyn bod yn wahanol.
  11. Beth mae Mark Drakeford wedi ei ddweud o'r blaen?wedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Dyma'r eildro i'r Prif Weinidog Mark Drakeford roi tystiolaeth i'r ymchwiliad, ar ôl iddo wneud hynny ym mis Gorffennaf 2023 yn Llundain.

    Bryd hynny, dywedodd bod adnoddau ar draws Llywodraeth Cymru wedi cael eu dargyfeirio o baratoi ar gyfer pandemig "i ddelio â'r peryglon sydd o'n blaenau ni o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb".

    Roedd y cam hwnnw o'r ymchwiliad yn canolbwyntio'n benodol ar gynllunio ar gyfer y pandemig.

    Heddiw fydd y tro cyntaf iddo roi tystiolaeth i'r rhan o'r ymchwiliad sy'n benodol yn canolbwyntio ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru.

  12. Beth yw'r ymchwiliad?wedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig wedi bod yn clywed tystiolaeth yng Nghymru ers 27 Chwefror.

    Fe gafodd yr ymchwiliad ei sefydlu i ystyried parodrwydd ac ymateb y DU i'r pandemig ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

    Ymysg y rhai sydd wedi rhoi tystiolaeth mae teuluoedd a gollodd anwyliaid, arbenigwyr a'r gwleidyddion a swyddogion oedd yn gyfrifol am y penderfyniadau wnaeth siapio ein bywydau yn ystod y cyfnod.

    Tro y prif weinidog yw hi i roi tystiolaeth heddiw.

    MercureFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Croesowedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Croeso i'n llif byw ar ddiwrnod mawr yn Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig.

    Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fydd yn rhoi tystiolaeth yng Nghaerdydd heddiw.

    Fe gewch chi'r holl fanylion a dadansoddiad yma felly arhoswch gyda ni.

    Mark Drakeford yn cyrraedd y gwrandawiad yng Nghaerdydd fore MercherFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford yn cyrraedd y gwrandawiad yng Nghaerdydd fore Mercher