Crynodeb

  • Arestio merch ar ôl i ddau athro a disgybl gael eu trywanu - dilynwch yn fyw

  • Dau athro a disgybl yn yr ysbyty - yr heddlu'n dweud nad yw eu hanafiadau yn ddifrifol

  • Bu'n rhaid cloi disgyblion yn eu hystafelloedd dosbarth wedi'r digwyddiad am 11:20 - fe gafon nhw adael am 15:20

  • Cyllell wedi'i chanfod a bydd yn cael ei defnyddio fel rhan o'r dystiolaeth

  • Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething a Phrif Weinidog y DU, Rishi Sunak, yn dweud eu bod wedi'u synnu gan y digwyddiad

  • Yr ysgol yn gweithio gydag asiantaethau i sicrhau cefnogaeth briodol a chyhoeddiad y bydd yr ysgol ar gau ddydd Iau

  1. Crynodeb o'r dydd: Beth ydyn ni'n ei wybod?wedi ei gyhoeddi 18:44 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    • Merch yn ei harddegau wedi'i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin y bore 'ma
    • Tri o bobl - dau athro ac un disgybl yn ei arddegau - wedi cael eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu
    • Heddlu Dyfed-Powys yn dweud nad oedd yr anafiadau yn ddifrifol ac y bydd yr ysgol ar gau ddydd Iau
    • Mae'r heddlu wedi apelio ar bobl i ddileu fideos o'r digwyddiad ar-lein
    • Cafodd disgyblion eraill eu cadw yn yr ysgol am oriau wedi'r digwyddiad

    Dyna'r oll gan dîm y llif byw heddiw. I gael y diweddaraf am y stori yma heno, ewch i Hafan Cymru Fyw a darllenwch y stori yma.

    Diolch am ddilyn.

    map
  2. 'Sioc enfawr' ond canmoliaeth i'r staff a'r disgyblionwedi ei gyhoeddi 18:33 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi canmol staff a disgyblion yr ysgol am y ffordd wnaethon nhw ymateb i'r "digwyddiad brawychus" yn gynharach heddiw.

    Dywedodd Darren Price ei fod yn "cydymdeimlo o waelod calon" gyda'r bobl gafodd eu hanafu.

    I glywed ei ddatganiad yn llawn, gwyliwch y fideo isod:

    Disgrifiad,

    Arweinydd cyngor yn canmol staff a disgyblion

  3. Beth yw'r drefn pan fydd argyfwng yn yr ysgol?wedi ei gyhoeddi 18:10 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Byddai ysgolion yn gobeithio byth gorfod "cloi" wrth ymateb i ddigwyddiad o'r math yma ond fe fyddai ganddyn nhw gynlluniau ar gyfer gwneud hynny.

    Mae yna ganllawiau gan Lywodraeth Cymru i ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant wrth ymateb i argyfwng ac mae cynghorau ac ysgolion yn llunio eu cynlluniau eu hunain ar sail y rheini.

    Mae cynllun argyfwng Cyngor Sir Gaerfyrddin - neu'r 'cod coch' - yn awgrymu y dylai ysgolion gloi drysau allanol, cadw staff a disgyblion mewn ystafelloedd dosbarth neu man diogel arall, cau llenni a diffodd y sain ar ffonau.

    Rhaid i ysgolion sicrhau bod staff a disgyblion yn ymwybodol o'r cynlluniau.

    Ond fel ddywedodd un pennaeth wrtha i y prynhawn 'ma, dim ond "lleihau risg, nid diddymu risg" allan nhw wneud.

    Beth yw 'cod coch'?
  4. Anafiadau ddim yn peryglu bywyd a'r ysgol ar gau yforywedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed Powys nad oedd yr anafiadau i'r rheini a gafodd eu hanafu yn rhai sy'n bygwth bywyd.

    Bydd yr ysgol ar gau yfory er mwyn i'r heddlu gynnal ymchwiliadau ond bydd gwersi'n cael eu cynnal ar-lein.

    Cafodd datganiad ei wneud y tu allan i giatiau'r ysgol toc wedi 17:30
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd datganiad ei wneud y tu allan i giatiau'r ysgol toc wedi 17:30

  5. Cyllell yn ddarn o dystiolaeth - heddluwedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i gyllell, sydd wedi'i cymryd fel tystiolaeth.

  6. Clwb pêl-droed yn estyn llaw i'r gymunedwedi ei gyhoeddi 17:44 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae CPD Rhydaman wedi cyhoeddi datganiad yn cydymdeimlo gyda'r rhai sydd wedi'u heffeithio - gyda nifer, meddai, yn ymwneud â'r clwb.

    "Fel clwb, mae ein meddyliau i gyd gyda'r rheini sydd wedi'u heffeithio gan ddigwyddiad difrifol heddiw, ac rydym yn gobeithio am wellhad buan iddyn nhw.

    "Rydym hefyd yn estyn ein meddyliau at staff a disgyblion Ysgol Dyffryn Aman - mae sawl un hefyd yn aelodau o'r gymuned bêl-droed yma yn Rhydaman.

    "Mae sefydliad Jack Lewis hefyd yn cynnig cymorth i unrhyw un os bod problem yn codi. Os oes unrhyw un yn dioddef ar ôl digwyddiad heddiw, peidiwch ag oedi i gysylltu â nhw.

    "Mae Dyffryn Aman yn dref arbennig gyda chymuned feddylgar, garedig a chynnes, sy'n cynnig help i bobl pan fod ei angen. Dyw heddiw ddim yn eithriad."

  7. Aelod Seneddol: 'Fy ffrind wedi'i drywanu yn y digwyddiad'wedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Dywedodd Jonathan Edwards, AS Annibynnol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, lle digwyddodd y trywanu, fod plant mewn ysgol gynradd ar draws y ffordd o Ysgol Dyffryn Aman hefyd wedi bod dan glo heddiw.

    "Mae’n ymddangos bod y gweithdrefnau wedi’u dilyn yn arbennig o dda," meddai wrth BBC Radio 5 Live.

    Ychwanegodd ei fod yn adnabod nifer o staff yr ysgol a bod un o'r athrawon gafodd ei drywanu yn ffrind prifysgol iddo.

    Yn gynharach yn y dydd, dywedodd y byddai’n "croesi'r llinell os oes yna arf wedi cael ei gludo i mewn i ysgol".

    "Mae’r heddlu wedi gofyn i ni beidio â dyfalu oherwydd bod ymchwiliad troseddol ond yn dilyn ymchwiliadau’r gwahanol awdurdodau mae angen i’r gwleidyddion eistedd i lawr a gweithio allan sut mae ein disgyblion a’n hathrawon yn ddiogel yn y dyfodol."

    Jonathan EdwardsFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
    Disgrifiad o’r llun,

    Jonathan Edwards, AS Annibynnol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

  8. 'Ti'n credu fod pobl yn saff yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Dywedodd Chris Davies, sy'n rhiant i blant yn yr ysgol, nad oedd llawer o wybodaeth "dros y ffôn [a] ti’n poeni pan ti’n clywed bod rhywbeth wedi digwydd ar door step ti".

    "Ges i text trwyddo yn dweud bo nhw'n OK… fi’n falch fod nhw'n iawn," meddai am ei blant.

    "Confused, shocked, pethe fel 'na - mae i gyd yn sioc really.

    “Ti’n credu fod pobl yn saff yng Nghymru a so ti 'di clywed am rywbeth yn digwydd o'r blaen fel hyn ond fel o'n i wedi dweud, achos bod e ar door step ti, ti'n poeni tym' bach."

    Chris Davies
  9. Apêl eto i ddileu fideos ar-leinwedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Heddlu Dyfed Powys

    Ychwanegodd y datganiad: "Rwy’n ymwybodol bod lluniau o’r digwyddiad yn cylchredeg ar hyn o bryd ar gyfryngau cymdeithasol a byddwn yn gofyn i hwn gael ei ddileu er mwyn osgoi dirmyg llys a thrallod i’r rhai sydd wedi'u heffeithio.

    "Hoffwn hefyd ofyn i bobl beidio â dyfalu tra bod ymchwiliad heddlu’n parhau.

    "Rydym yn gweithio gyda'r ysgol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, ac asiantaethau eraill i sicrhau bod cymorth priodol ar gael i bawb sy’n gysylltiedig gyda'r digwyddiad.

    "Fe fydd pobl leol yn gweld mwy o heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i’r ymchwiliad barhau."

  10. Merch wedi'i harestio, dau athro a disgybl wedi'u hanafu - heddluwedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill
    Newydd dorri

    Dau athro a disgybl gafodd eu trywanu yn y digwyddiad heddiw, meddai'r heddlu.

    Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys fod merch yn ei harddegau wedi'i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

    Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans: "Ychydig ar ôl 11:20 y bore 'ma fe gawson ni alwad yn ein hysbysu am ddigwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin.

    "Daeth y gwasanaethau brys ar unwaith a chafodd yr ysgol ei chloi i lawr er diogelwch pawb ar y safle.

    "Mae tri o bobl – dau athro a disgybl yn eu harddegau – wedi’u cludo i’r ysbyty gyda chlwyfau yn sgil trywanu.

    "Mae merch yn ei harddegau wedi’i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae’n parhau yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.

    "Hoffwn roi sicrwydd i rieni a’r cyhoedd bod y digwyddiad wedi dod i ben, a bod disgyblion bellach wedi gadael yr ysgol."

    fforensig
  11. Datganiad i ddod gan yr heddlu am 17:30wedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud y byddan nhw'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf y prynhawn yma ar y digwyddiad heddiw.

    Ni fydd y llu yn cynnal cynhadledd i'r wasg, na chwaith yn ateb cwestiynau'r wasg, ond fe fydd yr Uwcharolygydd Ross Evans yn yr ysgol i ddarllen datganiad am 17:30.

    Fe ddown ni â'r diweddaraf i chi ar y llif byw.

    I gael y newyddion diweddaraf ar eich dyfais symudol, lawrlwythwch ap Cymru Fyw ar Google Play a'r App Store.

  12. 'Cyd-weithio ar ei orau'wedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

    "Mae meddyliau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyd gyda'r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau heddiw yn Nyffryn Aman, a’r gymuned ehangach," meddai llefarydd.

    "Hoffem estyn ein diolch i dîm a chyd-weithwyr gwasanaeth Ambiwlans Cymru am eu hymateb cyflym i ddigwyddiad mor ddifrifol, o dderbynwyr galwadau 999 i’r criw ambiwlans a fu'n trin pobl ar y safle.

    "Diolch mawr hefyd i’n cyd-weithwyr yn Heddlu Dyfed Powys am wneud y safle'n lle digon saff i weithio.

    "Dyma gyd-weithio ar ei orau."

  13. Lluniau: Y golygfeydd wrth i blant adael yr ysgolwedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Cafodd rhieni a phlant eu haduno wrth gatiau'r ysgol ar ôl aros am oriau.

    Dywedodd un fam, Becks, ei bod hi’n teimlo "rhyddhad" wrth gofleidio ei mab, Amron.

    "Mae wedi bod yn ddiwrnod hir," meddai mam arall, Melanie, a oedd wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am ei mab, Lex.

    mam a mab
    plant yn gadael yr ysgol
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd disgyblion eu gadael allan mewn grwpiau bach o ardaloedd gwahanol o'r ysgol am tua 15:15

    heddlu ar dir yr ysgolFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau'n amlwg ar dir yr ysgol y prynhawn 'ma

    yr ysgolFfynhonnell y llun, PA Media
  14. 'Gall hwn ddim digwydd eto'wedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Roedd Anthony Jones, 63 yn aros tu allan i Ysgol Dyffryn Aman i glywed gan ei fab 15 oed.

    "Mae pobl mas fan hyn yn becso - gobeithio bod pob un yn saff," meddai.

    Ychwanegodd: "Mae'n amser i ni ddod â mwy o discipline mewn i ysgolion.

    "Mae angen mwy o searches achos gall hwn ddim ddigwydd eto."

    Anthony Jones
  15. 'Dau aelod o staff wedi'u trywanu' - llywodraethwrwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    WalesOnline

    Mae un o lywodraethwyr yr ysgol wedi dweud wrth WalesOnline ei bod ar ddeall bod dau aelod o staff wedi eu trywanu, ond nid oedd yn gwybod os oedd unrhyw ddisgybl wedi'u hanafu.

    Ychwanegodd y cynghorydd Karen Davies ei bod mewn sioc am y digwyddiad.

    "Dwi’n gwybod pa mor dda mae’r ysgol wedi ymarfer lockdown a dwi’n siŵr bod popeth o dan reolaeth," meddai.

    "Mae’n frawychus. Mae rhywun yn clywed am y pethau yma yn digwydd ym Manceinion a Llundain ond, yn llythrennol, ein hysgol gyfun ni yw hwn."

  16. Agor yr eglwys leol i gynnig gofal bugeiliolwedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Dywed Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, bod yr hyn sydd wedi digwydd yn "ofnadwy" ac mae fy "meddyliau a fy ngweddïau gyda'r rhai sydd wedi'u hanafu, y staff, disgyblion a theuluoedd pawb yn Ysgol Dyffryn Aman".

    "Mae Eglwys yr Holl Saint yn Rhydaman wedi'i hagor i gynnig help a chefnogaeth fugeiliol fel ymateb i'r hyn sydd wedi digwydd," ychwanegodd.

    Dywedodd hefyd bod aelodau a chyfeillion Eglwys yr Holl Saint yn darparu te a choffi i rieni pryderus y tu allan i'r ysgol a bod yr eglwys ar agor i unrhyw un sydd am gynnau cannwyll neu weddïo.

    Dorrien DaviesFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed yr Esgob Dorrien Davies bod yr eglwys leol yn cynnig cymorth

  17. Disgyblion wedi cael 'cod coch' yn ystod gwerswedi ei gyhoeddi 15:31 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    "Cafon ni dipyn o sioc pan cafon ni wybod am y tro cyntaf - da'th e mas o nunlle," meddai Megan Keyte, 18, prif ferch Ysgol Dyffryn Aman.

    "Doedd dim gwersi 'da fi heddiw, roeddwn i’n gweithio o adref yn trio gorffen gwaith cyn arholiadau.

    "Roedd un o fy ffrindiau y tu mewn gwers Seicoleg a chafon nhw neges 'cod coch, rydych chi mewn lockdown'."

    Ychwanegodd Megan nad oedden nhw, fel disgyblion, erioed wedi clywed y term "côd coch" o’r blaen.

    "Ni byth wedi angen gwybod. Ond yn amlwg roedd pethau mewn lle.

    "Ni wedi cael gwybod yn fras yn y gorffennol beth i wneud ond roedd pawb yn gwybod beth i wneud."

    Megan

    Dywedodd Megan fod llawer o wybodaeth anghywir yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol am beth oedd wedi digwydd.

    "Jest plant yn bod yn blant," meddai.

    "Mae’r ysgol wedi bod yn glir i glirio'r cyfan ac i roi gwybod pwy yn union sydd wedi cael niwed.

    "Dydych chi byth yn disgwyl i rywbeth fel hyn ddigwydd yn ein hysgol ni na'r ardal hon.

    "Ond mae'n dangos sut mae'r gymuned yn dod at ei gilydd mor gyflym. Mae'r rhieni ar y strydoedd ac mae'r heddlu wedi cyfathrebu’n dda."

  18. Disgyblion wedi dechrau gadael yr ysgolwedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Meleri Williams
    Gohebydd BBC Cymru yn Ysgol Dyffryn Aman

    Mae disgyblion wedi dechrau cael eu rhyddhau o'r ysgol.

    Maen nhw’n cael eu gadael allan mewn grwpiau bach o ardaloedd gwahanol o'r ysgol.

    Roedd lluniau byw ar sianel newyddion y BBC yn dangos disgyblion yn gadael yr ysgol
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd lluniau byw ar sianel newyddion y BBC yn dangos disgyblion yn gadael yr ysgol

  19. Pedwar ambiwlans brys wedi'u hanfon bore 'mawedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

    "Cawsom ein galw toc wedi 11:15 i ddigwyddiad ar Stryd Margaret yn Rhydaman," meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans.

    "Fe wnaethon ni anfon pedwar ambiwlans brys a'r tîm ymateb ardaloedd peryglus i’r lleoliad, lle cafodd y criwiau eu cefnogi gan ddau barafeddygon uned ymateb aciwtedd uchel Cymru a rheolwr gweithredol.

    "Cafodd cymorth gofal critigol uwch ei ddarparu gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn dau hofrennydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru."

    Fe gyfeiriodd y gwasanaeth unrhyw ymholiadau pellach tuag at yr heddlu.

    Pobl yn aros tu allan i'r ysgol
  20. 'Digwyddiad brawychus'wedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru: "Er nad ydyn ni’n gwybod manylion llawn ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd, yn amlwg mae’n ddigwyddiad brawychus ac mae ein meddyliau a’n gweddïau ni gyda phawb sydd wedi eu heffeithio yn yr ysgol a’r gymuned ehangach."