Crynodeb

  • Arestio merch ar ôl i ddau athro a disgybl gael eu trywanu - dilynwch yn fyw

  • Dau athro a disgybl yn yr ysbyty - yr heddlu'n dweud nad yw eu hanafiadau yn ddifrifol

  • Bu'n rhaid cloi disgyblion yn eu hystafelloedd dosbarth wedi'r digwyddiad am 11:20 - fe gafon nhw adael am 15:20

  • Cyllell wedi'i chanfod a bydd yn cael ei defnyddio fel rhan o'r dystiolaeth

  • Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething a Phrif Weinidog y DU, Rishi Sunak, yn dweud eu bod wedi'u synnu gan y digwyddiad

  • Yr ysgol yn gweithio gydag asiantaethau i sicrhau cefnogaeth briodol a chyhoeddiad y bydd yr ysgol ar gau ddydd Iau

  1. Y digwyddiad 'dan reolaeth' - cyngor sirwedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    "Mae aelodau teulu yr holl unigolion a gafodd eu hanafu wedi cael gwybod," meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin.

    "Rydym am sicrhau rhieni a’r cyhoedd fod y digwyddiad dan reolaeth."

  2. Beth ydyn ni'n ei wybod hyd yma?wedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    • Tri o bobl wedi'u hanafu ac un wedi'i arestio yn dilyn adroddiadau o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin
    • Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad
    • Dau o hofrenyddion yr ambiwlans awyr ymateb i'r digwyddiad tua 11:00 bore 'ma
    • Yr heddlu wedi gofyn i luniau a fideos o'r digwyddiad, sy'n cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, i gael eu tynnu i lawr
    • Cannoedd o rieni yn disgwyl am eu plant y tu allan i giatiau’r ysgol, gyda disgyblion yn dweud eu bod "mewn lockdown"
    • Aelodau staff wedi'u hanafu yn y digwyddiad - PA
  3. 'Aelodau o staff wedi'u hanafu'wedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill
    Newydd dorri

    PA Media

    Mae asiantaeth newyddion PA yn adrodd fod un o lywodraethwyr yr ysgol wedi cael gwybod mai achos o drywanu oedd y digwyddiad, a bod aelodau o staff wedi'u hanafu.

  4. 'Diolch i'r heddlu' - Sunakwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, wedi datgan ei sioc am y newyddion sy’n dod o Rydaman ac wedi diolch i’r gwasanaethau brys.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Gwleidydd a chyn-ddisgybl yn siarad yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae'r gwleidydd Adam Price yn gyn-ddisgybl Ysgol Dyffryn Aman ac yn cynrychioli Rhydaman yn y Senedd.

    Dywedodd yn siambr y Senedd ddydd Mercher, yn fuan wedi i'r adroddiadau ddod i'r amlwg, bod "ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad yma".

    Adam Price
  6. 'Byth yn disgwyl rhywbeth fel hyn'wedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Meleri Williams
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae merch Justin Williams yn ddisgybl ym Mlwyddyn 7 yn yr ysgol.

    "Halodd hi text i 'weud ma' nhw ar lockdown," meddai.

    "Ma' hi’n iawn ond just becso nawr am y bobl sy' 'di cal damwain.

    "Ma' hi’n shocking be sy' 'di digwydd.

    "Chi byth yn disgwyl rhywbeth fel hyn yn Rhydaman."

    Justin Williams
  7. Mwy am Ysgol Dyffryn Amanwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae gan Ysgol Dyffryn Aman tua 1,500 o ddisgyblion, yn cynnwys y chweched dosbarth.

    Mae'n ysgol ddwyieithog wedi ei lleoli yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, i’r gogledd o Lanelli ac Abertawe.

    Yn ôl adroddiad Estyn yn 2019, roedd hanner y disgyblion yn dod o'r dref a'r hanner arall o'r pentrefi a'r ardaloedd gwledig cyfagos.

    Mae tua hanner y disgyblion yn siarad Cymraeg.

    arwydd ysgol
  8. 'Dylai ysgolion fod yn ddiogel'wedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Andrew RT Davies
    Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

    "Mae’r adroddiadau o Ysgol Dyffryn Aman yn rhai pryderus iawn," meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

    "Fe ddylai ysgolion fod yn lefydd diogel, llefydd i ddysgu a darganfod.

    "Mae’n drist ac yn ofidus iawn bod digwyddiad treisgar wedi chwalu’r diogelwch hwnnw i athrawon a disgyblion heddiw.

    "Mae fy meddyliau i gyda’r holl staff a disgyblion yn yr ysgol, ac rydym yn diolch i’r gwasanaethau brys am eu gwaith."

  9. Plant mewn 'lockdown'wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Tomos Morgan
    Gohebydd BBC

    Cannoedd o rieni y tu allan i Ysgol Dyffryn Aman ar ôl y digwyddiad.

    Mae rhieni wedi dweud wrtha'i fod eu plant mewn "lockdown" yn eu hystafelloedd dosbarth.

    Disgyblion y tu allan i'r ysgolFfynhonnell y llun, Disgyblion y tu allan i'r ysgol
  10. 'Dwi'n meddwl am y gymuned' - Gethingwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae'r Prif Weinidog, Vaughan Gething wedi datgan ei sioc o glywed y "newyddion ofnadwy".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. 'Nifer o gerbydau heddlu ac ambiwlans'wedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Disgrifiad,

    Mae'n gohebydd Meleri Williams ar y safle

  12. Heddlu yn gofyn i fideo gael ei dynnu i lawrwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Heddlu Dyfed Powys

    "Mae Heddlu Dyfed Powys yn delio gyda digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

    "Mae tri pherson wedi cael eu hanafu ac yn derbyn triniaeth. Mae un person wedi ei arestio ac nid ydym yn chwilio am unrhywun arall mewn cysylltiad gyda’r digwyddiad.

    "Mae’r gwasanaethau brys ar leoliad ac mae’r ysgol wedi ei gloi tra mae ymchwiliadau yn parhau. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r ysgol a Chyngor Sir Caerfyrddin.

    "Rydym yn ymwybodol bod fideo o’r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn gofyn i hwn gael ei dynnu i lawr er mwyn osgoi dirmyg llys a gofid i unigolion.

    "Gofynnwn i bobl beidio damcaniaethu tra mae ymchwiliad yr heddlu yn mynd yn ei flaen."

    YDAFfynhonnell y llun, Newyddion S4C
  13. Tri wedi'u hanafu, person wedi'i arestiowedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill
    Newydd dorri

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod tri o bobl wedi'u hanafu ac un wedi'i arestio yn dilyn adroddiadau o drywanu.

  14. 'Plant wedi'u cloi yn y dosbarthiadau' ar ôl 'trywanu'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae BBC Cymru wedi siarad gyda mam un o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Aman.

    Dywedodd Lisa Barrett bod ei merch wedi gyrru neges destun iddi gan ddweud bod yr ysgol dan glo.

    Ychwanegodd bod adroddiadau bod sawl person wedi eu trywanu.

    "Rwy'n pryderu’n fawr," meddai. "Wnaeth fy merch yrru fideo o rywun yn cael eu cludo ar stretcher.

    "Os chi’n clywed am eich plentyn yn dweud bod rhywun wedi eu trywanu chi ddim yn gwybod beth yw'r peth gorau i’w wneud.

    "Dyw hyn ddim yn rhywbeth chi’n ddisgwyl - chi’n gyrru eich plentyn i’r ysgol ac yn meddwl y bydde nhw’n ddiogel. Mae’n dda gwybod bod y plant wedi eu cloi yn y dosbarthiadau."

    Dywedodd Mrs Barrett, sy’n byw yng Ngwau-Cae-Gurwen, nad oedd hi wedi clywed unrhyw beth gan yr ysgol. "Ni jest yn disgwyl. Dwi ddim yn gwybod os ddylen i fynd lawr yno neu peidio."

  15. Ambiwlans Awyr yn hedfan uwchben Rhydamanwedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Disgrifiad,

    Ambiwlans Awyr Cymru uwchben Rhydaman

  16. Ble mae'r digwyddiad?wedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol ddwyieithog yn ardal Sir Gaerfyrddin.

    O adroddiad Estyn yn 2019, mae 1,436 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 267 ohonynt yn y chweched dosbarth.

    map
  17. Dau ambiwlans awyr ar leoliadwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cadarnhau fod dau o hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr wedi ymateb i'r digwyddiad.

    Mae un wedi gadael cae'r ysgol ac yn hedfan tuag at gyfeiriad Caerdydd ac i'r Ysbyty Athrofaol. Mae'r ail yn parhau ar y safle.

  18. 'Digwyddiad' mewn ysgol uwchraddwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill

    Mae 'na adroddiadau fod digwyddiad difrifol wedi bod yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.

    Arhoswch gyda ni am y newyddion diweddaraf am y digwyddiad.