Crynodeb

  1. Mwynhau o amgylch y Maeswedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae yna dywydd mwy cymylog ar y Maes heddiw o gymharu â'r penwythnos, ond 'dyw hynny ddim yn amharu ar y mwynhau.

    Gethin ac Eleri
    Disgrifiad o’r llun,

    Gethin ac Eleri yn mwynhau Eisteddfod yn eu milltir sgwar

    Kelly a Cath o'r Rhondda yn mwynhau
    Disgrifiad o’r llun,

    Kelly a Cath o'r Rhondda yn mwynhau

    Eisteddfod Tolu, Dami ac Olamide
    Disgrifiad o’r llun,

    Eisteddfod gyntaf i Tolu, Dami ac Olamide. A'r tri yn dweud y bydden nhw’n sicr o ymweld eto!

  2. Llai o stondinau bwyd eleniwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Does dim cymaint o stondinau bwyd ag arfer eleni oherwydd maint y maes, gyda disgwyl i bobl hefyd fanteisio ar yr opsiynau bwyd yn nhref Pontypridd ei hun.

    pentref bwyd
  3. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Rhywle'r ochr draw i'r dorf fawr yma mae Elin Fflur yn holi'r awdur Daf James yn Sinemaes...

    Sinemaes yr Eisteddfod

    Wedi llwyddiant cyfres Lost Boys and Fairies, does dim rhyfedd nad oes lle i ohebydd chwilfrydig Cymru Fyw gael gwylio!

  4. Sgwrs ar stondin Ysgolion Cymraeg Ysgol Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Menna Thomas

    Ar raglen O’r Maes, Radio Cymru bu Shelley Rees yn sgwrsio gyda Menna Roberts ar stondin Ysgolion Cymraeg Ysgol Rhondda Cynon Taf. Mae Menna yn Swyddog Datblygu’r Gymraeg sy’n cefnogi ysgolion yr ardal.

    “Mae gweld yr ardal yma’n datblygu gweld effaith mae’r Eisteddfod yn mynd i'w gael ar yr ardal yn hyfryd.

    "Mae rhieni di-Gymraeg sy’n ystyried gyrru eu plant i ysgol Gymraeg yn dod yma i'n gweld a gweld beth sydd ar gael, a gweld os oes cyfle iddyn nhw ddysgu Cymraeg eu hunain.”

    Rhan o waith Menna yw helpu rhieni nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg, ond sydd â phlant mewn ysgolion Cymraeg cynradd ac uwchradd.

    “Ryda ni wedi bod yn cefnogi – yn enwedig yn ystod y clo – pan oedd rhieni di-Gymraeg yn poeni nad oedden nhw’n mynd i allu cefnogi plant gyda’u gwaith. Roedden ni’n darparu pethau ar lein ac ati. Mae hynny wedi parhau yn yr ysgolion, sydd yn wych.”

    Gallwch wrando ar Radio Cymru drwy glicio'r linc ar frig y dudalen yma.

  5. Perfformiadau ym mhob twll a chornel!wedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    dawnswyr

    Mae nifer o ymwelwyr wedi cael eu diddanu gan berfformiad arbennig y dawnswyr yma sydd wedi bod yn symud o amgylch y maes yn ystod y prynhawn

    dawnswyr
  6. ‘Prentisiaeth’wedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Cerdd yr wythnos yn Y Talwrn oedd cywydd Carwyn Eckley ar y testun ‘Prentisiaeth’.

    Cerdd deyrnged yw hi yn cydnabod dylanwad Gerallt Lloyd Owen ar feirdd, a hynny ddegawd ers ei farwolaeth.

    prentisiaeth
  7. Gwisgoedd yr Orsedd wedi eu cadw tan y seremoni nesafwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    gwisoedd yr orsedd
  8. 25 mlynedd o'r Ffatri Bopwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Ffatri ddiod oedd yno amser maith yn ôl, ond eleni mae’n 25 mlynedd ers i bop o fath gwahanol roi Porth ar y map.

    Emyr Afan a Gareth Potter ym mhabell Encore

    Mewn sesiwn ym mhabell Encore mae Gareth Potter wedi bod yn hel atgofion gydag Emyr Afan, sylfaenydd The Pop Factory fu’n lwyfan i gynyrchiadau teledu a pherfformiadau gan rai o gerddorion a bandiau amlycaf Cymru ddechrau’r 2000’au.

    Bu Gareth yn edrych ymlaen at y digwyddiad gyda Shelley Rees ar Radio Cymru yn gynharach heddiw.

    “Fe wnaeth Emyr gael Tom Jones i agor y lle. Roedd y Stereophonics a Cerys Matthews wastad o gwmpas. Fe wnaeth hefyd gefnogi grwpiau llai poblogaidd ond arbrofol, a’r sîn roc Gymraeg. Dwi’n ei gofio yn gwneud rhywbeth gyda John Rea gyda cherddorfa a DJ hip-hop.

    “Doedd yna ddim llawer o rivalry rhwng y bandiau – roedd pawb yn cefnogi ei gilydd. Roedd yn gyfnod brilliant.”

    Gareth Potter a Shelley Rees
    Disgrifiad o’r llun,

    Gareth Potter a Shelley Rees ar faes yr Eisteddfod

    Nos Sadwrn bydd Gareth yn cloi arlwy gigs Cymdeithas yr Iaith yng Nghlwb Rygbi Pontypridd, sydd hanner milltir o Faes yr Eisteddfod.

    Gallwch weld holl gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod yma, dolen allanol.

  9. Sylwadau gwleidydd yn 'ofnadwy'wedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae un o weinidogion Swyddfa Cymru, yr Aelod Seneddol Nia Griffith, wedi beirniadu sylwadau'r Arglwydd Byron Davies.

    Mae ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru bellach wedi ymddiheuro ar ôl awgrymu ar wefan X fod "cyfiawnhad gwleidyddol" i'r terfysgoedd diweddar yn Lloegr.

    Yn siarad ar y Maes ddydd Llun, dywedodd Ms Griffith: "Fi'n falch iawn bod e [Arglwydd Byron] wedi ymddiheuro achos be ddywedodd e - roedd yn ofnadwy.

    "Roedd yn rhoi'r argraff roedd esgus am y trais ni wedi gweld - does byth esgus am y trais ni wedi gweld."

    Ychwanegodd: "Wrth gwrs mae hawl 'da pobl ddweud eu dweud ond mae modd i wneud hyn heb achosi'r trais ry'n ni wedi gweld.

    "Beth fydd neges glir y llywodraeth yw bydden nhw'n mynd i ddelio â phobl sydd wedi achosi hyn neu wedi cymryd rhan ynddo."

    Mae nifer o derfysgoedd wedi digwydd mewn rhannau o Loegr ers i dair merch gael eu lladd yn Southport wythnos yn ôl.

  10. Y glaw wedi cyrraedd Parc Ynysangharad ond y gazebo yn gysur!wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    pobl yn cysgodi rhag y glaw
  11. Edrych ymlaen at opera gyntaf Caryl Parry Joneswedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Ffion Emyr, Rhian Lois a Caryl Parry Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Ffion Emyr, Rhian Lois a Caryl Parry Jones

    Rydym wedi arfer clywed ei chlasuron pop ar lwyfannau'r Eisteddfod, ond eleni bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth wahanol iawn o waith Caryl Parry Jones.

    Opera i un ddynes yw Lydia, Merch y Cwilt ac fe’i chyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Tregaron 2020. Oherwydd y pandemig, doedd dim modd ei pherfformio bryd hynny ond mae ardal Ceredigion yn ganolog i'r stori o hyd.

    “Fe es i a Non Parry, wnaeth lunio’r stori gyda mi, i Sain Ffagan un bore i wneud ymchwil. Fe welon ni’r cwilt yma yn yr arddangosfa, a fe ddaeth y delweddau a’r stori o hynny.

    “Fe wnaethon ni greu stori am y ferch yma oedd wedi creu cwilt. Yn y stori, ryda ni wedi mynd i'r afael ar sut fyddai’r cyfnod yna ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Y rhagfarnau, problemau a’r pethau ofnadwy oedd yn digwydd i ferched – a sydd dal yn digwydd. Mae yna lot o bethau sydd heb newid o gwbl.”

    Dyma’r tro cyntaf i Caryl – un o gyfansoddwyr caneuon poblogaidd amlycaf Cymru - fentro i fyd opera.

    “Roeddwn i'n benderfynol o fynd tu hwnt i beth dwi’n arfer ei wneud. Fe wnes i arbrofi – mae ambell gân yn werinol, ambell un gydag arlliw Sioe Cerdd. Ond yn gyffredinol mae wedi fy ngwthio."

    Rhian Lois fydd yn perfformio’r opera, ac wedi’r holl aros dyw hi methu aros i gamu ar y llwyfan.

    “Ni gyd wedi bod yn edrych ymlaen at y foment yma ers blynyddoedd maith. Pe bai rhywun wedi dweud wrtha’i yn blentyn y byddai Caryl Parry Jones yn ysgrifennu opera ar fy nghyfer, bydden i byth yn credu.

    “Mae hi wir yn sioe gwbl arbennig. Mae’r gerddoriaeth yn wych a’r geiriau yn ddirdynnol.”

    Dyma’r tro cyntaf i Rhian berfformio opera un person, ac mae cryn dipyn o waith dysgu a pharatoi wedi bod.

    “Beth sydd mor arbennig am hwn yw fod Caryl wedi ei ysgrifennu, ac mae cael ei chanu yn Gymraeg yn meddwl cymaint. Mae deunaw o ganeuon – galli gredu faint o waith dysgu sydd!

    “Mae gallu uniaethu gyda chymeriad Lydia yn arbennig. Wrth ddarllen y sgript roeddwn i'n gallu gweld cymeriadau’r ardal yma’n fyw. Mae stori Lydia yn eithaf torcalonnus – dwi wedi gorfod mynd i bob pegwn emosiynol posib.”

    Bydd perfformiad Lydia, Merch y Cwilt ym mhabell Encore nos Fercher 7 Awst am 20:00.

  12. Busnesau Pontypridd yn 'hapus iawn' wedi'r penwythnos cyntafwedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Betsan Moses

    Parhau mae'r apêl i Eisteddfodwyr osgoi cyfyngu eu hunain i weithgareddau'r Maes ar Barc Ynysangharad a gweld be' arall sydd gan Bontypridd i'w gynnig.

    Dywedodd Betsan Moses fod busnesau'r dref yn "hapus iawn" hyd yn hyn, ond bod angen i ymwelwyr ddefnyddio'r dref "o ddydd i ddydd" gydol y Brifwyl.

    "Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio mae'n ddydd Llun [ac] mae pobl yn mynd yn ôl i'r gwaith, felly cadwch i ddilyn yr arwyddion os 'da chi'n mynd i'r meysydd parcio ac i ddefnyddio'r trenau a'r bysus."

    "Wi'n mynd i fod yn onest - fi 'di bod yn dod ar hyd y ddwy flynedd ddiwetha' i mewn i Bontypridd i gyfarfodydd ac mae'n gallu bod yn heriol.

    "Dyna pam y'n ni wedi darparu'r meysydd parcio a phob dim...

    "Y'n ni wedi gweithio ar hwn am fisoedd felly dilynwch ein cyngor ni a sicrhewch fod Pontypridd yn gallu cael ei defnyddio ar gyfer y trigolion."

  13. Nifer wedi dod i gysgodi rhag y glaw yn y pentref bwydwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    pentref bwyd
  14. Gwleidyddion Cymru yn heidio i Bontypriddwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Eluned Morgan

    Mae darpar Brif-Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ar y maes heddiw i gymryd rhan mewn sgwrs i gofio Ann Clwyd, y gwleidydd Llafur.

    Roedd Ann Clwyd, fu farw y llynedd, yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y blaid yng Nghymru am ddegawdau, gan gynrychioli etholaeth Cwm Cynon am 35 mlynedd.

    Mae disgwyl i Ms Morgan gael ei chadarnhau yn Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth, ar ôl cael ei hethol yn ddiwrthwynebiad fel olynydd Vaughan Gething yn arweinydd Llafur Cymru.

    Vaughan Gething

    Mae'r prif weinidog presennol, Vaughan Gething wedi bod yn crwydro'r maes y bore 'ma hefyd.

    Dywedodd wrth Cymru Fyw fod yr Eisteddfod, a'i lleoliad, yn hollbwysig wrth geisio denu mwy o siaradwyr Cymraeg.

  15. Bydd pefformiad Eden yn 'uchafbwynt fyddwn ni gyd yn ei gofio'wedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    EdenFfynhonnell y llun, mefus photography

    Mae Sioned Edwards, cyfarwyddwr artistig yr Eisteddfod, wedi bod yn sôn am rywfaint o’r arlwy celfyddydol fydd i’w weld yn ystod yr wythnos.

    Mae hynny wedi cynnwys pwyslais ar roi llwyfan i artistiaid lleol ac ifanc, er mwyn “trio creu headliners ar gyfer y dyfodol”.

    Yn cloi’r nos Sadwrn olaf ar Lwyfan y Maes fydd Eden, sydd wedi perfformio mewn tipyn o wyliau dros yr haf eisoes.

    Ond yn ôl Ms Edwards, bydd y perfformiad hwn “lot, lot yn wahanol”, gyda mwy o sioe weledol - gan gynnwys acrobat o Circue du Soleil.

    “Bydd e’n uchafbwynt fyddwn ni i gyd yn cofio,” meddai.

  16. Tir Iarll yn fuddugol yn Y Talwrnwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Timau'r talwrn

    Cafodd rownd derfynol Y Talwrn ei chynnal yn y Babell Lên ddydd Sadwrn, gyda thîm Dros yr Aber yn wynebu Tir Iarll.

    Aelodau Dros yr Aber - pencampwyr y dair blynedd ddiwethaf - yw Rhys Iorwerth, Marged Tudur, Iwan Rhys a Carwyn Eckley.

    Aneirin Karadog, Mererid Hopwood, Emyr Davies, Tudur Dylan Jones a Gwynfor Dafydd yw aelodau Tir Iarll, pencampwyr 2020.

    Wedi gornest ardderchog, y sgôr terfynol oedd Dros yr Aber 74-74.5 Tir Iarll.

  17. Canu'r anthem yn y dref lle cafodd hi ei chyfansoddiwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Cyfansoddwyd Hen Wlad fy Nhadau ym Mhontypridd yn 1856.

    Evan James ysgrifennodd y geiriau a'i fab, James James wnaeth gyfansoddi'r alaw.

    Wrth wahodd y gynulleidfa i ganu ar ddiwedd Seremoni Gorsedd Cymru, fe ddywedodd yr Archdderwydd Mererid Hopwood: "Ni bob tro yn canu'r anthem ag arddeliad, ond yma ym Mhontypridd o bobman boed i'r arddeliad hwnnw ddeffro'r wlad gyfan".

    Wedi iddi arwain seremoni fawr cyntaf ei chyfnod fel Archdderwydd, cafodd Cymru Fyw sgwrs gyflym gyda Mererid.

    "Hoffwn i ddiolch i'r holl eisteddfodwyr wnaeth sylweddoli mod i angen dŵr gan mod i mor nerfus.

    "O'r cefn o rywle fe ddaeth y dŵr ac roeddwn i'n gallu ymlacio ychydig. Wy'n gobeithio daw yn haws ar ôl hwn!"

    Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd a Delwyn Sion
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr Archdderwydd yn y Man Ymgynnull ar ôl y seremoni, gyda'r cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a Delwyn Sion, oedd yn canu yn y seremoni

    Un arall fu'n rhan o'r seremoni oedd y diddanwr Kristoffer Hughes, sydd hefyd yn bennaeth Urdd Derwyddon Môn.

    "O'n i'n reit emosiynol, fwy na'r disgwyl achos dwi ddim yn berson emosiynol" meddai wrth Cymru Fyw.

    Cafodd Kristoffer ei urddo i Orsedd Cymru llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

    Kristoffer Hughes
  18. 'Cymorth ar gael i bwy bynnag sydd ei angen'wedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    sgwteri

    Un o heriau cynnal y Brifwyl yng nghanol tref yw sicrhau mynediad hwylus i bobl ag anableddau.

    Mae yna ardal barcio benodol ar gyfer unigolion â bathodynnau glas ym maes parcio St Catherine yn y dref, ond mae rhai'n poeni nad yw'n ddigon agos at y brif fynedfa ble mae sgwteri ar gael i'w llogi.

    Mae'r trefnwyr yn pwysleisio bod cymorth ar gael i bwy bynnag sydd ei angen, a bod modd cysylltu o flaen llaw - trwy ebost os yn bosib - er mwyn trefnu'r ffordd fwyaf hwylus i gyrraedd y maes.

    Ategu'r neges honno wnaeth Betsan Moses y bore 'ma gan ddweud bod modd teilwra'r cymorth gan fod pobl ag anghenion gwahanol.

    Er bod y mwyafrif yn cyrraedd "efo'u sgwteri personol", mae modd hefyd i'r gweddill gysylltu â swyddog yn y maes parcio "ac mi all y sgwter ddod atyn nhw".

    Ychwanegodd bod lleoliad y maes parcio mor hwylus nes bod modd "bod mewn yn y Pafiliwn o fewn pum munud".

  19. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae'r criw yma o Ysgol Gatholig Blessed Carlow Acutis o Ferthyr yn ymweld â'r Steddfod am y dydd.

    Criw ysgol yn ymweld â'r Eisteddfod
  20. S4C Clic: Sedd yn y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Fe allwch wylio holl gystadlu'r dydd o'r Pafiliwn yn fyw a di-dor ar wasanaeth S4C Clic, dolen allanol.

    Dyma flas o'r cystadlaethau sydd ar y ffordd yn fuan:

    11:45 - Côr i rai 60 oed a throsodd

    13:15 - Unawd 12 ac o dan 16 oed

    13:25 - Llefaru unigol 12 ac o dan 16 oed

    13:40 - Unawd alaw werin 12 ac o dan 16 oed

    S4CFfynhonnell y llun, S4C